Diolch i ti am dynnu sylw blog-ddarllenwyr fel fi at flogiau Dylan Llyr, Alwyn. Mae ei flogiau ef ar 'Ethnigrwydd a ballu' a'r 'BNP ar Question Time' yn ddiddorol tu hwnt. Pam na chawn ni dy sylwadau di ar y pynciau rheiny? Yn wir, a fedri di ddweud wrthyf pam y mae rheiny sydd yn blogio ar faterion gwleidyddol yn Gymraeg yn osgoi trafod pynciau o'r fath ar eu tudalennau blogs?
Diolch am dy sylw anhysbys. O ran fy ymateb i Question Time, mi bostiais ymateb ar fy mlog Saesneg ychydig ar ôl i'r rhaglen darfod.
O ran trafod ethnigrwydd yn gyffredinol rhaid cyfaddef nad ydy o'n bwnc y mae gennyf lawer o brofiad ohoni. Gyda'r eithriad o gyfnod byr pan ddaeth nifer o Asiad Uganda i'r ysgol yr oeddwn yn ei fynychu yn y 70au, dim ond unigolion prin yr wyf wedi dod ar eu traws sydd o gefndiroedd ethnig o du allan i Ewrop, nid ydwyf wedi cael y profiad o gyd fyw gyda "grwp" ethnig gwahanol.
Rwy'n amau bod nifer o'r blogwyr Cymreig eraill yn yr un sefyllfa a fi, a dyna paham nad ydynt hwy yn trafod y fath bwnc yn aml chwaith. (Ond rwy'n methu ateb ar eu rhan, wrth gwrs).
O ran blogwyr eraill mae blog MECCAnopsis Cambrica yn trafod y profiad o fyw fel Mwslim yn y Gymru Cymraeg, ac mae Vaughan Roderick yn trafod ei brofiad o fod yn bartner i un o gefndir Asiaidd yn weddol reolaidd.
Diolch i ti am ymateb i'm sylwadau blaenorol, Alwyn.
Mae'n rhaid i mi dderbyn yn rasol yr hyn a ddywedi, sef yw hynny nad oes gennyt lawer o brofiad o drafod ethnigrwydd. Eithr os y medri di drafod y mater yn Saesneg ar chwaer flog yr 'Hen Rech Flin', pam na fedri di wneud hynny'n Gymraeg ar dy flog Cymraeg? Y cwestiwn a ofynais yn fy sylw ar dy flog di ynghylch y blogiwr newydd Dylan Llyr oedd pam y mae rheiny sydd yn blogio ar faterion gwleidyddol yn Gymraeg yn osgoi trafod pynciau megis y BNP ac ethnigrwyd ac yn y blaen ar eu tudalennau blog?
Yn gryno iawn, credaf y dylid tocio'n sylweddol ar y nifer sy'n mewnlifo i Brydain a gwledydd eraill yn Ewrop o wledyd Mahometanaidd oherwydd fy mod yn credu'n gam neu'n gymmwys bod llawer yn eu plith yn ceisio newid ein hen ffordd o fyw yn y gwledydd a enwyd gennyf. 'Rwy fi'n cefnogi hawl Nick Griffin ddryslyd i leisio'i farn ar materion o'r fath er mor wrthun yw ei wleidyddiaeth ef a'i blaid o fy safbwynt i. Yn wir, yn lle gwastraffu eu hamser yn ceisio trin Nick Griffin fel llew mewn ffau ar y rhaglen deledu 'Question Time' a ddarlledwyd o Lundain yn hwyr nos Iau diwethaf, dylai'r panelwyr arni fod wedi rhoi digon o chwarae teg iddo wyntyllu'i syniadau dwl.
Cyn rhoi caead ar fy mhiser, priodol i mi fyddai:
1. Dadlennu fy mod yn cefnogi llawer o'r hyn a ddywedi yn dy flogiau sydd wastad yn ddiddorol o fy safbwynt i, Alwyn.
2. Dadlennu mai Dafydd (Porthor, gynt) ydwyf
3. Diolch i ti am dynnu fy sylw at MECCAnopsis Cambrica.
diolch Alwyn! Dw i 'di trio dechrau cwpl o weithiau o'r blaen; dw i'n reit benderfynol o ddal ati tro 'ma.
ReplyDeleteDiolch i ti am dynnu sylw blog-ddarllenwyr fel fi at flogiau Dylan Llyr, Alwyn. Mae ei flogiau ef ar 'Ethnigrwydd a ballu' a'r 'BNP ar Question Time' yn ddiddorol tu hwnt. Pam na chawn ni dy sylwadau di ar y pynciau rheiny? Yn wir, a fedri di ddweud wrthyf pam y mae rheiny sydd yn blogio ar faterion gwleidyddol yn Gymraeg yn osgoi trafod pynciau o'r fath ar eu tudalennau blogs?
ReplyDeleteDiolch am dy sylw anhysbys. O ran fy ymateb i Question Time, mi bostiais ymateb ar fy mlog Saesneg ychydig ar ôl i'r rhaglen darfod.
ReplyDeleteO ran trafod ethnigrwydd yn gyffredinol rhaid cyfaddef nad ydy o'n bwnc y mae gennyf lawer o brofiad ohoni. Gyda'r eithriad o gyfnod byr pan ddaeth nifer o Asiad Uganda i'r ysgol yr oeddwn yn ei fynychu yn y 70au, dim ond unigolion prin yr wyf wedi dod ar eu traws sydd o gefndiroedd ethnig o du allan i Ewrop, nid ydwyf wedi cael y profiad o gyd fyw gyda "grwp" ethnig gwahanol.
Rwy'n amau bod nifer o'r blogwyr Cymreig eraill yn yr un sefyllfa a fi, a dyna paham nad ydynt hwy yn trafod y fath bwnc yn aml chwaith. (Ond rwy'n methu ateb ar eu rhan, wrth gwrs).
O ran blogwyr eraill mae blog MECCAnopsis Cambrica yn trafod y profiad o fyw fel Mwslim yn y Gymru Cymraeg, ac mae Vaughan Roderick yn trafod ei brofiad o fod yn bartner i un o gefndir Asiaidd yn weddol reolaidd.
Diolch i ti am ymateb i'm sylwadau blaenorol, Alwyn.
ReplyDeleteMae'n rhaid i mi dderbyn yn rasol yr hyn a ddywedi, sef yw hynny nad oes gennyt lawer o brofiad o drafod ethnigrwydd. Eithr os y medri di drafod y mater yn Saesneg ar chwaer flog yr 'Hen Rech Flin', pam na fedri di wneud hynny'n Gymraeg ar dy flog Cymraeg? Y cwestiwn a ofynais yn fy sylw ar dy flog di ynghylch y blogiwr newydd Dylan Llyr oedd pam y mae rheiny sydd yn blogio ar faterion gwleidyddol yn Gymraeg yn osgoi trafod pynciau megis y BNP ac ethnigrwyd ac yn y blaen ar eu tudalennau blog?