05/01/2010

Problemau Prifysgol

Cyn mynd ymlaen a fy narogan o ganlyniadau pleidlais 2010, hoffwn drafod pwnc sydd yn codi yn nwy o'r seddi sydd yn dechrau efo C.

Sef:

problem pleidleisiau myfyrwyr

Mae gan fyfyrwyr ym mhrifysgolion yr hawl i gofrestru i bleidleisio yn eu hetholaethau cartref ac yn eu hetholaethau addysgiadol.  Pe bawn wedi fy nghofrestru fel myfyriwr preswyl ym Mhrifysgol Glyndŵr mis Medi diwethaf, bydda'r hawl gennyf naill ai i bleidleisio dros y cyn heddwas Arfon Jones neu'r cyn heddwas Phil Edwards. (Be di be efo'r Blaid a chyn slobs?!)

Rwy'n gweld yr hawl yma i fyfyrwyr cael pleidleisio yn eu hetholaeth coleg neu eu hetholaeth cartref yn un annheg iawn.

Ar wahân i'r ffaith bod nifer fawr o fyfyrwyr yn pleidleisio ddwywaith yn groes i'r gyfraith, bydd bron iawn y cyfan ohonynt a phleidleisiodd mewn sedd golegol yn 2005 wedi ymadael a choleg ers dwy flynedd bellach. Yn wir bydda draean ohonynt wedi ymadael a'r coleg ac a'r etholaeth o fewn tri mis o fwrw eu pleidleisiau, gan adael y rhai sydd yn byw yn yr etholaethau ysgolhaig yn barhaol gydag AS nad oedd o'u dewis hwy o bosib.

Yn ddi-os bu'r cofrestru dwbl o fantais i'r Rhyddfrydwyr yn 2005, ond pa ots pwy sydd yn manteisio? Pe bai'r Blaid yn ennill Wrecsam neu Bontypridd ar sail pleidlais myfyrwyr dros dro ac yn erbyn dymuniadau'r boblogaeth barhaol, byddwn yn parhau i brotestio'r anrhegwch.

Yn nyddiau fy ieuenctid pan nad oedd prin 5% o brêns y wlad yn mynd i'r brifysgol, hwyrach nad oedd rhoi  dewis etholaeth i fyfyrwyr o fawr bwys. Ond bellach, efo 40% o bobl rhwng 18 a 23 mewn prifysgol a'u niferoedd yn gallu cynrychioli hyd at 15% o bleidleisiau mewn ambell i etholaeth, mae'n hen bryd i'r arfer dod i ben. Sarhad ar ddemocratiaeth yw erfyn ei pharhad.

01/01/2010

Darogan Etholiad 2010 B

Blaenau Gwent

Pe na bai'r Blaid Lafur mewn cymaint o dwll ac yn gorfod amddiffyn gymaint o seddi bregus, Blaenau Gwent byddai un o'i dargedau i'w cipio, ac mewn etholiad pan fydd y rhod yn troi i gyfeiriad  Llafur eto bydd yr etholaeth yn sicr o fynd yn ôl i'w fynwes.  Un o siomedigaethau yn yr etholaeth yma yw bod dim un o'r gwrthbleidiau "swyddogol" wedi ceisio manteisio ar drafferthion Llafur ym Mlaenau Gwent er mwyn adeiladu troedle yn nhalcen caled y cymoedd Llafur.

Llais y Bobl i gadw'r sedd yn gymharol hawdd, ond synnwn i ddim pe bai Dai Davies yn ail ymuno a Llafur cyn pen tymor y llywodraeth nesaf.

Bro Morgannwg

Efo'r Blaid Lafur ar drai cyffredinol trwy Ynys Prydain, a'r aelod cyfredol yn ymddeol, mae pob rhesymeg yn dweud dyla’r Fro syrthio yn hawdd i ddwylo'r Ceidwadwyr.  Ond camgymeriad bydda roi hwn yn y bag fel buddugoliaeth Ceidwadol. Mae’r bleidlais bersonol wedi bod yn draddodiadol pwysig yn y sedd yma ac mae Alana Davies y cynghorydd lleol ac ymgeisydd Llafur yn berson llawer haws i'w hoffi nag ydy Alun Cairns yr ymgeisydd Ceidwadol a dyn sydd â dawn ryfeddol i dynnu blew o drwynau pobl.

Does gan Plaid Cymru ddim gobaith mul yma, ond mae ganddi bocedi o gefnogaeth gref yn yr etholaeth (Plaid Cymru daeth yn ail agos yn etholiadau Ewrop*).  O dderbyn bod Alun Cairns yn cael ei weld fel dipyn o fwgan i Bleidwyr, mae yna siawns bydd rhywfaint o bleidlais PC yn cael ei fenthyg i Lafur fel rhan o ymgais i stopio Cairns.

Buasai dyn wedi disgwyl i'r Ceidwadwyr cipio sedd y Fro yn weddol hawdd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 hefyd, ond methasant o tua 80 pleidlais. Byddwn i ddim yn synnu pe bai canlyniad tebyg yn yr etholiad cyffredinol chwaith. 

Brycheiniog & Maesyfed

Dyma un o'r seddi mae'r Ceidwadwyr yn eu llygadu ac sydd yn ymddangos fel un y maent am ei gipio o roi canlyniadau polau piniwn trwy'r mangl. Ond mae'r aelod cyfredol yn ddyn hawddgar sydd yn hynod boblogaidd a gweithgar yn yr etholaeth. Byddwn yn disgwyl i Roger Williams i ddal ei afael ar y sedd yn weddol rhwydd.

*Diweddariad

Mae'n debyg mae pedwaredd oedd y Blaid yn y Fro. Mi wnes i gam ddarllen stori a gyhoeddwyd gan y Blaid yn honni eu bod o fewn 750 bleidlais i  ddod yn ail yn yr etholaeth, am honiad eu bod yn yr ail safle efo dim ond 750 rhwng y Blaid a'r buddugwyr. Nid y fi ydy’r unig un i gael cam argraff o'r troelli mae'n debyg.


Darogan Etholiad 2010 A

Aberafan Yn y bag i Lafur.

Aberconwy
Yr unig beth sy'n sicr yma yw bod y Blaid Lafur am golli.

Er fy mod yn byw yn yr etholaeth rwy'n methu darogan gydag unrhyw fath o sicrwydd os mae'r Blaid neu'r Ceidwadwyr sydd ar y blaen. Yn ddi-os o bleidleisiau yn newid dwylo mae mwy o bobl a phleidleisiodd i Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005 am droi at y Blaid na sydd am droi at y Ceidwadwyr. Y drwg yn y caws yw'r Ceidwadwyr sydd wedi sefyll cartref yn ystod y ddau etholiad San Steffan diwethaf yn penderfynu pleidleisio eto.

Un o'r pethau sydd wedi sicrhau buddugoliaethau Ceidwadol yn ardal Llandudno yn y gorffennol bu perchnogion cartrefi preswyl yn defnyddio'r bleidlais post i bleidleisio o blaid y Ceidwadwyr ar ran eu trigolion. Mi glywais son bod pleidlais olaf Lewis Valentine, o bawb, wedi mynd i'r Ceidwadwyr o dan y fath drefn lwgr.

Pleidlais y cartrefi preswyl bu rhan o gwsg y Blaid Geidwadol yn yr etholaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Rwy'n ddeall bod y bleidlais yma yn dihuno, rhywbeth mae'n bwysig i'r ymgeiswyr, o bob Plaid ei wylio a'i gywiro!

O dan orfodaeth daragon, mae fy mhen yn dweud mai'r Cedwadwyr pia hi, mae'r galon yn mynd at y Blaid. Yr wyf am ddilyn y galon - y Blaid i gipio'r sedd o drwch blewyn!

Alyn a Glannau Dyfrdwy - yn y bag i Lafur, ar hyn o bryd, ond y fath o etholaeth lle ddylai'r Blaid defnyddio'r cerdyn Cenedlaethol efo C MAWR. A'i rhan o Gymru neu'n rhan o Gaer estynedig yw'r etholaeth? Mae BEA wedi cael miliynau o bunnoedd gan y Cynulliad i gefnogi ei fodolaeth trwy'r ffaith ei fod yng Nghymru, ond eto mae'n galw ei hun yn BEA Chester! Etholaeth lle ddaliai’r Blaid mynnu bod yr etholwyr yn sylwi ar ba ochor o'r dafell mae'r menyn y taenu!

Arfon - eisoes yn y bag i'r Blaid mwyafrif mawr i'r Blaid fe dybiwn. Y Blaid i ennill o leiaf 40% o'r bleidlais. Rwy'n methu dirnad sut bod y sedd yma wedi cael ei gyfrif fel sedd sy'n "eiddo" i'r Blaid Lafur, yn y lle cyntaf!!

27/12/2009

Bwci bos siop y bwcis

Wrth edrych trwy fy mhelen risial rwy'n gweld dwy stori anhygoel yn niwl yn codi o etholiad San Steffan 2010.

Mae'r stori gyntaf ym Maldwyn lle cafodd Lembit Opik canran fawr o bleidleisiau wrth Geidwadol yn yr etholiad diwethaf. Ond mae antics Lembit wedi ei wneud o yn amhoblogaidd fel unigolion. Mae'r pleidleiswyr sydd yn casáu’r Torïaid, ac wedi cael llond bol o Lembit ac sydd heb ffydd yn y Llywodraeth Llafur cyfredol i gyd yn pleidleisio i Blaid Cymru, gan roi buddugoliaeth anisgwyliedig i'r Blaid.

Mae'r ail stori yn digwydd yn Arfon. Yno mae bron y cyfan o gyn pleidleiswyr Llafur, bron y cyfan o gyn pleidleiswyr y Rhydd Dems a charfan fawr o gyn pleidleiswyr Plaid Cymru yn uno i guro Hywel Williams trwy roi buddugoliaeth anisgwyliedig i'r Ceidwadwyr.

Mae'n annhebygol y bydd y naill stori na'r llall yn cael ei wireddu, ond pa un yw'r stori fwyaf credadwy? O orfod dewis mi fyddwn yn disgwyl i'r rhan fwyaf o bobl sydd ag unrhyw grebwyll am wleidyddiaeth Cymru i ddewis stori Maldwyn. Ond o edrych ar yr ods sy'n cael eu dyfynnu ar FlogMenai mae stori anhygoel Arfon yn fwy na saith gwaith fwy tebygol i ddigwydd na stori anhygoel Maldwyn yn ol y bwcis.

100/1 yw gobeithion y Blaid o guro Maldwyn tra bod gobeithion y Ceidwadwyr yn Arfon yn 14/1 eitha' parchus.

Mae nifer o resymau am y gwahaniaeth yma yn y pris, gan gynnwys y ffaith ei fod yn ymdebygu bod cefnogwyr y Ceidwadwyr yn fwy tebygol i wastraffu eu harian ar fetiau anobeithiol nac y mae cefnogwyr y Blaid. Ond beth bynnag bo'r rheswm am yr anghysondeb yn yr ods ar y ddwy stori annhebygol, mae'r enghreifftiau uchod yn brawf bod prisiau'r bwcis yn llawer mwy tebygol i ffafrio'r Ceidwadwyr ac i dan brisio'r Blaid- yn arbennig felly pan fo'r etholiad yn parhau i fod yn bell i ffwrdd yn nhermau betio.

Rhywbeth werth ei gofio wrth gymharu'r gwahaniaeth rhwng yr ods yn Aberconwy lle mae'r Ceidwadwyr ar 2/7 a'r Blaid ar 7/2, digon agos i argoeli am ganlyniad agos iawn yma, o ystyried yr anghysondebau cyffredinol rhwng ods y Blaid ag ods y Ceidwadwyr.

Gyda llaw os oes buntan na ddwy i sbario gennych, ac yr ydych yn dymuno i'r Blaid ennill yn Aberconwy, peidiwch a'u gwastraffu trwy eu rhoi i'r bwcis - danfoner hwy i gronfa ymgyrchu Phil!

25/12/2009

Llongyfarchiadau Gethin a Clare

Cafodd Cynghorydd Llais Gwynedd ward Brithdir, Llanfachreth, y Ganllwyd a Llanelltyd Gethin Williams a'i bartner (fy nith) Clare presant Nadolig arbennig heno, ganwyd mab bach newydd iddynt am 8 yr hwyr. Llongyfarchiadau mawr iawn a phob dymuniad da iddynt.

Siôn Corn Corn heb ymweld â Chymru?

Mae NORAD yn asiantaeth filwrol sy'n cael ei gynnal gan yr UDA a Chanada er mwyn gwylio am daflegrau yn cael eu hanelu at ogledd yr America. Fel rhan o'u gwaith gwylio y maent yn gallu dilyn taith Siôn Corn ar draws y byd, a phob blwyddyn byddent yn rhannu gwybodaeth a phlant y byd i ddweud lle mae Santa wedi cyrraedd pob munud o'i daith.



Ond och! Dyma fap NORAD sydd yn dangos lle mae'r gŵr barfog wedi bod toc ar ôl iddo ymadael ag ynysoedd Prydain. Mae o wedi ymweld â'r Alban, Lloegr, Gogledd a Deheubarth yr Iwerddon ond nid â Chymru. Mae'n rhaid bod holl blant Cymru wedi bod yn ddrwg iawn eleni.

Mae'n rhaid i'r Cynulliad gweithio'n galed yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod ymddygiad plant Cymru yn gwella er mwyn sicrhau nad yw Siôn Corn yn hepgor ein gwlad ar ei daith byth eto (neu, o leiaf, i gysylltu â NORAD a gofyn iddynt i gynnwys Cymru yn y daith y flwyddyn nesaf).

Nadolig Llawen



Un Seren - Delwyn Siôn

Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem a holi, "Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.

24/12/2009

Cai a Chanlyniadau Anfwriadol

Mae Cai Larsen, ar Flog Menai, yn codi trafodaeth ddiddorol parthed Cyfraith Canlyniadau Anfwriadol, (The Law of Unintended Consequences). Yn ei bost mae Cai yn dadlau bod Guto Bebb a'r Blaid Ceidwadol yn Aberconwy yn gwneud cymwynas anfwriadol i Phil Edwards, ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, trwy anelu gymaint o'u hymosodiadau i gyfeiriad y Blaid. Trwy wneud hynny mae'r Ceidwadwyr yn profi mae Plaid Cymru yw'r bygythiad mwyaf i obeithion etholiadol Guto yn hytrach na'r deiliaid - Y Blaid Lafur.

Rwy'n cytuno efo dadansoddiad Cai o'r perygl tactegol i bleidiau gwleidyddol rhoi gormod o sylw i ambell i wrthwynebydd, a thrwy hynny yn codi proffil y gwrthwynebydd. I raddau dyna fu un o'r ffactorau a arweiniodd at ethol aelodau o'r BNP yn etholiadau Ewrop eleni. Trwy i'r pleidiau eraill rhybuddio bod perygl i aelodau o'r BNP i gael eu hethol, yr oeddynt hefyd yn cyhoeddi bod gwerth pleidleisio i'r ffasgwyr gan fod ennill o fewn eu gafael.

Problem post Cai, fodd bynnag, yw un o edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun

Os yw Plaid Cymru am weld cynnydd yn yr etholiad sydd ar y gweill, rhaid iddi gymryd mantais o wendid y Blaid Lafur trwy dwyn pleidleisiau oddi wrth Lafur, ond prin yw'r ymosodiadau yn erbyn Llafur sydd yn ymddangos ar Flog Menai. Yn wir yn un o sylwadau Cai i'r drafodaeth y mae o'n clodfori cyn gweinidog Llafur am wneud "joban go lew".

Yr hyn ceir ar Flog Menai, gan amlaf, yw ymosodiadau ar Lais Gwynedd ac ymosodiadau ar y Blaid Geidwadol.

Mae'r ymosod ar Lais Gwynedd yn ddealladwy, i raddau. Fe gostiodd Llais mwyafrif i'r Blaid ar Gyngor Gwynedd yn 2008. Yn anffodus mae bron y cyfan o ymosodiadau Cai ac eraill ar Lais yn tynnu sylw at yr union bynciau a achosodd i filoedd o gyn cefnogwyr y Blaid i symud i Lais yn y lle cyntaf; cau ysgolion, cau cartrefi henoed, cau cyfleusterau cyhoeddus a throi cefn ar gymunedau cefn gwlad. Mae natur y blogiadau yn erbyn Llais yn codi ei broffil fel amddiffynnydd cymunedau a'u hadnoddau.

Mae dyn yn gallu deall yr ymasiadau ar y Blaid Geidwadol hefyd. I nifer o gefnogwyr Plaid Cymru'r Blaid Geidwadol yw'r gwrthgyferbyniad mwyaf i'w gwerthoedd a'u daliadau. Ond o fod yn ymarferol does yna ddim un frwydr etholiadol rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Hyd yn oed yn Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin & Phenfro, dwyn pleidleisiau Llafur bydd yn sicrhau buddugoliaeth nid dwyn pleidleisiau Ceidwadol.

Yr hyn sydd yn amlwg yn Aberconwy yw bod yna nifer o gyn pleidleiswyr Llafur sydd ddim am bleidleisio i Lafur eto. Mae cyfran fawr o'r cyn Llafurwyr yma mewn cyfyng gyngor parthed cefnogi Plaid Cymru neu'r Blaid Geidwadol y flwyddyn nesaf. Mae'r cyfyng gyngor yn profi bod gan y bobl yma parch a / neu ddiffyg gelyniaeth tuag at y naill blaid / ymgeisydd a'r llall. Mae Cai yn gywir i ddadlau bod ymosodiadau Guto ar Phil / Plaid Cymru yn gallu dod a chanlyniadau anfwriadol yn eu sgil, y canlyniad o wneud Guto i edrych fel sinch bach sydd yn ymosod ar un y mae gan bobl parch / diffyg gelyniaeth tuag ato. Ond mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd, mae ymosodiadau dan din gan Phil / Palid Cymru ar Guto yn rhoi Phil yn rôl y snich.

Yn Aberconwy, yng Nghymru, prin bydd selogion y Blaid bydd yn troi at y Ceidwadwyr a phrin bydd selogion y Ceidwadwyr bydd yn troi at y Blaid. Y buddugwr bydd yr ymgeiswyr sydd yn llwyddo i ymosod yn fwyaf llwyddiannus ar Lafur a chynnig polisïau amgen i rai'r Blaid Lafur. Bydd atgasedd cynhenid Plaid Cymru tuag at y Ceidwadwyr a'i hagosrwydd i Lafur yn y Cynulliad ac agosrwydd ideoleg carfan sosialaidd ddylanwadol y Blaid i draddodiadau Llafur yn sicrhau mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru bydd yn ennill y frwydr honno, yn union fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop.

Yr unig obaith sydd gan y Blaid i gael cynydd yw trwy ymosod ar wir fwci bo gwleidyddiaeth Cymru, sef y Blaid Lafur, yn hytrach nag wastraffu ei holl egni yn ymladd yn erbyn melinau gwynt y ffug anghenfil tin-flewog Ceidwadol. Os nad yw'r Blaid yn llwyddo i gael cynnydd, ar draul Llafur, mewn cyfnod lle mae Llafur ar drai yng Nghymru (fel sy'n debygol o ddigwydd eto) waeth i'r Blaid rhoi'r ffidl yn y to etholiadol!

18/12/2009

Colli Ysgol = Colli Cigydd? Hurt!

Ers etholiadau mis Mai'r llynedd yr wyf, ar y cyfan, wedi cydymdeimlo ag achos Llais Gwynedd yn ei frwydr yn erbyn Plaid Cymru. Nid oherwydd fy mod yn gefnogwr brwd i Lais nac yn elyn mawr i'r Blaid, ond oherwydd fy mod yn credu bod Llais wedi dinoethi’r Blaid ac wedi dangos man gwan sydd yn gwneud drwg i'r mudiad cenedlaethol.

I mi mae'r achos cenedlaethol yn bwysicach na phlaid ac yn amlwg bwysicach na'r Blaid. Mae gweld y niwed mae'r Blaid yng Ngwynedd yn wneud i'r achos Cenedlaethol, trwy ymddwyn fel yr Arglwydd Beeching a Mrs Thatcher yn corddi fy stumog. Mae cadw adnoddau cymdeithasol ac amddiffyn gwasanaeth cyhoeddus yn bwysicach nag arian ac elw a chreu balans cyllideb. Elfen o frogarwch a chenedlaetholdeb sydd yn ymddangos, ysywaeth, fel elfen sydd wedi ei golli gan gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd.

Mae post diweddaraf Gwilym Euros, sydd yn cyfeirio at stori yn y rhifyn cyfredol o'r Cambrian News yn awgrymu bod Llais, hefyd, yn dechrau colli ffordd trwy roi sgorio pwyntiau gwleidyddol yn uwch nag amddiffyn y gymuned.

Yn ôl y CN mae pobl Aberdyfi wedi ymateb i benderfyniad eu Cynghorydd annibynnol lleol, Dewi Owen, i gefnogi cau ysgol y llan trwy:
cancelling Christmas turkey orders at the village butcher’s shop, which is run by Cllr Owen’s son-in-law.
Rwy'n ddeall dicter y pentrefwyr, ond mae eu hymateb yn un hurt!

Fel mab i dad, rwy'n gwybod bod fy marn i a barn fy nhad yn ddwy farn gwbl annibynnol. Hyd yn oed ar yr achlysuron prin ein bod yn unfarn gytûn, damwain ydyw, nid cynllwyn!

Fel gŵr priod mae'r syniad o gael fy nghosbi am weithredoedd yr in laws yn fy nharo fel y peth gwirionaf imi ei glywed erioed. Uffar' ond doedd y diawliaid wedi pregethu wrth y musus 'cw bod llawer gwell ar gael cyn iddi gytuno fy mhriodi?

Bydd colli'r ysgol, yn ddi-os, yn hoelen yn arch bywyd pentrefol Aberdyfi. Bydd colli cigydd o fri o'r pentref yn hoelen arall. Mae'r cysyniad bod taro'r ail hoelen yn brotest dechau i wrthwynebu daro’r hoelen gyntaf yn ymateb tu hwnt i'm dirnad i, ac yr wyf yn synnu bod Llais yn ei gefnogi.

17/12/2009

Be Ddigwyddodd i S4C2?

Diwedd mis Awst llynedd mi wnes ymateb i holiadur ar Wasanaethu Plant yn y Dyfodol Digidol a gomisiynwyd gan S4C er mwyn trafod y defnydd gorau o sianel S4C2.

Mi fûm yn un o'r ychydig prin a oedd yn gwylio darllediadau o'r Cynulliad ar S4C2 yn weddol reolaidd - oleiaf 2-3 gwaith yr wythnos. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, da oedd cael y sianel ar gyfer darllediadau byw o'r Babell Lên fel gefaill i ddarllediadau o'r Pafiliwn Pinc.

Mae fy ymateb i'r holiadur ar gael yma (dogfen pdf)

Yn fras fy ymateb oedd:
Er gwaetha'r ffaith fy mod yn un o wylwyr rheolaidd prin y sianel, yr wyf yn fodlon aberthu'r cynnwys yr wyf fi yn ei fwynhau er mwyn creu gwasanaeth amgen i blant a phobl ifanc.

Mae'r gwasanaeth i blant arfaethedig wedi ei greu (ond nid y gwasanaeth i bobl ifanc); ond mae'n cael ei ddarlledu fel rhaglenni Cyw ar S4C1 yn ystod yr oriau hynny cyn y pnawn pan nad oedd S4C yn arfer darlledu yn ddigidol o gwbl.

Ers yr wythfed o fis Awst, bron i bum mis yn ôl, yr unig beth sydd wedi ei ddarlledu ar S4C2 yw Tudalennau Gwybodaeth gyda llun o fwi môr a rhif ffôn y Gwifryn Gwylwyr. Yr oeddwn yn fodlon colli fy ngallu i wylio'r Cynulliad a'r Babell Lên ar gyfer creu lle i wasanaeth amgen a mwy poblogaidd, ond nid er mwyn ei golli am rif ffôn a llun gwirion!

Er mwyn darlledu'r Tudalennau Gwybodaeth, mae'n rhaid bod S4C yn parhau i dalu'n ddrud am y slot darlledu. Rwy'n gallu meddwl am gant a mil o ddefnyddiau ar ei gyfer yn ogystal a'r sianel i bobl ifanc a addawyd:

  • S4C + 1 - ar gyfer y rhai sy'n codi'n hwyr ar ol siesta'r pnawn

  • Sianel Amaethyddol, fel nad oes raid inni gael gymaint o faw gwartheg ar y brif sianel ar raglenni megis Cefn Gwlad, Ffermio a Fferm ffactor.

  • Sianel Chwaraeon er mwyn osgoi newidiadau i'r arlwy arferol gan fod gemau rygbi / pêl-droed / tidliwincs pwysig yn cael eu cynnal.

  • Sianel ailddarllediadau - i wneud lle i gynnwys rhaglenni newydd ar y brif sianel yn hytrach na dangos Fferm Ffactor pum gwaith yr wythnos

  • Pa bynnag defnydd a wneir o sianel S4C2, oni bydda rywbeth yn well na thalu am sianel wag?

    09/12/2009

    Ymadawiad Oscar

    Ychydig o bwyntiau am ymadawiad Oscar o Blaid Cymru a'i benderfyniad i ymuno a grŵp y Blaid Ceidwadol.

    Y peth cyntaf i ddweud yw nad ydy o'n syndod. Yr oedd yn wybyddus cyn iddo dderbyn ei enwebiad ei fod wedi ceisio i fod yn ymgeisydd i wahanol gyrff trwy'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur cyn iddo wneud cais i Blaid Cymru. Yn wir un o'r rhesymau pam fod fflyrtio'r dyn efo pleidiau eraill mor hysbys yw bod nifer o'i ffrindiau gorau newydd wedi nodi yn llon ei fod yn gast-off diwerth a wrthodwyd ganddynt hwy yn y lle cyntaf. Yr oedd yn amlwg, yn gwbl amlwg, i Blaid Cymru bod Oscar yn defnyddio'r Blaid er mwyn uchelgais hunanol yn hytrach nag ymrwymiad pleidiol.

    Ond o gydnabod bod Oscar wedi defnyddio'r Blaid, rhaid cydnabod bod y Blaid wedi ei ddefnyddio ef mewn ffordd a oedd yr union mor hunanol a dan din.

    Oherwydd bod mewnfudwyr i wledydd Prydain yn gorfod profi eu bod yn driw i'w gwlad fabwysiedig, mae yna duedd iddynt i fod ymysg y mwyaf Prydeinig o'r Prydeinwyr, mae hynny yn eu gwneud yn dalcen caled i'r pleidiau cenedlaethol.

    Roedd sicrhau mae Cenedlaetholwyr oedd yr AC cyntaf a'r ASA cyntaf yn dipyn o gamp i'r Blaid a'r SNP ac yn fodd iddynt dorri i mewn i'r talcen hwnnw. Ac mae'r Blaid wedi cael ei wobr o ddefnyddio Oscar. Yn yr etholiadau cyngor sir etholwyd llond llaw o gynghorwyr Plaid Cymru o'r lleiafrifoedd ethnic yn sgil ethol Oscar. Mae'r cynghorwyr yna yn parhau i fod yn chwifio baner cenedlaetholdeb Cymreig yn eu cymunedau. Gellir dadlau byddid cefnogi ymgeisydd gwell na Ashgar wedi bod yn gallach, ond y gwir yw mai ef oedd yr unig un a oedd ar gael mewn sedd yr oedd modd i'r Blaid curo efo ymgeisydd o'i gefndir. Bydda Abdul Khan wedi gwneud gwell AC na Mohamed Ashgar, bid siwr, ond doedd dim modd ei osod ef yn uwch ar restr y Gogledd na Wigley a Ryder.

    Fe wnaed dêl y diafol rhwng y Blaid ac Oscar. Ar y cyfan byddwn yn dweud mai Plaid Cymru sydd wedi cael y gorau ohoni. Y mae'r Blaid wedi profi ei bod hi yn fodlon rhoi cyfle i bobl o gefndiroedd ethnig cael eu hethol yn enw cenedlaetholdeb Cymreig. Mae'r Blaid Geidwadol wedi cael ei dal efo'i drôns i lawr trwy dderbyn-trwy-ddwyn aelod o'r cymunedau lleiafrifol yr oeddent wedi ymwrthod ag ef trwy honni nad oedd o'n deilwng.

    Mae'r Blaid hefyd wedi cael gwared ag un a oedd yn edrych fel pysgodyn allan o ddŵr ar ei feinciau, ac un a oedd yn pechu ambell i grŵp o fewn y cymunedau lleiafrifol, heb orfod mynd trwy'r embaras o'i ddad-ddewis. Yn sicr does dim gwirionedd yn yr honiadau y byddai Ashgar wedi ei ddad-ddewis i wneud lle yn y Senedd i Adam Price, byddai hynny yn groes i graen dymuniad y Blaid i apelio i'r lleiafrifoedd.

    Un nodyn bach arall i gloi. Mae rhai aelodau o'r Blaid yn ceisio symud y bai am ddewis Oscar fel ymgeisydd yn y lle cyntaf oddi wrth y Blaid yn ganolog i aelodau'r Blaid yn rhanbarth y de-ddwyrain trwy ddweud mai nhw wnaeth ei ddethol fel ymgeisydd mewn modd democrataidd annibynnol. Twt lol botas maip. Does dim modd i unrhyw un sefyll yn enw Plaid Cymru (nac unrhyw blaid arall) heb eu bod wedi eu cymhwyso fel ymgeiswyr derbyniol gan y blaid yn ganolog. Fe gymhwyswyd Ashgar fel ymgeisydd derbyniol gan Blaid Cymru yn ganolog. Pe na fyddai, bydda fo ddim ar gael i aelodau'r de ddwyrain i'w hystyried yn y lle cyntaf, mae ceisio symud y bai yn y modd yma yn ddilornus i holl aelodau'r Blaid yn y rhanbarth.

    06/12/2009

    Ydy'r HRF o blaid Lladd yr wrth Gymraeg?

    Gan fy mod wedi penderfynu cael hoe fach o'r pwysau uffernol sydd yn dod o ysgrifennu blog Saesneg, mi benderfynais roi peiriant Google Translate ar y safle hwn rhag ofn bod rhai o fy nghyn darllenwyr Saesneg am gael cip o'r farn yr wyf yn parhau i'w fynegi yn y Gymraeg.

    Mae'r teclyn i'w gweld ar ochor chwith y sgrin rhwng bathodyn Maes-e a bathodyn Rwy'n Cefnogi Annibyniaeth.

    Yr wyf yn ansicr o gallineb osod y teclyn, gan fod ambell i gyfieithiad yn awgrymu bod fy marn yn fwy hurt na'r hurtiaf y mae Cai wedi eu gwobrwyo am idiotrwydd.

    Er enghraifft mae cyfieithiad o'r post yma yn awgrymu fy mod o blaid llofruddiaeth dorfol o'r gwrthbleidiau er mwyn amddiffyn y Gymraeg:

    What is great is that the buoyancy, the fire in the belly, and the fall out has pasiwn raised when members of the party killed four of their opponents for compromise on the future of the language.

    Ond wedi fy nghyhuddo o gefnogi llofruddio pedwar cyfaddawdwr er mwyn addiffyn yr iaith mae'r peiriant cyfieithu yn amau fy niffuantrwydd. Dyma'i gyfieithiad o benawd y post gyfredol:

    Slaughter - is the HRF in favour of the Gymraeg?

    Gwell imi gael gwared â'r peiriant cyfieithu cyn iddi fy arwain i ddyfroedd dyfnion iawn, mi dybiaf !!!!!!!!!!

    05/12/2009

    Newid hinsawdd yn gau neu'n wir - be di'r ots?

    Yn ystod y dyddiau diwethaf mae mwyfwy o bobl wedi bod yn mynegi amheuon am yr ymgyrch i atal newid hinsawdd trwy honni mae ffug wyddoniaeth ac, yn bwysicach byth, mae ymgais at reoli pobl a chodi trethi yw'r holl stŵr. Mae'r ffaith bod y gwadu gwyddonol wastad yn dod efo'r un neges wleidyddol am ymyrraeth lywodraethol a threthiant yn awgrymu yn gryf bod y gwleidyddol yn bwysicach na'r wyddonol i'r gwadwyr

    Gan nad ydwyf yn wyddonydd nac yn fab i wyddonydd y mae'n anodd imi wneud sylw teg am y ddadl wyddonol. Ond gan nad ydwyf yn or-hoff o ymyrraeth ddiangen yn fy mywyd na threthi di angen rwy'n gallu cydymdeimlo a rhywfaint o ddadleuon gwleidyddol y gwadwyr.

    Yr wyf wedi nodi mewn post blaenorol bod cael gwared â bylbiau tryloyw (y rhai 100w 60w ac ati) yn achosi problemau gan fod y bylbiau cyrliog newydd yn amharu ar fy offer cymorth clyw, mae'n debyg eu bod yn achosi problemau i bobl efo ddiffygion gweledol hefyd. Dyma broblem dylid wedi dod i'r afael arni cyn i'r UE gwahardd y bylbiau hen ffasiwn yn llwyr.

    Mae'n ymddangos imi fod polisi'r Cynulliad o gael gwared â bagiau siopau plastig un defnydd hefyd yn bolisi diffygiol. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ddeall gan gyfaill sydd yn arbenigo yn y maes mae'r bagiau un defnydd yn bio-bydru o fewn blwyddyn neu ddwy. Mae'r bag for life o blastig tew yn cymryd 200 mlynedd i bydru, a bydd yr eco bags o blastig a ffibr yn parhau heb eu pydru mewn filflwydd. Yn waeth byth mae rhywfaint o ffibr y bagiau eco wedi ei chynhaeafu ar ffermydd lle cliriwyd fforestydd glaw er mwyn tyfu'r cnwd ffibr.

    Nid ydwyf, yn amlwg, 100% yn cefnogi pob dim y mae'r ymgyrch amgylcheddol yn dweud na gwneud, ond eto rwy'n gweld problem fawr parthed dymuniad y gwrthwynebwyr i ro'r gorau i bob polisi amgylcheddol ar sail diffygion honedig yn y data newid hinsawdd. I mi nid gwyddoniaeth newid hinsawdd yw apêl gwleidyddiaeth glesni ond y dymuniad i fyw mewn byd glan a saff.

    Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf yn parhau i ddymuno gweld llai o fagiau plastig a phaciau bwyd "poli" yn wasarn ar y strydoedd.

    Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf yn parhau i ddymuno gweld pethau yn cael eu hail ddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na'u taflu i landfill llawn llygod mawr

    Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth well gennyf byddid cael llai o nwyon gwenwynig budron yn chwydu allan o simneiau ffatrïoedd a phwerdai ar draws y byd.

    Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf am weld y fforestydd glaw a'u hamrywiaeth o fywyd gwyllt yn cael eu hamddiffyn.

    Hyd yn oed os yw newid hinsawdd yn ffug wyddoniaeth yr wyf yn croesawu datblygiadau sydd yn creu nwyddau effeithlon eu defnydd o egni bydd o gymorth i leihau fy miliau.

    Newid hinsawdd neu beidio, mae symudiadau rhesymegol tuag at greu byd sydd yn lanach ac yn fwy effeithiol, yn sicr, yn well na pholisïau sydd am gadw'r byd yn fudr o aneffeithiol.

    03/12/2009

    Nadolig Llawen Mr Heath

    Ar ôl oes o gefnogi Rhyddfrydwyr Lloyd George, fe aeth pleidlais olaf fy niweddar Hen Nain i'r Blaid Geidwadol. Y rheswm am ei thröedigaeth yn hwyr yn ei phenwynni oedd bod Llywodraeth Ted Heath wedi cyflwyno Bonws Nadolig o £10 i bob pensiynwr ym 1972.

    Roedd y bonws yma yn fonws go iawn. Efo'r fath ffortiwn yn ychwanegol i'w phensiwn yr oedd Hen Nain yn gallu fforddio, am y tro cyntaf yn ei bywyd, i anrhegu ei niferus disgynyddion efo par o fenig yr un fel presant Nadolig.

    Yn ystod y dyddiau nesaf bydd holl bensiynwyr gwladol y Deyrnas Gyfunol yn derbyn Bonws Nadolig Ted Heath ar gyfer eleni. Deg punt bydd y taliad o hyd, prin digon i brynu un par o fenig bellach.

    Pe bai'r Bonws Nadolig wedi cadw fyny efo costau byw, tua £150 byddai ei werth cyfredol. Ond gan ei fod wedi sefyll yn ei hunfan fel £10 ers 1972 y mae'n costio mwy i'w weinyddu bellach nac yw ei werth. Mae haelioni Mr Heath wedi troi yn sarhad bellach.

    Mae'n hen bryd i'r Llywodraeth gwneud penderfyniad i naill ai diweddaru gwerth y bonws i bensiynwyr neu i waredu taliad mor bitw yn llwyr.

    27/11/2009

    Be' Petai Peter yn Gywir?

    Mae'r blog Llafur Wales Home yn gofyn cwestiwn difyr parthed y cwyno am agwedd Peter Hain tuag at gynnal Refferendwm ar ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Hawdd yw cystwyo Dr Hain am fod yn negyddol ei agwedd tuag at ddatganoli ac am fynegi pwyll am amseru refferendwm. Ond beth petai o'n gywir?

    Rwy'n gweld rhywbeth sylfaenol annemocrataidd yn agwedd Dr Hain. Os yw'n hollol eglur be fydd canlyniad refferendwm cyn ei gynnal, afraid yw cael refferendwm o gwbl. Does dim rhaid cynnal refferendwm ar gyfreithloni llofruddiaeth oherwydd bod barn y bobl ar y pwnc yn gwbl eglur heb bleidlais. Rhoddwyd y gorau i gynnal refferendwm pob 7 mlynedd ar yfed ar y Sul yng Nghymru pan ddaeth hi'n amlwg bod pobman yn y wlad am bleidleisio o blaid agor tafarnau ar y Sul. Gwirion yw gwario filiynau ar ofyn y cwestiwn os ydym yn gwbl sicr o'r ateb. Pwrpas refferendwm yw ymofyn barn yr etholwyr pan fo rhywfaint o ansicrwydd parthed eu barn.

    Ond o gynnal refferendwm heb y sicrwydd o bleidlais Ie, y mae'n bwysig i ddatganolwyd a chenedlaetholwyr ystyried oblygiadau colli.

    Yn bersonol nid ydwyf yn poeni yn ormodol am bleidlais negyddol. Dydy adran pedwar o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddim yn rhoi rhagor o bwerau i'r Cynulliad, dydy o ddim yn rhoi hawliau ddeddfu ychwanegol i'r Cynulliad chwaith, yr hyn y mae'n gwneud yw newid drefn argaeledd y pwerau ar hawliau deddfu sydd eisoes yn bodoli yn adran tri o'r ddeddf.

    Y peth pwysicaf mae adran 4 yn ei wneud yw rhwystro esblygiad datganoli. Heb gynnal refferendwm ar adran 4 does dim modd i symud ymlaen i gam nesaf datganoli - sef sicrhau cyfartaledd a'r Alban neu Gogledd yr Iwerddon. O gynnal refferendwm bydd yr ymgyrchu am y cam nesaf yn cychwyn boed y canlyniad yn Ie neu yn Na.

    O gael canlyniad negyddol bydd yr ymgyrch am y cam nesaf yn galetach, wrth gwrs, dyna pam y byddwyf yn pleidleisio Ie ac yn annog eraill i wneud yr un fath. Ond heb refferendwm, beth bynnag fo'r canlyniad, bydd yr ymgyrch honno ddim yn cychwyn. Dyna paham yr wyf o blaid cynal refferendwm mor fuan ac sydd modd hyd yn oed heb y sicrwydd o ganlyniad y mae Peter Hain yn dymuno.

    13/11/2009

    Ffatri Ffuglen Hanes Cymru

    Yr wyf wedi bod yn ddwys ystyried gneud sylwadau trylwyr am ddiffyg sylwedd hanesyddol a chymdeithasol rhaglen hurt gyfredol Hywel Williams ar S4C.

    Ond a oes raid?

    Wedi'r cyfan mae'r rhaglen yn cael ei gynhyrchu gan THE FICTION FACTORY!

    06/11/2009

    Yr Ugain Orchymyn - Yr Unig Ateb?

    Pe bai Moses yn Gymro yn hytrach nag yn Iddew, mi fyddai wedi dod i lawr o'r mynyddoedd efo'r deg orchymyn i gŵyn o Be! Dim ond DEG orchymyn - dim hanner digon a chyn pen dim bydda brotestiadau yn cael eu cynnal i fynnu ragor, a'r geiriau Ugain Orchymyn yr Unig Ateb wedi eu chwistrellu mewn paent gwyrdd ar draws Arch y Cyfamod

    Mae unrhyw un sydd wedi darllen rhagor nag un post ar y blog hon yn gwybod fy mod yn weddol gyndyn o roi clod i Blaid Cymru. Ond pan fo clod yn haeddiannol mae'n haeddiannol.

    Roedd y ddadl eLCO Iaith yn gam aruthrol ymlaen i achos yr iaith. Ac o bob parch i'r Blaid, dydy hi heb honni bod yr eLCO bresennol yn ddim byd namyn cam bach i'r cyfeiriad cywir.

    Mae'n wir ddweud bod y cynnig a wnaed i Sansteffan wedi ei glastwreiddio wrth ei ddychwelyd i'r Cynulliad - ond dyna ydy natur y system hurt yr ydym yn cael ein deddfau trwyddi. Mae disgwyl i Sansteffan i beidio a glastwreiddio, ar unrhyw gais iddi, fel disgwyl gafr i beidio rhechan!

    O dan y gyfundrefn byddid modd i'r Cynulliad dweud Na! Dydy'r eLCO ddim yn ddigon da a'i ddanfon yn ôl i Sansteffan am ei hail hystyried. Pe bai'r Cynulliad wedi cymeryd y cam yna bydda'r eLCO wedi syrthio gyda diddymiad Senedd Sansteffan ar gyfer yr etholiad Prydeinig nesaf, ac yna byddai'n rhaid dechrau'r broses o'r cychwyn gyntaf eto - gyda'r perygl i'r eLCO cael ei hamseru allan, eilwaith, oherwydd etholiad Cynulliad.

    Mae achos yr iaith wedi symud y cam fwyaf bosib iddi allu ei gymeryd o dan yr amgylchiadau presennol, diolch i Blaid Cymru ac arweiniad Alun Ffred. Yn sicr mae angen camau eraill cyn cyrraedd at Lefiticws iaith, ond hyd y gwyddwn, dydy'r Blaid heb ddweud Na i bwyso am gymeryd camau pellach a mwy uwchgyrhaeddol parthed yr iaith yn y dyfodol - chware teg!

    04/11/2009

    Democratiaeth byw a'r Iaith Gymraeg

    Mae gwasanaeth newydd y BBC Democratiaeth Byw yn un wych ac un byddwyf, yn sicr, yn ei ddefnyddio'n aml. Mae'n cynnig darllediadau byw ac wedi eu recordio o wyth o siambrau llywodraethol Ynysoedd Prydain, gan gynnwys Senedd y Cynulliad.

    Mae modd hefyd copïo trafodion o'r safle i mewn i bost blog. A gan fod y gwasanaeth ar gael, gwell ei ddefnyddio! Dyma'r drafodaeth lawn ar yr eLCO iaith:



    Mae'n debyg bod modd tynnu allan cyfraniadau unigol o'r trafodion yn hytrach na thrafodaeth lawn, ond nid ydwyf wedi gweithio allan sut i wneud hynny eto.

    Ta waeth mae hon yn ddadl werth ei ddilyn o'r cychwyn i'r ddiwedd. Mae'n un o'r sesiynau mwyaf bywiog imi ei glywed o'r Cynulliad.

    Yr hyn sydd yn wych yw bod y bywiogrwydd, y tân yn y bol, y ffraeo a'r pasiwn wedi codi wrth i aelodau o'r pedair plaid lladd ar eu gwrthwynebwyr am gyfaddawdu ar ddyfodol yr iaith; mae'r clochdar yn codi wrth i aelodau'r gwahanol bleidiau ceisio profi mae eu plaid nhw yw cefnogwr ac amddiffynnydd mwya'r iaith.

    Mae clywed Ceidwadwyr a Llafurwyr a Rhyddfrydwyr Democrataidd yn beirniadu Plaid Cymru am gyfaddawdu ar yr iaith ac am beidio a gwneud digon i'w hamddiffyn yn codi deigryn i'r llygaid. Nid am fod y feirniadaeth yn deg nac yn gywir - dim ond am ei fod yn bodoli.

    Chwarter canrif (neu lai) yn ôl bydda ddadl ar y testun yma wedi bod yn un lle'r oedd y Blaid yn amddiffyn cornel yr iaith a phawb arall yn lladd arni am gefnogi iaith hanner marw. Mae'r ffaith bod eraill heddiw yn teimlo'r angen i feirniadu'r Blaid (yn gam neu'n gymwys) am beidio gwneud digon dros yr iaith yn brawf o ba mor bell mae achos yr iaith wedi symud mewn cyfnod gweddol fer.

    Yr her nesaf i'r Blaid yw gweithio tuag at ddadl ble mae pob un o'r pleidiau eraill yn ei feirniadu dros beidio a gwneud digon dros achos ymreolaeth i Gymru :-)

    01/11/2009

    Deryn Down Under

    Trist oedd cael deall mae nid can Cymraeg yw Dacw Di yn eistedd y Deryn Du.
    Dacw di yn eistedd y deryn du
    Brenin y goedwig mawr wyt ti
    Can deryn, deryn, can deryn deryn,
    Dyna un mawr wyt ti.

    Yr oeddwn wedi mynnu wrth fy neiaint yn Awstralia mae can a dygwyd oddi wrth y Cymry ydoedd, ac wedi dysgu'r geiriau Cymraeg iddynt er mwyn eu canu yn Welsh Night eu trwp sgowtiaid pan oeddynt yn blantos.

    Ymddengys bod arbenigwr ar ganeuon gwerin Cymraeg wedi rhoi tystiolaeth i lys yn Awstralia mae can o Awstralia ydoedd yn wreiddiol a ddygwyd gan y'r Urdd.

    Os mae can o Awstralia ydyw yn wreiddiol rhaid dweud bod fersiwn amgen fy neiaint yn apelio yn fwy na'r gwreiddiol:
    Kookaburra sits on a 'lectric wire
    Jumps up and down 'cos his bum's on fire
    Cry kookaburra, cry kookaburra,
    Sore your arse must be!

    23/10/2009

    Helo Dylan!

    Croeso mawr i Dylan Llyr, yr aelod diweddaraf o deulu bach y blogwyr gwleidyddol Cymraeg.

    21/10/2009

    Gweler ei ewyllys

    Hwyrach nad yw hel achau yn bwnc gwleidyddol, fel y cyfryw, ond gan mae llywodraethwyr sydd wedi creu y rhan fwyaf o ddogfennau achyddol mae caffael mynediad i ddogfennau achyddol yn gallu bod yn hynod wleidyddol.

    Cyn refferendwm y Cynulliad rwy'n cofio cael "cwyn" efo Ieuan Wyn Jones (hanesydd teuluol brwd) am y broblem o orfod mynd i Aberystwyth i weld casgliadau canolog, a Ieuan yn addo mae un o'r pethau gallasid Cynulliad ei wneud oedd sicrhau digideiddio casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol er mwyn gwneud eu hargaeledd yn haws.

    Braf oedd darganfod heddiw, gan hynny, bod copïau llun digidol o Ewyllysiau a phrofwyd yn y Llysoedd Eglwysig Cymreig cyn 1858 bellach ar gael ar lein.

    http://cat.llgc.org.uk/probate *

    Ar wahân i fod yn adnodd difyr i ni sydd yn ffoli ar hel achau, mae'n adnodd o werth economaidd hefyd. Mae twristiaeth achyddol yn gallu bod yn werthfawr i'r diwydiant, rhywbeth sydd yn tynnu ymwelwyr o bell o lwybr Llundain, Caeredin a Stratford. Ac ar sawl achlysur, pan fu pob dim arall yn gyfartal, achau fu'r gwahaniaeth dros fuddsoddi yn yr Iwerddon yn hytrach na Chymru gan ambell i gwmni o'r UDA.

    Mae llywodraeth San Steffan wedi gwerthu ei hadnoddau achyddol hi i'r prynwr uchaf. Braf gweld bod Cynulliad Cymru yn galluogi i'r Llyfrgell Genedlaethol cynnig y gwasanaeth gweld ewyllysiau i bobl ar draws y byd heb gost i'r ymwelydd.

    Llongyfarchiadau i bawb sydd yn gysylltiedig â'r gwasanaeth newydd gwych 'ma.

    * Tudalen gartref Saesneg y safle, ar hyn o bryd rwy'n methu cael hyd i'r dudalen gartref Cymraeg

    14/10/2009

    Siop John Lewis

    Mae'n debyg bydd Siop Johm Lewis newydd Caerdydd y mwyaf o'i fath ym Mhrydain. Mae gennyf ryw gof o glywed bod y John Lewis a sefydlodd y siop wreiddiol yn Gymro Cymraeg, os felly mae'n siŵr y bydd o, os nad yr Hogyn o Rachub, yn falch o'r ffaith bod pawb yn canmol dwyieithrwydd y siop enfawr newydd yng Nghaerdydd.

    I fi mae'r enw John Lewis yn golygu Lerpwl.

    Mae'n debyg bod Eisteddfod Siop John Lewis Lerpwl yn un o'r fwyaf yn y Gogledd ar un adeg. Gyda chystadlaethau yn cael eu gwobrwyo gyda gwobr o'r department yr oeddynt yn cael eu cynnal ynddynt, megis set o lestri am yr her adrodd neu ffroc am y gystadleuaeth soprano a soffa yn hytrach na chadair i'r brîf fardd.

    Roedd son bod modd gwahaniaethu rhwng Cymry Lerpwl a Gwyddelod Lerpwl yn hawdd, gan fod y Gwyddelod yn edrych i fynnu ac yn mwynhau'r cerflun ar y siop ond y Cymry capelaidd yn troi eu llygaid tuag at y palmant er mwyn osgoi ei weld.



    Un o'r pethau pwysig eraill am Gymreictod siop John Lewis Lerpwl oedd y Sêl. Mae'n debyg mae faint arferol Cymro yw trywsus a sieced short, tra fo'r Sais yn debycach o fod yn long neu'n medium. Roedd holl gyflenwad dillad byr dros ben y cwmni yn arfer cael eu danfon i Lerpwl ar gyfer sêl, er mwyn i siopwyr Cymreig prif ddinas Gogledd Cymru cael manteisio ar y bargeinion. Rwy'n mawr obeithio na fydd y blydi hwntws yn dwyn y cyfle hwn oddi wrthym gyda'u siop newydd crand yng Nghaerdydd.

    12/10/2009

    Yr Hen Blaid Fach Annwyl, neu'r Blaid Fach Gâs?

    Mae'n rhaid derbyn bod llywodraethu, yn aml, yn golygu gwneud dewisiadau caled. Mae gwneud penderfyniadau amhoblogaidd, weithiau, yn anorfod.

    Mae'n rhaid cau ysgolion annwyl i gymuned, ond prin ei ddisgyblion. Mae ambell i dy bach yn costio mwy na'i werth i'r gymdeithas a'r diwydiant twristiaeth. Mae ambell i gartref hen bobl yn mynd yn rhy hen i'w hadfer.

    Pan fo gwasanaethau o'r fath yn cael eu darfod, o'r herwydd bod eu darfod yn anorfod, bydda ddyn yn disgwyl i blaid y llywodraeth i gydnabod ei fod yn anorfod trist ac i gyhoeddi'r anorfodaeth gyda thinc o dristwch.

    Ers etholiadau'r llynedd, mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, a'i chefnogwyr yn y wasg ac ar y we, yn ymddangos fel petaent yn ymhyfrydu ym mhob gwasanaeth cymunedol sy'n cael ei ladd, fel buddugoliaeth dros Llais Gwynedd.

    Pe bawn am fod yn garedig, a derbyn bod y penderfyniad i gau a chanoli ysgolion Bro Dyfi yn anorfod, byddwn yn cyhoeddi'r fath beth gyda gwyleidd-dra a chydymdeimlad efo'r cymunedau sydd am golli gwasanaeth cymunedol.

    Mae ymfalchïo yn y penderfyniad a'i ddathlu, oherwydd ei fod yn broc yn y llygad i Seimon Glyn a Llais yn gyfoglyd. Ymateb sydd yn gwneud lles i Lais a drwg i'r Blaid.

    Hwyrach bod bywyd yn haws i Lais Gwynedd, sydd ddim ond yn bodoli fel gwrthblaid yng Ngwynedd, ond mae'n rhaid i Blaid Cymru Gwynedd sylweddoli ei fod yn rhan o Blaid Cymru Cymru Gyfan.

    Pan fo Cynghorwyr y Blaid yng Ngheredigion ac ar Fôn, ym Mynwy a Morgannwg, ym Mhenfro ac yn Sir y Fflint yn ceisio amddiffyn eu cymunedau mae'n rhaid i Blaid Cymru Gwynedd ymateb mewn ffordd sydd yn cydymdeimlo a'u cyd aelodau yn yr ardaloedd hynny.

    Beth bynnag fo rhinweddau penderfyniadau Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd:

    Mae dathlu cau ysgolion fel buddugoliaeth dros Llais Gwynedd
    Mae difrïo ymgyrch i gadw tai bach cyhoeddus ar agor
    Mae croesawu cau cartrefi hen bobl

    Yn gwneud i Blaid Cymru edrych fel Y Blaid Fach Gas, yn hytrach na'r Blaid Fach annwyl ydoedd ugain mlynedd yn ol!

    10/10/2009

    Yr orthrymedig rai

    Mae fy nghyfeillion blogawl Cai a Rhydian yn aml yn fy nghyhuddo o chware'r cerdyn ormes yn ormodol yn fy amddiffyniad o genedlaetholdeb diwylliannol. Y maent yn honni bod hyn yn fy ngosod ar yr ymylon yn hytrach nag ym mhrif ffrwd cenedlaetholdeb.

    Twt lol botas medda fi. Os yw gwladweinydd amlwg a barwn y cyfryngau yn teimlo ei fod ef hefyd yn perthyn i'r orthrymedig rai, yr wyf fi yn y brif ffrwd ac mae fy ngormeswyr (sef Cai a Rhydian yn benodol) yn amlwg yn y lleiafrif ymylol :-)

    09/10/2009

    Llongyfarchiadau Elin a Christianne



    Llongyfarchiadau mawr i Elin Jones AC a Dr Christianne Glossop ar dderbyn gwobr Pencampwyr Ffarmio'r Flwyddyn gan gylchgrawn y Farmers' Weekly.

    Dyfarnwyd y wobr iddynt am eu hymroddiad i daclo pla'r ddarfodedigaeth mewn gwartheg; yng ngeiriau un o'r beirniaid:

    The Welsh approach provides an ideal blueprint for TB eradication, from which the English government can learn a lot. Christianne and Elin's positive approach towards eradication rather than control is an inspiration to us all. Lyndon Edwards, RABDF

    Cyflwynwyd y wobr i'r ddwy gan Hilary Benn, Gweinidog Amaeth San Steffan sef y dyn dylai dysgu lot gan arweiniad y ddwy. Gwych!



    Ffynhonnell y Llun

    01/10/2009

    £48 miliwn Alwminiwm Môn

    Yn ôl ym mis Fehefin fe gynigiodd llywodraethau Cymru a Phrydain £48 miliwn i gwmni Rio Tinto i gadw Alwminiwm Môn ar agor. Gwrthodwyd y cynnig gan y cwmni am resymau sydd ond yn wybyddus iddynt hwy. Os oedd y fath arian mawr ar gael i gadw'r swyddi ar ynys Môn, a fydd o ar gael i'w ddefnyddio bellach i fuddsoddi yn yr ardal er mwyn creu swyddi newydd i'r bobl a chollodd eu gwaith?

    Na 'don i'm yn feddwl bydda fo!

    Heddlu Cudd yn Ysbio ar Cynhebrwng Gwladgarwr

    Mae yna stori digon ffiaidd yn y Cambrian News heddiw am ymddygiad Heddlu Dyfed Powys ar ddiwrnod angladd y cenedlaetholwr Glyn Rowlands a fu farw ar Awst 22 eleni.

    Yn dilyn y rali cafwyd rali Glyndŵr er cof am Glyn yn y Plas Machynlleth. Gofynnodd yr Heddlu am i gamerâu CCTV y plas i gael eu hail leoli er mwyn ffilmio'r rali a phan wrthodwyd y cais honno gofynnwyd am ddefnydd o ystafell er mwyn i heddlu cudd cael clustfeinio ar a gwylio'r rali.

    Mae John Parsons, clerc tref Machynlleth wedi ysgrifennu at yr Heddlu ar ran y cyngor i gwyno am eu hymddygiad a’u diffyg sensitifrwydd ar adeg o alar.

    28/09/2009

    Pydredd Llafur yn broblem i'r Blaid

    Newydd edrych ar bost diweddaraf Cai ac wedi fy synnu ei fod o'n ymosod ar Gwilym Euros am feiddio dweud bod angen etholiad buan i gael gwared â'r Llywodraeth bresennol.

    Rwy'n credu bod y polau piniwn y mae Cai yn eu crybwyll yn adlewyrchiad teg o farn pobl yr ynysoedd hyn. Mae pawb ond y selogion selocaf wedi cael llond bol a'r llywodraeth bresennol. Yr unig ddewis ymarferol, o dan y gyfundrefn bresennol, yw llywodraeth Ceidwadol i ddisodli llywodraeth Brown.

    Gan nad ydwyf yn rhannu casineb cynhenid chwith Plaid Cymru tuag at geidwadaeth dydy hyn ddim yn broblem fawr i mi nac, fe ymddengys, i Gwilym Euros. Ond mae o'n rhoi chwith Plaid Cymru mewn cyfyng gyngor. Cyfyng gyngor y mae post Cai yn ei hadlewyrchu.

    Mae Gwilym a fi am weld diwedd i lywodraeth bwdr y rhyfeloedd anghyfreithlon, llywodraeth bwdr yr arian am arglwyddiaeth y llywodraeth bwdr sy'n ymosod ar hawliau dynol ac ati.

    Yr hyn bydd yn dod a'r llywodraeth bwdr yma i ben o dan y drefn Unoliaethol bydd buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr.

    Trwy dynnu tafod a galw enwau budron ar y sawl sydd am weld diwedd ar y llywodraeth bwdr, yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei wneud yw cefnogi'r llywodraeth Lafur a'i phydredd (pydredd y mae'r Blaid wedi bod yn flaenllaw yn ei ddatgelu a'i wrthwynebu ers 1997!). Prin fod fantais etholiadol yn y fath sefyllfa.

    Mae problem Plaid Cymru yn un o'i wneuthuriad ei hun, problem sy' ddim yn cael ei rhannu gan ei chwaer blaid yn yr Alban.

    Mae'r SNP yn cynnig ateb amgen i Bydredd Llafur Prydain v Yr Anghenfil Tin-flewog Dorïaidd Prydeinig sef annibyniaeth oddi wrth y drefn wleidyddol Brydeinig.

    Pe bai Plaid Cymru wedi sefyll yn gadarn dros annibyniaeth ers 1979 yn hytrach na chael ei hudo gan broses esblygol datganoli byddai'r Blaid yn gallu cynnig ateb amgen i bobl Cymru hefyd.

    24/09/2009

    Tŷ bach cost fawr


    Tra bod cynghorwyr Gwynedd yn gorfod protestio er mwyn cadw toiledau Gwynedd ar agor, mae Cyngor Conwy am adeiladu rhai newydd hynod ym Metws y Coed am gost o £275 mil sef mwy na ddwywaith y £133 mil mae Gwynedd am arbed trwy gau 21 o dai bach. Rhyfedd o fyd!

    21/09/2009

    Dim Mabon i Gaerfyrddin

    Yn dilyn sylwadau ar nifer o flogiau (gan gynnwys fy ymgais Saesneg i) parthed olynydd i Adam Price yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mae un o'r enwau a grybwyllid, Mabon ap Gwynfor, wedi gofyn imi gyhoeddi'r datganiad canlynol:


    Plaid Cymru, Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr - Mabon ap Gwynfor


    Mae Mabon ap Gwynfor, Cydlynydd Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd a Cheredigion, a chyn ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru ym Mrycheiniog a Maesyfed wedi cyhoeddi nad ydyw yn bwriadu rhoi ei enw ymlaen fel ymgeisydd yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn dilyn penderfyniad Adam Price AS i sefyll i lawr yn yr etholiad nesaf.


    Meddai Mabon:

    “Mae’n fraint ac yn anrhydedd o’r mwyaf fod rhai wedi fy enwi fel ymgeisydd posib ar gyfer etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond nid ydwyf am roi fy enw ymlaen ar gyfer enwebiad yno. O weld yr ymgeisyddion eraill posib sydd yn cael eu henwi mae’n amlwg fod gan Blaid Cymru ddyfnder rhyfeddol o wleidyddion posibl, ac rwy’n gwybod y bydd pwy bynnag a gaiff ei ddewis i olynu Adam yn ymgeisydd arbennig.


    “Os bydd gennyf i unrhyw ran i’w chwarae yng ngwleidyddiaeth Cymru ar lefel genedlaethol rywbryd yn y dyfodol, yna ym Mae Caerdydd yr hoffwn i fod. Ond mae fy sylw i yn cael ei roi ar fagu fy nheulu a sicrhau etholiad llwyddianus i Elfyn Llwyd yn Nwyfor Meirionnydd a Phenri James yng Ngheredigion.”


    Ychwanegodd Mabon, “Rhaid cymryd ar y cyfle i ddymuno yn dda i Adam yn America, a gobeithio y gwelwn ni ef yn gwasanaethu pobl Cymru unwaith eto yn fuan, ond y tro nesaf ym Mae Caerdydd!”


    Diwedd

    Pleidleisio gydag LL

    Diolch i'r ymatebion i fy mhost am Un Tryweryn cefais wybod bod cofnodion hanesyddol Hansard (cofnodion trafodaethau San Steffan) ar gael ar y we bellach yn mynd yn ôl cyn belled a 1803.

    Mae tipyn o hwyl i gael o'u darllen hefyd.

    Mae'r cofnod cyntaf sydd yn cynnwys y term Plaid Cymru yn perthyn i David Llywellyn (sef Un Tryweryn), dyn a oedd i’w gweld fel un ag obsesiwn efo gwrthwynebu cenedlaetholdeb . Dyma fo ar Ionawr 30 1956:


    "I make the direct charge in this House of Commons that there is a distinct bias on the Welsh Region of the B.B.C, in favour of Welsh Nationalism and Plaid Cymru*, in favour of the Parliament of Wales Campaign and in favour of the individuals who support those movements."

    A sail ei gwyn oedd bod rhaglen am etholiad 1955 wedi cynnwys sylw am "a pensioner who complained of having to use the English letter "X" for voting-this, Mr. Speaker is how the Election went in Wales".

    Eitha’ reit hefyd. Hoffwn erfyn ar fy narllenwyr selog i uno gyda fi mewn ymgyrch i newid y marc yr ydym yn ei ddefnyddio i bleidleisio o'r X estron - i LL er cof am David Llywellyn.


    *Nodyn. Mae yna gyfeiriadau cynharach at y Blaid ond dyma'r defnydd cynharaf imi gael hyd iddo yn defnyddio 'r union eiriad Plaid Cymru.

    Cysyll ar lein

    Mae fersiwn ar lein o raglen Cysill Prifysgol Bangor ar gael bellach.

    Dim escus am Cymraeg ancywir yn y silwadau fwych velly :-)

    19/09/2009

    Annhegwch Sylwadau Enllibus

    Y mae'n amlwg nad oes gan ddim un o'r sylwadau i fy mhost diwethaf flewj o ddim i wneud efo'r post gwreiddiol. Maent i gyd yn ymwneud a sylw enllibus a wnaed yn erbyn Cai.

    Y mae Cai a fi yn hoff o anghytuno a'n gilydd. Trwy anghytuno yr ydym yn cadarnhau ein cyd amddiffyniad o'r egwyddor bod Rhydd i Bob un ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar

    Dyma'r un a'r unig blog gwleidyddol Cymraeg sydd ddim yn cymedroli sylwadau. Y rheswm "da" am beidio cymedroli yw bod cymedroli yn tarddu ar drafodaeth rydd. Y rheswm ymarferol yw fy mod yn methu bod ynghlwm i gyfrifiadur 24 awr y dydd ac yr wyf, am resymau personol, yn fwyaf tebygol o fod ar lein yn ystod oriau man y bore. Sef yr adeg pan na fydd llawer o drafodaeth "byw" yn digwydd.

    Dwi ddim yn postio pob dydd yn y naill iaith na'r llall gan nad ydwyf adref 7 diwrnod yr wythnos. Yr wyf newydd ddychwelyd o gyflwyno achos Llys yng Nghaerdydd. Tra yn y Brifddinas cefais alwad ffôn yn dweud wrthyf fod cwyn am sylw enllibus yn bodoli ar fy mlog. Fe gostiodd £4 imi gael mynediad i'r we i ddileu'r sylw salw!

    Dwi ddim am gymedroli pob sylw. Rwy'n postio er mwyn ymateb!

    Ond mae sylwadau enllibus gan eraill yn fy ngosod i mewn sefyllfa annheg. Sef fy mod i yn cael y bai ac yn cymryd y baich cyfreithiol am bob dim mae unrhyw gôc oen gwirion am ei ddweud yn y parth sylwadau.

    Yr wyf am erfyn ar y cociau wŷn i beidio a defnyddio fy mlog bach i ar gyfer sarhau eraill. Os ydych yn teimlo bod eich sarhad yn gyfiawn creuwch eich blog eich hunain a chymerwch y baich cyfreithiol ar eich ysgwyddau eich hunain.

    Cachwr yw un sydd yn taflu sarhad o dan faich cyfreithiol un arall. Cachwr dan din sydd yn anharddu'r traddodiad Cymreig o ryddid mynegiant cyfrifol.

    16/09/2009

    Cysur i Cai.

    Mae Cai druan yn poeni am ei safle yn y blogosffer mawr. Ar hyn o bryd ef yw'r blogiwr gwleidyddol Cymraeg fwyaf poblogaidd yn y Byd i gyd a'r trydydd yng Nghymru fach ddwyieithog. Mae o'n poeni bod Simon am ei guro'r flwyddyn nesaf i'r ail safle o ran blogwyr mwyaf poblogaidd Cangen Caernarfon o Blaid Cymru.

    Cafodd y rhestrau lleol eu tynnu allan o restr Prydeinig cynhwysfawr. Mae Guerilla Welsh Fare prif blogiwr Cymru ym mhell ar y blaen yn y rhestr Prydeinig ar rif 36. Mae Blog Menai yn rhif 53 o gymharu a rhif 251 salw Simon. Ond Mae'r ail yn y rhestr Gymreig (blog Saesneg fi) yn rhif 50 sydd yn awgrymu bod fy mwyafrif i dros Cai cyn deneued a mwyafrif Gwynoro dros Gwynfor yn Chwefror '74!

    Rhif 146 yw fy mlog Cymraeg. Erbyn ertholiadau blogawl 2010 byddwyf wedi agor cannoedd o gyfrifon e-bost i sicrhau mae fy mlogiau i bydd y gydradd gyntaf trwy'r bydysawd i gyd.

    Mae hynt a helynt y blogiau Cymreig eraill i'w gweld yma 1-100; 101 i 200, 201 i 300.

    13/09/2009

    Pwy oedd un Tryweryn?

    Yn ei araith i Gynhadledd y Blaid y 'pnawn 'ma fe ddwedodd Adam Price AS rhywbeth yr wyf wedi clywed sawl gwaith o'r blaen, sef bod y cyfan ond un o ASau Cymru wedi pleidleisio yn erbyn boddi Capel Celyn. Dwi ddim yn cofio clywed erioed pwy oedd yr un a bleidleisiodd o blaid, ac rwy'n methu cael hyd i'w enw ar lein nac mewn llyfr. Oes unrhyw un yn gwybod pwy oedd y dihiryn?

    07/09/2009

    Tŵ chydig tŵ hwyr!

    Onid oes 'na rhywbeth ych a fi parthed Mebyon Kernow yn cael eu gwahardd rhag cael darllediad gwleidyddol ar y Gorfforaeth Darlledu Brydeinig mewn cyfnod etholiadol, ond bod gohebwyr y Gorfforaeth yn cael defnyddio eu darllediad annibynnol, misoedd ar ôl etholiad, fel mater o rialtwch?

    02/09/2009

    Glesni Cymru neu Goloneiddio Gwyrdd?

    Wedi gwylio'r newyddion heno aeth dau adroddiad dan fy nghroen, y ddau wedi eu crybwyll gan ymgyrchwyr gwyrdd.

    Y gyntaf oedd y ffaith bod bylbiau hen ffasiwn 100 wat am gael eu anghyfreithlioni ar ôl i'r stoc gyfredol dod i ben. Hwre! Meddai'r gwyrddion, heb ystyried oblygiadau ymarferol eu buddugoliaeth.

    Yr wyf yn drwm fy nghlyw. Yr wyf yn dibynnu ar system lŵp i wrando ar y teledu, y ffôn, y radio, y cyfrifiadur a nifer o bethau eraill. Mae'r bylbiau cyrliog yn tarddu ar y lŵp. Os oes bwlb cyrliog ar gyn mewn unrhyw ystafell yn fy nhŷ, does dim modd imi ddefnyddio fy systemau lŵp. Mae cyfeillion byr eu golwg yn cwyno bod y golau melyn sydd yn dod o'r bylbiau cyrliog yn amharu ar eu gallu i weld, o gymharu â'r golau gwyn sy'n dod o'r hen fylbiau traddodiadol.

    Ni ddylid wedi dod a rheolau gwahardd yr hen fylbiau i rym, cyn darganfod ffyrdd o sicrhau bod eu hanfanteision i bobl sydd yn byw gydag anabledd wedi eu goresgyn. Ond i'r eithafwyr sydd yn gyrru'r fath gyfundrefn dydy hawliau ddim yn bwysig - naw wfft i'r anabl - y gwyrdd sydd yn bwysig!

    Yr ail stori oedd yr hanes bod petrol wedi codi 2 geiniog y litr / 12 c y galwyn heddiw. Eto roedd y Gwyrddion bondigrybwyll yn croesawu'r fath beth fel modd o annog pobl allan o'u ceir ac i mewn i drafnidiaeth gyhoeddus, cyn ystyried oblygiadau'r polis!.

    Mae annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wych lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael!

    'Does gen i ddim trwydded gyrru. Tacsi'r wraig yw fy mhrif fodd o drafnidiaeth.

    Yr oeddwn am fynd i Gorris heddiw i angladd hen gyfaill, ar yr un pryd roedd gan yr hogiau apwyntiad deintyddol yn y Rhyl. I'r Rhyl aeth tacsi Mam, wrth gwrs, gan fy ngadael i ddefnyddio'r enwog trafnidiaeth gyhoeddus mae'r Gwyrddion am imi ei ddefnyddio.

    Mae Capel Salem Corris yn 58.84 milltir o ddrws fy nghartref, yn ôl y peiriant. Llai nag awr ar 60 MyA. Llai na ddwy awr ar ddim ond 30 MyA.

    Pump awr ar y bys!

    Ac o deithio'r pum awr yno - dim modd i ddod adref wedi'r cofio!

    Mae'n debyg bod y coloneiddwyr gwyrdd yn teimlo'n hapus iawn eu bod wedi fy rhwystro rhag creu ôl droed carbon er mwyn ffarwelio a chyfaill mynwesol.

    A choloneiddwyr ydynt. Nid Gwyrdd Seisnig mo amgylchedd Cymru ond Glas. Am gadw GLESNI mae'r Cymro da, coloneiddio trwy'r propaganda gwyrdd mae'r hipis a'u Tipi Valley a'u Lammas Eco Village Seisnig.

    30/08/2009

    Blog y Daten o Rachub




    Wedi darllen ar Faes-E bod Google Translate bellach yn cynnig cyfieithiadau o ac i'r Gymraeg yr wyf wedi bod yn edrych ar rai o'r pyst yma mewn cyfieithiad. Rhaid cydnabod bod gwasanaeth Google yn llawer gwell na'r gwasanaethau eraill. Ond mae llawer o ffordd i fynd eto cyn y gellir honni ei fod yn dda.

    Gweler, er enghraifft, y cyfieithiad o Flog yr Hogyn o Rachub yn y llun!

    Un o fanteision honedig Google Translate yw'r gallu i unrhyw un gynnig gwell cyfieithiad, ond rwy'n ansicr o fendithion y gwasanaeth yma. Bydd pobl amaturaidd heb afael cadarn ar yr iaith yn gallu gwneud y gwasanaeth yn waeth, yn hytrach nag yn well trwy gynnig cyfieithiadau o safon isel. Ar ben hynny mae yna ormod o fandaliaid gwrth Cymreig sydd â mynediad i'r we. Pa mor hir bydd hi cyn i frawddegau cwbl ddiniwed cael eu cyfieithu i I like shagging sheep ac ati o ganlyniad i ddifrod dan din gelynion yr iaith?

    23/08/2009

    Twll dy din Mr Flynn

    Dydy Paul Flynn AS ddim yn hoffi'r ffaith bod blogwyr Cymraeg eu hiaith yn ymddangos ymysg uchafion gwobrau blogio Total politics:

    While Vaughan deserves the rating, it's impossible that his position is a fair reflection of a large vote across the UK. The blog is written entirely in Welsh. The result follows a campaign promoting Plaid Cymru blogs. Other parts of the country do not have blogs that have been begging for votes for weeks.

    Not so much Total Politics. More Total B*llocks.


    Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn hollol anymwybodol o unrhyw ymgyrch i fegian am bleidleisiau ar y blogosffêr Gymreig (ar wahân, o'i gamddarllen, fy mhost i a oedd a'r bwriad o ddangos peryglon y fath yma o bolau yn hytrach na gofyn fôt).

    Y gwir yw bod ychydig yn llai na thraean o'r blogiau Cymreig a'r wefan Total Politics (31 allan o 106) yn cael eu nodi fel rhai Plaid Cymru (un neu ddau yn gamarweiniol). O'r 60 uchaf roedd 19 yn rhai Plaid Cymru (eto ychydig yn llai na thraean). Os oedd ymgyrch gan y Blaid i hyrwyddo blogiau'r Blaid - doedd o ddim yn un llwyddiannus iawn! Roedd y Canlyniad yn adlewyrchu natur blogiau Cymru!

    Y drwg yw, fel mae'r Ceidwadwr Dylan Jones Evans yn crybwyll - mae'r pleidiau eraill yn bell ar ôl Plaid Cymru parthed defnyddio blogiau i hyrwyddo eu hachos. Pe bai'r Blaid Lafur ddim yn rhoi'r sach i aelodau triw am feiddio blogio byddid modd gweld rhagor o flogiau Llafur yn yr uchafion.

    Ond i rwbio halen i friw Mr Flynn, hoffwn nodi bod y blog uniaith Gymraeg hwn, un sydd aml yn hallt ei feirniadaeth o Blaid Cymru, wedi cyrraedd rhif 20 o'r blogiau heb ymrwymiad i unrhyw blaid wleidyddol trwy'r cyfan o'r DU. Diolch i bawb am eu pleidleisiau a thwll dy din Mr Flynn!


    1 (1) Political Betting
    2 Paul Waugh
    3 (3) Nick Robinson
    4 (5) UK Polling Report
    5 (13) Miserable Old Fart
    6 (4) Slugger O'Toole
    7 Scottish Unionist
    8 (24) Craig Murray
    9 J Arthur MacNumpty
    10 FT Westminster Blog
    11 (22) Vaughan Roderick
    12 (7) Three Thousand Versts
    13 (2) Boulton & Co
    14 (12) Cambria Politico
    15 Lobbydog
    16 Lords of the Blog
    17 (10) Red Box
    18 Matthew Taylor
    19 (26) Valleys Mam
    20 (27) Hen Rech Flin

    22/08/2009

    Glyn Rowlands Corris

    Trist oedd darllen ar Faes e bod yr hen gyfaill Glyn y bom, Glyn Rowlands Corris wedi marw yn yr ysbyty yn Aberystwyth heddiw.

    Daeth Glyn i'r amlwg fel Penswyddog Sir Feirionnydd o Fyddin Rhyddid Cymru yn ystod y 60au ac fe fu yn amlwg hyd y diwedd yn y mudiad cenedlaethol. Roedd o hefyd yn asgwrn cefn i fywyd diwylliannol ardal Corris a thu hwnt.

    Fel mae Prysor yn dweud amdano yn ei deyrnged ar y Maes:

    Roedd Glyn yn un o stalwarts ymgyrchoedd cenedlaetholgar Cymreig milwriaethus y 1960au. Yn wladgarwr a Chymro glan gloyw i'r carn, yn weithiwr caled a gonest, yn dad i dwr o blant, ac yn gymeriad poblogaidd ac uchel ei barch ymysg y werin a'i gydweithwyr. Lejend ar lawr gwlad. Arwr i lawer iawn o bobl, yn cynnwys fi. Roedd ei naturioldeb ac annwylder, ei ysbryd a'i hiwmor a direidi, ei galon fawr a mwyn, ei ddawn siarad mewn ffordd a hoeliai eich sylw a chipio eich dychymyg, ei natur werinol, wladaidd a di-rwysg, a'i natur gynnes tu hwnt, i gyd yn bethau oedd yn eich cyffwrdd o fewn eiliadau o fod yn ei gwmni.

    Wrth feddwl am ddyn milwriaethus, ymroddgar a digyfaddawd yn ei farn wleidyddol hawdd yw dychmygu cymeriad oer anghynnes blin, ond nid yn achos Glyn. Yr oedd gan Glyn yr allu prin i ddal yn gadarn gyda gwen ar ei wyneb, cynhesrwydd yn ei galon ac anwyldeb yn ei ysbryd. Dwi'm yn credu imi weld Glyn heb wen ar ei wyneb na chyfarfod ag ef heb iddo rannu jôc neu stori ddigri.

    Mae gan Glyn deulu mawr a llu o gyfeillion yn ne Meirionydd a thrwy Gymru benbaladr a bydd colled ar ei ôl yn enfawr - heddwch i'w lwch.

    19/08/2009

    Y Goreuon o'r blogiau Cymraeg

    Mae Total Politics wedi cyhoeddi ei 60 uchaf o'r blogiau Cymreig, braf gweld bod nifer o flogiau sydd yn cael eu cyhoeddi yn gyfan gwbl neu yn rheolaidd yn y Gymraeg ar y rhestr gan gynnwys:

    3 Blog Menai
    7 Vaughan Roderick
    10 Plaid Wrecsam
    12 Pendroni
    14 Hen Rech Flin
    28 Gwilym Euros Roberts
    34 Plaid Bontnewydd
    36 Blog yr Hogyn o Rachub
    42 Blog Answyddogol
    54 Blog Dogfael
    59 Blog Rhys Llwyd

    Yr Hen Sgŵl Tei

    Yr wyf newydd ddychwelyd ffurflen i Blaid Cymru yn addo cynorthwyo Phil Edwards, ymgeisydd y Blaid yn Aberconwy, trwy ymddangos poster iddo, canfasio iddo ac ymgyrchu i sicrhau ei lwyddiant etholiadol.

    Nid ydwyf wedi ticio'r blwch i ymaelodi a Phlaid Cymru. Dyna rywbeth na wnaf, hyd gael sicrwydd na fydd y Blaid yn osgoi'r achos dros annibyniaeth eto, gydag ymatebion megis this election isn't about independence.

    I ddweud y gwir y rheswm paham fy mod am gefnogi Phil yw ei fod efe a myfi wedi mynychu'r un ysgol, sef Ysgol y Gader Dolgellau. Mae Phil yn llawer, llawer hyn na'r Hen Rech Flin (ac yr wyf fi bron yn gant a hanner)! Fe ymadawodd Phil a'r ysgol blwyddyn cyn imi gychwyn fy ngyrfa yno.

    Yn y Senedd newydd, ar ôl yr etholiad, bydd tua thrigain o gyn disgyblion Eaton, a rhywfaint tebyg o gyn ddysgyblion Harrow ar y Bryn ac un gyn disgybl Ysgol Llanrwst yno, yn ôl yr arfer!

    Mae Ysgol Llanrwst wedi cael o leiaf wyth o'i gyn disgyblion yn Aelodau Seneddol gan gynnwys yr aelod cyfredol a'r cyn aelod dros etholaeth Meirion! Yn wir mae Meirion yn cael ei gynrychioli gan hogiau Ysgol Llanrwst yn y Senedd a'r Cynulliad ar hyn o bryd.

    Ers ei sefydlu ym 1662, dydy Ysgol Dolgellau erioed wedi danfon aelod i Senedd Lloegr - gwarth o beth ac amser am newid. Yr wyf am gefnogi Phil gan ei fod yn gyn disgybl yn yr un hen ysgol a mi.

    Os yw'r Yr Hen Sgŵl Tei yn ddigon dda i Gameron a'i grachach, mae'n ddigon da i Phil a fi hefyd! lol

    18/08/2009

    Llais Aberconwy

    Gydag o leiaf pump o bleidiau yn gweld gobaith ennill neu wneud marc ar gyfer ymgyrchoedd y dyfodol yn yr etholaeth, mae Aberconwy yn cael ei drin fel isetholiad parhaus ar hyn o bryd. Yr wyf wedi cael mwy o ohebiaeth gan y pleidiau yn ystod y ddeufis diwethaf na chefais trwy gydol yr ugain mlynedd arall yr wyf wedi byw yn y cyffiniau.

    Y daflen ddiweddaraf i'w glanio ar y mat yw un gan Blaid Cymru. Teitl y daflen yw Llais Aberconwy. Dewis diddorol. Mae etholaeth Aberconwy yn ffinio ac yn rhannu papurau lleol efo ddwy etholaeth Gwynedd. Mae gan Wynedd, wrth gwrs, Llais gwahanol, sydd wedi niweidio'r Blaid! Fel y ditectif Sherlock Holmes, nid ydwyf yn credu mewn cyd digwyddiadau! Ymddengys bod Plaid Cymru Aberconwy am sicrhau nad yw clwyf Gwynedd yn effeithio ar ei obeithion yma trwy ddwyn mantell y gwehilion o dros y ffin.

    Camgymeriad yn fy marn i. Mae'n ymddangos yn dric tebyg i un Llafur cyn etholiadau cyntaf y Cynulliad o alw ei hun yn wir blaid Cymru. Drwg ymgais Llafur oedd ei fod yn hybu yn hytrach na ddilorni Plaid Cymru, a'r canlyniad oedd y canlyniadau gorau erioed i Blaid Cymru. Y neges sy'n cael ei gyfleu trwy daflen Phil Edwards yw bod angen Llais ar ardal. Ond, os oes angen Phil fel Llais Aberconwy, onid oes angen Gwilym a'i griw fel Llais Gynedd hefyd?

    Cam gwag, mae arnaf ofn, Phil.

    12/08/2009

    Mur Fy Mebyd

    Dyma ail ran fy ymateb i sylwadau Cai ac eraill parthed Cenedlaetholdeb a phlwyfoldeb:

    Mi gefais fy ngeni yn Ysbyty Mamolaeth y Bermo, ysbyty a chafodd ei greu gan gyngor tref y Bermo cyn dyddiau'r GIG. Gan nad oedd modd i bobl y Bermo cyfiawnhau ysbyty o'r fath i'w drigolion yn unig, roedd y cyngor yn cydweithredu a chynghorau plwyf eraill i gynnal y sefydliad. Fel cymwynas ffeirio sefydlodd Cyngor tref Dolgellau ysbyty cyffredinol bychan yn Nolgellau a oedd yn derbyn yr un cydweithrediad traws plwyfol: y Dolgelley and Barmouth General District Hospital. Roedd ysbyty Dolgellau yn un "go iawn" nid ysbyty bwthyn, roedd yn cynnwys theatr llawdriniaeth a chlinigau ar gyfer pob cyflwr.

    O dan drefn ganolog y GIG caewyd ysbyty'r Bermo ac is raddiwyd ysbyty Dolgellau i ddim ond lle i roi TLC i'r henoed. Yn wir cyn dyfod tro ar fyd a mynd yn ôl i'r drefn o enedigaethau cartref prin oedd y babanod a chafodd eu geni ym Meirionnydd; roedd mamau Meirion yn esgor yn Wrecsam, Bangor ac Aberystwyth.

    Cefais fy magu mewn tŷ cyngor yn Nolgellau. Tŷ cyngor a adeiladwyd gan Gyngor Trefol Dolgellau ac a reolwyd gan gyngor Dolgellau hyd adrefnu llywodraeth leol 1974.

    Cefais fy addysg gychwynnol mewn ysgol a sefydlwyd fel ysgol bwrdd. Roedd y bwrdd yn cael ei hethol gan drigolion y plwy ac yn codi trethiant plwyfol ar gyfer cynnal yr ysgol.

    Er mae am gyfnod prin ar y diawl (llai na chwe mis) y parhaodd ei hannibyniaeth rhag Cwnstablari Meirion, adeiladwyd swyddfa heddlu Dolgellau a chyflogwyd heddweision cyntaf y dref gan y gymuned leol. Trwy fodolaeth y Cader Idris Volunteers roedd hyd yn oed Y FYDDIN yn cael ei drefnu yn lleol!

    O sefydlu'r Cynghorau Sir ym 1888 (ymateb i alwad am ddatganoli), trwy adrefnu'r siroedd ym 1974 a'u hail adrefnu ym 1996 a thrwy greu'r Cynulliad ym 1999. Y mae grymoedd y cyngor plwyf wedi eu lleihau a'u lleihau fel nad ydynt, bellach, ond yn gyfrifol am lwybrau cyhoeddus a chachu ci!

    I ddweud y gwir roedd gan Cyngor Plwy Llanddinod fwy o nerth canrif a hanner yn ôl na sydd gan Y Cynulliad Genedlaethol heddiw!

    Mae yna achos dros droi'r cloc yn ôl a rhoi fwy o rym i'r cynghorau plwyf. Nid ydwyf am awgrymu rhoi popeth yn ôl - roedd nawdd cymdeithasol yn achos lleol trwy'r wyrcws ar un adeg wedi'r cwbl! Ond paham na all cadw ysgol leol dod yn ddyletswydd leol eto, yn hytrach na ddyletswydd Sirol neu ddyletswydd genedlaethol?

    Os ydy pobl Bontddu am gadw eu hysgol , iawn gad iddynt dalu, trwy dreth blwyfol, y swm uwchben y cyfartaledd i'w gadw ar agor. Os yw'r gost yn rhy uchel i ganiatáu i hynny digwydd gad i fwrdd yr ysgol penderfynu uno efo'r Bermo, y Ganllwyd, Llanelltud, Dolgellau neu Lesotho er mwyn cyfiawnhau cadw presenoldeb ysgol yn y Llan. Gad i bobl Bontddu, yn hytrach na swyddogion Caernarfon, penderfynu nad yw cadw ysgol y llan yn syniad cynaliadwy!

    I fynd yn ôl i'r syniad o Lais y Llannau,; a oes modd creu mudiad cenedlaethol boed Cymreig neu Brydeinig sy'n creu achos gwleidyddol ar sail y ddadl o roi grym yn ôl i'r bobl yn eu cymunedau?

    Oes! Mae'n debyg !

    Y cwestiwn mawr yw pwy sydd am redeg efo'r batwn? Mae'n syniad ceidwadol, mae'n syniad gall Llais Gwynedd a Llais y Bobl arwyddo lan iddi.

    I mi mae'n adlewyrchiad o wleidyddiaeth Milltir Sgwâr DJ neu Mur Fy Mebyd Waldo - agwedd mae'r Blaid wedi colli gafael arno trwy arddel sosialaeth ganolog ysywaeth!

    11/08/2009

    Plwyfoldeb a Chenedlgarwch

    Dyma'r rhan gyntaf o ymateb i rai o’r sylwadau ar fy mhost diwethaf a rhan gyntaf fy ymateb i ymateb i bost Cai ar fy sylwadau.

    Yn gyntaf rhaid nodi mae fy mwriad oedd ceisio gwneud sylwadau gwrthrychol diduedd ar obeithion Llais Gwynedd yn dilyn cyhoeddiad Llais ei fod am sefyll ymgeiswyr yn etholiad 2011. Doedd dim bwriad cefnogi na gwrthwynebu Llais na Phlaid Cymru yn y post.

    Pe bawn yn byw yng Ngwynedd adeg etholiadau'r cyngor sir llynedd, teg dweud, y byddwn, fwa' tebyg, wedi bwrw pleidlais i Lais Gwynedd, pe bai aelod o Lais yn sefyll yn fy ward. Ond fel mae'n digwydd yr wyf yn byw yng Nghonwy, mewn ward lle'r oedd dewis rhwng fy hen gyfaill Graham Rees (annibynnol) a dau nad oeddynt yn byw yn y plwy. Yr annibynnwr cafodd fy nghefnogaeth lwyraf.

    Yr wyf yn teimlo'n gynnes tuag at Llais Gwynedd am y rheswm syml bod rhai o'r bobl a fu'n ysbrydoliaeth i fy nghenedlaetholdeb i wedi troi oddi wrth y Blaid tuag at Llais. Seimon Glyn, Alwyn Gruffudd, Now Gwynnys, Gwilym Euros a Dafydd Du - er enghraifft. Mae unrhyw un sydd yn ceisio honni nad cenedlaetholwyr hyd fêr eu hesgyrn yw'r gwroniaid hyn yn siarad trwy dwll ei dîn!

    Iawn, rwy’n fodlon derbyn bod ambell i gefnogwr i, ac ambell i aelod o Lais Gwynedd yn amheus eu hymrwymiad i'r mudiad cenedlaethol - un neu ddau yn embaras i'r achos, hyd yn oed. Ond gallwn restru aelodau a chefnogwyr tebyg sydd ar ymylon pob plaid wleidyddol gan gynnwys Plaid Cymru!

    Pan ymunais i a Phlaid Cymry ym 1979 roedd yn Blaid a oedd yn credu yn gryf mewn amddiffyn y cymunedau Cymreig.

    Wrth ganfasio dros Dafydd El yn etholiad Ewrop tua 1989 roedd y Blaid yn canfasio yng Nghlwyd o dan sloganau megis "Home Rule for Rhyl" "Freedom for Fflint" ac ati. Hynny yw roedd cenedlaetholdeb a phlwyfoldeb yn mynd llaw yn llaw.

    Pan oedd y Blaid yn wneud yn dda ym Mhontypridd, Caerffili ac ati roedd yn gwneud yn dda ar sail amddiffyn y gymuned leol yn erbyn pwysau canolog.

    Problem datganoli i Blaid Cymru yw ei fod wedi gwneud i'r Blaid dechrau edrych ar Gymru fel y darn unedig o dir o dan ymreolaeth y Cynulliad, yn hytrach na chymdeithas o gymunedau sy'n cydweithredu o fewn y Cynulliad.

    Mae'r sylw nad oes modd i Lais Gwynedd a Llais Pobl Gwent cydweithredu oherwydd nad oes modd i Seimon Glyn a Paul Starling cydweithredu yn adlewyrchiad pur o broblem Plaid Cymru. Sut bod modd cysoni neges Leanne Wood (sydd a neges burion i'r gymdeithas y mae hi'n byw ynddi) a neges Phil Edwards yng Nghonwy wledig, lle fydda neges Leanne yn wermod pur?

    10/08/2009

    Llais Gwynedd; LLais y Bobl - Llais y Llanau?

    Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol fe gyhoeddodd Llais Gwynedd ei fod am sefyll ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad 2011. Rwy’n siŵr bydd rhai’r o’r syspects arferol yn cwyno am hyn,ond hanfod democratiaeth yw bod pobl o wahanol safbwyntiau yn cystadlu am y bleidlais. Rhaid i bob democrat croesawu penderfyniad Llais, gan hynny.

    O dderbyn hawl Llais i sefyll teg yw edrych ar ei obeithion etholiadol. I fod yn gwbl wrthrychol, er fy hoffter personol o nifer o’i haelodau a fy nghefnogaeth i nifer o’i hegwyddorion, rhaid dweud nad oes gan Llais (heddiw) gobaith caneri mewn pwll o nwy o guro.

    Mae gan Llais nifer o broblemau sydd yn gwthio yn erbyn ei obeithion.

    Yn gyntaf roedd y blaid yn fwyaf llwyddiannus yn etholaeth Dwyfor Meirion yn etholiadau’r Cyngor Sir, sef yr etholaeth efo’r mwyafrif mwyaf gan y fuddugol trwy Gymru gyfan. Dyma dalcen caled iawn. Prin byddai’r gobaith o ennill. Prin byddai’r gobaith o gael llwyddiant sbeitlyd, hyd yn oed, trwy dynnu pleidleisiau oddi wrth PC a chaniatáu i blaid arall ennill.

    Os cofiaf yn iawn cafodd Llais Gwynedd dwy sedd ddiwrthwynebiad ar Gyngor Gwynedd llynedd. Yn y wardiau a enillwyd gan Llais roedd y frwydr yn un dau ymgeisydd. Yn y wardiau efo trydydd ymgeisydd fe fethodd Llais a chipio sedd. Mae hyn yn awgrymu’n gryf nad yw pleidlais greiddiol cefnogwyr Llais yn ddigon cryf i gipio sedd ar gyngor, heb son ar Gynulliad. I lwyddo mae’n rhaid i Lais Gwynedd cael ei phleidlais gadarn a rhywfaint o bleidlais gwrthwynebwyr cynhenid y Blaid. Mewn etholiad Cynulliad bydd gan y gwrthwynebwyr eraill hyn eu pleidiau eu hunain i’w cefnogi.

    Ar y rhestr mae gan Llais broblem hefyd. Mae Gwynedd wedi ei rannu rhwng dwy etholaeth. Mae Arfon yn y Gogledd a Meirion yn y Canolbarth. Bydd pleidlais rhestr Llais yn cael ei rhannu rhwng y ddwy etholaeth, a bydd gan 7 allan o bob wyth o’r etholaethau rhestr dim diddordeb yn helyntion Gwynedd. Anobeithiol i Lais cipio hyd yn oed y bedwerydd safle ar y rhestrau felly?

    Hwyrach!

    Er, ar yr olwg gyntaf, nad oes gan Llais Gwynedd a Llais y Bobl yng Ngwent fawr sy’n amlwg yn gyffredin, mae’r ddwy blaid wedi tyfu yn organig allan o deimlad o blwyfoldeb (yn ystyr gorau’r gair). Y teimlad bod eu darn bach hwy o’r byd yn cael ei afradu ar gyfer y drefn ehangach. Yn sicr mae teimladau cyffelyb yn bodoli cyn gryfed mewn rhannau eraill o Gymru.

    Pe bai modd i Lais Gwynedd a Llais y Bobl cydweithio i dapio fewn i’r ymdeimlad o ddieithrwch sy’n bodoli Cymru benbaladr yna byddid, mi gredaf, obaith i Llais y Llannau gwneud marc ar etholiad 2011 - yn arbennig felly ar y rhestrau!

    02/08/2009

    Ewch dros yr hen, hen hanes!

    Yr wyf yn byw yn Llansanffraid Glan Conwy, pentref yr ochor arall i’r dŵr i’r dref gaerog.

    Roeddwn yn sefyll tu allan i’r dafarn leol yn cael mwgyn gyda chyfaill cenedlaetholgar y dydd o’r blaen, ac fe ddywedodd fy nhgyfaill ei fod am roi’r gorau i ysmygu gan fod cael mygyn efo peint, bellach, yn codi cyfog arno. Doedd o ddim yn poeni yn ormodol am effaith corfforol yr ysmygu, ond roedd y ffaith ei fod yn gorfod edrych ar y symbol o ormes ar draws yr afon bob tro yr oedd yn mynd allan am ffag yn effeithio ar gyflwr ei enaid Cymreig!

    Yn bersonol, nid ydwyf yn gweld Castell Conwy fel symbol o ormes. Rwy’n ei weld o fel symbol o fethiant. Pan adeiladodd Iorwerth ei gadwyn o gestyll o amgylch y Gogledd dyna oedd wariant milwrol fwya'r byd yn ei ddydd. Gwerth biliynau lawer o wariant, yn nhermau ariannol cyfoes, i geisio rheoli ni hogs y gogs!

    Prawf bod Iorwerth druan yn gwisgo trywsus brown wrth feddwl am y Cymry!!! Ond baner pwy sydd yn chwifio uwchben ei gestyll mwyach? Cynulliad pwy sydd yn gyfrifol am reoli’r castell!?

    Symbol o ormes?

    Twt lol botas - mae’n symbol o fethiant y Sais a dyfalbarhad y Cymry Ry’n ni yma o hyd!

    Nepell o Gastell Rhuddlan (un arall o gestyll y gadwyn) mae yna blac, sy’n honni bod Cestyll Iorwerth yn symbol o ryddid a hawliau'r Cymry. Oherwydd 1282 yr ydym wedi derbyn bendithion Magna Carta, Mam y Seneddau, Democratiaeth a hawliau dynol a phob dim arall sydd yn rhoi'r mawredd ym Mhrydain Fawr:



    I’r mwyafrif dydy Castell Conwy dim yn symbol o ddim. Mae’n safle o ddiddordeb, mae’n teth buwch i’w godro ar gyfer twristiaeth; dim mwy dim llai.

    Pa un ohonom sy’ gywir?

    Yr un sy’n gweld symbol gorthrwm, neu’r un sy’n gweld goroesiad; yr un sy’n gweld rhyddid neu’r un sy’n gweld arian?

    Y gwir yw bod pob un ohonom yn gywir. Yr hyn sydd yn ein gwahanu yw ein naratif parthed y ffeithiau yn hytrach na’r ffeithiau academaidd hanesyddol.

    Mae’r drafodaeth ar reilffyrdd wedi fy synnu braidd, nid oherwydd y dadlau am y cledrau yn benodol, ond am yr ymosodiad ar fy naratif hanesyddol. Rwyf yn beryglus yn ôl Rhydian, y rwyf yn ymdebygu i Mr Mugabe yn ôl Cai!

    A phaham?

    Oherwydd fy mod yn dewis dilyn naratif Syr O. M Edwards, Gwynfor Evans a Dafydd Iwan am hanes Cymru, yn hytrach na derbyn naratif Sosialaidd am ddioddefaint y werin datws o dan bob cyfundrefn!

    I ba beth mae’r Blaid yn dod - wir yr?

    31/07/2009

    Eisteddfod y Bala (eto)!

    Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi ei chynnal yn hen sir Feirionydd tair gwaith yn ystod yr hanner canrif diwethaf:

    Ym 1967 yn y Bala
    Ym 1997 yn y Bala
    Ac eleni eto yn y Bala

    Dydy’r eisteddfod heb ymweld â Thywyn, y Bermo na Harlech trwy gydol ei hanes modern. Fe fu Eisteddfod yn Nolgellau 60 mlynedd yn ôl, un yng Nghorwen 90 mlynedd yn ôl ac un yn y Blaenau 101 o flynyddoedd yn ôl.

    Pan ddaw tro Meirion i wahodd yr eisteddfod eto plîs, plîs Mr Trefnydd Eisteddfodau, a oes modd ei gynnal mewn rhywle ar wahân i’r blydi Bala?

    Be am Steddfod y Bermo 2019?

    26/07/2009

    Trenau od

    Gan fod gymaint o son am drenau ar hyn o bryd hoffwn ofyn a oes gan unrhyw un ateb i rywbeth sydd yn peri dryswch imi parthed y ddarpariaeth sydd yn bodoli rŵan.

    Byddwyf yn mynd ar y trên o Gyffordd Llandudno i Gasnewydd ddwywaith neu dair pob blwyddyn. Ym mhob car ar y trên mae yna focs bach sydd yn hysbysebu’r teithwyr o enw’r stop nesaf. Ar hyd arfordir y gogledd mae’r enwau yma yn uniaith Saesneg, Llandudno Junction, Colwyn Bay, Wrexham, Chirk ac ati. Ond wrth i’r trên teithio drwy Loegr mae’r enwau yn ddwyieithog, Chester / Caer, Shrewsbury / Amwythig, Hereford / Henffordd.

    Yng ngorsaf y Gyffordd, gorsaf sydd yn cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o Gymry Cymraeg mae’r cyhoeddiadau i gyd yn uniaith Saesneg. Yng Nghasnewydd Seisnigaidd mae’r cyhoeddiadau i gyd yn ddwyieithog.

    Gall unrhyw un egluro pam bod y ddarpariaeth Gymraeg nid jest yn anghyson ond mor hynod od o anghyson.

    24/07/2009

    Trydanol!

    Ar y cyfan mae’r newyddion bod rheilffordd Abertawe i Lundain am gael ei drydaneiddio wedi derbyn croeso gwresog.

    Yn ôl adroddiadau newyddion y BBC mae’r fenter yn fuddsoddiad o biliwn o bunnoedd yng ngwasanaethau rheilffordd Cymru. Twt lol botas. Bydd y rhan helaethaf o’r buddsoddiad yn cael ei wario yn Lloegr. Dim ond tua chwarter o’r daith drydanol newydd bydd yng Nghymru ei hun. Ac fel mae Cadeirydd Plaid Cymru yn nodi bydd y fenter ddim yn drydaneiddio y cyfan o reilffordd y deheubarth yng Nghymru - i wneud hynny byddai’n rhaid ei ehangu i Gaerfyrddin.

    Pe bai'r trydaneiddio yn cael ei ymestyn yr holl ffordd ar draws y de, yna byddai modd dadlau bod y gwasanaeth yn cynnig rhywfaint o wasanaeth i Gymru. Mae’r gwasanaeth a gyhoeddwyd heddiw yn cynnig dim i Gymru, mae’n wasanaeth sydd o fudd i Lundain a Lloegr yn benaf.

    Mae’r Cynghorydd Gwilym Euros yn tynnu sylw at sylwadau George Monbiot a wnaed yn y Guardian ar Dachwedd 30 llynedd:

    The infrastructure of a country is a guide to the purpose of its development. If the main roads and railways form a network, linking the regions and the settlements within the regions, they are likely to have been developed to enhance internal commerce and mobility. If they resemble a series of drainage basins, flowing towards the ports and borders, they are likely to have been built to empty the nation of its wealth


    Mae’r cyhoeddiad heddiw yn enghraifft o honiad Monbiot o ddreinio gwerth a thalent o Gymru. Yn enghraifft o wneud Caerdydd ac Abertawe yn fwy fwy dibynnol ar Lundain yn hytrach na’u gwneud yn rhannau hanfodol o’r Gymru ehangach.

    Mae blogwyr y Blaid, bron yn unsain, yn clodfori'r cyhoeddiad fel llwyddiant i’r Blaid ac yn llwyddiant i friff Ieuan Wyn fel gweinidog trafnidiaeth y Cynulliad. Er enghraifft mae Adam Price yn dweud:
    The announcement itself is the culmination of more than thirty years of work on Plaid’s part (it became party policy in 1977), dating back to a time even before I joined the party.

    Mae Welsh Ramblings yn gofyn:
    Question for the One Wales sceptics - would this have happened if Ieuan Wyn Jones was not Transport Minister?

    Hwyrach ei fod yn llwyddiant i Blaid Cymru ac i Ieuan. Ond a ydy‘n llwyddiant i’r achos cenedlaethol?

    Oni fyddai buddsoddiad llai i ddatblygu rheilffyrdd mewnol Cymru yn gwneud llawer mwy i achos Cenedlaetholdeb Cymru na gwastraffu biliwn ar glymu Cymru i Brifddinas Britania?

    17/07/2009

    Fel Gath i Gythraul

    Mae'r ras am etholaeth Aberconwy yn codi stem ac mae'r ymgeisydd Ceidwadol yn mynd amdani fwl sbîd!

    ABERCONWY parliamentary candidate Guto Bebb was slapped with four points on his driving licence and a £425 fine and court costs after he was caught speeding in his Skoda Superb.

    Chware teg i Guto, o leiaf mae o'n fodlon syrthio ar ei fai ar ôl iddo gael ei ddal yn torri'r rheolau, yn wahanol i ambell i wleidydd amlwg arall.

    Pleidleisia i FI (a naw sy’ ddim cystal)

    Nid ydwyf yn hoffi gwobrau i bobl sy’n mynegi barn, boed gwobr Pulitzer neu wobrwyon 10 uchaf Iain Dale.

    Y drwg yw bod anelu am y fath wobrau yn gallu ffrwyno barn.

    Y mae’n ffaith hysbys bod y mwyafrif llethol o’r pyst ar flogiau gwleidyddol Gymreig yn cefnogi Plaid Cymru. Yr wyf i wedi danfon ambell i bost sy’n feirniadol o’r Blaid. Dyna fi wedi piso yn y nyth, parthed ennill pleidleisiau fel y blog Cymreig gorau yn y byd.

    Pe bawn wedi brathu fy nhafod ....

    Pe bawn wedi cymedroli fy meirniadaeth jyst ychydig bach ....

    Pe bawn wedi ceisio deall ochr arall y ddadl yn hytrach na’i feirniadu’n hallt ....

    .... A fyddai obaith mae fy mlog i fyddai’r ceffyl blaen i ennill gwobr prif blogiwr Cymru, Prydain, y Byd a thu hwnt?

    Os mae’r ateb yw ie, yna mae’r gwobrau yn ffurf ar sensoriaeth!

    Dyna paham nad ydwyf yn gôr hoff ohonynt.

    Ta waeth, rhaid byw mewn byd lle mae’r fath gwobrau’n bod ac mi fyddai’n braf gweld un neu ddau o flogiau Cymraeg / Dwyieithog yn y 100 uchaf yn chwifio’r faner dros yr henwlad a’r heniaith.

    Mae’r manylion ar sut i bleidleisio yma

    16/07/2009

    Ceidwadwyr cenedlgar yn magu dannedd?

    Dyma bost geirwir ar flog newydd Ceidwadwyr Aberconwy, sy’n nodi mae celwydd yw pob honiad y bydd refferendwm o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi pwerau tebyg i bwerau'r Alban i Gymru. Mae’r post yn cyfleu’r gwirionedd mewn modd sydd yn awgrymu nad oes rhaid i Geidwadwyr sy’n amheus o ddatganoli credu’r ofnau sy’n cael eu lledaenu gan y rhai sydd yn gwrthwynebu datganoli pellach.


    Ar CF99 henno fe awgrymodd yr Athro Dylan Jones-Evans mae ffordd dda i lywodraeth newydd Cameron i ddelio efo achos datganoli a’r system eLCO trwsgwl bydda trwy ddatgan ar ddiwrnod cyntaf ei brif-weinidogaeth ei fod am ddileu'r cymal refferendwm a rhoi hawliau ddeddfu cyfynedig i Gymru.

    Dau sylw calonogol tu hwnt sydd yn awgrymu bod y Ceidwadwyr cenedlgar yn dechrau brathu nôl yn erbyn eu cyfeillion sy’n gwrthwynebu datganoli.

    Braf bydda gael gwybod ar ba ochr bydd y blaid yn syrthio yn “swyddogol”! Ai’r ddau Ddafydd a Stephen fydd llais Ceidwadaeth yng Nghymru a Guto, Dylan a Glyn yn cynrychioli’r rebeliaid, neu a’i fel arall y bydd hi?

    15/07/2009

    Blog y Gath

    Newydd ddeall bod y Gath Du, neu Guto Bebb ymgeisydd Ceidwadol Aberconwy, bellach yn rhan o fyd y blogiau.

    Gellir darllen ei berlau o ddoethineb yma.

    09/07/2009

    Parcio heb hawl?

    Mae'r holl son am barcio mewn llefydd dynodedig i'r anabl yn fy atgoffa am stori ddoniol (os ddoniol) a glywais yn cael ei hadrodd gan y Fonesig Tanni Gray-Thompson.

    Roedd Tanni wedi mynd i archfarchnad pan oedd ei phlentyn gyntaf yn fân ac wedi sylwi mae prin oedd y llefydd a oedd ar gael yn y parth i yrwyr anabl. Gan ystyried ei bod hi yn gallu lliwio ei chadair olwyn yn gynt na all cerddwr byr o wynt cerdded, penderfynodd hi i adael lle gwag ar gyfer un oedd a mwy o angen na hi. Aeth hi i barcio i'r lle i rieni a phlant.

    Er bod nifer o lefydd gwag yn y parth rhieni a phlant daeth dynes ffyrnig ati i fytheirio ei bod hi'n parcio yno heb hawl. Fe wnaeth y Fonesig egluro ei bod yn parcio yno efo cyfrifoldeb am ei phlentyn bach. Ymateb yr achwyn-wraig oedd:

    It doesn't matter that you've got your child with you - you're not a mother - you're disabled - so you can't park here!

    08/07/2009

    Y Fathodyn Glas

    Mae fy ngwraig yn defnyddio cadair olwyn, mae ganddi fathodyn glas sydd yn caniatáu iddi i barcio mewn parthau parcio dynodedig ar gyfer pobl sydd yn byw efo anabledd.

    Yn ddyddiol, bron, yr wyf yn gorfod wynebu'r broblem o fethu a'i chynorthwyo i mewn i'r gadair olwyn oherwydd bod y parthau parcio sydd â lle i agor drws y car yn ddigon llydan wedi eu dwyn gan bobl iach o gorff.

    Ar sawl achlysur yr wyf wedi methu cael lle parcio anabl mewn archfarchnadoedd a swyddfeydd, ac wedi gorfod gadael fy ngwraig yn y car, yn hytrach na'i bod hi yn dod efo fi i gyflawni'r dyletswyddau yr oeddem wedi eu bwriadu eu cyflawni ar y cyd.

    Yr wyf wedi cael llond bol o gwyno i fan swyddogion sydd yn cydymdeimlo, ond yn dweud nad oes modd iddynt wneud dim parthed y broblem.

    Ychydig flynyddoedd yn ôl fe welodd fy mrawd yng nghyfraith car heddlu yn defnyddio lle parcio i'r anabl yn y Bala. Tynnodd llun o'r car a'i ddanfon i'r Daily Post i gwyno. Cafodd cefnogaeth i'w gwyn gan gynghorwyr ac Aelodau Seneddol o bob plaid, gan gynnwys Plaid Cymru.

    Nid mater pleidiol yw parcio mewn parth anabl heb hawl. Mae'n achos o hunanoldeb ac ymddygiad anystyriol sy'n ddangos diffyg parch i anghenion y sawl sy'n byw efo anabledd. Mae pob cyhoeddusrwydd sydd yn codi proffil y broblem yn gyhoeddusrwydd da. Gan hynny yr wyf yn ddiolchgar i'r Cynghorydd Gwilym Euros am godi'r achos.

    Os ydy o'n wir fod Dafydd Iwan wedi parcio, heb achos, mewn parth anabl roedd ei ymddygiad yn anghywir. Dydy'r ffaith ei fod yn eicon cenedlaethol, dydy'r ffaith ei fod yn arwr gwladgarol, dydy'r ffaith ei fod yn Llywydd Plaid Cymru yn newid dim ar y ffaith bod parcio yn y parth yn annerbyniol. Os ydy'r honiad yn gywir y peth gorau i Dafydd ei wneud ydy syrthio ar ei fai, ymddiheuro ac addo i beidio â gwneud yr un peth eto.

    Y peth gwaethaf i gefnogwyr Plaid Cymru fel Cai a Rhydian eu gwneud yw ceisio esgusodi'r fath ymddygiad di-hid i anghenion pobl sy'n byw efo anabledd.

    Rhai o'r sylwadau mwyaf ffiaidd yr wyf wedi eu darllen ar flog Gwilym yw rhai gan bobl anhysbys sydd yn honni bod pethau pwysicach i'w trafod. Pan nad oes modd i ddynes gwneud rhywbeth mor hanfodol a siopa i brynu bwyd i'w plantos, oherwydd bod y parthau anabl wedi eu llenwi gan bobl diystyrlon - does 'na ddim byd pwysicach yn y byd i gyd iddi.