Wedi gwylio'r newyddion heno aeth dau adroddiad dan fy nghroen, y ddau wedi eu crybwyll gan ymgyrchwyr
gwyrdd.
Y gyntaf oedd y ffaith bod bylbiau hen ffasiwn 100 wat am gael eu anghyfreithlioni ar ôl i'r stoc gyfredol dod i ben.
Hwre! Meddai'r gwyrddion, heb ystyried oblygiadau ymarferol eu buddugoliaeth.
Yr wyf yn drwm fy nghlyw. Yr wyf yn dibynnu ar system lŵp i wrando ar y teledu, y ffôn, y radio, y cyfrifiadur a nifer o bethau eraill. Mae'r bylbiau cyrliog yn tarddu ar y lŵp. Os oes bwlb cyrliog ar gyn mewn unrhyw ystafell yn fy nhŷ, does dim modd imi ddefnyddio fy systemau lŵp. Mae cyfeillion byr eu golwg yn cwyno bod y golau
melyn sydd yn dod o'r bylbiau cyrliog yn amharu ar eu gallu i weld, o gymharu â'r golau
gwyn sy'n dod o'r hen fylbiau traddodiadol.
Ni ddylid wedi dod a rheolau gwahardd yr hen fylbiau i rym, cyn darganfod ffyrdd o sicrhau bod eu hanfanteision i bobl sydd yn byw gydag anabledd wedi eu goresgyn. Ond i'r eithafwyr sydd yn gyrru'r fath gyfundrefn dydy hawliau ddim yn bwysig - naw wfft i'r anabl - y gwyrdd sydd yn bwysig!
Yr ail stori oedd yr hanes bod petrol wedi codi 2 geiniog y litr / 12 c y galwyn heddiw. Eto roedd y
Gwyrddion bondigrybwyll yn croesawu'r fath beth fel modd o annog pobl allan o'u ceir ac i mewn i drafnidiaeth gyhoeddus, cyn ystyried oblygiadau'r polis!.
Mae annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wych lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael!
'Does gen i ddim trwydded gyrru. Tacsi'r wraig yw fy mhrif fodd o drafnidiaeth.
Yr oeddwn am fynd i Gorris heddiw i angladd hen gyfaill, ar yr un pryd roedd gan yr hogiau apwyntiad deintyddol yn y Rhyl. I'r Rhyl aeth tacsi Mam, wrth gwrs, gan fy ngadael i ddefnyddio'r enwog
trafnidiaeth gyhoeddus mae'r Gwyrddion am imi ei ddefnyddio.
Mae Capel Salem Corris yn 58.84 milltir o ddrws fy nghartref, yn ôl y peiriant. Llai nag awr ar 60 MyA. Llai na ddwy awr ar ddim ond 30 MyA.
Pump awr ar y bys!
Ac o deithio'r pum awr yno - dim modd i ddod adref wedi'r cofio!
Mae'n debyg bod y coloneiddwyr
gwyrdd yn teimlo'n hapus iawn eu bod wedi fy rhwystro rhag creu
ôl droed carbon er mwyn ffarwelio a chyfaill mynwesol.
A choloneiddwyr ydynt. Nid
Gwyrdd Seisnig mo amgylchedd Cymru ond
Glas. Am gadw GLESNI mae'r Cymro da, coloneiddio trwy'r
propaganda gwyrdd mae'r
hipis a'u
Tipi Valley a'u
Lammas Eco Village Seisnig.