fe ddywedodd Iain Dale ei fod wedi mynd i edrych ar flogiau ei gyd-banelwyr i gyd cyn dydd gwener, ac ei fod yn siomedig nad oedd wedi gallu deall fy negeseuon i. Felly, yn arbennig ar gyfer Iain, dyma neges ddwyieithog."
Yn gyntaf, Dyfrig, be di'r ots os ydy Iain Dale yn ddeall dy gyfraniadau neu ddim? Hyd yn oed pe bai ti wedi ysgrifennu dy holl byst yn Saesneg rwy'n amau na fyddai Mr Dale a'i debyg yn rhan o dy gynulleidfa targed ta waeth.
Pan ddechreues i flogio mi drïais ysgrifennu pyst dwyieithog mewn un lle, ond roedd o'n edrych yn flêr ac yn drwsgl. A dim ond pobl Cymraeg eu hiaith oedd yn eu darllen - roedd y di Gymraeg ddim yn hoffi sgrolio i lawr at y post Saesneg!
Rwy'n cael anhawster efo blogiau dwyieithog fel un Gwilym Euros. Rwy'n ansicr os dylid ymateb yn y Gymraeg, yn y Saesneg neu yn ddwyieithog. Mae'n anodd cael unrhyw fath o drafodaeth ystwyth ar bost dwyieithog.
Mi ymgeisiais am gyfnod i gadw dwy flog lle'r oedd yr un post ar y ddwy flog yn gyfieithiadau o'i gilydd. Ond fuan y rhois i'r gorau i'r arferiad yna hefyd. Rwy’n brin o sgiliau'r cyfieithydd proffesiynol ac yr oeddwn yn teimlo bod fy nghyfieithiadau o'r naill iaith neu'r llall yn brennaidd. Bellach rwy'n cadw dwy flog lled annibynnol o'i gilydd. Er fy mod yn dal i ysgrifennu ar yr un pwnc ar y ddwy yn achlysurol bydd y pyst yn gyfansoddiadau unigol. Y drwg efo'r arferiad yma (yn fy achos i, o leiaf) yw fy mod bellach wedi ysgrifennu llawer mwy o byst yn y Saesneg nag ydwyf yn y Gymraeg. Yn bennaf gan mae'r Saesneg yw fy iaith gyntaf a fy mod yn ei chael hi'n haws i ysgrifennu yn yr iaith honno. Ond mae'n rhannol oherwydd y temtasiwn, yn arbennig pan fo amser yn brin, i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa fwyaf yn unig. (Ac mae fy nghynulleidfa Saesneg bron i 2000% yn uwch na'r un Gymraeg. Mae deud hynny yn gwneud imi deimlo fel aelod o'r CBI yn gwneud esgusodion!)
Ar ddiwedd y dydd rhaid derbyn mae rhywbeth unigol, egotistaidd, hyd yn oed yw blogio. A'r polisi gorau yw gwneud yr hyn yr wyt ti yn bersonol hapus yn ei wneud ar dy flog dy hun a naw wfft i bawb arall!