Cyn imi gael fy ngorfodi i roi'r gorau i yrru oherwydd fy iechyd mi fûm yn gweithio i Brifysgol Bangor fel ymgynghorydd addysg a hyfforddiant. Fy ngwaith oedd mynd i gartrefi gofal a chartrefi nyrsio ar hyd a lled gogledd a chanolbarth Cymru i gynghori ar gyfleoedd i hyfforddi yn y gweithle trwy wneud cyrsiau NVQ ac ati.
Wrth wneud y gwaith ymwelais ag un neu ddau o gartrefi uffernol, rhai roedd rhaid imi gwyno amdanynt i'r awdurdodau. Roedd y mwyafrif mawr yn llefydd digon derbyniol yn cynnal safon dda a chlodwiw. Ond roedd ambell un yn sefyll allan fel llefydd arbennig iawn. Cartrefi lle'r oedd gofal y staff o'r radd uchaf, lle'r oedd y trigolion yn hapus. Cartrefi oedd yn rhan o'r gymuned yn hytrach na lle i guddio'r henoed allan o'r golwg. Cartrefi, pe bai'r angen yn codi, y byddwn yn ddiolchgar o gael treulio fy mlynyddoedd olaf ynddynt.
Un o'r rhain oedd Cartref Bryn Llywelyn Llan Ffestiniog.
Trist oedd clywed bod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau'r cartref. Rwy'n ddeall bod rhaid i gynghorwyr gwneud penderfyniadau anodd ac ystyried oblygiadau ariannol a phob esgus arall caiff ei wneud dros gau Bryn Llywelyn. Ond, bobl annwyl, does neb yn taflu perl i'r lludw. Mae Bryn Llywelyn yn enghraifft o Ymarfer Gorau yn y maes. Lle i Wynedd ymfalchïo ynddo a defnyddio fel enghraifft i eraill. Cywilydd ar bob cynghorydd a bleidleisiodd o blaid y cau.
Pan ddaw henaint ac annhuedd i ran rai o gynghorwyr iau Plaid Cymru, a bleidleisiodd o blaid cau Bryn Llywelyn er mwyn undod eu plaid wleidyddol hwyrach byddant yn gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng gofal o'r radd flaenaf a gofal OK, a dod i ddifaru eu hagwedd cul ac unllygeidiog.