16/01/2009

Cathod Bach y Môr

Dydy'r syniad o lysieuaeth erioed wedi apelio i mi, rwy'n rhy hoff of fy nghig oen Cymreig. I ddweud y gwir rwy'n gweld y ddadl dros lysieuaeth yn un wan braidd, dydy ymwrthod a chig ddim yn atal dioddefaint i anifeiliaid. Mae bwyta llysieuyn yn amddifadu anifail arall rhag ei fwyta ac yn arwain iddo lwgu a marw. Os ydwyf fi yn bwyta'r letys o'r ardd mae'r wlithen yn llwgu, os ydy'r wlithen yn cael y letys gyntaf - yna mi fyddwyf i yn llwgu (oni bai fy mod yn cael brechdan ham i de yn hytrach na brechdan letys). Ond dyna fo, pawb at y peth a bo, os ydy dyn ddim am fwyta cig dyna yw ei ddewis ac rwy'n parchu ei ryddid i wneud y dewis yna. Ond mae'n biti nad ydy llysieuwyr yn rhoi'r un rhyddid i'r rhai ohonom sydd ddim yn dewis dilyn eu ffordd hwy o fyw.

Un o'r ymgyrchoedd mwyaf hurt imi glywed amdano yn fy nydd yw ymgyrch diweddaraf gan y mudiad milwriaethus llysieuol PETA. Maen nhw, wrth gwrs, yn credu bod pysgota yn greulon. Ond yn ôl adroddiad ar flog y Parch Allan Bevere maen nhw'n credu bod pobl yn fodlon bwyta pysgod ac yn fodlon pysgota am hwyl oherwydd bod yr enw pysgodyn yn un negyddol. Wrth feddwl am bysgodyn byddwn yn meddwl am beth drewllyd, llithrig, anodd ei garu. I newid y drefn yma y maent am ymgyrchu i ddiddymu defnydd o'r gair pysgodyn a'i gyfnewid am yr enw cath fach y môr. Mae cathod bach yn bethau annwyl, anwesol a di niwed. Bydda neb am roi bachyn trwy ben cath fach nac am ei fwyta.

Fel rhan o'r ymgyrch mae'r grŵp hefyd am newid enwau lleoedd sydd yn cynnwys yr elfen Pysgod megis Dinbych y Pysgod (Fishguard) i Ddinbych Cath fach y Môr (Sea Kitten Guard)!!!

Mae'r holl son am bysgod wedi codi chwant bwyd arnaf - felly draw a fi i'r siop jîps lleol i gael cath fach, sglodion a phys slwtsh. Iym!

English

1 comment:

  1. Fel rhan o'r ymgyrch mae'r grŵp hefyd am newid enwau lleoedd sydd yn cynnwys yr elfen Pysgod megis Dinbych y Pysgod (Fishguard) i Ddinbych Cath fach y Môr (Sea Kitten Guard)!!!

    Ma hwnna'n gweitho'n well ar dy flog Saesneg :)

    Dinbych y pysgod yw Tenby
    Abergwaun yw Fishguard

    ReplyDelete