Dydy Vaughan Roderick ddim mewn gwirionedd yn deall pam ond yn ddiweddar mae ambell i flogiwr a newyddiadurwr wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol y glymblaid .
Rwy' ddeall pam!
Am y reswm syml bod y cenedlaetholwyr wedi colli pob achos cenedlaethol sydd wedi codi ei phen, hyd yn hyn, yn y glymblaid!
Mae Vaughan yn ein hatgoffa bod y glymblaid coch-wyrdd wedi dod i fwcl oherwydd fe wnaeth Ieuan Wyn Jones gyfiawnhau ei benderfyniad i fod yn ddirprwy yn hytrach na'n brif weinidog trwy honni mai dim ond trefniant â Llafur fyddai'n sicrhâi refferendwm cyn 2011.
Mae Vaughan, fel pawb arall, yn gwybod mae esgus dros glymblaid, nid reswm oedd dweud mai dim ond Llafur oedd yn gallu dod a refferendwm i'r fei. Y brif reswm pam nad ddaeth y Glymblaid Enfys i fod oedd o herwydd bod criw bach o sosialwyr eithafol yng ngrŵp y Blaid yn methu goddef y syniad o fod mewn clymblaid gyda'r Torïaid.
Os nad ydy Vaughan a selogion Plaid Cymru wedi sylwi ar y ffaith yna, does dim ddwywaith bod yr unoliaethwyr yn y Blaid Lafur wedi sylwi arni, ac yn ei ddefnyddio i grogi'r Blaid.
Y gwir blaen yw bod y glymblaid wedi methu ar bob ymgais i blesio cenedlaetholwyr Plaid Cymru. Does dim papur dyddiol, dim cefnogaeth i ddiwydiannau yn etholaethau Plaid Cymru. Dim Coleg Ffederal, dim Deddf Iaith. Mae'r system ELCO wedi ei wyrdroi i dynnu grym oddiwrth y Cynulliad ac i gryfhau llaw'r Ysgrifennydd Gwladol. Ac mae'n eithriadol amheus os ddaw'r Refferendwm bondigrybwyll cyn 2012. A hyn oll oherwydd bod pedair aelod o grŵp y Blaid wedi rhoi eu buddiannau Sosialaidd o flaen buddiannau Cymru.
Mae Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn y ffordd waethaf posibl. Bydd pob llwyddiant yn llwyddiant i Lafur, a phob methiant yn fethiant i'r glymblaid. Syniad hurt o'r cychwyn cyntaf, a methiant i'r Blaid hyd yn hyn.
Yr unig lygedyn o obaith sydd gan Blaid Cymru yw canlyniad gwael yn etholiadau Ewrop mis Mehefin. Bydd canlyniad gwael, siawns, yn rhoi ddigon o asgwrn cefn i'r asgell dde yn y Blaid i ddweud digon yw digon i'r haridaniaid, a thynnu nôl o'r cysylltiad gyda'r Blaid Lafur marwol. Boed hynny trwy arwain clymblaid Enfys neu trwy fod yn wrthblaid lwyddiannus.
Dydy Coleg Ffederal ddim yn 'achos cenedlaethol'. Mater dadleuol o bolisi ydyw. Mae na nifer o genedlaetholwyr sy'n credu ei fod yn syniad gwirion all fod yn andwyol i'r iaith ac i addysg, ac yn gresynu ei fod yn nogfen Cymru'n Un yn y lle cynta.
ReplyDeleteAlwyn, nid oes yna Goleg Ffederal na Deddf Iaith eto. Wyt ti mor wleidyddol naif a chredu fod achosion yn cael eu hennill heb orfod gweithio?
ReplyDeleteAm ba reswm wyt ti yn poeni am fethiant honedig y Blaid - ers pryd wyt ti yn aelod? Mae aelodau yn sylwi fod ein grwp ni yn y Llywodraeth yn gweithio ar nifer o bethau o ddiddordeb i genedlaetholwyr selog. Ydi, mae'r papur newydd wedi ei israddio, ond mae yna le i ddewis ein brwydray yn ofalus - ni ellir ymladd pob achos, neu anialwch gwleidyddol fyddai'r diben.
Er ei bod hi'n deg ac yn gywir dweud bod y glymblaid wedi methu â chyflawni dim byd o ran cenedlaetholdeb a bod Llafur yn mygu yr agwedd honno ar y glymblaid - y papur dyddiol, y coleg ffederal, y refferendwm annhebygol - dwi'n ei ffendio hi'n chwerthinllyd dy fod yn awgrymu dy fod o'r farn na fyddai'r Ceidwadwyr yn gwneud union yr un peth.
ReplyDeleteYr unig obaith ydi sefyll ar wahân: dylai'r SNP fod yn ysbrydoliaeth i'r Blaid yn hynny o beth.
Mi gawn i bapur dyddiol pan fydd y Toriaid mewn grym.....gewch chi weld.
ReplyDeleteWel Anhysbys 5.43, os wyt ti yn coelio mai'r Toriaid fydd achubiaeth yr iaith Gymraeg, dwi'n teimlo trueni mawr dros dy gof byr...
ReplyDeleteRhydian Fôn,
ReplyDeleteChi'n mynd ati i nodi mai anhebygol iawn fod y Toriaid wedi newid eu hagwedd. Pam felly ydych chi'n meddwl fod y blaid Lafur wedi newid o fod yn blaid gwrth-Gymraeg?
Diolch am y sylwadau niferus.
ReplyDeleteI ateb yr Hogyn o Rachub yn gyntaf. Nid ydwyf yn rhannu'r atgasedd "cynhenid" sydd gan nifer fawr o genedlaetholwyr i'r Blaid Geidwadol. Ar y cyfan mae'r ceidwadwyr yr wyf wedi dod ar eu traws wedi bod yn weddol gefnogol i Gymru a'i hiaith. Pwy all amau cefnogaeth pobl fel Guto Bebb, Y Parch Darren Millar, Y Parch Felix Aubel, David Jones AS, Lisa Francis, Yr Arglwydd Roberts o Gonwy, Roy Owen, Syr Geraint Morgan ac ati i'r iaith a'r genedl?
Drwg y bobl yma yw eu bod oll yn anghytuno a sosialaeth.
Mi fyddai'n llawer gwell gennyf i glymbleidio a Phaul a Glyn Davies nag efo Neil a Glenys Kinnock! Ond mae yna ormod o bobl yn y Blaid sydd yn fodlon gwerthu ei heneidiau i'r Kinnockiaid ffug sosialaidd yn hytrach na chydweithio a "Chymru Dda" Ceidwadol fel y ddau Davies.
Does dim modd i'r Blaid "sefyll ar wahân" fel llywodraeth ar hyn o bryd, megis yr SNP. Mi grybwyllais yn y post mae un o'r dewisiadau i'r Blaid byddid sefyll fel gwrthblaid lwyddiannus - sef sefyll ar wahân!
Anhysbys, rwy'n tueddu cytuno a chi. Mae yna well obaith cael papur dyddiol gan y Ceidwadwyr na gan Lafur. Wedi'r cwbl o dan lywodraeth Geidwadol daeth y Ddeddf Iaith ddiwethaf, S4C ac addysg Gymraeg a Chymreig orfodol o fewn y cwricwlwm cenedlaethol. Pethau a wrthwynebwyd gan y Blaid Lafur.
Rhydian, rwy'n methu deall be sydd gan y cwestiwn "ers pryd wyt ti yn aelod?" i'w gwneud a'r ddadl. Diwrnod trist i ddemocratiaeth bydd y dydd pan na chaiff ond aelodau o blaid cwestiynu ei weithredoedd. Ond os ydy o'n wybodaeth mor dyngedfennol i'r ddadl mi ymunais a Phlaid Cymru am y tro cyntaf ar Fawrth 2il 1979.
O ran dy sylw hurt am fod yn naïf am beidio â chredu mewn gwaith caled, mae dy hyfdra yn fy ngadael yn geg agored!
Cafodd y gwaith caib a rhaw ei wneud trwy greu cytundeb Cymru'n Un. Mae awgrymu dylid ail-balu er mwyn cadw at y cytundeb yn dangos naïfrwydd gwleidyddol y sawl a arwyddodd y cytundeb!.
Fe ellir dweud hefyd yn gywir bod nifer i Lafurwyr wedi bod yn gefnogol i'r iaith, ond dydi hynny ddim yn gwneud y Blaid Lafur yn llai wrth-Gymraeg. Wrth gwrs, mae'r rhai rwyt yn enwi yn gefnogol (neu rai ddim yn elyniaethus yn hytrach) tuag at yr iaith - os wyt o'r farn eu bod yn nodweddiadol o agweddau'r Ceidwadwyr yng Nghymru, fodd bynnag, mae arna i ofn y bydd yn rhaid i mi anghytuno. Gellir yn hawdd enwi digon o Dorïaid gwrth-Gymraeg, onid yw hynny'n wir?
ReplyDeleteRhydian Fôn said...
ReplyDeleteWel Anhysbys 5.43, os wyt ti yn coelio mai'r Toriaid fydd achubiaeth yr iaith Gymraeg, dwi'n teimlo trueni mawr dros dy gof byr...
Dyma fi eto.....dwi i ddim yn meddwl y bydd y Toriaid yn achubiaeth i'r iaith Gymraeg ond mi wnaeth nhw rhai pethau drosti fel mae HRF wedi crybwyll. Ar y llaw arall, dwi ddim yn gweld Plaid Cymru yn achub yr iaith ychwaith o weld sut y gwnaeth nhw dorri'r addewid i sefydlu Papur (nid gwefan) dyddiol. Mae Adam Price (mae gennyf barch iddo ar y cyfan) wedi dweud fod cyfnod y papurau dyddiol yn dod i ben.....efalle fod hynny yn wir.....ond nid yw wedi cyrraedd eto ac mi fyddwn innau sy'n ysgrifennu sylwadau yma yn dipyn yn hyn pan ddaw'r llenu lawr am y tro olaf.....os byth!
Rhydian Fôn,
ReplyDeleteWrach bod dydd papurau dyddiol yn dod i ben, ond rhaid edrych ar gylchrediad y papurau bro. O ystyried gwerthiant nhw, a'r nifer sy'n gallu darllen Cymraeg, mae nhw'n ffigyrau reit iach. Rhaid hefyd ystyried fod un copi o bapur bro yn cael ei rannu rhwng teuluoedd. Mae'r ffigyrau wedi bod yn reit gyson dros y blynyddoedd.
Anheg ydi cyfeirio at 'giwed o sosialwyr eithafol' oddi fewn i Blaid Cymru, HRF.
ReplyDeleteRon i'n benboeth yn erbyn unrhyw gytundeb efo'r Blaid Lafur i ddechrau, cyn sylweddoli mai fy ysfa reddfol i weld y diawliaid gelyniaethus yn cael eu sgubo o'r neilltu oedd wrth wraidd hynny.
Rwyf wedi dod i gytuno'n llwyr efo'r aelodau oddi fewn i Blaid Cymru o ran gwrthod cytundeb efo'r Toriaid. Byddai wedi bod yn drychineb ac ni fyddai etholwyr etholaethau'r Cymoedd wedi maddau iddyn nhw. Byddai'r etholiad nesaf yn landslide yn erbyn y Blaid (trwyn coch go iawn), ac mi fyddai'n drychineb hefyd i'r gobaith o fwy o rymoedd i'r Cynulliad, os nad i'r holl broses o ddatganoli'n gyfangwbl.
Digon hawdd i genedlaetholwyr diwylliannol Gwynedd chwythu tân a brwmstan heb weld yn bellach na'u trwynau, a heb ddeall natur gwleidyddiaeth, hanes a natur y gymdeithas yn yr ardaloedd diwydiannol yn y de-ddwyrain.
Yn bersonol, liciwn i fod wedi gweld Plaid Cymru'n ffrufio llywodraeth leiafrifol.
Digon hawdd i genedlaetholwyr diwylliannol Gwynedd chwythu tân a brwmstan heb weld yn bellach na'u trwynau, a heb ddeall natur gwleidyddiaeth, hanes a natur y gymdeithas yn yr ardaloedd diwydiannol yn y de-ddwyrain.
ReplyDeleteDyna rywbeth od ar y diawl - cael fy nghondemnio am fod yn un o "genedlaetholwyr diwylliannol Gwynedd" gan fardd a llenor o Wynedd!! Be sydd o'i le efo bod yn genedlaetholwr diwylliannol neu ddod o Wynedd?
Dydy fy ngwrthwynebiad i sosialaeth ddim yn wrthwynebiad diwylliannol, mae'n ymateb gwleidyddol sydd wedi ei selio ar fy nealltwriaeth o'r niwed mae'r gred yna wedi achosi i ardaloedd diwydiannol yn y de-ddwyrain ac yn ardaloedd diwydiannol eraill Cymru.
Beth bynnag fo rhinweddau'r cytundeb presennol rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, mae yna beryglon o ddweud na fydd y Blaid byth yn cynghreirio efo'r Torïaid, fel mae rhai o aelodau chwith y Blaid wedi gwneud.
Y perygl mwyaf yw ei fod o'n ddweud wrth y gwrth Gymreig yn y Blaid Lafur nad oes gan Blaid Cymru dewis arall i lywodraethu. Os nad oes gan Blaid Cymru dewis arall does ganddi hi ddim byd i fwgwth ar Lafur pe na bai Llafur yn cadw at ei rhan hi o fargen Cymru'n un. Rwy'n ofni mae dyma'r hyn sy'n digwydd a dyna pam bod bron pob achos cenedlaethol-diwylliannol yn y cytundeb wedi methu hyd yn hyn.
Pe ba'r Blaid Lafur yn gwybod bod y bygythiad o ail-godi'r enfys yn bosibilrwydd real, yna bydda nhw heb gachu ar bethau fel y Byd, y coleg ffederal ac ati.