Mewn adroddiadau ar y pryd cafwyd awgrym gan Betsan Powys, ymysg eraill, bod y gwahaniaeth rhwng yr Ie a'r Na ddim yn ddigon eang i liniaru ofnau'r sefydliad. Cyn i'r bobl bwysig dechrau alw am refferendwm bydda angen o leiaf 20% o wahaniaeth, yn nhyb Betsan.
Aelod o'r sefydliad yw Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru. Mae o'n cefnogi sylwadau'r newyddiadurwyr, gan rybuddio bod y polau piniwn wedi bod yn anghywir yn y gorffennol. Mae Dafydd yn nodi:
Dwi'n cofio yn 1978 bod pôl piniwn yn dangos bod 'na ddwywaith yn fwy o blaid nag oedd yn erbyn er bod y canlyniad yn 1979 bedair gwaith yn fwy yn erbyn nag oedd o blaid
Nid ydwyf yn cofio'r pôl y mae Dafydd yn ei gofio. Ond rwy'n parchu geirwiredd Dafydd, nid oes amheuaeth bod canlyniadau'r pôl y mae o'n ei gyfeirio ati ar gael yn rhywle. Ond os oedd ddwywaith gymaint o bobl wedi dweud ie yn y pôl, mae'n rhaid bod y gagendor rhwng yr ie ar na ym fwy nag 20% Betsan.
Fy atgof pennaf o'r ymgyrch ym 1979 oedd ei fod yn uffernol o oer, a doedd yr ymateb ar y drws ym Meirion '79 yn gwneud dim i gynhesu'r galon. Roedd pob Tori, pob Rhyddfrydwr a phob Llafurwr yn erbyn. Roedd nifer o Bleidwyr pybyr wedi eu dychryn gan atgasedd rhai o Lafurwyr y Deheubarth ac yn poeni mae pobl fel nhw bydda'n gyfrifol am bethau fel addysg Gymraeg os oedd senedd i ddyfod i Gaerdydd.
Roedd yn amlwg o ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch bod y refferendwm am gael ei golli yn drychinebus, beth bynnag fu canlyniad y polau piniwn.
Roedd yr un peth yn wir ym 1997. Roedd y polau piniwn yn awgrymu mwyafrif mawr i'r achos o blaid datganoli. Ar y drws rodd yn amlwg mae cael a chael oedd y canlyniad am fod - felly y bu!
Mae yna dwy wers yma.
Y gyntaf yw bod polau piniwn Cymreig sydd wedi eu selio ar arferion y DU yn fethedig ac annibynadwy parthed Cymru! Does dim modd rhoi cred ynddynt. Gwirion bydd amseru refferendwm ar sail polau o'r fath. Da o beth bydda weld gwyddoniaeth polio yng Nghymru yn gwella fel bod polau mwy dibynadwy ar gael - breuddwyd gwrach mae'n debyg.
Yr ail wers yw mai trwy ymgyrchu a chanfasio bydd gwybod pryd bydd yr amser gorau i alw refferendwm. Os am lwyddo cael pleidlais IE mae'n rhaid i'r ymgyrch a'r canfasio dechrau rŵan - nid tair wythnos cyn diwrnod y bleidlais.
Y cwesitwn hoffwn i weld y BBC neu bwy bynnag yn holi pobl yw, 'sut fyddech chi'n pleidleisio petai'r Ceidwadwyr yn rheoli yn San Steffan?'
ReplyDeleteDyna'r senario sy'n mynd i gadarnhau pleidlais Ie hyd y gwela' i. Beth amdanni?
Mae'n ffaith mi dybiaf bod 'Ia' yn fwy tebygol pan mae'r Toriaid mewn grym ar lefel Prydeinig.
ReplyDelete'Dydi hynny ddim yn golygu na ddylid cynnal un cyn hynny - ond mae'n rhywbeth i feddwl amdano.
Gallai methiant olygu dim cyfle arall am ugain mlynedd.