Mae'r ddadl am ffioedd i fyfyrwyr sydd yn rhwygo’r Blaid yn mynd dan fy nghroen. Pob tro rwy'n clywed Pleidiwr yn ceisio amddiffyn agwedd y Blaid a phob tro dwi'n gweld gwrthwynebwyr y Blaid yn llyfu'r mêl o'u bysedd am gyfyng gyngor y Blaid rwy'n teimlo fel tynnu fy ychydig wallt o'm pen.
Mae dwy ochor y ddadl yn methu deall y broblem go iawn.
I leihau'r niferoedd ar restrau di-waith fe wnaeth Llywodraeth Thatcher annog bobl i gofrestru eu hunain yn sâl. I leihau diweithdra ymysg ieuenctid wnaeth Llywodraeth Blair danfon bobl i'r Brifysgol - a gwneud iddynt dalu am yr anrhydedd.
Dwy weithred cyn ffieiddied â'i gilydd o gam drin pobl er mwyn mwytho ystadegau. Dwy weithred sydd a'u canlyniadau yn llawer mwy niweidiol, yn yr hir dymor, na'u bwriad tymor byr.
Y gwir syml am y broblem o gostau prifysgol yw bod gormod o bobl ifanc yn cael addysg prifysgol yn gwbl di angen. Pan oeddwn i'n laslanc roedd 10% o bobl ifanc yn mynd i Brifysgol ac yr oeddynt yn derbyn grant, sef tal (pitw) am fod yn fyfyriwr.
Yr wyf yn nyrs cofrestredig. Wrth hyfforddi i fod yn nyrs cefais fy nhalu cyflog gweddol ddechau dros gyfnod fy hyfforddiant. Bellach mae'n rhaid gwneud cwrs gradd i ddyfod yn nyrs, a thalu am yr anrhydedd. Dydy'r nyrsiaid graddedig dim mymryn yn well (i ddwedyd y gwir maent ychydig yn llai profiadol) na'r rhai a daeth yn nyrsiaid trwy brentisiaeth wedi ennill dim ond un lefel O. Mae eu haddysg brifysgol yn afraid.
Yr ateb syml i'r broblem o ariannu addysg brifysgol yw wynebu'r ffaith, diymwad, nad oes angen inni ddanfon gymaint o'n plant i'r brifysgol!
No comments:
Post a Comment