Showing posts with label Y Byd. Show all posts
Showing posts with label Y Byd. Show all posts

23/01/2009

Troelli drud v Newyddion rhad

Chwi gofiwch mai’n si诺r saga Papur newyddion Y Byd. Roedd Cwmni'r Byd yn dymuno £600 mil er mwyn sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Roedd hyn yn ormod i gyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Yn lle'r papur dyddiol drudfawr yr ydym am gael gwefan newydd sydd yn costio dim ond £200 mil.

Am £200 mil bydd disgwyl i gwmni Golwg darparu holl anghenion papur dyddiol mewn modd digidol ar y we. Bydd disgwyl i'r cwmni darparu newyddion cymdeithasol, adloniant, chwaraeon, addysg a gwleidyddiaeth ein gwlad gan gynnwys adroddiadau am waith Llywodraeth y Cynulliad.

Ond o ran Llywodraeth y Cynulliad, bydd angen llawer mwy na £200 mil i hysbysebu ei weithgarwch ei hun. Yn 么l y Western Mail bydd angen £3,5000,000 - bron ugain gwaith mwy na'r hyn sy'n cael ei gynnig i gwmni Golwg a mwy na chwe gwaith mwy na'r hyn yr oedd Y Byd yn dymuno, er mwyn creu dau wefan i droelli ar ran y Llywodraeth!

Dyma arwydd o ymrwymiad y Llywodraeth i ddyfodol yr iaith