20/11/2012

Y Bont Di Baent Cyn Annibyniaeth

Gwylier Dragon's Den yr wythnos nesaf, mae yna siawns go lew y byddwyf yn serennu ar y rhaglen, gan fy mod wedi meddwl am gynllun busnes sydd yn sicr o wneud miliynau o bunnoedd.

Yr wyf newydd brynu duster yn siop punt Llandudno, ac am fuddsoddiad o £100,000 rwy'n fodlon rhoi ecwiti o 10% yn fy nuster os oes Draig sy'n fodlon cefnogi fy nghais am y gwaith o gael gwared â'r llwch ar y silff hir sy'n cadw adroddiadau Comisiwn Cymreig Diwerth yn Y Llyfrgell Genedlaethol.

Roedd y syniad o gael contract ar beintio'r bont dros y Fforth yn syniad go lew. Gwendid y cynllun busnes oedd bod y bont yn aros yr un faint a bod system o'i beintio'n llwyr cyn dechrau contract newydd yn rhwym o ddigwydd rhywbryd.

Ond bydd fy nghynllun i o dystio'r silffoedd lle mae Adroddiadau Comisiynau ar Lywodraethu Cymru yn cael eu cadw byth yn dod i ben - gan eu bod yn tyfu yn gynt na chant eu hanwybyddu, a bydd angen eu dystio am oes oesoedd!

Ew! - Dyma un arall yn dod i chwyddo'r gwaith di ddiwedd!

17/11/2012

Mandad Mawr Winston

Yr wyf wedi derbyn ambell i ddatganiad i'r wasg gan fudiadau sy'n pryderu am y system ddemocrataidd oherwydd cyn lleied a bleidleisiodd yn etholiadau'r Heddlu echddoe. Nid ydwyf am eu hatgynhyrchu hwy, er y byddai gwneud hynny yn fodd o lenwi twll yn fy niffig blogio diweddar.

Yn bersonol yr wyf yn hynod, hynod falch bod cyn lleied wedi pleidleisio.

Yn wahanol i etholiadau rhanbarthol eraill, megis Rhestr Rhanbarthol y Cynulliad a rhestr Cymru gyfan Etholiad Ewrop - i'r unigolyn bu'r bleidlais Comisiynydd, ond efo dim ond 35K pleidlaisa chyn lleied a 15% o'r etholwyr mae Winston Roddick wedi derbyn teirgwaith mwy o bleidleisiau personol na enillwyd gan unrhyw AC o etholaethau tririogaeth Heddlu'r Gogledd a thua dwywaith mwy o bleidleisiau yn fwy nag unrhyw AS o'r Gogledd. Er gwaethaf cyfyngiadau ei swydd, er gwaethaf y diffyg hyder yn y bleidlais, Winston Roddick yw'r person etholedig gyda'r mandad personol mwyaf yng Ngogledd Cymru heddiw - a dyna berygl yr etholiadau hyn! Dychmygwch y grym moesol byddai gan unigolyn a etholwyd i'r swydd pe bai 70 neu 80% ohonom wedi bwrw pleidlais. Dychmygwch yr her y byddai ei farn "democrataidd" ef yn rhoi ar unrhyw bwnc boed tu mewn neu du allan i gyfyngiadau ei swydd.

Bydd y canfyddiad bod gan ambell i Gomisiynydd Heddlu Ceidwadol rhagor o fandad na'r holl ASau Ceidwadol mewn ambell i ranbarth yn creu anghydfod, a bydd yr anghydfod yn arwain at ddiddymu’r drefn yn o fuan, bydd y diffyg pleidleisiau yn cael ei ddefnyddio fel esgus am U dro ac yn rhoi ochenaid o ryddhad i ambell i AS Dorïaidd sy'n ofni gweld Comisiynydd poblogaidd yn anelu am ei sedd!

Nid ydwyf yn rhagweld ail etholiad ar gyfer yr uchel arswydus swydd hon!

27/10/2012

Beio'r Gymraeg am Bedoffilia

Yn ddi-os mae yna tebygrwydd rhwng achos Jimmy Savile ac achos John Owen. Ar y lefel isaf mae'r ddau achos yn halogi cof gwylwyr. Roeddwn yn mwynhau gwylio Jim Will Fix It - mi ddanfonais gais i'r rhaglen, na chafodd ei gwireddu ysywaeth (neu ddiolch byth - o bosib!) Roeddwn yn credu bod Pam Fi Duw ymysg y rhaglenni Cymraeg gorau a darlledwyd erioed! Mae meddwl fy mod yn mwynhau rhaglenni lle'r oedd y cyfranwyr ifanc yn dioddef trais, tra fy mod yn cael blas gwylio yn codi cyfog arnaf, ac yn gwneud i mi deimlo'n euog.

Yn ddi-os fe wnaeth y sefydliad cyfryngau Cymraeg amddiffyn John Owen, fel cyfrannwr talentog a phoblogaidd, yn yr union un modd ac amddiffynnwyd Jimmy Savile fel cyfrannwr poblogaidd i'r cyfryngau Saesneg.

Mae yna wersi a gwybodaeth werthfawr yn Ymchwiliad Clywch dylid eu dwys hystyried gan y rai sy'n ymchwilio i achos Savile, ac yr wyf yn mawr obeithio y bydd Comisiynydd Plant Cymru yn rhannu profiad gyda'r ymchwiliadau i ymddygiad Savile y DU.

Mae achos John Owen yn profi nad yw cefndir iaith yn amddiffyn plant rhag eu cam-drin a bod drygioni a ffieidd-dra yn perthyn i bob grŵp cymdeithasol, gan gynnwys y Cymry Cymraeg, ac nad yw bod yn "Gymro-dda" yn amddiffyniad, nac yn nacâd.

Ond os ydym ni'r Cymry am ymchwilio i'n gwendidau ein hunain gan geisio sicrhau nad oes John Owen arall yn ein mysg prin fod ein gorchwyl yn cael ei wneud yn haws os yw dyn, megis Karl Francis yn honni mae'r Gymraeg sy'n gyfrifol am y cam drin.

Sori, Karl ond prin oedd y Gymraeg ar wefusau Syr Jimmy; mae beio'r Gymraeg, nid yn unig yn sarhau'r Gymraeg, ond mae'n amlygu rhyw duedd ymysg y sawl sy'n gam drin i chwilio am unrhyw esgus arall ond eu tueddiadau eu hunain am eu hymddygiad ysgeler! Megis Cymro di-gymraeg sy'n casáu'r iaith ond sydd a'i enw ar y rhestr gam drin rhywiol yn beio'r iaith Gymraeg fel achos cam drin!

23/10/2012

Dal fy Nhrwyn Dros Winston

Yr wyf wedi bod mewn cyfyng gyngor parthed pleidleisio yn yr Etholiadau Comisiynydd Heddlu.

Mae'r syniad o gael pleidleisio am y fath swydd yn fy ffieiddio. Fel cenedlaetholwr yr wyf wedi cael y profiad o gael fy erlyn yn droseddol o ganlyniad i weithredu ar egwyddorion gwleidyddol ac ar y cyfan yr wyf wedi cael y system droseddol, er gwaethaf ei ragfarn o blaid y drefn, yn weddol onest a diduedd. Rwy'n casáu'r syniad mae "gwleidydd" bydd yn trefnu polisi'r heddlu o hyn allan.

Y mae Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd wedi penderfynu peidio ag ymladd yr Etholiadau Comisiynydd, pe bai gan y Blaid ymgeisydd byddwn yn gallu bwrw pleidlais yn hyderus dros eu hymgeisydd, ond heb ymgeisydd swyddogol gan y Blaid y mae gennyf ofn pleidleisio ac ofn peidio a phleidleisio.

Fel unigolyn mae Tal Michael yn hen foi iawn, ond rwy'n casáu'r Blaid Lafur a phrin fy mod am greu'r argraff bod y Blaid Lafur ar ei fyny yng Nghymru (canys dyna fydd canlyniad ethol 4 Comisiynydd Llafur) trwy bleidleisio iddo.

Gwan yw'r gair caredicaf y gallwn ddod ar hyd iddo i ddisgrifio'r ymgeisydd Ceidwadol. Weithiau mae pleidiau gwleidyddol yn datgan eu gobeithion am ennill trwy ddewis "rhywun rhywun" i sefyll yn eu henw yn hytrach nag ymgeisydd gwerth chweil; "rhywun rhywun" i'w aberthu yw'r ymgeisydd Ceidwadol - unigolyn nad yw'r blaid yn disgwyl ennill yn ei henw - ac (yn ddistaw bach) yn gobeithio i'r nefoedd na chaiff ei hethol yn annisgwyl.

Sydd yn gadael yr annibynwyr. Mi wnes i roi dwys ystyriaeth i sefyll fel ymgeisydd annibynnol, ond wedi ymchwilio i'r oblygiadau mi ddois i'r canlyniad y byddai cost sefyll - yn gwbl annibynnol - o ennill yn fwy na chyflog y swydd am ei thymor, sydd yn gwneud imi amau argymhellion yr ymgeiswyr annibynnol.

Pa mor annibynnol ydynt?

Pwy sy'n ariannu eu hymgyrchoedd?

Mi fyddai'n loes calon imi i beidio a phleidleisio - yr wyf yn ddisgynnydd i rai o'r sawl cafodd eu troi allan ym 1859 ac i Hen Nain a phleidleisiodd yn ei phenwynni am y to cyntaf ym 1928; mae pleidleisio yn ddyletswydd imi. Gan hynny yr wyf wedi penderfynu bwrw fy mhleidlais dros Winston Roddick, ymgeisydd annibynnol sydd a hen hanes o wasanaethu'r genedl trwy amryfal ffurf heb lygredd, a gan hynny yn un gellid ei drystio; ond o ddweud hynny dan afael fy nhrwyn yn dynn iawn y byddwyf yn bwrw pleidlais iddo!

27/09/2012

Ceidwadaeth Seisnig Conwy

Cefais bwt o lythyr oddi wrth fy AS Guto Bebb ychydig yn ôl yn fy ngwahodd i un o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus agored i holl etholwyr Etholaeth Conwy. Mi dderbyniais y gwahoddiad, gan fynychu cyfarfod yng Ngwesty'r Imperial Llandudno neithiwr. Doedd o ddim yn cyfarfod "agored", rwy'n credu mai myfi oedd yr unig un yn y cyfarfod nad oedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol , er, o ystyried, mae'n bosib bod ambell un o'r mynychwyr yn aelodau o UKIP neu'r BNP.

Nid ydwyf yn fy nydd wedi teimlo mor anghyffyrddus yng nghwmni cyd-ddyn ac a deimlais neithiwr.

Cafwyd nifer o gwestiynau am "fewnfudo" a pha mor andwyol ydoedd mewn cyfarfod hynod wyn (roedd ddwy o dras Asiad ac un dyn du allan o 150 yn y cyfarfod), clywyd yr holl retoric am iaith a thras ac amddiffyn Prydeindod rhag y pla estron heb i unrhyw un o'r cwynwyr man ystyried y ffaith eu bod hwy yn Saeson wedi mewnfudo i Gymru.

Cafwyd trafodaeth am y rheilffyrdd, gan gynnwys disgrifiad manwl o'r daith i Rugby (y dref nid y gêm) o Gyffordd Llandudno a chwynion am y cysylltiadau i Lundain - dim cwyn (wrth gwrs) am y daith o Ogledd Cymru i gêm rygbi yng Nghaerdydd!

Roeddwn wedi bwriadu gofyn i Guto cwestiwn am ddatganoli i gynghorau lleol, ond ar ôl ddwy awr o glywed lol botas mi gollais fy limpyn ar achos hawl pobl gyfunrywiol i briodi. Mae pawb sydd wedi darllen fy mhyst yn gwybod mae nid fi yw'r arwr gorau i amddiffyn y fath achos, ac o golli fy limpyn mae'n bosib fy mod wedi gwneud mwy o ddrwg na lles.

Ond wir yr, yr wyf wedi fy siomi. Yr wyf yn Genedlaetholwr gweddol geidwadol, yr wyf ym mhell i'r dde o'r consensws cenedlaetholgar Cymreig, yr oeddwn yn credu bod gennyf rywbeth yn gyffredin a Syr Wyn, Guto, Glyn a David Melding, fel pobl a oedd am greu Cenedl Gymreig Ceidwadol, ond ni chlywais air o genedlgarwch Ceidwadol Cymreig gan Guto neithiwr, yr hyn glywais oedd cydymdeimlad i farn Middle England sydd wedi mudo i Middle England on Sea (aka Llandudno) - i ble aeth y Cymro Dwymgalon o'r enw Guto Bebb?

15/08/2012

Plus ça change, plus c'est la même chose

Mi fûm yn chwilota drwy ysgrifau'r diweddar Parch O. M. Lloyd yn gynharach heno a dod ar draws y cofnod canlynol:
Hydref 7, 1966

GWARTH — Cymdeithas yr Iaith

Credaf ei bod yn warth y modd y trinnir rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Nid af ati’n awr i restru’r cosbau a ddodwyd ar bawb ohonynt, ond yr enghraifft ddiweddaraf yw gwaith ynadon Pontypridd yn dedfrydu i ddau fis o garchar Neil Jenkins, athro ysgol ym Merthyr Tudful. Mae’n wir fod swm y dirwyon y gwrthyd ef eu talu wedi codi i £22 /10/0. Ond dealler nad gwrthod talu fel y cyfryw y mae ef, canys talai (megis y gwnâi eraill) pe câi ffurflen treth modur yn Gymraeg, a’i wysio yn yr un iaith. Y mae’r gosb yn ffyrnig ac anghyfiawn. Dan yr amgylchiadau ffars yw uniaethu cyfiawnder a chyfraith gwlad. Cofier nad yn erbyn y gyfraith y mae protest y rhai ifainc hyn ond yn erbyn y modd y gweinyddir hi. Aeth heibio bron ganrif ers pan ymgyndynnodd bachgen o Lanuwchllyn rhag y "Welsh Not" yn yr ysgol. Meddai Syr O. M. Edwards: "Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y dôi diwedd yr ysgol." Bellach aeth cansen y Welsh Not o’r ysgolion i’r llysoedd, a dyma’r driniaeth ffyrnig, ffiaidd, ffôl, a roddir i Gymro yn ei wlad ei hun am geisio mynnu parch i’w famiaith. Mae hyn o anghyfiawnder yn ormod i’w oddef, ac mae’r awdurdodau yn gwahodd terfysg a thrwbl.
Dau Ddeddf Iaith, Mesur Iaith, statws swyddogol, Cynulliad Cenedlaethol, Bwrdd Iaith, Comisiynydd Iaith a 46 o flynyddoedd yn niweddarach, dim ond enw'r ddiffynnydd ac un neu ddau o eiriau eraill sydd rhaid ei newid er mwyn troi erthygl 1966 O. M. i erthygl sy'n ymdrin a charchariad Jamie Bevan Dydd Llun diwethaf. Er gwaethaf yr holl hawliau y mae'r Gymraeg wedi ei hennill dros y blynyddoedd mae'n warthus bod rhai pethau yn ymddangos yr un fath o hyd.

24/07/2012

Siôn Ffenest - y Dyn Mwyaf Llygredig ym Mhrydain!

Mae'n ymddangos nad yw'r broblem osgoi treth yn cael ei achosi gan yr hynod gyfoethog yn ffidlan eu cyfrifon - mae'n cael ei achosi gan bobl fel fi yn rhoi ffeifar neu debyg i gyfaill am fy helpu allan pan nad yw fy modur yn gweithio - yn ôl un o weinidogion San Steffan David Gauke

Yr wyf hefyd yn chware fy rhan yng nghreu pwll o lygredd drwy dalu fy nglanhawr ffenestri £4:00 mewn arian parod bob mis, heb feddwl am ofyn am dderbynneb TAW, nac hyd yn oed yn gwirio bod y ffenestri wedi cael eu glanhau yn iawn. Gallasai fy nihiryn o lanhawr ffenestri bod wrthi yn casglu miloedd o bedair punnoedd i mewn i gyfrif banc dirgel yn ynysoedd y Cayman pob mis, a thrwy hynny yn cael effaith andwyol iawn ar hynt a helynt economi'r Deyrnas Gyfunol - oherwydd ffyliaid fel fi!

Och a Gwae!

Yr wyf yn erfyn ar y rhai sydd wedi ymrwymo i brotestio yn erbyn osgoi treth i rhoi'r gorau i brotestio yn erbyn pobl di nod fel Syr Phillip Green ar unwaith - dyn bach diniwed ar ymyl y broblem ydyw ef!

Mae'n amlwg mae'r gwir ddrwg yn y caws yw'r cabál llawer mwy llygredig a ffiaidd a arweinir gan neb llai na'r anfaddaeol Siôn Ffenest o Sir Conwy!

13/07/2012

Pethau sy'n mynd dan fy nghroen - meddyginiaethau amgen.

Mae tudalen llythyrau fy mhapur lleol wedi ei lenwi ers rai wythnosau gan bobl sy'n cefnogi ac yn gwrthwynebu'r hyn a elwir yn feddyginiaethau amgen, mae'r holl drafodaeth gan y naill blaid a'r llall yn codi fy ngwrychyn. Mae sôn am feddyginiaeth / triniaeth amgen yn nonsens o derm.

Dwi ddim am gogio gwybod am holl rinweddau / ffaeleddau pethau megis Aquipuncture, Homeopathi, Reci ac ati.

Yr hyn yr wyf yn gwybod yw, os wyt yn sâl - ac mae triniaeth yn dy wella TRINIAETH ydyw, nid triniaeth amgen.

Os oes gennyf gur yn fy mhen bydd modd ei wella trwy lyncu Asbirin neu Baracetamol, dydy'r naill ddim yn amgen i'r llall, mae'r ddau yn gwneud yr un job mae'r ddau yn feddyginiaethau ac yn driniaethau sy'n cael gwared â'r cur yn fy mhen.

Mae therapyddion aroglau yn honni bod clywed gwynt lafant cystal, os nad gwell modd i gael gwared â chur yn y pen. Nid ydwyf erioed wedi ceisio gwyntio lafant o ddioddef o benmaenmawr pe bai'r fath driniaeth yn mynd trwy'r holl brofion y mae unrhyw feddygaeth arall yn mynd trwyddi byddwn yn ymlwybro, wedi noson fawr, tuag at goeden lafant fy nghymydog er mwyn cael iachâd - ond heb y prawf wyddonol sydd y tu cefn i bethau megis Asbirin, gwell imi adael llonydd i'r ardd drws nesaf gan fo asbirin, yn ddi-os, yn well na ASBO ar ôl noson ar y pop!

Mae triniaeth yn trin, dyw'r hyn sy'n gwneud rhywbeth amgen i drin ddim yn driniaeth!

09/07/2012

Sarn y Cawr, boson Higgs, a'r Creu

Yr unig ran o ynysoedd Prydain nad ydwyf erioed wedi ymweld â hi yw'r Chwe Sir yng Ngogledd yr Iwerddon. Trwy'r rhan fwyaf fy oes y mae wedi bod, ysywaeth, yn lle rhy beryglus i ymweld â hi yn arbennig i un sydd yn Genedlaetholwr pybyr ac yn Brotestant pybyr a gan hynny mewn perygl o bechu'r ddwy gymuned.

Gan fod yr heddwch i'w weld yn cydio yn y dalaith, rwy'n gobeithio cael ycyfle i ymweld â'r parth yn y dyfodol agos

Ar ben fy rhestr o bethau i'w gweld ar ymweliad i Ogledd yr Iwerddon yw Sarn y Cawr (The Giant'sCauseway).

Mae'r gwyddonwyr yn dweud bod Sarn y Cawr wedi ei greu tua 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl o ganlyniad i ffrwydron folcanig a symudiad platiau tectonig. Mae traddodiad yn dweud bod y cawr Fiann McCool wedi adeiladu'r sarn er mwyn cael cwffio efo cawr arall oedd yn byw yn yr Alban.

Bu rhywfaint o anniddigrwydd yng Ngoledd yr Iwerddon yn niweddar rhwng anghredinwyr a chreawdwyr o'r ddau draddodiad crefyddol oherwydd bod Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (perchnogion y safle) wedi penderfynu caniatáu rhoi lle yng nghanolfan ymwelwyr y Sarn i farn creawdwyr bod y safle yn perthyn i Oed y Byd yn eu barn nhw, sef ychydig dros 6 mil o flynyddoedd - ond pam lai?,

Mae rhai yn credu mai olion llongau gofod yw Sarn y Cawr. Mae dyfalu am longau gofod wedi bod yn rhan amlwg o fytholeg y byd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, rhan cyn bwysiced a hanes cewri a thylwyth teg mewn oesau a fu. Mae'n debyg bod trefnwyr yr arddangosfa wedi gwrthod rhoi lle i'r eglurhad yma - rhag eu cywilydd!

Pan fo hanesion Beiblaidd Genesis yn cael eu dysgu fel ffaith wyddonol mewn ysgolion ffwndemental eithafol yn yr Amerig, rwy'n cytuno a'r anffyddwyr sy'n brwydro yn erbyn y fath lol; ond rwy'n methu'n llwyr a gweld gwahaniaeth rhwng y ffwndamentalwyr crefyddol Americanaidd sy'n dymuno dysgu'r creu fel ffaith a'r ffwndamentalwyr wrth grefyddol ym Mhrydain sy'n gwrthwynebu dysgu AM hanes y creu yn ein hysgolion. Cymreig

Heb ddysgu am y creu mae'n amhosibl deall pwnc cannoedd o luniau gorau'r byd, mae barddoniaeth a llenyddiaeth gorau Ewrop yn llawn o gyfeiriadau at hanes y creu. Yn wir oni bai am hanes y creu byddai'r Higgs' boson erioed wedi cael ei amgyffred heb sôn am gael ei ddarganfod yr wythnos diwethaf!

Dwi ddim yn credu bod Fiann McCool wedi adeiladu Sarn y Cawr, dwi ddim yn credu bod y byd wedi ei greu mewn chwe diwrnod, ond mi fyddai fy mywyd yn dlotach pe na bawn wedi cael cyfle i ddysgu am y fath eglurhad am ffenomenau sy'n anodd eu dirnad. Does dim rhaid inni gredu ein mythau ond mae dysgu amdanynt yn hollbwysig i'n hunaniaeth

04/07/2012

Carwyn Jones yn chware Jeopardy

Pan oeddwn tua naw oed daeth fy Hen Fodryb Doli ar ymweliad i'r hen wlad yn ôl o'r America gyda'i siwtcesys yn llawn o anrhegion i holl aelodau'r teulu. Yng ngŵydd Anti Doli, yr oeddem ni'r plant yn cael ein hannog i ddangos ein diolchgarwch didwyll iddi am ei rhoddion; ond yn y sgyrsiau, nad oedd y plant i fod i glywed, roedd yr oedolion yn cyhuddo Anti Doli o fod yn hen witch (efo treigliad amheus) am floeddio ei chyfoeth a cheisio dangos bod hi'n byw mewn gwell byd na ni! Roeddwn yn gytûn a'r oedolion - fy mhresant i oedd gêm bwrdd wedi ei selio ar raglen Teledu Americanaidd. Heb deledu yn y tŷ ac efo fawr o amgyffred o ble oedd yr Amerig (ar wahân i'r ffaith ei fod dros y môr o'r Bermo), prin fod gêm o'r fath am fy nghyffroi.

Roedd o'n gêm wirion hefyd!

Byrdwn y gêm oedd dyma'r ateb: be di'r cwestiwn? A dim ots os oedd eich cwestiwn yn un ddilys ar gyfer yr ateb - oni bai mae'r ateb ar y cerdyn ydoedd, nid oedd yn ddigon dda! Twt lol botas maip! Yn groes i ddymuniad Anti Doli yr oeddwn yn falch o gredu; bod y fath lol ddim ar gael y Mhrydain. Ond yr oeddwn yn anghywir!

Rhyw pum mlynedd ar ôl ymweliad Anti Doli dechreuwyd darlledu trafodion Senedd San Steffan ar y Radio. Am gyfnod bûm yn wrandäwr brwd, ond yn fuan cefais fy nadrithio, yn bennaf gan fod sesiwn "Cwestiynau i'r Prif Weinidog" yn fy atgoffa o gêm bwrdd Anti Doli – yr oedd yn amhosibl cysylltu'r cwestiwn o'r ateb a roddwyd!

Un o'r rhesymau imi ddyfod yn Genedlaetholwr oedd gwrando ar y darllediadau radio cyntaf yna o San Steffan. Cefais fy magu i gredu mai system seneddol Prydain oedd y gorau yn y byd; ond o glywed y trafodion yr oeddwn yn sicr bod modd i Gymru gwneud yn well na hynny!

Cefais fy siomi o'r ochor orau o gychwyn y Cynulliad Genedlaethol o glywed Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau yn onest. Hwyrach nad oedd y theatr wleidyddol yno ond roedd y chwa o onestrwydd yn well. Yn aml iawn roedd Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau nad oedd o'n gwybod yr atebion iddynt trwy ddweud "smoi'n gwybod - na'i 'mofyn ateb" Gonestrwydd gwych!

Yn anffodus mae'n well gan Carwyn Jones chware gêm Anti Doli.

Dyma un o'i atebion o'r Cofnod Cyfarfod Llawn (sydd eto i'w gyfieithu ar lein):

There are issues that the leader of Plaid Cymru needs to clarify for the people of Wales. First, does she agree with her colleague Bethan Jenkins that Martin McGuinness, the Deputy First Minister of Northern Ireland, is naive in shaking the Queen’s hand? Secondly, she knows that the leader of her parliamentary party, Elfyn Llwyd, met Argentinian diplomats. I accept Elfyn Llwyd’s explanation for why he met them, but does she support the right of the people of the Falkland islands to self-determination? She raises issues of defence; I am sure that there are issues in Plaid Cymru that would be very interesting for the people of Wales to have clarified.

Be oedd y Cwestiwn?

A ddylid lleoli arfau niwclear yng Nghymru? Coeliwch neu beidio!

Callia Carwyn! - Mae'r bobl sy'n cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru yn haeddu gwell na lol San Steffan a gêm wirion Anti Doli!



22/06/2012

Gonestrwydd Mewn Arholiad

Pan oeddwn yn yr ysgol, amser maith yn ôl, roedd plant yn cael eu dethol i ddilyn naill ai cwrs CSE neu gwrs Lefel O. Roedd cael gradd 1 CSE yn cael ei gyfrif yn gyfystyr a gradd C Lefel O. Mi gefais fy nanfon i'r grŵp CSE ym mhob un pwnc yr oeddwn yn ei ddilyn, ar wahan i Addysg Grefyddol. Cefais radd B mewn Addysg Grefyddol Lefel O a gradd 1 mewn saith o bynciau CSE.

Rwyf wastad wedi meddwl pe byddwn wedi cael y cyfle i sefyll arholiadau Lefel O yn y pynciau lle cefais Gradd 1 CSE a fyddwn wedi llwyddo cael gradd uwch na'r lefel C cyfystyr?

Gan hynny yr oeddwn yn croesawu penderfyniad Syr Keith Joseph i uno'r ddau arholiad trwy greu'r TGAU yn ôl ym 1986, ond ni chafwyd uniad go iawn. Yn ôl yr hyn rwy'n ddeall o addysg fy hogiau mae ambell un yn sefyll arholiad lle mae gradd C TGAU yw'r radd uchaf posib y maent yn gallu ennill, dim ots pa mor ddoeth eu hatebion arholiad. Hynny yw y maent yn sefyll CSE heb y gallu i frolio pe bawn wedi cael y cyfle i sefyll Lefel O!

Os bydd Mr Gove yn llwyddo yn ei ymdrech i ail gyflwyno Lefel O a CSE i Gwricwlwm Lloegr, mi fydd yn dod a gonestrwydd yn ôl i'r system arholiad. Os yw Leighton Andrews, wir yr, yn credu bod y system Lefel O yn Bonkers, mi ddylai sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn sefyll un arholiad gyda'r gobaith o gael y radd uchaf posib, yn hytrach na pharhau a system sy'n cuddio cyrhaeddiad uchaf disgyblion trwy gynnig dwy radd o gyrhaeddiad uchaf posib TGAU mewn un system arholiad!

Cefais CSE gradd 3 yn y Ffrangeg unclassified yn y Gymraeg, ond gradd 1 Saesneg Iaith a gradd 1 Llenyddiaeth Saesneg!

20/06/2012

Llwyddiant Etholiadol i Genedlaetholwyr Llydewig


Llongyfarchiadau  twym galon i Paul Molac o Union Democratique Bretonne; y cenedlaetholwr Llydewig cyntaf i gael ei ethol i Lywodraeth Canolog Ffrainc.

Paul yw cadeirydd Mudiad Ysgolion Dwyieithog Llydaw Div Yezh ac mae o'n gyn-Gadeirydd Cyngor Diwylliannol Llydaw.

O holl wladwriaethau Ewrop, Ffrainc yw'r un mwyaf anoddefgar o genhedloedd ac ieithoedd lleiafrifol o fewn ei thiriogaeth; mae ethol Paul yn garreg filltir bwysig yn hanes hawliau ieithyddol a gwladgarol pob un o'r gwledydd Celtaidd - newyddion gwych!

19/06/2012

A ddylai'r Blaid a'r Rhyddfrydwyr ail feddwl am etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu?



Yn ôl yr hyn rwy'n deall ni fydd Plaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig enwebiadau ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu.

Roedd son bod y Blaid yn fodlon rhoi cefnogaeth ymarferol i ymgeisydd annibynnol cenedlaetholgar. Wedi edrych ar y posibiliadau o sefyll yn annibynnol, rwy'n credu ei fod yn gwbl amhosibl gwneud hynny mewn ardaloedd Heddlu enfawr megis Dyfed Powys a'r Gogledd; o ran costau, adnoddau ac ymarferoldeb heb gefnogaeth plaid neu fudiad torfol tebyg .

Mae'n ymddangos fellu mae'r dewis bydd Llafurwr, Ceidwadwr neu unigolyn efo mwy o bres na sens!

06/06/2012

Ffydd mewn gwyddoniaeth

Mae wyth munud wedi pump bellach wedi mynd heibio, ac er gosod y larwm er mwyn ei gwylio roedd gormod o gymylau yn yr awyr i mi gael cip ar Fenws yn clipio'r haul – am siom!

Ond roedd rhaglen Horizon neithiwr am y posibilrwydd o weld y ffenomena wedi bod yn ddigon diddorol i wneud imi godi'n blygeiniol er mwyn ceisio ei gweld. Roedd hefyd yn rhaglen a oedd yn codi nifer o gwestiynau am yr hyn sydd gan ffydd a gwyddoniaeth yn gyffredin, er gwaetha'r ffaith bod ambell i anffyddiwr yn honni bod gwyddoniaeth wedi profi bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt.

Y peth cyntaf i nodi yw bod gwyddonwyr yn gallu mynd dros ben llestri yn eu brwdfrydedd dros eu pwnc fel eu bod yn methu ffeithiau gwbl amlwg, yn yr union fodd ac mae ambell i hen bregethwr yn ei wneud. Brawddeg agoriadol y rhaglen oedd un gan hogan llawer iau na fi yn honni na fydd Fenws yn trawslunio'r haul eto yn ystod fy mywyd i, bywyd fy mhlant na bywyd fy wyrion. Mae'n debyg bod y ffenomena yn digwydd pob 106 i 108 mlynedd. Gan fod tipyn mwy na 108 mlynedd wedi mynd rhagddo ers dyddiadau geni fy nau daid a fy nwy nain, rwy'n mawr obeithio bydd gennyf wyrion ac wyresau dal ar dir y byw ymhen ychydig dros ganrif!

Yr ail beth i nodi yw cymaint o arian, adnoddau diriaethol ac adnoddau ymenyddol sy'n cael eu gwario ar chwilio am fywyd yn y bydysawdau, er gwaetha'r ffaith nad oes, hyd yn hyn, dim fflewj o brawf am ei bodolaeth - gwariant ar ffydd pur yn hytrach nag ar adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn wybyddus!

Y trydydd pwynt o ddiddordeb yn y rhaglen oedd yr orffwylltra, braidd, o geisio crafu'r posibilrwydd bod yna fywyd yn ein cysawd ni trwy chwilio am fywyd ar gymylau Fenws yn hytrach nac ar ei dir. Roedd hynny'n ymddangos fel desperation braidd o ran y gred gyffredinol mae ei'n blaned ni yw'r unig un yn y cysawd hwn sy'n gallu cynnal bywyd.

Y peth mwyaf amlwg i mi yn y rhaglen oedd mai Ffydd, Gobaith, Cariad oedd spardyn y cyflwynwyr, a'r mwyaf o rhai hyn ydoedd cariad at eu gwyddor .- rwy’n siŵr fy mod wedi clywed am y fath ymrwymiad rhywle arall!

07/05/2012

Rag lleol am ddim?

Rwy'n siarad ar fy nghyfer yma am bwnc rwy'n gwybod dim yn ei gylch; ond ymysg y sôn am ddiffyg cyfryngau Cymreig a pherchnogaeth estron yr ychydig sydd; derbyniais gopi o'r North Wales Pioneer papur sy'n cael ei ddosbarthu yn y parthau hyn yn rhad ac am ddim i'r rhan fwyaf o dai.

Sut mae'r papurau 'ma 'n gweithio?

A oes modd i genedlaetholwyr creu papurau tebyg trwy'r sustem cwmni cydweithredol mewn ardaloedd megis Wrecsam, Y Drenewydd ac ati lle nad yw'r achos cenedlaethol yn cael llawer o sylw?

05/05/2012

Canlyniad y Blaid, Leanne, y Cŵin a'r Rag Lleol

Gan wybod bod y Blaid Lafur am ennill tir sylweddol wedi etholiad trychinebus 2008, rwy'n credu bod Plaid Cymru wedi cael etholiad eithaf dechau Dydd Iau diwethaf, roedd ambell i siom, ond prin ei fod yn drychineb.

Er gwaethaf hynny fe ymddengys bod y cyllyll allan gan ambell i Bleidiwr siomedig yn sgil yr etholiadau. Mae Phil Bowen yn rhoi y bai yn glir ar ysgwyddau Leanne Wood a'i ymrwymiad i'r achos gweriniaethol! Roedd barn Leanne am y Frenhiniaeth yn wybyddus cyn ei hethol yn arweinydd y Blaid; os oedd y farn yna am golli pleidleisiau i Blaid Cymru camgymeriad oedd ei hethol, ac mae'n fater dylai aelodau'r Blaid wedi eu hystyried dau fis yn ôl yn hytrach na grwgnach amdani rŵan.

Pe bai Leanne wedi dechrau cow-towio i'r Brenhiniaeth wedi ei dewis yn arweinydd y Blaid, mae'n debyg mae cwyno am ei dauwynebogrwydd byddai'r esgus dros golledion y Blaid!

Yn bersonol rwy'n amheus iawn bod y Frenhiniaeth a barn Leanne amdani wedi gwneud fliwj o wahaniaeth i'r canlyniadau! Hyd yn oed pe bai Leanne wedi canu God Sêv o ben tŵr y castell, colli byddai hanes y Blaid yng Nghaerffili 'run fath.

Mae Ifan Morgan Jones yntau yn cyfeirio at yr un pwnc gan din ymdroi a methu dod i ganfyddiad pendant.
Mae'n debyg mae'r gwahaniaeth rhwng Ifan a Leanne yw nad yw hi'n eistedd ar y ffens!

Mae yna un pwynt ym mhost Ifan yr wyf yn anghytuno'n gref ag ef sef bod y mwyafrif o’r Cymry yn cael eu holl newyddion o’r cyfryngau Llundeinig. Hwyrach eu bod yn cael llawer o'u newyddion o'r cyfryngau Llundeinig ond yn fy mharth bach i o Gymru byddwn yn tybio bod tua 90% o'r brodorion hefyd yn darllen y papur lleol (y North Wales Weekly News yma), ond prin yw'r hanesion yn y papur lleol am weithgaredd Y Blaid yn gyffredinol na chynghorwyr unigol y Blaid yn benodol.

Pe bawn yn gyfarwyddwr etholiadau Plaid Cymru (neu unrhyw blaid arall) byddwn yn hyfforddi cynghorwyr a changhennau ar sut i baratoi "datganiad i'r wasg" sy'n ddeniadol a defnyddiol ac yn mynnu bod pob cynghorydd a changen yn danfon datganiad o'r fath yn wythnosol i'w papurau lleol.

Megis a nododd Cai cyn yr etholiad mae stori "hurt" gan ymgeisydd craff yn gallu creu newyddion tudalen blaen mewn ambell i bapur lleol – mae angen y tudalennau blaen yna ar gynghorwyr y Blaid os am adeiladu cefnogaeth driw yn lleol!

03/05/2012

Hashtag etholiadol?

Er mwyn dilyn yr etholiadau ar Drydar heno ac yfory a fydd #tag ar gyfer y canlyniadau yn gyffredinol; rhai Cymru;  rhai'r Alban, rhai siroedd arbennig; llwyddiannau pleidiau unigol ac ati?

27/04/2012

Etholiadau Diwrthwynebiad = detholiadau annemocrataidd?

Pan glywais fy mod wedi fy ethol heb gystadleuaeth ar gyfer fy nghyngor cymuned fy nheimlad oedd un o siomedigaeth bersonol, yr oeddwn yn dymuno cystadleuaeth ac yn awchu am ymgyrch. Rwy'n ddiolchgar i Owen ap Gareth o Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru am ddangos imi hunanoldeb y fath deimladau.

Y pwynt pwysicach yw bod y bobl yr wyf wedi fy nethol i'w cynrychioli wedi eu hamddifadu o ddewis democrataidd.

Mae'n debyg bod y 93 cynghorydd Sir sydd eisoes wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad yng Nghymru wedi amddifadu hyd at 140,000 o bleidleiswyr Cymru rhag mynegi barn yn yr etholiadau Cyngor Sir. Mae diffyg mandad democrataidd y cynghorau cymuned yn waeth byth; yng Nghonwy yn unig, dim ond 11 o'r 71 adran etholaethol gymunedol sy'n cynnal etholiad - ystadeg sy'n gwatwar y syniad o ddemocratiaeth leol.

Gan fy mod yn agnostig, braidd, ar achos pleidleisio cyfrannol nid ydwyf am gefnogi achos Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru, ond mae eu hadroddiad am yr etholiadau lleol (PDF) yn un gwerth ei ddarllen a gwerth cnoi cil yn ei gylch!

21/04/2012

Darllediad Etholiadol Plaid Cymru




Croeso ddigon llugoer fu i ddarllediad etholiadol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau cyfredol. Mae Blog Banw yn dyfynnu nifer o negeseuon Trydar sy’n cwyno am y ffilm ac yn mynd ati i ategu ei feirniadaeth ef amdano. "Rwy’n teimlo bod hwn yn gam gwag iawn fel darllediad gwleidyddol, oes mae na le i gael neges cadarnhaol ac nid mynd lawr yr un trywydd â’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr trwy ymosod ar ei gilydd mewn rhyw gormes diddiwedd. Ond mam fach darllediad rydych yn ‘Gymry’ oedd darllediad Plaid Cymru yn hytrach na darllediad ‘rydych yn Gymry, rydym ni’n Gymry, dyma beth hoffwn ni wneud dros Gymru’ dyna beth oedd ei angen."



Rwy'n anghytuno ar feirniadaeth, mae perswadio pobl bod pleidleisio dros blaid arbennig yn beth "naturiol" iddyn nhw ei wneud yn hanfodol i lwyddiant parhaol. Mae neges sy'n dweud wrth bobl Cymru bod y Blaid yn gymaint o ran o dirwedd Cymru a'r mynyddoedd, bod cefnogi'r blaid genedlaethol mor naturiol a chefnogi'r tîm cenedlaethol yn neges bwerus dros ben yn fy marn i. Mae Blog Banw yn ddweud "Fe wnawn nhw ddim pleidleisio i ‘Blaid Cymru’ am ei fod yn blaid Cymreig, pe tasai’r feddylfryd hynny’n gweithio byddwn ni wedi ennill sawl etholiad erbyn naw". Mi fyddwn i'n dadlau i'r gwrthwyneb, mae'r meddylfryd hynny'n gweithio (mae'n gweithio i'r Blaid Lafur), y rheswm pam bod y fath feddylfryd heb weithio i'r Blaid yn y gorffennol yw oherwydd bod y fath neges heb ei ddefnyddio yn ddigon effeithiol gan y Blaid yn y gorffennol.



Wrth gwrs fel un sy'n ymhyfrydu ym manion "diwinyddol" gwleidyddiaeth mi fyddwn i'n cael mwy o blas ar ddarllediad llawn polisïau cadarn, ond prin yw'r bobl sy'n gwirioni'r un fath a fi. I'r mwyafrif "addewidion gwag" a "chelwydd gwleidyddion i'w anghofio wedi'r etholiad" yw polisïau. Mewn un peth rwy'n cytuno a'r sosialydd Trotsky mae cael polisïau didwyll yn bwysig i fudiad gwleidyddol ond slogan dda i fynd efo'r polisi bydd yn perswadio pobl i gefnogi polisi nid ei gynnwys; mae'r slogan ei fod yn naturiol i bobl Cymru cefnogi Plaid Cymru yn un da dylid ei wthio a'i gwthio yn ddi-baid nes iddi dreiddio i isymwybod pob pleidleisiwr yng Nghymru.