Be sy'n digwydd i ddewis iaith ddigidol S4C?
Ar flychau teledu digidol, boed Sky neu Freeview mae modd dewis iaith. Yn amlwg, fel Cymro Cymraeg, yr wyf wedi dewis
Welsh fel fy newis iaith.
Ar un adeg roedd dewis
Welsh fel iaith fy mocs yn sicrhau, os oeddwn yn gwylio rhaglen chwaraeon, lle bo ddewis iaith sylwebaeth; mae'r Gymraeg byddai iaith ddiofyn fy ngwylio. O wylio darllediadau o'r Cynulliad roedd dewis y Gymraeg, fel iaith fy mlwch, yn golygu nad oeddwn yn derbyn troslais cyfieithydd pan oedd aelod neu dyst yn siarad y Gymraeg.
Yn niweddar mae fy nheledu wedi bod yn sylwebu yn y fain ac mae'r cyfieithydd i'w glywed yn y Cynulliad, er gwaetha'r ffaith mae
Welsh yw ddewis iaith fy mlwch.
Mewn rhwystredigaeth mi ffoniais Gwifren Gwylwyr S4C!
Yr ateb oedd i dderbyn gwasanaeth Cymraeg diofyn, rhaid imi newid dewis iaith fy mlwch i
English!
Y rheswm, mae'n debyg, yw bod cynifer o bobl wedi prynu blychau newydd ers i Gymru droi'n ddigidol sydd efo'r Saesneg fel iaith ddiofyn; mae haws oedd rhoi'r Saesneg fel iaith ddiofyn S4C na disgwyl i Gymry Cymraeg mynd i fol y peiriant i newid eu hiaith ddiofyn i'r Gymraeg ar gyfer un sianel allan o gannoedd.
Rwy'n ddeall eu rhesymeg, ac ar un lefel yn cytuno a hi. Pam ddylwn i fel Cymro Cymraeg yng Nghymru gorfod mynd i grombil fy mheiriant er mwyn sicrhau gwasanaeth Cymraeg ar S4C?
Roedd yna wendid yn y drefn newid i ddigidol bod blychau sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru heb eu gosod efo dewis iaith glir rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, roedd yna wendid yn yr hysbysebion newid i ddigidol am beidio a hysbysu gwylwyr am y drefn dewis iaith.
Ond mae ymateb S4C bod angen dewis
English er mwyn cael gwasanaeth Cymraeg ond dewis
Welsh i gael gwasanaeth Saesneg yn hynnod ddryslyd ac yn beryglus i ddyfodol y Sianel. Pa wyliwr di-Gymraeg o'r sianel sydd am ddeall mae'r modd i ddewis sylwebaeth
Saesneg ar raglenni pêl-droed rhyngwladol S4C yw dewis yr opsiwn Cymraeg?
I osgoi unrhyw ddryswch:
Dewisiwch
English am wasanaeth Cymraeg S4C!
Dewiswch
Welsh am wasanaeth Saesneg!
Cwbl glir ontydi?