Diolch i Syniadau a Bella Caladonia
Rwy'n siarad ar fy nghyfer yma am bwnc rwy'n gwybod dim yn ei gylch; ond ymysg y sôn am ddiffyg cyfryngau Cymreig a pherchnogaeth estron yr ychydig sydd; derbyniais gopi o'r North Wales Pioneer papur sy'n cael ei ddosbarthu yn y parthau hyn yn rhad ac am ddim i'r rhan fwyaf o dai.
Sut mae'r papurau 'ma 'n gweithio? A oes modd i genedlaetholwyr creu papurau tebyg trwy'r sustem cwmni cydweithredol mewn ardaloedd megis Wrecsam, Y Drenewydd ac ati lle nad yw'r achos cenedlaethol yn cael llawer o sylw?Y broblem fwyaf sydd gennyf efo darlith Guto yw'r darn yr wyf yn cytuno mwyaf ag ef:
Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.
Deud da, ond sut mae mynd ati?
Y rheswm pam nad ydwyf yn mentro yw diffyg ffyrling i'w mentro!
Heb arian wrth gefn sut bydd modd i'r to newydd fentro a pherchnogi'r economi?
Hawdd dweud, Guto – ond sut mae gwneud?
Fe fu i mi sefydlu siop lyfrau (sy'n dal i fasnachu er i mi werthu) efo £3,000, tafarn efo £800 ag menter ymgynghorol gyda gorddrafft o £1000. Rŵan oes 'na honiad for hynny yn swm gormodol?
Am bymtheg mlynedd fe fu i mi gynnal cyrsiau busnes yn fisol trwy Wynedd, Môn a rhannau o Bowys a Chonwy. Rhwng y nawdegau cynnar a 2010 fe syrthiodd niferoedd y Cymry Cymraeg oedd yn mynychu o tua 50% i lai na 15%. Gan amlaf yr oedd y buddsoddiad dan sylw gan yr unigolion yn ymestyn o £200 neu lai i fawr mwy na £5,000. Ydi hynny'n amhosib i Gymry Cymraeg?
Wrth gwrs, yr oedd y staff oedd yn cynnig grantiau, asesu grantiau, datblygu strategaethau ayyb oll yn Gymry iaith gyntaf ac oll, yn naturiol ddigon, yn gweithio i'r sector gyhoeddus.
Dowch fois - hyder!
Gadewch i do newydd o Gymry weld ymhellach na diogelwch swydd y sector gyhoeddus, gan ystyried sut y mae modd iddynt gyfrannu’n llawer mwy effeithiol i ddyfodol eu teuluoedd a’r gymdeithas ehangach trwy anelu i berchnogi eu heconomi fel ein heiddo ni fel Cymry.
"7. 2011/12-7:10.3 Polyn Fflag - yn dilyn trafodaeth, cytunwyd i archebu dau bolyn a dwy fflag, y Ddraig a’r Undeb. Gobeithir y byddent yn eu lle erbyn Gŵyl Dewi.Mewn nifer o gyfarfodydd diweddar mae'r Cyngor Cymuned wedi nodi ei fod yn "anwleidyddol".