Am unwaith yr wyf am led gytuno a
Dylan Llŷr parthed crefydd. Yn ei llith ddiweddaraf mae'r
Anffyddiwr yn cwestiynu'r caffaeliad cyffredin mae crefydd bu'n gyfrifol am gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Teg dweud nad yw Dylan yn honni
mae twt lol potes maip yw'r fath honiad, dim ond amau lefel ei bwysigrwydd mae ef. Ond
twt lol potes maip yw'r fath ddadl ta waeth.
Y ddeddf Cyntaf a honnir iddi wahardd y Gymraeg oedd
Deddf Uno 1536 sydd yn cwyno bod y Cymry
Have and do and daily use a speech nothing like, nor constant to, the natural mother tongue of this Realm, ond prin bu effaith y fath ddeddf i wahardd y Gymraeg - sicrhau bod ychydig swyddogion y wladwriaeth yn ddwyieithog oedd ei nod a'i unig effaith.
Achubiaeth fawr y Gymraeg, yn ôl y son oedd cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Yn sicr digwyddiad o bwys hanesyddol i'r iaith, ond ar adeg ei gyhoeddi, o leiaf, dim yn dyngedfennol i barhad y Gymraeg. Yn wir, o ran
ei gyflwyniad, nid
achub y Gymraeg oedd bwriad y cyfieithiad ond hyrwyddo'r Saesneg ym mysg y Cymry! Ond pa newid byddai mynnu mae'r Beibl Saesneg yn unig oedd i'w defnyddio mewn Eglwysi'r wladwriaeth wedi cael ar barhad y Gymraeg? Dim tybiwn i gan mae ffeirio Lladin estron, na thyciodd dim ar iaith y werin dros filawd, am Saesneg estron byddai'r unig ganlyniad plwyfol.
Y brîf reswm dros ddefnydd y Gymraeg o Salisbury i Mogan Llwyd a phellach oedd cadw Cymru yn driw i achos Protestaniaeth Lloegr. Roedd Catholigiaeth yr Iwerddon dros fôr yn fygythiad, roedd chwit-chwatrwydd yr Alban parthed Protestaniaeth yn fygythiad, pe bai Cymru hefyd yn fygythiad Catholig byddai ar ben ar Loegr!
Roedd cadw Cymru a Lloegr yn Brotestannaidd gytûn yn hollbwysig i barhad Lloegr .
Cadw Cymru yn Brotestannaidd oedd yn gyfrifol am oddefgarwch Lloegr tuag at Anghydffurfiaeth Cymry. Mae anghydffurfio yn awgrymu rhywbeth "gwrth sefydliadol"! Mudiad Gwrth Sefediadol a oedd yn cael ei goddef gan ei fod yn eithriadol gwrth Babyddol, y fath goddefgarwch yn unig fu'n gyfrifol am barhad Anghydffurfiaeth Gymreig. Y pris am y fath oddefgarwch oedd bod yn driw i Brydeindod ym mhob achos arall. A hynod driw i Loegr bu Anghydffurfwyr Cymru o'r herwydd!
Yn nyddiau'r Ficer Pritchard, William Williams Pantycelyn, ac ati roedd Cymru, i bob pwrpas yn uniaith Gymraeg - sgwennu yn y Gymraeg i achub eneidiau oeddynt, nid er mwyn achub iaith na gwlad. Digon teg dweud bod y ddau, ac eraill tebyg, wedi cyfoethogi ein hiaith a'n llên yn anfwriadol, ond nid dyna fu eu bwriad pennaf - mae'n sgil effaith.
Ym 1800 roedd "ffin iaith" y Gymraeg ym mhell iawn tu hwnt i Glawdd Offa, dechreuodd crebach oherwydd y chwildro diwydiannol a dechreuodd toc tu draw i'r ffin, pan ddechreuodd y Chwildro Diwidianol symudodd miloedd o "Saeson Cymraeg" o Swyddi Henffordd a'r Amwythig i gryfhau Cymreictod Cymru.
Ym 1841 yr oedd Cymru yn wlad uniaith ddiwydiannol, ond roedd y bywyd diwydiannol yn un ffiaidd ei sefyllfa cymdeithasol. Prin fod gair o gelwydd yn Y Llyfrau Gleision 1847 o ran sefyllfa moesol a chymdeithasol Cymru'r dydd. Gwendid y Llyfrau oedd beio anghydffurfiaeth a'r Gymraeg am y sefyllfa. Ymateb anghydffurfwyr Cymru i'r Llyfrau Gleision oedd anghytuno parthed anghydfurfiaeth, ond NID parthed y Gymraeg!
Ymateb yr anghydffurfwyr bu'n gyfrifol am ddirywiad yr iaith o 1847 i 1962, ymateb o weld yr iaith yn ddiwerth ym mhob cylch ond cylch y capel. Iaith y Nefoedd ond nid iaith y siop, y dafarn a'r farchnad, ac yn sicr nid iaith y gweithlu; lle gynhaliwyd y Gymraeg am fil flwydd cyn dyfod capel.