Yr wyf, yn wleidyddol, yn genedlaetholwr Cymreig yr wyf wedi bod yn gefnogol i'r Genedl ers dydd fy ngeni. Yn y 70au cynar Y Blaid Lafur oedd yn mynd a'm bryd. Bu cyfnod pan oeddwn yn credu mai'r Blaid Ryddfrydol (cyn bodolaeth y Lib Dems) oedd gobaith y Genedl Gymreig. Ond FI oedd yr unig Rhyddfrydwr ym Meirion aeth allan i ganfasio tros bleidlais Ie ym 1979.
Wedi cael fy siomi mi ymunais a Phlaid Cymru ym 1979 a fûm yn aelod dryw o'r blaid hyd 1995 pan ddywedodd Dafydd Wigley Plaid Cymru has never ever supported Independence for Wales.
Ers hynny yr wyf wedi bod fel Pelican yn yr Anialwch. Dim yn aelod o'r Blaid, ond dim amgen yn cael ei gynnig gan neb arall (er gwaethaf pob dymuniad i rywun rhywle cynnig achos amgen), o'r herwydd yr wyf wedi gwneud cais i ail ymuno a Phlaid Cymru.
Dwi ddim yn gwybod os bydd fy nghais yn cael ei gymeradwyo!
Yn ô LBJ It's probably better to have him inside the tent pissing out, than outside the tent pissing in. Os bydd fy nghais i ail ymuno yn cael ei gymeradwyo mwyaf tebyg mae mochyn yn piso tu mewn i'r dent byddwyf!
Bydd croeso mawr i unrhyw un sy'n credu mewn annibynniaeth i Gymru yn y Blaid. Mae'r rhod wedi troi Alwyn.
ReplyDeleteCroeso adre Alwyn. Mae angen undod ymysg cenedlaetholwyr i wthio pethau ymlaen nid ymrannu a gwneud gwaith y Brits yn hawdd er cymaint ein rhwystredigaeth efo'r Blaid ar adegau. Mae hyn yn neges addas i nifer o aelodau Llais Gwynedd hefyd !!
ReplyDelete