Datganiad i'r wasg gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Diffyg Democrataidd Sesiwn 2
Lleoliaeth - achubiaeth datganoli?
Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, dymuna Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth ar rôl y cyfryngau rhanbarthol a hyperleol.
Bydd y sesiwn ar ffurf trafodaeth o gwmpas y bwrdd lle gallwch fynegi eich barn ar nifer o sianelau cyfathrebu â chynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n newydd ac yn dod i’r amlwg ynghyd â mentrau lleol mwy traddodiadol.
Defnyddir canlyniadau’r sesiwn hon i lunio adroddiad ar sut gall y Cynulliad Cenedlaethol weithio gyda phob rhan o’r cyfryngau yng Nghymru er mwyn annog rhagor o bobl i fod yn ddinasyddion gweithgar. Daw’r digwyddiad hwn ar ôl cynhadledd Prifysgol Caerdydd ar newyddiaduraeth gymunedol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Dyddiad: Dydd Mercher 12 Mehefin 2013
Amser: 17.00 – 19.00
Lleoliad: Y Pierhead
Atebwch erbyn: 7 Mehefin
Bydd te a choffi ar gael.
I sicrhau lle, anfonwch e-bost at:
Archebu@cymru.gov.uk
neu ffoniwch 0845 010 5500
#diffygnewyddion
Efallai petaen nhw'n fodlon crwydro ymhellach na'r Pierhead i gasglu barn fe fyddai'r Cynulliad yn ei chael hi'n haws ymgysylltu pobl Cymru â'u gwaith nhw.
ReplyDeleteCytuno'n llwyr Ifan. Mae 'na rywbeth afraid bron yn y syniad o gynnal y fath digwyddiad yn y Pierhead - lleoliad bydd yn cael ei mynychu gan griw gallasai’r llywydd ymghynghori a nhw dros banad yn ffreutur y Cynulliad yn feunyddiol
ReplyDeleteIt is perfect time to make some plans for the future and it is time to be
ReplyDeletehappy. I've read this post and if I could I want to suggest you few interesting things or suggestions. Maybe you could write next articles referring to this article. I desire to read even more things about it!
Here is my web page - nokia 808 specification
If you would like to take a great deal from this article then you have
ReplyDeleteto apply these techniques to your won webpage.
Here is my website ... nokia e5 specification