Caerffili , Castell Nedd , Cwm Cynon.
Bydd yn sioc enfawr pe na bai'r Blaid Lafur yn ennill y tair sedd yma yn weddol gyffyrddus. Plaid Cymru sydd yn yr ail safle yn y tair sedd, ond yn dipyn ar ei holi i. Ond bydd yn werth cadw golwg ar berfformiad y Blaid ynddynt, gan fydd perfformiad da yn etholiad eleni yn gallu bod yn fan cychwyn am ymgyrchoedd cryf i'w cipio yn etholiad y Cynulliad 2011, gall canlyniadau gwael i'r Blaid ynddynt bod yr Amen olaf i yrfa wleidyddol IWJ.
Canol Caerdydd .
Saith o bobl wedi taflu eu hetiau i mewn i'r cylch etholiadol yng Nghanol Caerdydd, ond, hyd y gwyddwn dim ond un ohonynt, Chris Williams (Plaid Cymru), yn Gymro. Jenny Willott, yr AS Rhyddfrydwyr Democrataidd a chipiodd y sedd i'w phlaid yn 2005 bron yn sicr i ddal ei gafael yn gyffyrddus ar y sedd.
Ceredigion.
Sedd arall a gipiwyd gan y Rhydd Dems yn 2005, ond un a fydd yn llawer anoddach iddynt dal eu gafael arni na Chanol Caerdydd. Un o'r rhesymau i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd ennill yng Ngheredigion yn 2005 oedd bod y blaid wedi targedu pleidlais y myfyrwyr.
Mae'r ffaith bod y Rhyddfrydwyr wedi dibynnu ar y myfyrwyr i ennill y sedd, hefyd yn golygu bod eu mwyafrif wedi symud allan. I gadw'r sedd bydd rhai iddynt berswadio cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i'w cefnogi, rwy'n methu gweld o'n digwydd eildro. Yn gyntaf dydy'r pleidiau eraill ddim yn mynd i ganiatáu i un blaid i fopio fynnu holl bleidlais y myfyrwyr eto, ac yn ail does yna ddim achosion mawr sydd am fod yn holl bwysig i fyfyrwyr yn ystod 2010.
Rhaid nodi mae mwyafrif y Rhyddfrydwyr daeth o'r myfyrwyr, roedd craidd y bleidlais yn dod o'r gymuned cefn gwlad a wasanaethwyd mor dda gan y diweddar Geraint Howells. Rwy'n sicr bod "proffil" Penri James (Plaid Cymru) yn y byd amaethyddol yn sicrach o apelio at yr etholwyr yma nag ydy cefndir yr Aelod Cyfredol.
Un o'r pethau sydd yn cyfri yn erbyn Penri yw ei fod wedi colli ei sedd ar Gyngor Ceredigion i Rhyddfrydwr llynedd. Ond fe wariodd y Rhyddfrydwyr arian mawr yn ward Penri, defnyddiwyd bron holl adnoddau dynol y blaid o fewn y ward unigol, yn unswydd i greu'r stori o "dorri pen Penri". Rhywbeth sy'n drewi o desperation i fi.
Penri i a'r Blaid i enill fe dybiwn.