07/10/2011

E-deiseb i'r Cynulliad ar Gartrefi Cymdeithasol

Mai Royston Jones (Jac o' the north) wedi cyflwyno’r ddeiseb isod i'r Cynulliad:

E-ddeiseb: Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru


Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a ddefnyddir i ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, gall unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru. Mae’r sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau sy’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl sy’n byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas a phobl a gafodd eu rhyddhau’n ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati.

Ar yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol. Yn rhy aml, bydd y datblygiadau hyn yn difetha cymunedau.

Er mwyn datrys y broblem hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod o bum mlynedd cyn y byddai’n gymwys i gael tŷ cymdeithasol. Yr unig eithriadau fyddai ffoaduriaid gwleidyddol a phobl eraill sy’n ceisio dianc o sefyllfaoedd lle maent yn cael eu herlid.
Gellir arwyddo'r ddeiseb trwy ddilyn y dolen YMA

01/10/2011

Gwahardd Aeron - cam gwag i ddemocratiaeth!

Mi fyddai'n deg dweud nad ydwyf ym mysg ffans mwyaf y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones, naill ai fel Cynghorydd nac fel blogiwr. Beth bynnag bu gwendidau ei gyd bleidiwr Gwilym Euros fel priod a chynhaliwr cyfraith gwlad, roedd blog Gwilym wastad yn lle i gael trafodaeth fywiog a difyr. Mae blog Aeron wedi bod yn lle sbeitlyd, maleisus braidd, lle mae un yn debycach o weld sylwadau sarhaus a phersonol yn hytrach na thrafodaeth gref.

Mae sylwadau maleisus a wnaed gan Aeron ar ei flog wedi ei osod mewn dŵr poeth. Y mae o wedi cael ei ddwrdio gan Ombwdsman Cymru a'i wahardd o'r Cyngor am fis gan Pwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd am honni bod Dyfed Edwards wedi hedfan i Gaerdydd ar bwrs y sir er mwyn cael sgwrs fach efo Alun Ffred, er gwaetha'r ffaith bod Ffred yn gymydog iddo yng Ngwynedd. Mae'n ymddangos bod sylw Aeron yn un gwbl di sail, yn wir yn gelwydd noeth dan din, gan hynny 'does dim modd cyfiawnhau ymddygiad Aeron.

Ond wedi dweud hyn y mae gennyf OND!

Trwy ddewis bywyd gwleidyddol ddylai dyn derbyn ei fod am dderbyn sen a gwawd gan aelodau o bleidiau eraill, y ffordd gorau i ymateb i daflu baw yw taflu ddwywaith gymaint o faw yn ôl, yn hytrach na rhedeg at "Mam" i gwyno!

Pwrpas yr Ombwdsman yn wreiddiol oedd amddiffyn y cyhoedd rhag cam weinyddu gan gynghorau, nid ymddwyn fel reffari rhwng cynghorwyr o bleidiau gwleidyddol gwahanol. Mae nifer y cwynion gan un cynghorydd yn erbyn cynghorydd arall yn arafu'r broses i aelodau o'r cyhoedd. Os oedd Dyfed yn teimlo ei fod wedi ei enllibio gan Aeron, ei le oedd mynd at dwrnai i gwyno am enllib, nid camddefnyddio'r Ombwdsman ar gyfer ei gwyn wleidyddol.

Mae'r rhan o'r còd ymddygiad y mae Aeron wedi ei "dorri" yn amlwg yn un sydd i fod i amddiffyn etholwyr rhag cael anfantais gan eu cynrychiolydd 7 (a) yn gofyn i gynghorwyr ‘beidio â defnyddio’u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson. Rhan o'r broses wleidyddol yw sicrhau mantais i'ch plaid ac anfantais i bleidiau eich gwrthwynebwyr - cam ddefnydd o'r còd yw ei ddefnyddio i geisio gwahardd gwrthwynebydd gwleidyddol rhag cael mantais wleidyddol!

Mae'r ail sail am y cwyn yn erbyn Aeron yn chwerthinllyd sef peidio* â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – gan na fu dyfarniad yn erbyn Aeron mewn llys troseddol na sifil, nid ydyw wedi cyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni – mae ei "gosbi" am dorri'r rhan yma o'r còd, gan hynny yn gwbl anghyfiawn!

Yr hyn sy'n peri mwyaf o ofid imi yw'r cosb sydd wedi ei osod ar y cynghorydd. Beth bynnag ein barn am Aeron fel unigolyn neu fel gwleidydd, yfo ydoedd dewis pobl Llanwnda i'w cynrychioli ar Gyngor Gwynedd. Trwy ei wahardd ef am fis nid yr unigolyn yn unig sy'n cael ei wahardd, mae pobl Llanwnda yn cael eu cosbi trwy eu hamddifadu rhag cael cynrychiolydd ar y cyngor hefyd – mae hynny'n hynod annheg i bobl Llanwnda!

A chyn i selogion y Blaid fy slagio am amddiffyn Aeron, rwy’n credu bod pob un o'r sylwadau uchod yr un mor berthnasol parthed cwynion Llafur yn erbyn Cynghorwyr y Blaid yng Nghaerffili! hefyd!



*(Dyma eiriad y drosedd yn ôl Golwg360. Byddwn yn teimlo bod "peidio â chyflawni tramgwydd troseddol" yn rhinwedd - rhywbeth i Jac Codi Baw Golwg ei hystyried o bosib!)

30/09/2011

Gofyn am Fôt

Mae rhestr fer Blogiau Cymru bellach wedi ei gyhoeddi ac mae'r blog hon yn un o ddau blog yn yr iaith Gymraeg i gael ei enwebu ( y llall yw blog Siôn Dafydd)
Eleni mae modd i aelodau'r cyhoedd i bleidleisio am eu hoff blog ar y rhestr fer ar gyfer gwobr "Dewis y Bobl". Mae'r ffurflen pleidleisio ar welod y dalen yma: http://walesblogawards.co.uk/2011/09/wales-blog-awards-finalists-are-named/. Rwy'n hyderus y bydd cefnogwyr blog yr HRF yn dilyn y cyfarwyddyd Gwyddelig i bleidleisio'n gynnar ac i bleidleisio'n aml.

Dau ganlyniad da i'r Blaid yn Ngwynedd

Diffwys a Maenofferen
Mandy Williams Davies, Plaid Cymru - 210
Catrin Elin Roberts, Llais Gwynedd – 153

Penrhyndeudraeth
Gareth Thomas, Plaid Cymru - 515
Rhian Jones, Llais Gwynedd - 219
Dafydd Thomas, Annibynnol – 90

Llongyfarchiadau i'r ddau gynghorydd newydd. Ac wedi cael y profiad o golli etholiad yn diweddar cydymdeimladau a'r ymgeiswyr na fu'n llwyddiannus! Mae colli yn fymar yntydi?

Dim yn 100% sicr ond mi dybiaf bod gan y Blaid mwyafrif ar Gynor Gwynedd bellach.

23/09/2011

Cyfiawnder – Rygbi – Yr Alban a'r Wasg Gymreig!

Rwyf wedi fy synnu braidd at ddiffyg cyfeiriad yn y wasg Gymreig at y controfersi mwyaf sydd wedi taro Cwpan Rygbi'r Byd! Sef gwaharddiad yr IRB ar ganu’r pibgodau mewn gemau, sydd wedi ei osod ar ein cefndryd Albanaidd!

Mae'n achos sydd wedi denu sylw byd eang, o'r Amerig, i Ffrainc i Fiji a nifer o wledydd eraill y byd, ond dim son, hyd y gwelwn, ar Golwg360, yn Llais y Sais, BBC Wêls na Dail y Post!

Cyfiawnder i'r Alban! Ymunwch a'r ymgyrch dros y Bibgod:

Campaign to allow responsible bagpiping in all RWC stadiums in New Zealand


Cosb Ataliol

Mi fu'm yn gwrando ar Question Time neithiwr, a oedd yn cynnwys y cwestiwn disgwyliedig parthed y gosb eithaf yn dilyn dienyddio amheus Troy Davis yn Nhalaith Georgia.

Pob tro bydd y cwestiwn yn cael ei grybwyll bydd cefnogwyr y gosb yn honni bod y gosb eithaf yn gosb ataliol (deterrent punishment). Bydd rhai o wrthwynebwyr y gosb eithaf yn awgrymu bod cyfnod hirfaith o garchar o dan amodau llym yn gosb ataliol lawer mwy effeithiol.

Yn bersonol, rwy’n methu dirnad sut bod cosb ataliol i fod i weithio!

Pwy a ŵyr, hwyrach caf fy erlyn am drosedd yfory, os ydyw'n erlyniad teg mae yna sawl modd imi ddyfod i sefyllfa o gael fy erlyn!

Hwyrach, gwnaf dorri'r gyfraith yn bwrpasol er mwyn gwneud pwynt gwleidyddol! O ddewis cyflawni'r weithred torcyfraith nid oes elfen o gosb bydd yn fy atal - yn wir, po lymed yw'r gosb po fwyaf fy arwriaeth am dderbyn y gosb a chynyddu bydd cefnogaeth i'r achos!

Hwyrach y byddwyf wedi colli fy nhymer yn llwyr ac yn troseddu yn danllyd o ddiystyr. Ond os ydwyf yn troseddu yn ddiystyr, bydd rhagdybio cosb yn un o'r pethau yr wyf yn anystyriol ohoni. Os nad ydwyf yn ystyriol wrth gyflawni fy nhrosedd ni fydd ystyried y gosb yn rhan o'r hafaliad a all fy atal o'i chyflawni!

Hwyrach fy mod yn rhan o giang sy'n codi ofn ar fy nghymdeithas. Byddwyf, gan hynny, yn hyderus na fydd neb yn beiddio pwyntio bys tuag ataf ar ôl imi gyflawni trosedd difrifol, o wneud bydd eu bywydau hwy mewn mwy o berygl na fy mywyd i. Rwy'n credu fy mod i'n gallu atal y gyfraith! - Does dim cosb ataliol a all atal fy nhor gyfraith i!

Rwyf wedi cael llond bol o'r wraig 'cw! Ond yn ei henw hi mae holl ffortiwn y teulu, pe bawn yn ei hysgaru byddwyf yn colli popeth, ond pe bai hi'n farw byddwyf yn rhydd ac yn gyfoethog! Yr wyf am gynllunio i gael gwared a hi! Trwy gynllunio yn ddwys yr wyf yn bwriadu sicrhau nad oes modd i neb fy nal yn fy ngweithred ysgeler. Gan fod fy nghynllun yn un sy'n sicrhau na chaf byth fy nal, mae'r gosb yn rhan o hafaliad yr wyf wedi ei ymdrin ag ef - mae'r ffactor ataliad wedi ei negyddu yn fy nghynllun cas!

Ond dweder fy mod yn anghywir a bod cosb ataliol yn gweithio, sut gymdeithas yw cymdeithas lle mae ofn canlyniad troseddu yw'r unig beth sydd yn ein cadw rhag trosedd?

Os mae'r unig beth sydd wedi fy nghadw rhag dwgyd gan fy nghyfeillion a'm cymdogion heno yw ofn y canlyniadau - a ydwyf yn un cyfiawn, a ydwyf yn gymydog da, yn ddinesydd da, yn foesol? Nac ydwyf - yr wyf yn gachgi bach anfoesol sy'n ofni'r drefn!

Rwyf am fyw mewn cymdeithas mwy gwar nag un lle mae pobl yn fyw dan ofn ataliol y gyfraith! Cymdeithas lle mae moes ehangach na chyfraith ataliol yn orfodi dinesyddiaeth da!

18/09/2011

Cymru 17 - 10 Samoa.

Rwy'n falch fy mod i wedi mynd i weld y doctor ddoe i gael ychwaneg o dabledi at y galon - roedd eu gwir angen wrth wylio gem Cymru y bore ma!

Buddigoliaeth yw fuddigoliaeth, ond doedd chwaere heddiw ddim yn ddigon da i ddweud bod y naill gem na'r llall sy'n weddill yn y bag i Gymru!

17/09/2011

Trychineb Cilybebyll

Cilfynydd, Senghennydd, Gresffordd, Abertyleri, Aberfan - roeddwn yn credu mai perthyn i hanes oedd creu enwau pentrefi Cymreig fel moes am drychineb - loes yw gorfod ategu Cilybebyll i'r fath restr yn unfed ganrif ar hugain!

Heddwch i lwch Phillip Hill, Charles Breslin, David Powell, a Garry Jenkins

16/09/2011

Neges gan Hywel Williams AS parthed S4C

Annwyl Gyfaill

Erbyn hyn byddwch wedi clywed bod y Llywodraeth wedi gwrthod tynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Cafwyd dadl fanwl ar y mater gyda chyfraniadau sylweddol gan Marc Williams Rhydfydwr, Susan Ellen Jones Llafur a minnau, a hefyd areithiau cefnogol gan John Tricket, sydd yn arwain ar ran y Blaid Lafur ar y Mesur, a Charley Elphick Aelod Ceidwadol Dover.

Er hyn oll roedd y Gweinidog David Heath yn bendant na fyddent yn tynnu S4C allan. Roeddem hefyd wedi rhoi nifer o welliannau i lawr yn ceisio sicrwydd gan y Llywodraeth o ran annibyniaeth golygyddol a threfniadol S4C ac hefyd i geisio diffinio yn gliriach y ffordd y bydd S4C yn cael ei ariannu at y dyfodol. Cawsom ymateb gan David Heath oedd yn y bon yn ail adrodd yr hyn mae’r Llywodaeth wedi ei ddwued eisoes.

Fy ngobaith ddoe oedd y byddai ein dadleuon yn peru’r Llywodraeth i ail ystyried rhwng rwan a’r “report stage”, sef y drafodaeth sylweddol olaf ar y mesur. Byddwch wedi gweld efallai yn y wasg heddiw y stori am y cytundeb ariannu S4C rhwng y Llywodraeth a’r BBC. Roeddwn yn synnu o glywed y stori yma fy hyn yn hwyr neithiwr. Mae’n ymddangos felly, tra roedd David Heath yn ein sicrhau bod annibyniaeth ariannol S4C wedi ei ddiogelu, roedd ei lywodraeth yn cytuno i drosglwyddo’r awennau ariannol dros S4C i’r BBC.

Mae hwn yn un o’r materion pwysig iawn y byddwn yn ymgyrchu arno dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Cefais drafodaeth bore ‘ma efo Alun Ffred Jones AC, a oedd gynt wrth gwrs yn Weinidog dros y Celfyddydau. Mae o yn bwriadu gwneud datganiad ar y mater. Yn amlwg byddai’n dda iawn pe byddai cynifer o bobl ac sy’n bosib yn parhau â’r ymgyrch gyhoeddus drwy’r wasg ac ati, ac rwy’n apelio atoch i gyfrannu i hyn.

Mae croeso i chi gysylltu a mi eto ar y mater yma ac rwy’n eich sicrhau y bydd y frwydyr yn parhau.

Yn gywir iawn

Hywel

Hywel Williams AS

12/09/2011

De'r Affrig 17 – Cymru 16

Tîm canolig sy'n gallu curo'r 15 gwrthwynebydd.

Mae tîm da yn gallu curo'r pymtheg gwrthwynebydd, reff gwael, y gwynt a'r glaw a'r foneddiges lwc!

Gwaeth peidio a chwyno; tîm is canolig a gollodd i Dde'r Affrig ddoe!

10/09/2011

Ieuan Carasmataidd?

Rwyf newydd gael cyfle i wrando ar araith Ieuan Wyn i Gynhadledd y Blaid, roeddwn yn cytuno ag ambell i beth yr oedd o'n dweud ac yn anghytuno ag ambell i bwynt. Prin fod dim byd newydd nac yn annisgwyl yn sylwedd yr araith. Yr hyn oedd yn annisgwyl imi oedd arddull yr araith. Prin byddai selogion mwyaf cibddall y Blaid yn honni bod Ieuan wedi bod ym mysg areithwyr gwleidyddol gorau ein gwlad - dydy o ddim yn Lloyd George nac yn Nye Bevan nac hyd yn oed yn Adam Price - ond 'yw, roedd fflachiadau o areithiwr tanbaid, angerddol, twymgalon yn dod drosodd yn araith ddoe. Byddai neb yn defnyddio'r geiriau Carismataidd a Ieuan Wyn yn yr un frawddeg fel arfer, ond roedd yna egin o garisma yn ei draddodi ddoe.

Mae hyn yn codi cwestiwn neu ddau : lle mae'r arweinydd a welwyd ddoe wedi bod yn cuddio am y 11 mlynedd diwethaf? Lle bu'r gwleidydd a oedd yn dod a'i yrfa at ei derfyn ddoe wedi bod trwy weddill ei yrfa? Awgrymodd y gohebydd John Stevenson bod Ieuan wedi gwneud cystal gan ei fod wedi ei rhyddhau o bwysau ei gyfrifoldebau a hualau ei swydd. Os yw John yn gywir rhaid gofyn pam diawl bod Plaid Cymru (neu unrhyw blaid, os ddaw i hynny) yn gosod y fath gaethiwed a hualau ar arweinydd?

09/09/2011

DET - Athro neu Arweinydd?

Cocyn hawdd ei hitio yw Dafydd Elis Thomas, y lladmerydd mwyaf wrth Ewrop yn ystod refferendwm 1975 a drodd Plaid Cymru yn Blaid Cymru yn Ewrop. Y sosialydd a drodd yn Arglwydd ac yn Cwangocrat. Y cenedlaetholwr tanbaid a drodd yn ôl cenedlaetholwr ar sail rhyw ychydig bach o ddatganoli yn hytrach na gwireddu'r breuddwyd cenedlaethol. Bradwr dauwynebog dan din?

Ond mae ymwrthod a DET yn simplistig oherwydd anghytundebau arwynebol yn gwneud cam ag un o fawrion y genedl a'r achos cenedlaethol!

Do, fe gafodd Plaid Cymru etholiadau gwael eleni a llynedd, ond o gymharu sefyllfa'r Blaid pan gafodd DET ei ddewis yn ymgeisydd seneddol am y tro cyntaf mae'r Blaid a'r genedl yn gryfach heddiw nag y bydda unrhyw aelod yn gallu dirnad deugain mlynedd yn ôl, ac mae'r diolch am lawer o'r cynnydd yna'n perthyn yn uniongyrchol i DET.

Rhan o enigma Dafydd Êl yw, er gwaetha'r ffaith ei fod wedi bod yn wleidydd am ran fwyaf ei oes, nid gwleidydd mohono, ond athro. Dysgu'r Blaid a dysgu'r genedl bu ei genhadaeth yn hytrach na'i harwain. Rhinwedd / gwndid y mae o'n rhannu efo Saunders a Gwynfor. Un o fethiannau Plaid Cymru fel Plaid bu trin yr academyddion hyn fel arweinwyr gwleidyddol yn hytrach nag athrawon!

Un o'r pethau bydd athrawon yn eu gwneud yw cynnig gosodiad efo'r her trafodwch yn ei ddilyn. ee Oliver Cromwell oedd yr arweinydd gorau yn Ewrop ei gyfnod - trafodwch! Pwrpas y fath osodiad yw cael disgyblion i bwyso'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y gosodiad ac o'u pwyso yn y fantol dod i ganlyniad! Dyma fu her academaidd DET i Blaid Cymru a'r Genedl hefyd.

Wedi refferendwm 1975 - Mae yna le i Gymru llwyddo fel gwlad fach yn y Gymuned Ewropeaidd - Trafodwch!

Wedi methiant 1979 - Mae Cymru am gael ei redeg gan Cwangos - mae'n rhaid sicrhau lle ar y Cwangos i Gymru dda. Trafodwch!

Wedi i Neil Kinnock taflu'r Sosialwyr allan o'r Blaid Lafur Mae yna le ym Mhlaid Cymru i'r sosialwyr di gartref. Trafodwch!

Wedi pasio Deddf yr Iaith 1993 Mae brwydr yr iaith ar ben! Trafodwch!

Drwg y Blaid bu derbyn sylwadau DET fel sylwadau arweinydd sydd raid eu dilyn, yn hytrach na'u trafod, a gan hynny eu derbyn yn di-drafodaeth.

Drwg DET oedd credu ei fod wedi cael ymateb teg i'w testun trafodaeth gan y Blaid!

Yn ôl y Daily Post mae Dafydd wedi dweud:

Mae Annibyniaeth Cyfansoddiadol yn rhithlun. Mae'n gwleidyddiaeth rithwir, nid yw'n gwleidyddiaeth go iawn - ond fe anghofiodd y Daily Post rhoi’r gair trafodwch ar ôl y sylw!

Mae'n rhaid i Blaid Cymru mynd yn ôl i fod yn llyfwyr tin y Blaid Lafur yn y Cynulliad er mwyn cael dylanwad ar Lywodraeth! TRAFODWCH a thrafodwch yn ddwys – da chi!

Mae cyfraniad Dafydd Elis i'r achos cenedlaethol wedi bod yn enfawr, rwy’n ddiolchgar iddo ac yn eiddgar na fu fy nghyfraniad cystal â'i un ef, ond mae'n rhaid cofio bod modd trafod yn barchus a dod i ganlyniad sy' ddim yn dilyn yr athro!

Ac efo pob parch i DET, Gwynfor a Saunders, hwyrach bod cyfnod wedi dod lle bo angen arweinydd gwleidyddol go iawn, nid athro, ar y Blaid a'r Genedl!

Dyfodol S4C - munud o'ch amser! - Neges gan CyIG

Annwyl gyfaill,

Mae pwyllgor yn craffu ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus yn San Steffan ar hyn o bryd, sef y mesur a fydd yn torri deddf S4C.

Os llenwch y ffurflen sydd ar y dudalen hon -

http://cymdeithas.org/lobi.php - bydd neges ebost ddwyieithog yn mynd at yr aelodau seneddol sy'n craffu ar y mesur. Dim ond cynnwys eich enw, ebost a'ch cyfeiriad a gwasgu'r botwm 'Anfon' sydd angen gwneud, ond rhydd i chi addasu'r llythyr os dymunwch.

Galwa'r llythyr ar aelodau'r pwyllgor i gefnogi gwelliant sy'n tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus, fel y gwelliant mae Hywel Williams AS, Susan Elan Jones AS a Mark Williams AS wedi ei gyflwyno.

Bydd y llythyr yn help i bwyso am y dyfodol gorau posib i'r sianel Gymraeg.

http://cymdeithas.org/lobi.php

Byddem yn ddiolchgar pe baech yn medru annog eraill i anfon y neges hefyd.

Diolch am eich amser,

Menna

03/09/2011

Rwy'n casáu gogledd Cymru

Peth rhyfedd i Gog i'w dweud, hwyrach, ond rwy'n casáu Gogledd Cymru.

Rwy'n eithaf hoff o bob rhan o ogledd ein gwlad, ond rwy'n casáu'r cysyniad gwleidyddol o Ogledd Cymru.

Dydy Gogledd Cymru ddim yn rhanbarth gwleidyddol naturiol Gymreig unedig cyfoes. Mae ffug undod y gogledd yn cael ei coleddu, nid er mwyn undod, ond yn unswydd er mwyn creu rhaniadau yng Nghymru; mae'n rhan o gêm y gwrth Gymreig i greu polisi o divide and rule sy'n milwriaethu yn erbyn undod cenedlaethol.

Bron pob tro y bydd y geiriau North Wales yn cael eu yngan, bydd y cyd-destun yn un o gwynion am y Sowth yn cael rhywbeth gwell na ni, neu bod y Sowth yn rhy bell i ffwrdd a bod pobl y Sowth mor ddiarth inni fel bod gennym mwy yn gyffredin a dynion bach gwyrdd Gogledd y blaned Mawrth na chyd Cymro sy'n byw mor bell i ffwrdd a Thresaith diarth!

Dros chwarter canrif yn ôl fe nododd Dennis Balsom bod yna dair rhanbarth gwleidyddol Cymreig:

Y Fro Gymraeg, y Cymru Gymreig a'r Cymru Prydeinig.

Hwyrach nad yw'r labeli yna yn addas bellach, ond mae'r rhaniadau yn aros yn gyffelyb – dyma raniadau naturiol Cymru, ac os oes angen, fel mae Carl Saregent yn mynnu, i gynghorau cyd weithio rhaniadau Balsam yw'r rhai callaf er mwyn cydweithrediad!

Mae gan Aberdaron a Thregaron llawer mwy sy'n gyffredin na sydd gan y naill na'r llall a Brymbo neu Llanandras. Mae Caernarfon, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn debycach i'w gilydd nag ydynt yn debyg i Wrecsam.

Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod problemau Caergybi ac Abergwaun bron yn efeillio.

Os oes angen uno cynghorau neu uno gwasanaethau cynghorau, mae uno ar hyd y gorllewin a'r dwyrain yn amlwg yn llawer mwy synhwyrol nag yw uno ar hyd y gogledd o ran lles trefniadaeth. Ond tafellu Cymru, yn annaturiol, o ran gogledd, canolbarth, gorllewin a de sydd orau o ran y Blaid Lafur, er mwyn creu dicter rhanbarthol sy'n wrthyn i'r syniad o genedl Gymreig unedig!

28/08/2011

Dyfyniad Da #1

Mae'r gyfraith, yn ei chydraddoldeb mawreddog, yn gwahardd y cyfoethog a'r tlawd fel eu cilydd rhag cysgu dan bontydd, i fegian yn y strydoedd nac i ddwyn bara.

Anatole France (1844-1924)

26/08/2011

Can Niwrnod Carwyn

Un o'r pethau sydd wedi eu mewnforio i Ynys y Cedyrn o UDA, sydd yn mynd dan fy nghroen, yw'r dymuniad i asesu Llywodraeth ar ôl 100 niwrnod o lywodraeth. Rwy'n methu deall y rhesymeg sydd yn honni bod y can niwrnod cyntaf am fod yn adlewyrchiad o'r hyn sydd i ddod (yn achos Llywodraeth Cymru) yn ystod y 1726 o ddyddiau sy'n weddill o'r cyfnod o lywodraeth.

Os yw'r Sgotsmon yn gywir, mae llywodraeth newydd Alex Salmond bellach yn dathlu ei ganfed diwrnod o'i ail gyfnod o lywodraeth. Gan fod Mr Salmond a Carwyn Jones wedi sefyll etholiad ar yr un dwthwn, mae'n debyg bod Mr Jones hefyd yn codi gwydraid i ddathlu'r un garreg filltir.

Be mae Carwyn wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod?

Ychydig ar y diawl yn ôl ambell i sylwebydd! Amen a Haleliwia am hynny medda fi!

Drwg llywodraethau sydd yn bwrw'r tir gan redeg (o gyfieithu'r ystrydeb hyll) yw deddfu ar frys ac yn ddiystyrlon, heb ddwys ystyriaeth, jest am greu'r argraff o newid cyfeiriad; boed angen newid cyfeiriad neu beidio.

Un o'r pethau a oedd yn fy mhoeni am refferendwm mis Mawrth oedd bod y pwerau ychwanegol mor gyfyng, bod Llywodraeth newydd y Cynulliad (o ba bynnag liw) am ruthro i'w ddefnyddio er mwyn eu defnyddio jest er mwyn profi hyblygrwydd ei gyhyrau newydd yn hytrach na'u defnyddio er fydd y genedl. Rwy'n hynod falch nad yw Carwyn Jones wedi syrthio i'r fath drap.

Felly llongyfarchiadau i Carwyn am ddefnyddio ei 100 niwrnod cyntaf yn ddwys ystyried yn hytrach na'u hafradu ar ruthro i ddeddfau di angen er mwyn creu ffug argraff o brysurdeb llywodraethol.

22/08/2011

Addysg Gymraeg Dwyieithog

Dydy Cymru ddim yn wlad ddwyieithog - mae'n wlad efo dwy iaith. Mae tua chwarter ohonom yn gallu'r ddwy iaith (yr ydym yn ddwyieithog), ond mae tua thri chwarter ohonom yn uniaith Saesneg. Mae'r tri chwarter sydd yn uniaith Saesneg yn gallu byw eu bywydau trwy eu un iaith. Does dim modd i berson dwyieithog dewis iaith, mae'n rhaid iddo neu iddi ddefnyddio'r ddwy - nid oes unrhyw gyfartaledd. Saesneg yw'r unig iaith hanfodol yng Nghymru heddiw. Gellir byw bywyd cyflawn heb y Gymraeg, does dim modd byw bywyd cyflawn heb y Saesneg.

Mae ysgolion honedig dwyieithog yn ficrocosm o'r twyll bod Cymru yn wlad ddwyieithog. Mae modd i ddisgyblion mynd trwy gyfnod addysg 3 i 19 ym mhob un o ysgolion dwyieithog Cymru, gan gynnwys rhai naturiol dwyieithog Gwynedd, heb dderbyn namyn mwy nag ambell i leson bach yn Welsh. Does dim modd i'r un plentyn mewn ysgol ddwyieithog fondigrybwyll derbyn yr un safon o addysg Gymraeg ag sydd ar gael mewn ysgolion Penodedig Cymraeg; mae'n rhaid i bob disgybl mewn ysgol ddwyieithog cyfaddawdu a derbyn rhywfaint o'i addysg trwy gyfrwng y Saesneg.

Mae diffyg ysgolion penodedig Gymraeg yn y Fro Gymraeg, a'r myth bod ysgolion Y Fro yn naturiol ddwyieithog yn gwneud niwed i'r iaith. Pwynt yr wyf wedi ei rhefru amdano ers deng mlynedd ar hugain heb fawr o gefnogaeth; rwy'n falch o weld rhywfaint o gefnogaeth yn dod o du blog Plaid Wrecsam a Blog Bnanw bellach!

Y broblem i addysg Gymraeg yn y Fro yw y byddai 90%, os nad mwy, o rieni yn dewis addysg Gymraeg cyflawn i'w plantos. Byddai 10% yn swnllyd gâs yn ei wrthwynebu, a byddid delio efo'r 10% yn creu problemau a phrotestiadau gwleidyddol i Wynedd, i Fôn, i Geredigion ac i Gaerfyrddin nad ydynt am eu hwynebu, gan fyddai'r gwrthwynebwyr casaf ymysg yr etholwyr sydd wedi ymddeol yn di blant i'r Fro!

Yr unig ffordd o achub yr iaith yw dweud naw wfft i'r protestwyr a sicrhau bod mwyafrif yr ysgolion yn y Fro yn ysgolion Cymraeg go iawn, yn hytrach nag ysgolion ffug dwyieithog sy'n lladd yr iaith.

05/08/2011

Mae'r bobl wedi siarad y bastards*

* Dyfyniad o araith consesiwn Dick Tuck yn dilyn ei golled yn etholiad Senedd California 1966; nid fy asesiad o bobl Llansanffraid Glan Conwy :-)

Dyma Ganlyniad is etholiad Ward Bryn Rhys Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy:

David Alwyn ap Huw Humphreys Annibynnol 112 (43%)
Daniel Worsley Ceidwadwr 197 (57%)

Llongyfarchiadau i Dan ar ei fuddugoliaeth a diolch yn fawr iawn i'r rhai a roddodd eu cefnogaeth i mi. Roeddwn i'n sâl boeni neithiwr am sut y byddwn yn gallu byw efo canlyniad lle'r oeddwn i wedi cael pedwar neu bump o bleidleisiau a Dan wedi ennill pedwar neu pum cant. Er fy mod yn amlwg yn siomedig nad wyf wedi ennill rwy’n fodlon na chefais fy mychanu.

Er imi ymgyrchu mewn nifer o etholiadau ers 1970 dyma'r tro cyntaf i mi rhoi fy mhen fy hun ar y bloc, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn brofiad pleserus ar y cyfan. Rwyf wedi gweld tyllau a chornelau o'r pentref nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli. Rwyf bellach yn gallu rhoi enwau i wynebau pobl rwyf wedi eu cyfarch ar y stryd dros bron i 20 mlynedd, heb yn iawn gwybod pwy ydynt.

Yr wyf wedi cael fy mrathu gan y chwilen ac yn ddi-os byddwyf yn sefyll eto pan ddaw'r cyngor cyfan fyny am etholiad mis Mai nesaf.

03/08/2011

Ar Goll mewn cyfieithu?

Dyma gyfieithiad o bost Peter Black yn amddiffyn ei gefnogaeth i ddefnyddio Google i gyfieithu cofnod y Cynulliad. Pe bai Mr Black yn gallu'r Gymraeg rwy’n gwbl sicr na fyddai'n dymuno i'r fath gachu ymddangos ger ei enw yn y Cofnod.

(*This bit is translated by a human –me! The following is a copy of a post made by Peter Black defending his support for using Google translate to translate the Assembly's Cofnod. If Mr Black was a Welsh speaker I'm sure that he wouldn't want such crap to appear by his name in the Cofnod.)

Ar Goll mewn cyfieithu?

Mae llythyr yn y Post y bore yma Western nad yw'n ddim yn iawn pen, ond hefyd yn camddeall y sefyllfa o ran cyfieithu y cofnod o drafodion (Cofnod) y Cyfarfod Llawn Cynulliad Cymru.

Mae'r awdur yn dechrau trwy gyfeirio at yr awgrym y gallai byddwn yn gallu cael fuly dwyieithog Cofnod gan ddefnyddio Google Translate. Gan dybio hyn yn sustainble, yna byddai'r cynnig hwn yn dod i mewn ar gost o tua £ 110,000 yn hytrach na'r £ 240,000 cost defnyddio cyfieithwyr allanol. Fodd bynnag, mae Mr Jones yn credu y sgwrs o'r fath yn arddangos 'meddylfryd Saesneg'.

Mae'n ysgrifennu: Mae'n hiliaeth pur i unrhyw un awgrymu neu i ddweud bod yr iaith Gymraeg "costau arian" sydd mor wyrodd â dweud bod yr arian costau iaith Saesneg yng Nghymru neu fod yr arian costau iaith Ffrangeg yn Ffrainc ac ati

Byddai pob gwlad ddemocrataidd ac unrhyw un sy'n adnabod y gwahaniaeth rhwng democratiaeth a rhagrith yn cytuno nad yw'r iaith a diwylliant cenedl yw, ac ni ellir ei gyfeirio at mewn termau ariannol (nid ar gyfer gwerthu). Yr unig ffordd i "arbed arian" ar gyfer y rheiny sydd wedi cael gwybod na allant siarad neu ddeall Cymraeg Gofynnwyd i dalu am y cyfieithiadau ac yn arbennig y cyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Beth lol! Yn gyntaf, nid oes cymhariaeth rhwng y sefyllfa'r Gymraeg gyda'r Ffrangeg yn Ffrainc. Nid yw Ffrainc yn wlad ddwyieithog ac felly nid chostau cyfieithu yn berthnasol. Yn yr un modd, oherwydd nad yw 76% neu lai o boblogaeth Cymru yn siarad yr iaith, yna unrhyw gyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn gan siaradwyr Cymraeg mae angen eu cyfieithu ar gyfer y cofnod.

Nid wyf yn dweud nad yw hyn yn sefyllfa o chwith. Mewn egwyddor Rwy'n cefnogi gofnod cwbl ddwyieithog, ond y mae ar hyn o bryd bod blaenoriaethau wedi eu cymhwyso. Onid yw'n symboleiddiaeth i ychydig ddarparu cyfieithiad yn syth? A fyddai adnoddau hynny heb gael eu defnyddio yn well wrth ddatblygu iaith ar draws Cymru? Mae'r rhai yn gwestiynau anodd bod angen i ni ateb ein boddhad cyn symud ymlaen.

Y ffaith yw bod arian cyhoeddus yn cael eu penderfyniadau gyfyngedig ac felly eu cymryd i gefnogi'r iaith Gymraeg, boed yn y Cynulliad neu yn y cyfryngau darlledu yn cael ei gydbwyso yn erbyn gofynion sy'n cystadlu am yr arian, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, ysgolion, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

Nid yw hon yn ddadl fasnachol, ei fod yn un economaidd. Nid yw ychwaith yn rhagfarnu unrhyw un o'r penderfyniadau y mae'n rhaid eu cymryd gan Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Cynulliad. Yn hytrach mae'n ceisio eu rhoi mewn cyd-destun ac yn nodi bod ystyriaethau ariannol yn chwarae rhan fel y mae gwerth am arian. Yr hyn sy'n bwysig yw bod penderfyniadau'n cael eu cymryd o fewn yr adnoddau sydd ar gael er gwneud y gorau o fudd-dal ar gyfer yr iaith Gymraeg.