07/05/2010

Canlyniad Arfon - eiliad o ryddhad

Plaid Cymru wedi enill o dua 1.5K
Llongyfariadau Hywel.

Ond sedd ymylol iawn am y ddyfodol.

Noson Trychinebus i'r Blaid? Etholiad 2010 3

Mae'n edrych fel noson drychinebus i'r Blaid. Wedi methu ennill Môn, Llanelli, Aberconwy, na Cheredigion. Gobeithio bod Arfon yn saff!

Os na all Plaid Cymru ennill seddi mewn hinsawdd sydd yn gweld y Bleidlais Llafur yn chwalu, heb fanteisio ar y fath sefyllfa, mae'n rhaid i Blaid Cymru ail feddwl ei strategaeth etholiadol.

06/05/2010

Etholiad 2010 2

Ydy Nia Griffiths newydd gydnabod ei bod hi wedi colli yn Llanelli ar S4C?

Diweddariad
Mae Cai yn sibrwd bod Llafur wedi cadw'r sedd

Y Sibrydion o Aberconwy

Wedi siarad â chefnogwyr pob un o'r prif bleidiau sydd wedi bod yn ymgyrchu yn Aberconwy, y consensws yw y bydd yn agos, ond mae'n debyg mae Guto fydd yr AS nesaf.

Cofiwch Bleidleisio.........

05/05/2010

Amserlen Arfaethedig Datgan Canlyniadau Cymru

Rwy'n ddiolchgar i Vaughan Roderick am fy nghyfeirio at Amserlen Arfaethedig Datgan Canlyniadau'r etholiad gan y PA. Mae'r cyfan o'r seddi Cymreig am ddatgan yn oriau man bore dydd Gwener. Cyn belled nad oes angen ail gyfrif neu fod problemau eraill yn codi dyma'r amserau disgwyliedig:

Rhwng 1:00am a 1:30am
Pen-y-bont
Ogwr
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn

1:30-2:00
Arfon
Islwyn

2:00-2:30
Brycheiniog a Maesyfed
Trefaldwyn
Torfaen
Wrecsam

2:30-3:00
Aberconwy
Blaenau Gwent
Canol Caerdydd
Gogledd Caerdydd
De Caerdydd a Phenarth
Dwyfor Meirionnydd
Merthyr Tydfil & Rhymni
Gorllewin Casnewydd
Dwyrain Casnewydd
Preseli Penfro
Bro Morgannwg

3:00-3:30
Caerffili
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Gorllewin Caerdydd
Ceredigion
De Clwyd
Gorllewin Clwyd
Cwm Cynon
Gwyr
Llanelli
Mynwy
Pontypridd
Rhondda
Gorllewin Abertawe
Dwyrain Abertawe

3:30-4:00
Aberafan
Alun & Glannau Dyfrdwy
Delyn
Glyn Nedd

Cytuno i ymatal mewn senedd grog?

Oherwydd datganoli anghyfartal y Deyrnas Gyfunol mae nifer o bethau sydd wedi eu datganoli i Gymru, Gogledd yr Iwerddon a'r Alban yn cael eu penderfynu arnynt ar gyfer Lloegr gan San Steffan.

Hyd yn oed os oes senedd grog pan wawrier bora Gwener, mae'n bron yn sicr bydd gan y Ceidwadwyr mwyafrif clir yn Lloegr.

Dyma rywbeth sydd heb gael ei ystyried, hyd yn oed gan y cyfryngau yng Nghymru a'r Alban, wrth holi'r Pleidiau Cenedlaethol parthed eu hopsiynau mewn senedd grog. I gael consesiynau gan lywodraeth Geidwadol leiafrifol, hwyrach na fydd raid i Blaid Cymru, yr SNP a phleidiau Gogledd yr Iwerddon cynnig unrhyw fath o gefnogaeth i'r llywodraeth - dim ond rhoi addewid i beidio a phleidleisio ar unrhyw achos datganoledig. Rhywbeth y maent wedi bod yn dueddol o wneud yn ystod y llywodraeth ddiwethaf.

03/05/2010

Yr Arweinwyr Cymreig ar y BBC

Mae'n rhaid dweud fy mod i wedi fy siomi ar yr ochr orau efo dadl yr Arweinwyr Cymreig ar y BBC heno. Yn wahanol i'r rhai Prydeinig roedd y drafodaeth yn ddiddorol ac roedd gan bob un o'r cynrychiolwyr rhywbeth werth ei gyfrannu i'r drafodaeth.

Yn hytrach na theimlo bod un cynrychiolydd o un o'r pleidiau wedi ennill, fy nheimlad i oedd un o falchder bod pobl Cymru yn cael eu sbwylio o ran ddewis mor wych o ran pob un o'r pedwar prif blaid ac ambell un o'r pleidiau llai.

Pan fo'r cyfryngau Llundeinig yn llawn o hanesion o golli ffydd mewn gwleidyddiaeth, a chynrychiolwyr yno i gael eu cael yn hytrach na chynrychioli'r bobl, roedd gweld y prif arweinwyr Cymreig yn dadlau am yr hyn sydd orau i Gymru ac yn gwneud hynny o'r galon, fel chwa o awyr iach trwy'r ymgyrch etholiadol cyfredol.

Roedd gan Peter Hain mynydd i ddringo, mae'n anodd i gynrychiolydd plaid sydd wrth y llyw i ofyn am ragor o amser i wneud yr hyn nad ydoedd wedi ei wneud yn y gorffennol, yn arbennig o anodd pan fo'r etholiad yn cael ei gynnal mewn amgylchiadau pan fo llawer yn credu bod y wladwriaeth yn y cac. Fe lwyddodd Peter yn anhygoel i amddiffyn Llafur, o dan y fath amgylchiadau.

Os mae anawsterau teithio neu beidio oedd yn gyfrifol am Nick Bourn yn cael gwahoddiad i gynrychioli'r Ceidwadwyr, neu'r ffaith bod Cheryl Gillian wedi bomio yn y ddwy ddadl flaenorol, rwy'n sicr bydd y Torïaid yn falch bod Nick wedi cymryd ei lle. Fe lwyddodd i gyflwyno safbwynt y Ceidwadwyr mewn modd Unoliaethol, Cymreig a lleol yn benigamp.

Yn y ddwy ddadl Gymreig flaenorol yr oeddwn yn teimlo bod Kirsty Williams wedi or ecseitio weithiau, yn gwillyd ac yn cael anhawster i gyflwyno pwyntiau digon sylfaenol mewn modd didwyll a rhesymegol. Roedd ei chyfraniadau yn brennaidd ac wedi eu hymarfer o flaen llaw. Ond heno roedd hi ar ben ei gêm, wedi taflu'r sgript ac yn dweud ei ddweud gydag argyhoeddiad.

Ac Ieuan Wyn! Wow! Er nad ydyw ddim ond yn Ddirprwy Brif Weinidog roedd o'n ymateb fel Arlywydd! Roedd ei wybodaeth o'r ffeithiau, ei gallu i gyfaddawdu lle'r oedd cyfaddawd yn ddoeth ac i sefyll ar wahân i'r tri arall lle'r oedd angen barn annibynnol yn wefreiddiol wych.

Os oes angen rhoi marciau byddwn yn dweud mai Ieuan wnaeth ennill, Nick yn ail, Kirsty yn drydedd, a Peter yn olaf, ond mae dim ond trwch blewyn gwybedyn oedd y gwahaniaeth rhwng Ieuan a Peter.

Rhaglen arbennig - y gwir enillwyr oedd BBC Cymru a Betsan Powys - am greu raglen werth ei wylio - Llongyfarchiadau i'r ddau.

01/05/2010

Mae'r Bleidlais yn y Post.

Gan nad ydwyf yn gallu gyrru bellach, a gan fy mod yn byw tri chwarter milltir i ffwrdd o fy ngorsaf pleidleisio leol, mi ofynnais am bleidlais post eleni. Henaint ni ddaw ei hunan!

Profiad rhyfedd oedd pleidleisio y tu allan i'r blwch pleidleisio arferol.

Rhwng etholiadau San Steffan, Ewrop, Y Cynulliad, Y Cynghorau Sir a'r Cynghorau Plwyf a sawl refferendwm rwy'n amcangyfrif fy mod wedi pleidleisio tua 27 o weithiau mewn blwch pleidleisio, roedd 'na rywbeth anghynnes braidd parthed rhoi'r groes yn y gegin yn hytrach na'r bwth eleni. Doedd o ddim yn teimlo'n iawn!

Dydd Iau nesaf pan fydd pawb arall yn pleidleisio go iawn mi fyddwyf yn teimlo'r golled o beidio bod yn rhan o'r ddefod. Ac o hyn i Ddydd Iau yn teimlo fel clystfeiniwr ar bob sylw sy'n ymwneud a'r etholiad, ac yn dwyllwr wrth geisio perswadio eraill i newid eu teyrngarwch.

Ond dyna fo yr wyf wedi pleidleisio ar gyfer fy nethol ymgeisydd. Mae'r fôt yn y post ac fe gaiff ei gyfrif. Ni fydd modd newid fy meddwl, gan fod fy meddwl a chroes ar ei chyfer yn barod, ond rwy'n teimlo'n drist braidd fy mod i allan o'r gêm bellach!

30/04/2010

Rwy'n gyfoethog - hwre!

Yr wyf yn gyfoethog, yr wyf yn gwybod hyn oherwydd bod un o brif gyhoeddiadau ar yr economi yn ddweud gyda'i holl awdurdod fy mod yn gyfoethog.

Yn ôl cylchgrawn The Economist Welsh-medium schools offer a way for richer parents to enjoy academic selection. Gan fod fy mhlant yn ddisgyblion mewn ysgol Cymraeg mae'n dilyn yn anorfod, yn ôl The Economist, fy mod i gan hynny ymysg y rhieni mwyaf cyfoethog hynny. Rwy'n mawr obeithio bod rheolwr fy manc yn ddarllenydd brwd o'r Economist ac y bydd o'n ystyried cyfoeth addysg fy mhlant wrth iddo ymdrin â fy ngorddrafft.

Diolch i'r arbenigwr economaidd yr Athro Dylan Jones-Evans am ddwyn fy sylw i'r erthygl hynod. Pan symudodd Dylan a'i deulu o Fangor i Gaerdydd cafodd trafferthion cael lle mewn ysgol Cymraeg i'w plantos - dim yn ddigon cyfoethog mae'n rhaid.

28/04/2010

Yr Economi - ydan ni Mewn Twll neu'n cael ein Twyllo?

Efo'r tair plaid fawr Brydeinig yn mynnu bod sefyllfa'r economi yn gwneud toriadau mawr yng ngwariant cyhoeddus yn anorfod, hawdd credu mai polisi toriadau yw'r unig opsiwn. Yn wir mae'r cyfryngau, hefyd, yn selio pob trafodaeth ar yr economi ar y rhagdybiaeth bod toriadau yn anorfod, fel gwnaeth CF99 heno.

Ond mae yna ambell i sylwebydd sydd ddim yn canu'r un gan ac yn honni bod modd amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag toriadau gwaeth na rhai Thatcher heb i wledydd Prydain troi'n fethdalwr.

Mae'r ddadl sydd yn cael ei roi gan y Cenedlaetholwr Cernywig Cornish Zetetics yn un wirioneddol gwerth ei ddarllen.

Ymysg y pwyntiau y mae o'n gwneud yw:

  • Nad ydy'r lefelau presennol o ddyled yn hanesyddol uchel ac mae modd eu rheoli a'u gostwng yn araf bach wrth i'r economi tyfu allan o'r dirwasgiad.
  • Bod y swm o £80 biliwn yn ffigwr sudd wedi ei ddewis ar fympwy, pam dim £60 biliwn neu £40 biliwn neu hyd yn oed £100 biliwn.
  • Bod lefelau treth ar hyn o bryd yn isel iawn i gymharu i'r dyddiau a fu pan oedd y gyfradd uchaf yn 83%.
  • Mae lol yw dweud bod Prydain mewn twll ariannol - dydy hi ddim mae hi'n parhau i fod ymysg y gwladwriaethau cyfoethocaf yn y byd ac fe gynyddodd gwerth ariannol y 1000 cyfoethocaf o £77 biliwn llynedd.

Traethawd gwirioneddol werth ei ddarllen yn ei gyfanrwydd.
Broke? Or just fooled? How to solve the debt ‘problem’.

26/04/2010

Mae Guto Bebb yn Gachgi!

Mae croeso i unrhyw un gwneud sylwadau ar flog Yr Hen Rech Flin. Oni bai eu bod yn enllibus neu yn groes i gyfraith bydd y sylwadau yn sefyll. Os ydynt yn dangos fy mod wedi gwneud camgymeriad yn fy sylwadau, os ydynt yn fy nghyhuddo o fod yn wirion yn fy asesiad o sefyllfa wleidyddol, os ydynt yn honni y dylwn wedi rhoi mwy o ddŵr yn y chwisgi cyn dweud fy nweud, mae'r sylwadau yn cael eu cyhoeddi.

I mi dyma sylwedd blog, lle i ddweud fy nweud a lle i eraill gwneud sylwadau i wrthddweud yr hyn a ddwedwn. Yn anffodus, er gwaethaf imi wneud sylwadau ar y saith post diweddaraf ar flog Guto nid oes un ohonynt wedi eu cyhoeddi yno.

Os oes gan Guto ofn sylw beirniadol, ofn anghytundeb ac ofn dadl a oes ganddo'r sylwedd i fod yn AS dros holl aelodau ei etholaeth?

24/04/2010

Gŵyl San Siôr hapus

Sori braidd yn hwyr ond Gŵyl San Siôr hapus am ddoe!



Fel chwarter Sais hoffwn weld Lloegr yn wlad rydd, ac annibynol.

There'll always be an England and England will be Free if England means as much to you ag y mae Lloegr, wir yr, yn golygu i mi!

23/04/2010

Enill efo 10%?

Mae gan Vaughan post heddiw sydd yn nodi pa mor isel gall y bleidlais fuddugol bod mewn ambell i etholaeth. Mae o'n nodi bydd modd i fuddugwr Ynys Môn derbyn cyn lleied a 27% o'r bleidlais. I brofi ei bwynt mae Vaughan yn tynnu sylw at y ffaith bod Lesley Griffiths wedi ennill sedd Cynulliad Wrecsam gyda dim ond 28.8% o'r bleidlais.

Mae'r gwirionedd am bleidlais Wrecsam yn waeth nag y mae Vaughan yn nodi. Dim ond 38% o bleidleiswyr Wrecsam aeth allan i bleidleisio yn etholiad 2007, gan hynny fe enillodd Lesley ei sedd efo cefnogaeth lai na un allan o bob deg o etholwyr yr etholaeth.

Cafodd Lesley 5,633 o bleidleisiau yn 2007. Mewn ymateb i bost blaenorol fe nododd Arfon Jones (Plaid Wrecsam) Cafodd Elystan 6,500 neu 12.2% o'r bleidlais ym 1959 . Cafodd Plaid Cymru bron i fil o bleidleisiau yn fwy, hanner canrif yn ôl, na chafodd y buddugwr yn yr etholiad diwethaf i'r Cynulliad.

Dwi ddim yn nodi'r ystadegyn yna er mwyn ceisio dweud bod modd i'r Blaid cipio Wrecsam yn 2011 (er ei fod yn nod gwerth gweithio tuag ato), ond i nodi'r perygl o ganran mor fychan o'r boblogaeth yn pleidleisio. Ym 1959 yr oedd Plaid Cymru yn blaid fechan ddi-nod ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru. Os oedd plaid ymylol yn gallu cael digon o bleidleisiau hanner canrif yn ôl sydd yn ddigonol i ennill etholiad bellach fe all digwydd eto yn 2011. Dydy o ddim y tu hwnt i bob posibilrwydd y gall plaid fel y BNP ennill mewn rhai etholaethau pan nad oes angen cefnogaeth dim ond 10% o'r etholwyr er mwyn cael buddugoliaeth.

Pensiynau

Un o'r meysydd lle'r oedd y tair plaid fawr yn gytûn yn nadl neithiwr oedd yr angen i ail gysylltu pensiynau sylfaenol yr henoed a chyfartaledd enillion y boblogaeth cyffredinol.

I gôr symleiddio, os ydy cyfartaledd cyflogau yn codi 10% bydd pensiynau yn codi 10% hefyd.

Dros chwarter canrif yn ôl, bellach, fe dorrodd llywodraeth Thatcher y cysylltiad rhwng pensiynau ag enillion.

Pe na bai'r cyswllt wedi ei dorri byddai'r pensiwn heddiw mwy na dwywaith a hanner eu gwerth cyfredol.

A dyna wendid polisïau’r tair plaid.

Bydda ail gysylltu'r pensiwn a chyflogau heddiw, heb wneud yn iawn am y diffyg cysylltiad am chwarter canrif yn golygu bod y pensiwn yn parhau ar lefel cenhedlaeth yn ôl, yn hytrach nag ar y lefel y ddylid bod pe na bai'r cysylltiad wedi ei dorri yn y lle cyntaf

Ar ben hynny mae son am rewi cyflogau yn y sector gyhoeddus a thystiolaeth bod cyflogau'r sector breifat yn mynd i lawr yn yr argyfwng ariannol presennol. Canlyniad anorfod byddid bod gwerth pensiynau yn llai eu gwerth o lawer

Ydy fy nhin yn edrych yn fawr yn hon Guto?

Mae Guto Bebb yn hogyn annwyl a ffein.

Pan fydd o'n curo ar ddrysau pobl ym Mhenmachno, Betws a Chapel Curig bydd pobl barchus y plwyfi hynny yn ei drin gyda pharch ac yn ymddwyn yn groesawgar tuag ato gan ei fod yn hogyn mor annwyl a ffein.

Prin eu bod am ei gyfarch efo dos o 'ma'r baw isa'r domen, byddwn i byth yn pleidleisio i ti hyd yn oed pe bai Satan ei hun yn ymgiprys yn dy erbyn yn enw Plaid Cymru / Llafur / Rhyddfrydwyr. Bydda bobl cefn gwlad byth yn dweud y fath beth. Cafodd Guto'r ymateb croesawgar parchus disgwyliedig i bob ymgeisydd.

Y drwg ydy eu bod yn ymddwyn yr un mor barchus tuag at yr ymgeiswyr eraill hefyd. Mae Ronnie a Mike a Phil wedi derbyn ymatebion yr un mor wresog yn yr un pentrefi ac y mae Guto wedi ei dderbyn.

Roedd Guto yn dal i wisgo trywsus cwta pan es i ati i ganfasio am y tro cyntaf. Roedd yr ymateb a gefais mor barchus, mor wresog, mor gefnogol ag imi gredu yn ddiamheuaeth bod fy ymgeisydd am ennill gyda mwyafrif mawr. Cefais fy siomi, fe ddaeth yn olaf. Ac wedi canfasio mewn etholiadau ac isetholiadau ar bob lefel o lywodraeth yr wyf wedi cael fy siomi mwy o weithiau nac ydwyf wedi cael fy mhlesio o bell ffordd.

Y gwir yw bod pobl yn gelwyddog. Nid yn gelwyddog cas ond yn gelwyddog parchus. Yn yr un modd ac mae dyn yn ymateb i wraig sydd yn gofyn ydy fy nhin yn edrych yn fawr yn hon? Yn dweud Na chariad! O herwydd y bydda ddweud Fel mae'n digwydd mae dy din yn edrych fel cefn bws yn beth hynod wirion i ddweud.

Hwyrach bydd Ysbyty Ifan yn rhoi cefnogaeth 100% i'r Ceidwadwyr eleni, hwyrach bod 100% o bobl plwy' Penmachno yn credu bod gan Guto tin fach bert. Ond peidied a chyfrif arni cyn Mai 7fed.

22/04/2010

Pam bod dim son am bolisi prisio ffyrdd y Rhydd Dems?

Yn nadl arweinwyr Cymru nos Fawrth ac ar CF99 neithiwr bu trafod am bris petrol. Yn y ddwy raglen cafwyd geiriau o gydymdeimlad gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd am y problemau mae gyrwyr a busnesau yn wynebu o herwydd pris uchel betrol, ond cafwyd dim crybwyll am bolisi'r blaid i godi bris am ddefnyddio'r ffyrdd.

Yn ôl y BBC mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd am godi treth o rhwng 8c a 12c am bob milltir mae cerbyd yn trafeilio ar y lonydd.

Hwyrach fy mod yn sinig, ond tybed os yw tawedogrwydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd Cymreig ar y polisi o herwydd y ffaith bod tri o'r seddi maent yn eu hamddiffyn yn y Gymru wledig, lle byddai polisi o'r fath yn profi yn hynod amhoblogaidd.

21/04/2010

Na! – Nid ydwyf yn sefyll dros y Blaid Lafur

Pob hyn a hyn byddwyf yn cael fy mhlagio gan drolied ar fy mlog Saesneg. Pobl sydd yn credu eu bod wedi canfod rhyw gyfrinach fawr o wybod mae Humphreys yw fy enw teuluol.

Mae'r ffyliaid yn credu fy mod yn ceisio cuddio fy hunaniaeth neu yn cywilyddio, rhywsut, o gael fy adnabod fel yr hwn ydwyf. Y gwir yw fy mod wedi defnyddio'r enw Alwyn ap Huw yn gyhoeddus ers dros bymtheng mlynedd ar hugain o herwydd bod yna Alwyn Humphreys, llawer mwy cyhoeddus na fi, yn y byd Cymraeg a bod defnyddio'r enw yn creu dryswch o ran adnabyddiaeth yn hytrach nag hunaniaeth.

Ers i Lafur cyhoeddi enw eu hymgeisydd seneddol yn Nwyfor Meirionnydd yr wyf wedi cael llond bol o dderbyn e-byst, llythyrau trwy'r post, galwadau ffôn a sylwadau ar y stryd yn fy llongyfarch / fy nghondemnio / fy holi am sefyll yn enw Llafur yn Nwyfor Meirionnydd. Rhai gan aelodau'r teulu a chyfeillion agos, pobl dylent wybod yn well.

Er mwyn cael gwared ag unrhyw ddryswch hoffwn nodi mae NID FI yw'r Alwyn Humphreys ymgeisydd Llafur Dwyfor Meirionnydd.

Rwy'n mawr obeithio na fydd neb yn rhoi pleidlais i Alwyn Humphreys oherwydd eu bod yn credu mai myfi yw efe. Rwy'n ansicr sut byddwyf yn teimlo o glywed bod yr Alwyn Humphreys arall wedi colli pleidleisiau oherwydd y dryswch :-(

18/04/2010

Darllediad gwleidyddol MK

Gan nad yw'r BBC yn cydnabod bod Cernyw yn wlad ond yn ei drin fel sir Seisnig does gan Mebyon Kernow ddim hawl i gael darllediad gwleidyddol, gan nad ydyw yn sefyll ymgeiswyr mewn digon o seddi Seisnig. Bydd y blaid yn sefyll ymgeiswyr yn y chwe sedd Cernywig.

Dyma ei ddarllediad sydd wedi ei wneud ar gyfer YouTube: