Yr wyf mewn sefyllfa od parthed fy
nosbarthiad fel Cymro Cymraeg. Yn sicr nid ydwyf yn
Gymro Cymraeg Iaith gyntaf. Mi gefais fy magu i siarad Saesneg fel iaith yr aelwyd. Yr wyf yn ei chael hi'n haws i siarad, deall, darllen ac ysgrifennu yn y Saesneg nag ydwyf yn y Gymraeg.
Ar y llaw arall nid ydwyf yn
ddysgwr chwaith. Dwi ddim yn cofio adeg pan nad oeddwn yn ymwybodol o fodolaeth y Gymraeg nac yn ddeall rhywfaint o'r iaith.
Un o fy nghofiannau cyntaf yw bod yn yr wythnos gyntaf yr ysgol fach a'r athrawon yn penderfynu pwy oedd i fynd i'r ffrwd Cymraeg a phwy oedd i fynd i'r ffrwd Saesneg.
Roedd yr holl blant newydd yn sefyll mewn rhes a'r athrawon yn eu dosrannu. Cymru, Cymru, Saeson, Cymru, Saeson ac ati. Yr oeddwn yn ddeall ystyr y gair
Cymru, pobl o'r un cenedl a fi; ond y gair
arall yr oeddwn yn
clywed oedd
Siswrn teclyn i dorri pethau yn fan. Pan gefais fy nedfrydu i'r
siswrn mi griais, mi stranciais ac mi bisais fy nhrowsus, ac roedd rhaid i Mam dod i'm casglu o'r ysgol am fod yn hogyn drwg.
Yn ôl y drefn arferol yn y dyddiau hynny chwip din, a gwely heb swper, oedd y canlyniad am imi godi cywilydd ar y teulu. Y bore nesaf roeddwn yn nosbarth y
Siswrn, yn casáu'r lle roeddwn ond yn casáu'r Gymru mwy byth. (Yn arbennig hogyn cas ofnadwy o'r enw [Dylan] Iorwerth - lle mae o heddiw tybed?!).
Trwy i Dad defnyddio'r Gymraeg i ddweud wrth Nain
bod yr hogyn yn dal i gredu mewn Siôn Corn, cefais wybod nad oedd Siôn Corn yn bod. Diben y Gymraeg oedd siarad mewn iaith yr oeddynt yn tybied nad oeddwn yn ei ddeall!
Wrth imi brifio mi gefais fy annog i ddefnyddio'r Gymraeg oedd gennyf gan nifer o bobl, rhai'n enwog megis Dafydd Elis Thomas ac Emyr Llywelyn, rhai yn llai amlwg megis Mel (beiol) Williams, John Owen, John Hughes (Dai Daps) a'r Parchedigion Cyril ac O.M. Lloyd.
Oherwydd y fath anogaeth yr wyf, bellach, yn weddol hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac mewn ysgrifen, ond yr wyf yn ymwybodol iawn bod yna frychau mawr yn fy Nghymraeg. Mae Dei Tomos, Radio Cymru, wedi awgrymu mae gwell byddid imi siarad Saesneg yn hytrach na
llofruddio'r iaith Gymraeg pob tro byddwyf yn agor fy ngheg a bod fy nhreigliadau yn ymdebygu i Bolo Mints - twll ym mhob un! Coc oen am ddweud y fath beth ond mae ei bwynt yn un ddilys! Mae fy Nghymraeg yn wael - mae angen ei wella!
Mae gormod o arian yn cael ei wario ar
ddysgu Cymraeg i ddieithriaid. Os yw'r iaith Gymraeg am barhau mae'n rhaid cadarnhau defnydd y Gymraeg ymysg siaradwyr cynhenid yr iaith ac ymysg pobl, fel fi, sydd wedi
codi'r Gymraeg yn naturiol!
Yn ôl y cyfrifiad mae 33% o boblogaeth fy mhlwyf yn gallu'r Gymraeg - mae fy mhrofiad yn dweud mai llai na 5 y cant sy'n defnyddio'r Gymraeg. Rwy'n credu bod mwy o angen cael y 33% i ddefnyddio'r Gymraeg yn feunyddiol yn hytrach na chael gwersi cychwynnol i fewnfudwyr newydd. Ond hyd y gwelaf mai'r cyfan o'r arian sy'n cael ei wario yma ar yr iaith yn cael ei anelu at ddysgwyr newydd. Nid oes dima yn cael ei ddefnyddio tuag at gadarnhau Cymraeg y traean sydd yn honni eu bod yn Gymry Cymraeg yn barod, ond eto'n ansicr eu defnydd o'r Gymraeg!
Gwarth a gwastraff yw defnyddio'r holl adnoddau prin i ddysgu 12 o bobl elfenau sylfaenol iaith mae mil o drigolion y plwyf yn honni eu bod yn eu deallt, ond yn dangos diffyg hyder i'w defnyddio!