15/04/2007

Hysbysebion Saesneg Alun Ffred

Mae Martin Eaglestone yn tynnu sylw at yr erthygl yma yn y Western Mail:

LABOUR has called on Cymdeithas yr Iaith and Plaid Cymru to organise a picket at the campaign office of the Plaid candidate for Arfon.
The call came in response to Alun Ffred Jones's decision to take adverts in a local paper in English only. Now Labour's Martin Eaglestone, who will contest the seat on May 3, has called for Plaid Cymru and the language pressure group to organise a protest.
Mr Eaglestone said, "I have been a Welsh learner so I understand that bilingual material is really important in Arfon. I fail to understand why Plaid Cymru has not produced bilingual adverts.
Mr Jones, who is AM for the Caernarfon constituency which will disappear after boundary changes, countered by saying, "In four of the local Welsh language papurau bro we have printed Welsh-only adverts.


Rhaid cyfaddef fy mod innau hefyd yn teimlo yn anghynnes braidd am benderfyniad Alun Ffred (o bawb) i gyhoeddi hysbysebion uniaith Saesneg.

Prin fod y ddadl bod hysbysebion yn y Papurau Bro i'w cyhoeddi yn uniaith Gymraeg yn dal dŵr fel cyfiawnhad dros hysbysebion uniaith Saesneg mewn papurau lleol Saesneg sydd yn cael eu darllen gan niferoedd o bobl Cymraeg eu hiaith, a lle fu hysbysebion cyhoeddus dwyieithog yn "norm" ers sawl flwyddyn.

Yr hyn sydd yn fy nghorddi, ta waeth, yw'r ffordd mae Martin Eaglestone yn cam-ddefnyddio achos yr iaith dim ond er mwyn achub cyfle i ladd ar wrthwynebydd gwleidyddol.

Pe bai Eaglestone, wir yr, yn credu bod Alun Ffred wedi gwneud cam a'r iaith mi fyddai'r un mor llawdrwm ar y sawl yn ei blaid ef ei hun sydd yn dangos diffyg parch i'r iaith - gan gynnwys Alun Pugh (gweinidog, honedig, yr iaith Gymraeg).

Os yw Eaglestone yn credu ei fod yn iawn i bicedu swyddfeydd y Blaid yn Arfon i brotestio yn erbyn y sarhad honedig i'r iaith gan Alun Ffred pam na welwyd o'n picedu, na chwyno, nac ymgyrchu yn erbyn unrhyw sarhad arall tuag at yr iaith Gymraeg?

Os ydy Martin Eaglestone mor frwdfrydig dros ehangu defnydd yr iaith paham ei fod yn sefyll etholiad ar faniffesto'r unig blaid sy'n gwrthod deddf iaith newydd?

Nid oportiwnistiaeth etholiadol yw cefnogi'r iaith Gymraeg, Martin bach, ond ymrwymiad.

Mae ymrwymiad Alun Ffred a Phlaid Cymru, ymrwymiad Glyn Davies a'r Blaid Geidwadol ac ymrwymiad Elinor Burnham a'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r iaith canwaith mwy nag ydy unrhyw ymrwymiad gan neb o'r Blaid Lafur - gan gynnwys Martin Eaglestone a'i bos Rhodri mae'r Iaith yn boring Morgan!

14/04/2007

Ymosodiadau hiliol. Un ffiaidd ac un darbwyllol

Dydd Mercher diwethaf adroddwyd am ymosodiad ffiaidd ar ddynes oedd yn mynd a'i phlentyn blwydd oed am dro yn ei phram trwy barc yng Nglasgow.

Taflwyd cerrig ati gan bedwar glaslanc, gorfodwyd y ddynes i'r llawr a chafodd ei chicio yn ei phen. Ymosodwyd ar y fam mewn modd rhywiol ac yna bu ymgais gan un o'r llanciau i ymosod yn rhywiol ar y babi bach. Er na lwyddodd y llabwst anghall yn ei ymgais, cafodd y babi druan ei chleisio'n ddifrifol. Yn ffodus fe lwyddodd y fam i achub y plentyn a ffoi oddi wrth yr ymosodwyr am eu heinioes.

Be sydd gan hyn i wneud a gwleidyddiaeth Cymru? meddech.

Hyn:

Mi glywais am yr ymosodiad ciaidd yma ar y ddynes o Algeria a'i phlentyn ar newyddion yr Alban wrth geisio cadw golwg ar hynt a helynt etholiadol yr SNP. Heno ar ôl newyddion yr Alban darlledwyd Darllediad Gwleidyddol gan y BNP ar gyfer Senedd yr Alban.

Roedd y darllediad yn rhesymegol, yn ddarbwyllol, yn llawn perswâd ac yn ddeniadol ei ddadl. Ond neges resymegol y blaid ffiaidd yma yn erbyn mewnfudwyr croenddu oedd yr un neges ar un a roddwyd, mewn modd mor di-drugaredd, i'r fam ifanc a'i baban bach diniwed yn y parc yng Nglasgow

Dydy Darllediad Gwleidyddol y BNP yng Nghymru heb ymddangos eto, fe ddaw yn ystod y dyddiau nesaf. Mae'n siŵr y bydd mor slic ac apelgar a'r darllediad Albanaidd.

Mae'n bwysig bod pob un ohonom yn sicrhau bod pobl Cymru yn hollol ymwybodol mae ffieidd-dra hiliol a threisiol yw gwir neges y BNP, nid y ffug neges neis-neis a chaiff ei mynegi ar y darllediad swyddogol.


Mwy am ymgyrch y BNP yn etholiadau lleol Lloegr

13/04/2007

Democratiaid Lloegr ym Mynwy

Diolch i Sanddef am fy atgoffa o fwriad Democratiaid Lloegr i sefyll yn etholiadau'r Cynulliad er mwyn hawlio Mynwy. Rhywbeth chwerthinllyd ar un olwg, ond o gofio hanes rhannu'r Iwerddon, yn gynsail beryglus tu hwnt.

Hen gragen yw'r lol bod Mynwy yn rhan o Loegr, un sydd heb unrhyw sail hanesyddol o fath yn byd. O edrych ar gofrestri plwyf i'r dwyrain i'r Fynwy gyfoes mae'n amlwg bod llefydd yn swydd Henffordd hyd at Rhos Gwy (Ross on Wye) wedi bod yn rhan o'r Fro Gymraeg hyd y 1700au.

Esgus Democratiaid Lloegr am sefyll ym Mynwy yw
The Nationality of Monmouthshire has been a matter of debate since 1284.
In 1960’s the then Labour and Conservative goverments conspired to put Monmouthshire into Wales, partly to dilute the growing Welsh Nationalism in Wales generally.

Lol botes maip. Hyd ddeddfau uno 1536 doedd gan Fynwy dim o'r hawl i ddanfon cynrychiolwyr i senedd Lloegr gan ei fod yn rhan o Gymru. Mae'n wir dweud bod Mynwy wedi bod yn rhan o Loegr ar ôl 1536, ond roedd Sir Gaernarfon a Sir Gaerfyrddin hefyd yn rhan o Loegr o dan yr un deddfau. Ond mae pob deddf Gymreig ers hynny o ddeddf cyfieithu'r Beibl ymlaen wedi cynnwys Mynwy fel rhan o Gymru.

Y gwir reswm pam bod yr ED yn sefyll ymgeiswyr yng Nghymru yw er mwyn talu pwyth yn ôl i Blaid Cymru am eu snybio. Yn 2004 cafodd Elfyn Llwyd, arweinydd seneddol y Blaid gwahoddiad i annerch cynhadledd yr ED ac i drafod cynghreirio rhwng yr ED, PC a'r SNP ar gyfer etholiad 2005. Gwrthodwyd y cais gan Elfyn oherwydd y ffaith bod ED yn wrthwynebus i'r Undeb Ewropeaidd tra bod PC ac SNP yn credu mewn annibyniaeth yn Ewrop.

Rwy'n credu bod Elfyn wedi gwneud camgymeriad. Mae'n fanteisiol i'r achos cenedlaethol Cymreig, Albanaidd a Chernyweg i feithrin yr achos cenedlaethol Seisnig. Mater i'r Saeson yw penderfynu, yn annibynnol i ni, eu perthynas ag Ewrop. Dyna, wedi'r cwbl, yw hanfod annibyniaeth.

Camgymeriad fwy byth oedd ymateb biwis Democratiaid Lloegr i sefyll ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad.

Mae ED yn sefyll ymgeiswyr mewn tair etholaeth: Mynwy, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Casnewydd. Ond mae etholaethau Torfaen, Islwyn a Blaenau Gwent hefyd yn rhan o'r hen sir Fynwy - does dim son am ymgeiswyr ED yn yr etholaethau yma. Ar gost o £500 yr ernes, a dim ond 4 sedd ar gael mae yna 10 o ymgeiswyr ED ar restr y De Ddwyrain! Son am afradu arian. Pe bai 'r ED yn ennill 100% o'r Bleidlais yn y tair etholaeth a 100% o'r bleidlais ranbarthol byddent yn dal i golli rhywfaint o'u harian ernes.

Rwy'n gweld yr holl hanes yn pathetic. Mi fyddwn wrth fy modd yn gweld Democratiaid Lloegr yn cael llwyddiant etholiadol yn Lloegr. Pe bai'r arian ar amser mae'r ED yn afradu ym Mynwy wedi ei wario i gefnogi ymgeiswyr yn etholiadau cyngor Lloegr bydda fodd i'r blaid cael troed yn y drws trwy sicrhau ethol ambell i gynghorydd. Peth llawer mwy cadarnhaol i'r achos cenedlaethol yn gyffredinol nag afradu arian ac amser ar greu anghydfod di angen rhwng achosion cenedlaethol y ddwy wlad.

This post in English: Miserable Old Fart: The English Democrat Invasion

12/04/2007

Dylanwad fy mlog

Ar ôl ddarllediad gwleidyddol diwethaf Plaid Cymru mi awgrymais:

os oes modd, mi fyddwn yn awgrymu bod y Blaid yn ail-ddarlledu'r un hysbyseb ym mhob un o'i slotiau PPB rhwng hyn a'r etholiad.


Heno ail-ddarlledwyd y PPB dan sylw yn unol â'm cyngor. Da iawn Plaid Cymru am ddilyn cyngor yr Hen Rech Flin. :-)

Wedi cael y fath brawf pendant bod y blog yma yn cael dylanwad amlwg ar ymgyrch etholiadol Plaid Cymru dyma gyngor pellach:

Os am ennill yr etholiad yma, rhowch mwy o bwyslais ar annibyniaeth a gwladgarwch yn hytrach na rhygnu 'mlaen efo rhyfel Iraq a sosialaeth

Fy Hoff Blog

Awgrymodd Blamerbell ychydig yn ôl bod modd creu cynghrair o flogiau Cymreig trwy gymharu nifer y dolenni i a'r sylwadau ar flogiau. Os felly rwy'n amau nad ydy fy hoff blog ymysg y deg uchaf, gwaetha’r modd

Dylid rhoi Wales World Nation ar restr darllen orfodol unrhyw Gymro gwladgarol gwerth ei halen.

Nid oes gennyf syniad pwy yw'r awdur, ond pwy bynnag ydyw mae ef neu hi yn haeddu medal am wasanaeth clodwiw i'r achos cenedlaethol.

Yn wahanol i'r mwyafrif o flogiau gwleidyddol Cymreig does dim gwenwyn gwleidyddol ar Wales Welsh Nation. Mae pob post yn dilyn fformiwla syml. Dyfyniad am yr hyn mae gwlad fach annibynnol wedi llwyddo ei gyflawni, a sylw parthed gallu Cymru i wneud yr un peth pe bai'r rhyddid ganddi.

Os nad yw Wales Welsh Nation ar eich rhestr RSS neu heb ddolen ganoch cynhwysed hi ar fyrder - cewch ddim mo'ch siomi.

I have posted an English version of this post here by mistake - sori Hedd

11/04/2007

Feto ar Ddeddf Iaith yn Sicr Medd Hain

Mae Plaid Cymru, Y Blaid Geidwadol Gymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru oll wedi rhoi cefnogaeth i'r cysyniad o ddeddf iaith newydd. Mae'r tair plaid yn gytûn bod deddf 1993 wedi ei ddyddio a bod mawr angen ei ddiwygio neu ei gyfnewid am ddeddf newydd. Mae'r tair plaid yn gytûn bod angen Dyfarnydd neu Gomisiynydd iaith. Mae'n bur debyg felly bydd mwyafrif yn y cynulliad nesaf o blaid deddf iaith newydd.

Hwre mae'r deddf iaith newydd yn sicr o ddyfod felly meddech

Na!

Mewn erthygl yn y Western Mail heddiw mae Ron Davies y cyn Ysgrifennydd Gwladol yn nodi pum enghraifft o ddeddfau sydd yn debyg o gael eu rhwystro gan Peter Hain:

Gŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi
Caniatáu i'r comisiynydd plant amddiffyn hawliau plant dan warchodaeth
Torri'r dreth gorfforaethol er mwyn hybu busnesau Cymru
Amddiffyn amgylchfyd morwrol Cymru
A deddf iaith newydd

Yn hytrach nag amddiffyn ei hun rhag ymosodiad Mr Davies mae Hain yn cytuno a fo ac yn cadarnhau y byddai'n sicr o roi feto ar ddeddfau a basiwyd yn ddemocrataidd gan fwyafrif o ACau yn y meysydd yma.

Os na all Cynulliad Cenedlaethol Cymru creu deddfau ar faterion sylfaenol Gymreig megis yr iaith Gymraeg neu sut i ddathlu gŵyl ein nawdd sant, o bopeth, dydy hi ddim yn gorff sy'n haeddu'r enw cenedlaethol. Os na all y Cynulliad amddiffyn plant, hyrwyddo glendid ein harfordiroedd a hybu busnes yn ein gwlad a oes pwrpas i'w bodolaeth?

Gorau po gyntaf y caiff y Cynulliad diddim ei ddiddymu a'i gyfnewid am Senedd go iawn i wlad go iawn.

08/04/2007

Pwy sydd am yfed o gwpan wenwynig?

Mae Numpti Morgan wedi dweud ei fod am ymadael a'i swydd fel arweinydd y Blaid Lafur yn y Cynulliad yn 2009 fan bellaf, ac os bydd canlyniad y Blaid Lafur yn etholiadau'r Cynulliad yn andros o wael mi fydd yn ymddiswyddo yn syth wedi'r etholiad. Dydy o ddim yn egluro yn union be fydd canlyniad gwael. Y canlyniad gwaethaf iddo, wrth gwrs, bydd colli ei sedd ei hun yng Ngorllewin Caerdydd - hwyrach bod ei ganlyniadau canfasio yn dweud rhywbeth wrtho nad yw am rannu gyda'r gweddill ohonom ar hyn o bryd :-)

Mae Chanticleer a Sanddef yn trafod pwy sy'n debygol o olynu Rhodri i'w uchel arswydus swydd. Carwyn Jones neu Leighton Andrews, fe ymddengys yw'r ffefrynnau. Rwy'n teimlo dros bwy bynnag sy'n cael y swydd, bydd arwain y grŵp Lafur wedi etholiad gwael ddim yn swydd hawdd neu lawen iawn, swydd dros dro am flwyddyn neu ddwy yn unig.

Pan oeddwn yn aelod o Blaid Cymru yn niwedd yr wythdegau, yr aelod o'r to ifanc ar y pryd oedd yn cael ei dipio i fod yn un o arweinwyr mawr y blaid yn y dyfodol oedd Alun Davies. Mae Alun bellach yn aelod o'r Blaid Lafur ac mae ganddo lygedyn o obaith o gael ei ethol i'r Cynulliad nesaf. O gael ei ethol a chael dipyn o brofiad, tybed a fydd Alun yn codi i fod yn arweinydd Llafur ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2011?

Mae'r Chanticleer a Sanddef hefyd yn awgrymu mai Wendy Alexander bydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yn yr Alban. Annhebygol medda fi - mae Wendy eisoes wedi cael ei fendithio fel hoff ymgeisydd pencadlys Llafur yn Llundain. Gan mae Llundain sy'n cael y bai am smonach Llafur gan aelodau'r blaid yn yr Alban prin bydd hogan dlos Llundain yn cael ei goddef ganddynt wedi'r etholiad.

Numpti Morgan

Yr wyf wedi cael blas ar ddarllen y fersiynau ar lein o brif bapurau newyddion yr Alban yn ystod y cyfnod etholiadol. Er gwaethaf pob cwyn deg sydd am ddiffyg wasg Gymreig mor sylweddol â'r wasg Albanaidd, mae'r wasg yno i'w weld yr un mor unoliaethol ei hagwedd a phapurau Lloegr.

Un o’r pethau da am Y Scotsman a'r Herald yw'r ffordd mae modd ymateb i bob erthygl unigol gyda sylwadau. Yn sicr y cenedlaetholwyr sydd yn ennill brwydr y sylwadau o bell ffordd.

Gair sy'n cael ei ddefnyddio yn aml i ddilorni'r blaid Lafur ac eraill yn y sylwadau yw Numpty - uffern o ai'r da. Yn ôl yr Observer heddiw ei hystyr yw:

Numpty, according to a survey, is Scotland's favourite word, a great term to describe someone who is an idiot. The Labour high command are behaving like a bunch of numpties as they desperately try to stop the Scottish National party.


Dydd Mawrth nesaf bydd Vaughan Roderick yn ddechrau blog, ond mae o wedi dweud ar Faes-e , na fydd yn cyfeirio yn ei flog ef at unrhyw blog arall sy'n gwneud sylwadau personol sarhaus at eraill. Rhag ofn fy mod yn cael fy mlaclistio gan Vaughan nid ydwyf am awgrymu yma bod Numpty yn air addas iawn i ddisgrifio ein brif weinidog annwyl, Numpti Morgan.

This Post in English Miserable Old Fart: Numpti Morgan

07/04/2007

Sweet Little Lies

Dyma fideo gwerth ei weld sy'n dangos pa mor chwerthinllyd yw'r storïau braw am annibyniaeth syn ymddangos yn y wasg Albanaidd.
Sweet Little Lies

(Diolch i Flog yr SNP yng Nogledd Orllewin Dumfries am y linc i'r fideo)

05/04/2007

Ivor Wynne Jones

Bu farw'r gohebydd Ivor Wynne Jones. Dyn sydd yn cael ei alw yn forthright and fearless gan y rhai sydd yn ei alaru.

Yn ôl golygydd y Daily Post:
No exalted position in politics or society rendered its holder safe unless Ivor felt they were genuinely up to the tasks they had been entrusted with.

Yn anffodus mae hyn yn anghywir - cyn belled a bod swyddog neu wleidydd neu ffigwr cymdeithasol yn casáu Cymru gyda chas perffaith, hyd yn oed os oedd o’n gwbl bwdr a di-glem, 'roedd yn sicr o gefnogaeth yng ngholofnau Ivor. Roedd unrhyw Gymro gwladgarol, dim ots be oedd ei safle, ei brofiad na'i gyfraniad yn sicr o gael ei bardduo a'i drin gyda ffieidd-dra a chasineb yn ei golofnau.

Bu Ivor yn golofnydd yn y Daily Post am 52 o flynyddoedd. 52 o flynyddoedd o gasineb tuag at Gymru a gwladgarwch Cymreig. 52 o flynyddoedd o ymosodiadau di drugaredd ar y genedl a'i magodd. 52 o flynyddoedd o sen ar y wlad a'i cyflogodd a 52 o flynyddoedd o geisio gwneud i'w darllenwyr casáu ei bodolaeth eu hunain.

Nid ydwyf yn ymfalchïo ym marwolaeth neb. Rwy’n ddwys cydymdeimlo a gwraig, plant a theulu ehangach Ivor ar farwolaeth aelod annwyl o'u teulu. Ond yr wyf, yn ddi-os, yn falch o wybod na fydd ei golofn filain a diefig yn ymddangos byth eto.

03/04/2007

Lle bydd Islwyn 2007?

Er fy mod yn byw ger Llandudno mae teulu Mam yn dod o Gilfynydd. Mae teulu mawr gennyf yno o hyd. Yn wir mae dwy gyfyrderes imi yn hoelion wyth yn y Blaid Lafur yn y cyffiniau yna. Y naill yn etholaeth Pontypridd a'r llall yn etholaeth Cwm Cynnon.

Pan fyddwyf yn gweld y ddwy; mewn cynhebrwng gan amlaf, ysywaeth; bydd tynnu coes hwylus ar ochor nashi y teulu o'r North. Ond o'u gweld ychydig yn ôl roedd y tynnu coes wedi troi'n finiog.

Rwy'n credu'n gryf bod y ddwy yn gweld peryglon!

Iawn dydy'r hyn mae teulu estynedig yr HRF yn ddweud dan ddylanwad y ddiod gadarn ddim yn haeddu ei barchu a'r term psepholeg - ond mae'r ddwy yn poeni'n arw. Ac mae canlyniad syfrdanol Islwyn (o bob man) ym 1999 yn brawf nad oes mo'r fath beth a sedd hollol saff mewn etholiadau'r Cynulliad, yn sicr ddim i'r Blaid Lafur Deheuol.

Mae'n annhebygol (er nad yn amhosibl) y bydd y Blaid yn ail-gipio Islwyn ond byddwn yn mentro bod yna siawns am un neu ddau o ganlyniadau islwynaidd eto eleni.

30/03/2007

Plaid Cymru - Plaid Meirion?

Ar bapur, etholaeth Dwyfor Meirion yw'r un fwyaf diogel yng Nghymru. Yn fwy diogel i'r Blaid nag oedd rhai o etholaethau'r De, lle bu son am bwyso yn hytrach na chyfrif y bleidlais Lafur yn yr hen ddyddiau. Bydda bleidlais o lai na 60% i Blaid Cymru yn yr etholaeth newydd yma yn siomedig i'r Blaid yn ddi-os.

Ond glywaf gwynion yn yr etholaeth, yn arbennig yn rhanbarth Meirionnydd.

Bu pobl Meirionydd yn siomedig ers 1974 bod yr hen sir wedi ei draflyncu i mewn i Wynedd, ac mae amheuaeth gref wedi bod ers hynny mae Sir Gaernarfon sydd yn cael y ffafriaeth yng Ngwynedd. Mae'r teimlad o annhegwch yn cael ei gryfhau gan enw'r etholaeth newydd. Dwyfor sy'n gyntaf a chynffon yw Meirion.

Bydd yr anniddigrwydd dim yn ddigon i golli'r etholaeth i'r Blaid. Ond os bydd nifer o bleidleiswyr traddodiadol y Blaid ym Meirionnydd mor flin ag i anwybyddu etholiadau'r Cynulliad, fel yr ydynt (yn ôl yr hyn a glywaf) fe all cael effaith ar obeithion cyffredinol y Blaid.

Mae Llanelli yn yr un rhanbarth a Dwyfor Meirion. O ennill yn Llanelli, bydd Plaid Cymru yn ddibynnol ar bleidlais sbâr Dwyfor-Meirion er mwyn ennill un, neu ragor, o seddau rhanbarthol; ac yn ddibynnol ar y sedd / seddi rhanbarthol yna er mwyn parhau a'i obeithion i ffurfio Llywodraeth yn y Bae.

Mae gan Dafydd Êl job o'i flaen i brofi i bobl Meirion eu bod yn bwysig o hyd. Mae gan y Blaid ym Meirion job i ddangos i'w cefnogwyr nad oes modd llaesu dwylo na bod yn biwis - i Blaid Cymru mae pob bleidlais yn bwysig eleni - hyd yn oed mewn ardal môr gref i'r Blaid a'r hen Sir Feirionnydd!

27/03/2007

Darllediadau PPB

Er fy mod yn sgit am wleidyddiaeth rwyf wastad wedi credu mai'r peth mwyaf diflas mewn pob ymgyrch etholiad fu'r Darllediad Gwleidyddol. Er, o ddweud hynny, mae un neu ddau yn sefyll yn y cof John Major the Movie er enghraifft.

Roedd y darllediadau parthed y gyllideb yn andros o ddiflas. O ran y rhai Cymraeg, pob un wedi eu ffilmio yn yr un ystafell, ond efo bwnsh o flodau gwahanol.

Gan Mike German oedd y blodau gorau. Y cwestiwn mawr yw pwy oedd yn gyfrifol am y blodau? A oes brawf o feias cyfryngol gan fod Mike wedi cael gwell flodau na chafodd Elfyn?

Yn ystod y deuddydd diwethaf yr wyf wedi gweld dau ddarllediad gwleidyddol sydd yn ymylu ar newid fy meddwl am werth y fath bethau. Y gyntaf yw un swyddogol Plaid Cymru

Hysbyseb gwleidyddol effeithiol, yn hytrach na darllediad gwleidyddol boring. Rwy'n ansicr o'r rheolau am ddarllediadau gwleidyddol, ond os oes modd, mi fyddwn yn awgrymu bod y Blaid yn ail-ddarlledu'r un hysbyseb ym mhob un o'i slotiau PPB rhwng hyn a'r etholiad.

Mae'r ail, er yn andros o amaturaidd o ran ei ffilmio, yn ddarllediad ysgytwol ei neges. Sef ymgais answyddogol gan gefnogwr i Blaid Cymru (rwy'n tybio) i ymosod ar Welsh Labour. Rwy'n amau mae dim ond y rhai sydd yn sicr o'u barn wleidyddol sydd yn ymweld â safleoedd o'r fath, ac mae prin bydd yr ennill eneidiau o'r ddarllediad yma - ond os wyt yn gwrthwynebu'r Blaid Lafur (boed PC, Ceid neu RhyddD) bydd gweld y fidio yn ddigon i roi tân yn eich bol i weld mor hanfodol yw dyblu eich ymgyrchu er mwyn prysuro tranc Welsh Labour.

23/03/2007

Golwg "Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno"

Bu gyfraniad o'm heiddo ar Maes-e yn achos erthygl yn y rhifyn cyfredol o Golwg

Plaid Gristionogol - Pregethwr yn Cwyno

Mae pregethwr wedi danfon cwyn at y Comisiwn Etholiadol, gan honni fod plaid Gristionogol newydd yn bygwth y cyhoedd â thragwyddoldeb yn uffern os na fydda nhw'n pleidleisio trosti fis Mai.

Fe gafodd Plaid Gristionogol Cymru ei lawnsio ar Fawrth 1 eleni, ac mae hi eisioes wedi achosi dadl trwy ddweud y dylai Cymru fabwysiadu baner newydd oherwydd bod y ddraig yn cynrychioli'r diafol

Ond yn ôl Alwyn ap Huw, pregethwr cynorthwyol gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, mae'r blaid yn rhoi enw drwg i Gristionogion. Dyna pam ei fod wedi cwyno wrth y Comisiwn, meddai, yn ogystal â rhybuddio Cristionogion eraill rhag pleidleisio i'r blaid newydd heb astudio ei pholisïau yn ofalus.

"Mae'r ddeddf yn ddigon clir nad yw'n gyfreithlon bygwth pobl gyda chosb ar y ddaear neu yn y bywyd nesa' yn gyfnewid am beidio â phleidleisio drostyn nhw" meddai Alwyn ap Huw, sy'n byw yn nyffryn Conwy.

"Mae Plaid Gristionogol Cymru wedi dweud yn ddigon clir y bydd Cymru gyfan yn mynd i'r uffern oherwydd bod delwedd y diafol ar ein fflag. Fel Cristion, fydda'i byth y pleidleisio dros y rhain, a dwi'n gobeithio na fydd neb arall chwaith"

"Dydi Cristionogaeth y Blaid yma ddim yn nhraddodiad Cristionogaeth Cymru" meddai wedyn. "Un o gefnogwyr Ian Paisley ydi George Hargraves (un o arweinyddion y blaid) ac mae ei Gristionogaeth o'n debycach i hwnnw o dde eithafol America"

Yn ôl George Hargraves, mae'r ddraig goch ar fflag Cymru'n debyg i'r hon sy'n cael ei disgrifio yn Llyfr Datguddiad yn y Beibl - "a dyma arwydd arall yn ymddangos yn y nefoedd: draig goch enfawr oedd â saith pen ganddi, a saith coron ar ei phennau"

Mae'n dweud y dylai'r fflag gael ei chyfnewid am faner Dewi Sant, ac mae wedi lawnsio deiseb yn cefnogi hynny ar wefan y blaid.

Mae'r blaid yn gobeithio cynnig ymgeiswyr ym mhob rhanbarth yn etholiadau'r cynulliad ar Fai 3.

George Hargraves oedd awdur y gân ddisgo o'r 1980au "So Macho" a breindaliadau'r gân honno sydd yn ariannu'r blaid newydd.


Ond peidiwch â choelio pob dim a darllenwch yn y wasg. Byddai'r Hen Rech Flin byth yn cyfeirio at faner Cymru fel "fflag", a phregethwr gyda'r Eglwys Fethodistaidd ydwyf - Wesla hyd fêr fy esgyrn - nid aelod o'r Eglwys Bresbyteraidd.

17/03/2007

Ariannu Pleidiau Gwleidyddol

Croeso llugoer braidd sydd gennyf i awgrymiadau Syr Hayden Phillips ar ariannu pleidiau gwleidyddol.

Rwy'n derbyn yr awgrymiad dylid cael uchafswm ar faint gall unigolyn cyfrannu at blaid.

Ym 1997 cafwyd honiad bod rasio ceir fformiwla un wedi ei hepgor o'r gwaharddiad ar gwmnïau baco rhag noddi campau o ganlyniad i rodd o filiwn gan Bernie Ecclestone i'r Blaid Lafur. Mae'r ymchwiliad i'r posibilrwydd bod anrhydeddau wedi eu rhoi fel wobr am roddion i bleidiau gwleidyddol yn dal i fynd rhagddi. Hyd yn oed os nad oes sail i'r honiadau yma a honiadau tebyg mae'r amgyffred bod modd prynu dylanwad ar blaid neu lywodraeth yn ddigon o reswm i wahardd rhoddion mawr.

Yr hyn sydd yn annerbyniol i mi yw argymhelliad Syr Hayden y dylid gwneud iawn i'r pleidiau am golli eu noddwyr mawr trwy dalu hyd at £23 miliwn iddynt allan o bwrs y wlad. Dydy 23 miliwn ddim yn swm enfawr o ran trethiant, ond eto, fel pob treth mae'n dod o arian sydd wedi ei gyfrannu gan drethdalwyr. Â ydyw’n iawn i ofyn i drethdalwyr talu i gynnal pleidiau na allant mo'u dioddef? Yn sicr nid ydwyf am gyfrannu dime i'r Blaid Lafur ac yn sicrach byth byddwn yn ffieiddio pe bai'r cyfraniad lleiaf o'm henillion yn cael ei rhoi i'r BNP. Ond dyma fydd yn digwydd os ydy'r trethdalwyr yn cael eu gorfodi i ariannu'r pleidiau gwleidyddol.

Un o'r rhesymau pam bod gwell gan y pleidiau cwrsio £5,000,000 gan unigolyn yw ei fod yn haws na cheisio cael miliwn o unigolion i gyfrannu £5. Ond mae gorfodi plaid i geisio cael y £5 yn hytrach na'r arian mawr yn cysylltu'r bobl a'r broses wleidyddol.

Pan oeddwn yn dechrau ymddiddori yn y byd gwleidyddol roedd rhaid cynnal garddwest neu fore coffi neu arwerthiant geriach i godi arian i'r achos. Roedd rhaid i'r ymgeisydd lleol mynychu pob digwyddiad o'r fath, a thrwy hynny, bod yn gyraeddadwy i'w gefnogwyr. Roedd barn y bobl bach oedd yn trefnu ac yn cefnogi'r fath digwyddiadau, hefyd, yn bwysig o fewn y pleidiau; ac o fod yn bwysig yn ddylanwadol.

Rwy'n cytuno efo capio cyfraniadau, ond llawer gwell gennyf bydda weld y gwleidyddion yn mynd yn ôl i'r hen drefn o orfod fy mherswadio i weld gwerth cefnogi'r blaid gyda fy arian prin yn hytrach na chael fy ngorfodi i'w cefnogi trwy fy nhaliadau treth.

English Miserable Old Fart: Political Party Funding

15/03/2007

DIM CYMRAEG! - Canolfan Byd Gwaith

Cefais brofiad anghynnes iawn heddiw yng Nghanolfan Byd Gwaith Bae Colwyn. Roeddwn am godi ffurflen o'r ganolfan ar gyfer cymydog anabl. Dyma fynd at y cyfarchydd a gofyn iddi yn y Gymraeg os oedd modd cael copi o'r ffurflen. Ei hymateb oedd I don't speak Welsh, roedd lleferydd ei chorff a'i goslef wrth roi ei hymateb yn hynod ymosodol.

Mi ofynnais iddi i yn fy Saesneg parchusaf, Can you please find a member of staff who can speak Welsh?

No! Nobody here speaks Welsh. Speak English or get out oedd ei hymateb.

Nid ydwyf wedi derbyn y fath ymateb gwrth Gymraeg mewn swyddfa lywodraethol ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Roeddwn yn credu bod y fath beth yn perthyn i oes yr arth a'r blaidd. Cefais fy syfrdanu.

Yr wyf, wrth gwrs, wedi gwneud cwynion i'r awdurdodau priodol ac yn disgwyl eu hymateb. Ond cyfyd agwedd y ddynes nifer o gwestiynau:

* Pam bod person di Gymraeg yn cael swydd fel cyfarchydd mewn swyddfa'r llywodraeth sydd yn gwasanaethu ardal Gymraeg?

* Pam nad oes neb sy'n siarad y Gymraeg ar gael mewn swyddfa mor fawr?

* Hyd yn oed os oes resymau am ddiffyg siaradwr Cymraeg yn yr adran gyfan, pam na hyfforddwyd y ddynes yma i ymdrin â chwsmeriaid Cymraeg gyda pharch a chwrteisi?

* Ac yn bwysicaf oll pam bod pobl efo'r fath agwedd yn cael eu cyflogi mewn Canolfan Gwaith, o bobman, tra bod Cymry Cymraeg digon atebol i gyflawni'r swydd yn ddi-waith, ac yn gorfod wynebu'r fath haerllugrwydd er mwyn chwilio am waith?

08/03/2007

Cliniaduron y Blaid

Pan glywais gyntaf am bolisi Plaid Cymru o gynnig cyfrifiaduron pen glin i bob plentyn ysgol roedd fy ymateb gyntaf yn un a phryderon Peter Black. Ond wedi cael amser i ddwys ystyried yr wyf wedi newid fy meddwl.

Pan oeddwn yn hogyn ysgol, amser maith yn ôl, doedd dim son am gyfrifiaduron. Roedd geiriaduron ar gael i blant ysgol, ac yr oeddwn fel fy nghyfoedion yn chwilio'r geiriaduron am eiriau budron. Roedd gwerslyfrau bywydeg ar gael a byddwn, fel bydd glaslanc, yn llygadrythu ar y lluniau yn yr adrannau am atgynhyrchu. Yn wir roeddwn hyd yn oed yn chwilio'r Beibl am ddarnau anweddus yn y gwersi ysgrythur.

Doedd neb yn y cyfnod cyn gyfrifiadurol yna yn awgrymu gwahardd glaslanciau nwydus rhag perchen ar lyfrau o herwydd y tebygolrwydd y byddent yn eu cam ddefnyddio.

Sgil effaith fy nghamddefnydd nwydus o lyfrau yn fy nglaslencyndod, yw fy mod; yn fy mhenwynni; yn eithaf hyddysg wrth ddefnyddio geiriaduron a gwerslyfrau ac yn fy ngwybodaeth Feiblaidd

Bydd cyfrifiaduron; er gwell, er gwaeth; yn chware rhan hanfodol ym mywydau ein plant. Os ydy'n plant am lwyddo yn y byd mawr technolegol sydd o'u blaenau mae'n angenrheidiol eu bod yn magu'r sgiliau cyfrifiadurol gorau mae'r gyfundrefn addysg yn gallu cynnig iddynt.

Yn ddi-os mae yna beryglon yng nghlwm wrth bolisi'r Blaid o roi gliniadur i bob plentyn ysgol. Yn ddi-os, gan mae plant yw plant, bydd nifer ohonynt yn gam ddefnyddio eu cliniaduron. Ond byddid ymateb i bolisi'r Blaid gydag agwedd Luddite yn gadael ein plant yn amddifad o allu, mewn byd sydd yn tyfu'n fwyfwy ddibynnol ar dechnoleg gwybodaeth yn feunyddiol.

Yr ymateb gorau yw croesawu polisi Plaid Cymru o gynnig gliniadur i bob plentyn ysgol, er mwyn i blant Cymru bod ar flaen y gad yn y frwydr dechnolegol. Ond ei groesawu wrth fynnu bod yr addysg sydd yng nghlwm i'r cynnig yn sicrhau bod pob plentyn yn hollol ymwybodol o beryglon cyfrifiaduron yn ogystal â'u manteision.

English Miserable Old Fart: Plaid's Laptop

06/03/2007

Goleuni a byddardod

Mae llywodraeth Geidwadol Awstralia eisoes wedi cyhoeddi eu bod am anghyfreithloni bylbiau gwynias (y rhai hen ffasiwn). Does gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ddim o'r hawl i ddilyn yn union yn ôl traed Awstralia ond mae Ceidwadwyr Cymru am fynd ar yr un trywydd trwy gynnig bylbiau ynni isel yn lle'r rhai gwynias.

Rhaid croesawu'r polisi yma gan Geidwadwyr Cymru ag Awstralia, fel ymgais i ffrwyno cynhesu'r byd. Ond mae gennyf broblem bersonol efo'r polisi.

Rwy'n ofnadwy o drwm fy nghlyw; rwy’n defnyddio lŵp i wrando ar y teledu, y radio a'r ffôn. Mae bylbiau ynni isel yn tarddu ar y lŵp mewn modd sydd yn ei wneud yn amhosibl ei ddefnyddio. Mae cloch fy nrws, fy larwm tân, cloch fy ffôn a fy nghloc codi'r bore oll yn gwneud i oleuadau'r tŷ fflachio. Does dim modd eu defnyddio efo bylbiau ynni isel.

Rwy'n croesawu pob polisi sydd am arafu cynhesu byd eang, ond hoffwn gael sicrwydd bod y bobl sydd yn arddel y bylbiau ynni isel yma hefyd am gefnogi ymchwil bydd yn sicrhau bod pobl drom eu clyw ddim yn cael eu hamddifadu o fywyd cyflawn a diogel o'u herwydd.

English: Miserable Old Fart: Light and Deafness

Gwerthu'r Nwyddau

Er gwaethaf pob beirniadaeth ar Rhodri Morgan, rhaid cyfaddef ei fod yn siaradwr difyr, boed ar y teledu neu wrth areithio'n gyhoeddus. Rwyf wedi clywed Ieuan Wyn, Nick Bourne a Michael German yn siarad yn niweddar mae'n rhaid dweud bod y tri yn blydi boring yn eu trosglwyddiad.

Roedd Nick Bourne yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr bwrw'r Sul yn enghraifft pur o ddyn oedd efo pethau da i ddweud ond heb y ddawn i'w dweud yn dda.

Hanner y frwydr fasnachol yw cael nwyddau da, yr hanner arall yw cael gwerthwyr da. Mae gan y tair gwrthblaid nwyddau gwerth chweil ond ow, maen nhw'n brin o werthwyr.

Saesneg Selling the Goods

01/03/2007

Gwell Cymraeg Cac na Saesneg Da!

Cefais fy magu ar aelwyd Saesneg ei iaith mewn cymdeithas Cymraeg. Rwy'n siarad Cymraeg oherwydd fy mod wedi dysgu Cymraeg. Mae'r dysgu yn rhoi hyder imi (mae gennyf esgus am bob camgymeriad).
Dydy llythyrau fel hwn yn y Western Mail yn cael dim effaith arnaf gan fod gorchudd y dysgwr gennyf:
Sglodion, not chips
SIR
- On February 23, one of your correspondents (with a name which
suggests affiliation to Plaid Cymru and/or the Welsh Language
Society) wrote a letter decrying the use of English words when
speaking Welsh.This, to me, reeks of hypocrisy and bad manners

This is not a new problem and has been very prevalent on that
so-called bastion of the Welsh language known as S4C.

A while ago this station carried a comparatively long series
of programmes about the short life of the Welsh Language Society.

One of these programmes concerned the sign-daubing campaign
where names like Wenvoe, Pentremeyrick and Caernarvon were left
untouched.
The Welsh Language Society activist who was taking part in the
programme spoke of how, in the early days of the organisation,
the office used to smell of "chips" - a product for
which there is a good Welsh name ( which is sglodion).

TUDOR RADCLIFFE
Pontycymer, Bridgend


Mae llythyrau o'r fath yma yn awgrymu mae Cymraeg Pur yw'r unig Gymraeg derbyniol, ac yn gwneud i nifer o Gymry Cymraeg naturiol ymwrthod a'r iaith o dan y teimlad nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.

Mae erthygl yn y Telegraph heddiw yn awgrymu bod yna brychau yn Saesneg Saeson uniaith hefyd, ond prin eu bod am wrthod siarad Saesneg gan nad ydyw eu Saesneg yn ddigon dda.

I achub yr iaith mae gymaint o angen magu hyder Cymry Cymraeg naturiol i ddefnyddio'r iaith yn wael a sydd i annog pobl di Gymraeg i'w dysgu'n dda.

Defnyddio'r Gymraeg sy'n bwysig, nid perffeithrwydd iaith.

Hwyrach nad ydyw dweud Nes i enjoyo bowl o stroberis a crim yn Gymraeg digon da i Mr Radcliffe, ond mae o'n cam gyntaf at ddefnyddio'r Gymraeg, ac yn well na throi at y Saesneg o dan ormes "Cymraeg Pur" gwrthwynebwyr yr Iaith megis Tudor Radcliffe

Gwell Cymraeg cac na Saesneg Da!