Mae Plaid Cymru, Y Blaid Geidwadol Gymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru oll wedi rhoi cefnogaeth i'r cysyniad o ddeddf iaith newydd. Mae'r tair plaid yn gytûn bod deddf 1993 wedi ei ddyddio a bod mawr angen ei ddiwygio neu ei gyfnewid am ddeddf newydd. Mae'r tair plaid yn gytûn bod angen Dyfarnydd neu Gomisiynydd iaith. Mae'n bur debyg felly bydd mwyafrif yn y cynulliad nesaf o blaid deddf iaith newydd.
Hwre mae'r deddf iaith newydd yn sicr o ddyfod felly meddech
Na!
Mewn erthygl yn y Western Mail heddiw mae Ron Davies y cyn Ysgrifennydd Gwladol yn nodi pum enghraifft o ddeddfau sydd yn debyg o gael eu rhwystro gan Peter Hain:
Gŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi
Caniatáu i'r comisiynydd plant amddiffyn hawliau plant dan warchodaeth
Torri'r dreth gorfforaethol er mwyn hybu busnesau Cymru
Amddiffyn amgylchfyd morwrol Cymru
A deddf iaith newydd
Yn hytrach nag amddiffyn ei hun rhag ymosodiad Mr Davies mae Hain yn cytuno a fo ac yn cadarnhau y byddai'n sicr o roi feto ar ddeddfau a basiwyd yn ddemocrataidd gan fwyafrif o ACau yn y meysydd yma.
Os na all Cynulliad Cenedlaethol Cymru creu deddfau ar faterion sylfaenol Gymreig megis yr iaith Gymraeg neu sut i ddathlu gŵyl ein nawdd sant, o bopeth, dydy hi ddim yn gorff sy'n haeddu'r enw cenedlaethol. Os na all y Cynulliad amddiffyn plant, hyrwyddo glendid ein harfordiroedd a hybu busnes yn ein gwlad a oes pwrpas i'w bodolaeth?
Gorau po gyntaf y caiff y Cynulliad diddim ei ddiddymu a'i gyfnewid am Senedd go iawn i wlad go iawn.
Mae'r dyn yn ffiaidd. Gobeithio bydd yn methu dod yn ddirprwy brif weinidog.
ReplyDeleteNa phoener! Ma rhywbeth fel hyn yn dda.
ReplyDeleteGwnaeth rhywbeth tebyg ddigwydd efo Tryweryn, gyda cyfnod euraidd o genedlaetholdeb Cymreig yn dilyn.
Gad i ni obeithio cawn cyfnod arall!