Er fy mod yn byw ger Llandudno mae teulu Mam yn dod o Gilfynydd. Mae teulu mawr gennyf yno o hyd. Yn wir mae dwy gyfyrderes imi yn hoelion wyth yn y Blaid Lafur yn y cyffiniau yna. Y naill yn etholaeth Pontypridd a'r llall yn etholaeth Cwm Cynnon.
Pan fyddwyf yn gweld y ddwy; mewn cynhebrwng gan amlaf, ysywaeth; bydd tynnu coes hwylus ar ochor nashi y teulu o'r North. Ond o'u gweld ychydig yn ôl roedd y tynnu coes wedi troi'n finiog.
Rwy'n credu'n gryf bod y ddwy yn gweld peryglon!
Iawn dydy'r hyn mae teulu estynedig yr HRF yn ddweud dan ddylanwad y ddiod gadarn ddim yn haeddu ei barchu a'r term psepholeg - ond mae'r ddwy yn poeni'n arw. Ac mae canlyniad syfrdanol Islwyn (o bob man) ym 1999 yn brawf nad oes mo'r fath beth a sedd hollol saff mewn etholiadau'r Cynulliad, yn sicr ddim i'r Blaid Lafur Deheuol.
Mae'n annhebygol (er nad yn amhosibl) y bydd y Blaid yn ail-gipio Islwyn ond byddwn yn mentro bod yna siawns am un neu ddau o ganlyniadau islwynaidd eto eleni.
Rhyfedd dy fod ti'n dweud hynny HRF; roedd Vaughan Roderick yn dweud ar ei flog yntau bod "un Ceidwadwr amlwg wedi dweud ... y byddai Plaid yn sicr yn adennill Islwyn".
ReplyDeleteTybed a oes gwir ynddo?