29/04/2007

Newyddion da, newyddion drwg - rheolau gwahanol?

Yn ôl erthygl yn y Guardian ddoe mae Ofsted, yr awdurdod archwilio ysgolion yn Lloegr, wedi ei gwahardd rhag cyhoeddi manylion am ysgolion sy'n methu, oherwydd y cyfnod etholiadol. Gan fod etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal yn Lloegr mae'n rhaid i'r corff ymarfer cyfnod o dawelwch (sy'n cael ei alw'n Purdah yn Lloegr - ond nid yng Nghymru) rhag ofn bod unrhyw gyhoeddiad swyddogol o'u heiddo yn cael effaith ar yr ymgyrch.

Bydda gyhoeddi bod ysgol mewn rhyw sir arbennig yn methu yn ystod cyfnod yr ymgyrch etholiadol yn amlwg o fantais i'r wrthblaid ac yn anfanteisiol iawn i'r blaid mewn grym ar y cyngor. Sefyllfa annheg yn ôl rheolau'r gwasanaeth sifil, gan hynny mae'n rhaid cadw pob adroddiad o'r fath yn ddirgelwch tan ddydd Gwener. Ond does dim dirgelwch yn y ffaith bod y rhan fwyaf o ysgolion sy'n methu mewn siroedd a reolir gan y Blaid Lafur.

Mae'r rheolau tawelwch i fod i gael eu cadw gan y Gwasanaeth Sifil ledled y DU gan gynnwys y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Sut felly bod adroddiad a oedd yn datgelu bod y niferoedd ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gostwng - ffigyrau manteisiol iawn i achos etholiadol Llafur gan fod y GIG ar frig yr Agenda yn ein hetholiad - wedi eu cyhoeddi gan y Gwasanaeth Sifil dydd Mercher diwethaf?

Mae'n ymddangos bod dwy reol wahanol yn cael ei ddilyn. Tawelwch am achosion sy'n gwneud niwed i Lafur, ond cyhoeddusrwydd mawr i adroddiadau sydd yn ffafriol i Lafur.

No comments:

Post a Comment