Un o’r pethau da am Y Scotsman a'r Herald yw'r ffordd mae modd ymateb i bob erthygl unigol gyda sylwadau. Yn sicr y cenedlaetholwyr sydd yn ennill brwydr y sylwadau o bell ffordd.
Gair sy'n cael ei ddefnyddio yn aml i ddilorni'r blaid Lafur ac eraill yn y sylwadau yw Numpty - uffern o ai'r da. Yn ôl yr Observer heddiw ei hystyr yw:
Numpty, according to a survey, is Scotland's favourite word, a great term to describe someone who is an idiot. The Labour high command are behaving like a bunch of numpties as they desperately try to stop the Scottish National party.
Dydd Mawrth nesaf bydd Vaughan Roderick yn ddechrau blog, ond mae o wedi dweud ar Faes-e , na fydd yn cyfeirio yn ei flog ef at unrhyw blog arall sy'n gwneud sylwadau personol sarhaus at eraill. Rhag ofn fy mod yn cael fy mlaclistio gan Vaughan nid ydwyf am awgrymu yma bod Numpty yn air addas iawn i ddisgrifio ein brif weinidog annwyl, Numpti Morgan.
This Post in English Miserable Old Fart: Numpti Morgan
Dw'i'n credu fy mod yn cofio'r gair o'r comic "Oor Wullie".
ReplyDeletePaid poeni am flog y BBC, nid blog go iawn yw os na all awdur neud fel mae'n mynnu, heb reolau. Dim ond colofn BBC ydy mewn gwirionedd. Ni ydy'r blogwyr go iawn, a hoffwn dy weld yn ymuno ym mrwydr y blogiau Cymraeg, sef i adael sylwadau cyson ar y blogiau gwerth chweil eraill. Y rheswm yw mae bob sylwad yn creu dolen, ac nifer y dolennau sy'n diffinio pa mor lwyddiannus yw blog. Mae hefyd yn ysgogi blogwyr i flogio.