25/04/2007

Y Natsïaid Saesneg

Neithiwr dangoswyd darllediad gwleidyddol y Ffasgwyr ar S4C. Yn y darllediad roedd Ennys Hughes - Eva Braun Cymru - yn gwneud apel wedi ei anelu yn unswydd at gefnogwyr Plaid Cymru a charedigion yr iaith. Rhyw lol am yr iaith Bwyleg yn lladd yr iaith Gymraeg a honiadau bod mwy o Bwyleg na Chymraeg i'w clywed yn y Trallwng bellach, a ballu. Roedd Eva Hughes yn ceisio ein darbwyllo mae dim ond y Ffasgwyr all achub yr iaith.

Daeth taflen etholiadol y Ffasgwyr trwy'r drws y bore 'ma yn ail adrodd pryder Eva am y bygythiad i ddyfodol yr iaith. I danlinellu, fel petai, gwir gariad y Natsïaid tuag yr iaith Gymraeg a gwir faint eu pryder am ei ddyfodol - roedd eu taflen yn uniaith Saesneg!

1 comment:

  1. Cawsom ni daflen gan y BNP hefyd, yn rhyfeddol wedi ei blastro gyda'r ddraig goch, ac yn cyfeirio at y Toriaid fel 'Englishmen in green wellies'

    ReplyDelete