Dydy llythyrau fel hwn yn y Western Mail yn cael dim effaith arnaf gan fod gorchudd y dysgwr gennyf:
Sglodion, not chips SIR - On February 23, one of your correspondents (with a name which suggests affiliation to Plaid Cymru and/or the Welsh Language Society) wrote a letter decrying the use of English words when speaking Welsh.This, to me, reeks of hypocrisy and bad manners This is not a new problem and has been very prevalent on that so-called bastion of the Welsh language known as S4C. A while ago this station carried a comparatively long series of programmes about the short life of the Welsh Language Society. One of these programmes concerned the sign-daubing campaign where names like Wenvoe, Pentremeyrick and Caernarvon were left untouched. The Welsh Language Society activist who was taking part in the programme spoke of how, in the early days of the organisation, the office used to smell of "chips" - a product for which there is a good Welsh name ( which is sglodion). TUDOR RADCLIFFE Pontycymer, Bridgend |
Mae llythyrau o'r fath yma yn awgrymu mae Cymraeg Pur yw'r unig Gymraeg derbyniol, ac yn gwneud i nifer o Gymry Cymraeg naturiol ymwrthod a'r iaith o dan y teimlad nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.
Mae erthygl yn y Telegraph heddiw yn awgrymu bod yna brychau yn Saesneg Saeson uniaith hefyd, ond prin eu bod am wrthod siarad Saesneg gan nad ydyw eu Saesneg yn ddigon dda.
I achub yr iaith mae gymaint o angen magu hyder Cymry Cymraeg naturiol i ddefnyddio'r iaith yn wael a sydd i annog pobl di Gymraeg i'w dysgu'n dda.
Defnyddio'r Gymraeg sy'n bwysig, nid perffeithrwydd iaith.
Hwyrach nad ydyw dweud Nes i enjoyo bowl o stroberis a crim yn Gymraeg digon da i Mr Radcliffe, ond mae o'n cam gyntaf at ddefnyddio'r Gymraeg, ac yn well na throi at y Saesneg o dan ormes "Cymraeg Pur" gwrthwynebwyr yr Iaith megis Tudor Radcliffe
Gwell Cymraeg cac na Saesneg Da!
Cytuno'n llwyr efo ti Hen Rech! Y ffaith ein bod yn siarad a sgwennu'n Gymraeg sy'n bwysig . Cofia di , mae Nghymraeg i'n dueddol o newid wrth i mi siarad efo pobl gwahanol. Dwi'n defnyddio lot o'r iaith fain pan fyddaf yn sgwennu at fy ffrind gora, ond yn trio defnyddio fy Nghymraeg gorau pan dwi'n ymateb i rai o edefynion maes-e. Ond be di'r ots rili, pan mae awduron Cymraeg yn cynnwys gymaint o Saesneg neu eiriau Saesneg wedi eu Cymreigio debyg i 'hilarîys' .
ReplyDeleteNeis gweld blog gennyt...da iawn ti . 'Rwyt yn fwy mentrus na fi!
Wel dywedodd Ifor ap Glyn yn ei gyfres Popeth yn Gymraeg. Mae iaith yn cael ei golli fesul gair yn ôl rhai, felly rhaid gwneud yr ymdrech i'w hadennill fesul gair.
ReplyDeleteHwn yw'r cam cyntaf. Cael pobl yn defnyddio un neu ddau. Wedyn pan mae sawl miliwn o dan ein hadain, cawn ganolbwyntio ar y gloywi. ;-)