Ond dwi'n gofyn y cwestiwn eto - pam y byddai'r Torïaid yn cynhyrchu un canlyniad trychinebus ar ôl y llall yng Nghymru mewn is etholiadau, wrth berfformio'n gryf yn etholiad Ewrop?
Natur etholiad, megis un Ewrop (neu isetholiad) lle bydd ychydig yn pleidleisio yw cymhelliad pobl i bleidleisio. Mae cefnogwyr pa blaid sy ddim yn trafferthu troi allan yn bwysicach na chefnogwyr y Blaid sydd yn troi allan!
Roedd Etholiad Ewrop 2009 yn enghraifft pur o hynny. Cefnogwyr naturiol Llafur wedi blino efo Llywodraeth stel; ac yn aros gartref.
Ffrae fewnol bu ac y mae'r un rhwng y Torïaid ac Iwcip ffrae rhwng pobl o'r un anian ac yn rheswm da am anog pleidleiswyr y naill garfan a'r llall i bleidleisio.
Rhwng problemau "Gwynedd" y Blaid a theimlad, o bosib, bod cefnogaeth "pur" Y Blaid i'r UE yn amherthnasol neu yn wir yn ang-nghynrychiadol o farn pobl Cymru am Ewrop o fewn y drafodaeth ar y dydd fe gafodd Plaid Cymru canlyniad siomedig.
Mae rhai o'r amgylchiadau wedi newid erbyn hyn. Bydd Llafurwyr yn llawer mwy tebygol o bleidleisio nac aros gartref eleni a bydd mwy o Dorïaid yn aros gartref mewn siom gydag ambell un yn troi at Iwcip.
Os yw Plaid Cymru yn colli sedd ac Iwcip yn cadw sedd mi fydd yn drychineb i achos Cenedlaetholdeb Cymru; mi fydd yn un o'r dyddiau duaf yn hanes ein cenedl ers talwm.
Yr wyf wedi bod ynd digon blin efo'r Blaid yn fy nhro; does dim angen edrych ym mhell iawn yn archif fy mlog i weld sut mae ambell i agwedd ac unigolyn sy'n perthyn i'r Blaid wedi fy mhiso fi off (ac mae'r rhan fwyaf yn dal i'm mhiso fi off) ond rwy'n wir credu bod angen rhoi'r holl flinderau am y Blaid i'r nelltu am fis a sicrhau bod pawb sydd wedi rhoi X i'r Blaid yn y gorffennol yn mynd allan o'u ffordd i sicrhau eu bod yn pleidleisio Plaid Cymru eto ar Fai 22 .
Bydd pwdu a gwrthod pleidleisio, neu ymuno yn yr hwyl a phleidleisio i Iwcip, yn niweidio'r achos cenedlaethol yn ei gyfanrwydd am gyfnod hir.
Pe bai Parti'r United Kingdom yn cael mwy o bleidleisiau na'r Party of Wales ar Fai 22 mi fydd yr achos gwladgarol, nid jest yr achos cenedlaethol yn y cachu!
Mae'n bwysig bod pob un o garedigion Cymru sydd wedi hanner meddwl pleidleisio dros Gymru a Phlaid Cymru yn y gorffenol yn gwneud hynny eleni!
Nid Etholiad Dibwys, sydd ddim yn cyfrif gystal ag Etholiad San Steffan neu Etholiad y Bae yw Etholiad Ewrop eleni – ond Etholiad am Einioes ein Cenedl.
Pleidleisia, Cymro dwymgalon, dros Gymru dy wlad! Neu gweld Brit Nat Seisnig yn dy gynrychioli ar lwyfan y byd!