Ond dwi'n gofyn y cwestiwn eto - pam y byddai'r Torïaid yn cynhyrchu un canlyniad trychinebus ar ôl y llall yng Nghymru mewn is etholiadau, wrth berfformio'n gryf yn etholiad Ewrop?
Natur etholiad, megis un Ewrop (neu isetholiad) lle bydd ychydig yn pleidleisio yw cymhelliad pobl i bleidleisio. Mae cefnogwyr pa blaid sy ddim yn trafferthu troi allan yn bwysicach na chefnogwyr y Blaid sydd yn troi allan!
Roedd Etholiad Ewrop 2009 yn enghraifft pur o hynny. Cefnogwyr naturiol Llafur wedi blino efo Llywodraeth stel; ac yn aros gartref.
Ffrae fewnol bu ac y mae'r un rhwng y Torïaid ac Iwcip ffrae rhwng pobl o'r un anian ac yn rheswm da am anog pleidleiswyr y naill garfan a'r llall i bleidleisio.
Rhwng problemau "Gwynedd" y Blaid a theimlad, o bosib, bod cefnogaeth "pur" Y Blaid i'r UE yn amherthnasol neu yn wir yn ang-nghynrychiadol o farn pobl Cymru am Ewrop o fewn y drafodaeth ar y dydd fe gafodd Plaid Cymru canlyniad siomedig.
Mae rhai o'r amgylchiadau wedi newid erbyn hyn. Bydd Llafurwyr yn llawer mwy tebygol o bleidleisio nac aros gartref eleni a bydd mwy o Dorïaid yn aros gartref mewn siom gydag ambell un yn troi at Iwcip.
Os yw Plaid Cymru yn colli sedd ac Iwcip yn cadw sedd mi fydd yn drychineb i achos Cenedlaetholdeb Cymru; mi fydd yn un o'r dyddiau duaf yn hanes ein cenedl ers talwm.
Yr wyf wedi bod ynd digon blin efo'r Blaid yn fy nhro; does dim angen edrych ym mhell iawn yn archif fy mlog i weld sut mae ambell i agwedd ac unigolyn sy'n perthyn i'r Blaid wedi fy mhiso fi off (ac mae'r rhan fwyaf yn dal i'm mhiso fi off) ond rwy'n wir credu bod angen rhoi'r holl flinderau am y Blaid i'r nelltu am fis a sicrhau bod pawb sydd wedi rhoi X i'r Blaid yn y gorffennol yn mynd allan o'u ffordd i sicrhau eu bod yn pleidleisio Plaid Cymru eto ar Fai 22 .
Bydd pwdu a gwrthod pleidleisio, neu ymuno yn yr hwyl a phleidleisio i Iwcip, yn niweidio'r achos cenedlaethol yn ei gyfanrwydd am gyfnod hir.
Pe bai Parti'r United Kingdom yn cael mwy o bleidleisiau na'r Party of Wales ar Fai 22 mi fydd yr achos gwladgarol, nid jest yr achos cenedlaethol yn y cachu!
Mae'n bwysig bod pob un o garedigion Cymru sydd wedi hanner meddwl pleidleisio dros Gymru a Phlaid Cymru yn y gorffenol yn gwneud hynny eleni!
Nid Etholiad Dibwys, sydd ddim yn cyfrif gystal ag Etholiad San Steffan neu Etholiad y Bae yw Etholiad Ewrop eleni – ond Etholiad am Einioes ein Cenedl.
Pleidleisia, Cymro dwymgalon, dros Gymru dy wlad! Neu gweld Brit Nat Seisnig yn dy gynrychioli ar lwyfan y byd!
Dw i wedi rhoi ymateb ar eich blog Saesneg, ac rwan byddaf yn ceisio gwneud yr un peth yn y Gymraeg. Onid ydych yn deall y gall gwladgarwyr Cymru yn dewis y Blaid Lafur Gymreig? Ymddengys eich bod yn anghofio am y traddodiad Llafur hir iawn yng Nghymru, a gynrychiolir gan bobl fel Megan Lloyd-George, Cledwyn Hughes a Goronwy Roberts ac wedyn Carwyn Jones. Mae'r Cymry yn gweld bod y Blaid Lafur ers dros ganrif wedi ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol a chymunedau cryf. Efallai y byddwch yn cashau rhai o'u polisïau, ond nid yw’r pobl yma yn Saeson neu rydeinwyr. Mae'r dewis go iawn yn fy marn i yw rhwng y Blaid Lafur a UKIP. Byddai'n well gennyf Lafur.
ReplyDelete01492 583420
ReplyDeleteYn yr etholiad ar gyfer Senedd Ewrop a gynhelir ar ddydd Iau, 22ain. o Fai, eleni byddaf fi a phob aelod o'm teulu yn bwrw pleidlais o blaid UKIP. Dyma un rheswm pam:
Mae cigoedd o bob math sydd yn 'addas-ar-gyfer Mahometainiaid' yn cael eu gwerthu'n y dirgel i ni, gwsmeriaid, yn ein harcfarchnadoedd, ac y mae llawer o blant y wlad yn eu bwyta'n ddiarwybod iddynt eu hunain a'i rhieni yn ein hysgolion. Dw i'n credu mai gwarth o beth yw hyn o ystyried mai dim ond ychydig llai na 5% o boblogaeth Prydain Fawr sy'n Fahometaniaid. Ffwndamentaliaid Mahometanaidd dan ddylanwad eithafiaid Deobandi o India a Phacistan, penboethiaid Wahabbaidd o Sawdi-Arabia ynghyd â gwallgofiaid Salaffaidd y Frawdoliaeth Fahometanaidd yn yr Aifft sydd y tu ôl i hyn i gyd. Y ffwndamentaliaid a enwyd gennyf fi yw deilliaid y Ceffyl Pren Caerdroea a lusgwyd i'r wlad hon yn sgil y mewnlifo a fu iddi yn ystod y ddegawd sydd newydd fynd heibio o wledydd Mahometanaidd y byd gyda chefnogaeth y Blaid Lafur yn bennaf. Am ba hyd yr arhosant yn gymharol dawel ynddo, tybed ?
Dw i ddim o blaid mewnfudo o wledydd Mahometanaidd dan unrhyw amgylchiad.
Twt lol botas Dafydd. Yr wyt ti wedi syrthio allan efo UNIGOLYN o dras Asiaidd ac yn beio'r byd cyfan du mas i Loegr am ffaeleddau'r unigolyn!
DeleteI Gristion neu anghrediniwr gorllewinol Cig ydi Cig ydy Cig! Trwy ddweud bod cig yn "Hala" neu yn "Gosha", yn hytrach na jest cig yr wyt yn cytuno a'r rhai yr wyt yn dadlau yn eu herbyn trwy gytuno bod rhywbeth "gwahanol" yn perthyn i 'w cigoedd yn hytrach na derbyn mae cig di cig.
Mae Pleidlais i IWCIP, plaid sydd yn hollol wrthwynebus i Gymru a'r Iaith Gymraeg, yn bleidlais o biso yn dy nyth dy hun, byddwn wedi disgwyl amgenach gennyt ac yr wyf wedi fy siomi'n arw.
Mae'n wir dweud mai'r ffrae a gefais gyda'm cyn gymydog yn gynnar yn y flwyddyn 2004 a sbardunodd fy niddordeb mewn Mahometaniaeth a pheryglon y grefydd waedlyd honno. Rwyf yn ddiolchgar iddo am hynny oblegid ers yr amser crybwylliedig rwyf wedi dysgu llawer iawn am y bygythiad i ddemocratiaeth yn Ewrop ac yma ym Mhrydain Fawr o du ffwndamentaliaeth sydd wedi'i ymsefydlu'i hun o fewn y gymdeithas Fahometanaidd Brydeinig yn sgil y mewnlifiad afresymol o fawr i'r wlad hon wedi i'r llywodraeth Lafur agor y llifddorau'r wlad led y pen ddegawd a mwy'n ôl bellach i fewnfuwyr o bedwar ban y byd yn enwedig mewnfudwyr o wledydd Mahometanaidd. Beth sydd wedi digwydd i ti'n wleidyddol yn y cyfamser ? Hyd y gwelaf fi rwyt wedi teithio i wlad go bell ac wedi colli llawer o gysylltiad gyda realaeth yn y broses ! Erbyn hyn, dwyt ti ddim yn gallu gweld hyd yn oed mai IWCIP sydd yn adlewyrchu orau barn trwch go sylweddol o boblogaeth Prydain ar faterion megis, er enghraifft, gadael Ewrop a mewnfudo i Brydain, sef deubeth sydd o dragwyddol bwys i mi.
ReplyDeleteDoes dim ond un grefydd fwy gwaedlyd na Christionogaeth, ac anffyddiaeth yw honno. Ar y cyfan mae Mwslimiaid, megis Cristionogion, yn weddol heddychlon. Yn ddi-os mae yna bobl gythreulig sy'n defnyddio'r tair credo i geisio cyfiawnhau ffieidd-dra erchyll, ond mae'r bai am hynny yn perthyn i'w natur ddynol (eu pechod gwreiddiol, hyd yn oed) yn hytrach na natur eu ffydd. Pobl ydynt byddai'n defnyddio esgus arall dros eu gweithredoedd pwdr pe na bai crefydd neu wrthwynebiad i grefydd yn bodoli fel cyfiawnhad.
DeleteY broblem sydd gen i efo IWCIP yw eu bod bron yn drychlun o dy gwyn am Mahometaniaeth uchod, maent yn ffwndamentalwyr, anoddefgar o unrhyw wahaniaeth, am gosbi pobl wahanol iddynt , am orfodi eu hunffurfiaeth ar bawb. I ddweud y gwir does dim modd rhoi papur ffag rhwng agwedd IWCIP/BNP ac agwedd y Taliban i'r sawl nad ydynt yn cydymffurfio i'w delfrydau gwleidyddol. Dau ochr o'r un geiniog ffals ydynt.
Ac , wrth gwrs, yr hyn nad ydwyt yn fodlon cydnabod yw mai Wog wyt ti, ac iaith Bongo-Bongo yw iaith y llith hon yn ôl dy annwyl blaid neo-natsiaidd; a bod gwasanaeth Cymraeg yn Capel Annibynwyr Llanrwst mor ffiaidd iddynt ac ydy gwasanaeth mewn Mosg ym Mecca.
Diolch i ti am ymateb i'm sylwadau uchod.
ReplyDeleteYn anffortunus, mewn perthynas ag IWCIP, rwyt yn rhygnu ar yr un tant yn union ag aelodau o'r Blaid Lafur, y Blaid Dorïaidd a Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol. Er enghraifft, oblegid ei bod hi wedi ei heclo ynghylch mewnfudo yn Ebrill 2010, cafodd Mrs. Gillian Duffy o Rochdale ei galw'n ddynes gul ei barn gan y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown. Dyna'n gyffredinol yw agwedd arweinyddion y Blaid Lafur o hyd tuag at etholwyr sy'n rhannu'r un pryderon ynghylch mewnfudo â Mrs. Gillian Duffy a dyna hefyd yw agwedd Prif Weinidog presennol y wlad, sef David Cameron, tuag atynt hefyd. Onid yw ef wedi'r cwbl wedi ceisio'i orau glas i bardduo enw IWCIP a'i chefnogwyr pan welodd yn dda i'w galw'n ' fruitcakes and loons ', ' scaremongers ' a ' closet racists '. Gan hynny wyt ti'n rhyfeddu bod cymaint o gyn gefnogwyr y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd hithau wedi cefnogi Nigel Farage ?
Mae cwestiwn y mewnfudo dilyfethair i'r wlad hon wedi poeni tua 74% o'i phoblogaeth ers pan draddododd y diweddar Enoch Powell ei araith enwog yn 1968. Heblaw am yr ymadawedig Enoch Powell, mae pwnc y mewnfudo wedi bod yn dabŵ ymhlith gwleidyddion blaenllaw pob plaid wleidyddol ym Mhrydain ers hynny. Eithr, yn gyffredinol, nid hilyddion neu estrongasawyr yw'r bobl sydd wedi cefnogi IWCIP a mae dweud hynny amdanynt yn dangos fod arweinyddion y ddwy blaid a chwarter yn San Steffan yn gwneud yr un camgymeriad yn union ag yr wyt ti yn ogystal â glasenwyr eraill yn ei wneud mewn perthynas â nhw.
Yn y byd go iawn y tu draw i San Steffan, mae mewnfudo dilyfethair i'r wlad hon wedi rhoi pwysedd afresymol ar ein gwasanaeth iechyd, wedi creu prinder tai, wedi gorlenwi ein hysgolion ac wedi achosi i lefelau cyflog aros yn llonydd ers amser maith. Ar faterion o'r fath nid yw gwleidyddion San Steffan yn adlewyrchu barn y mwyafrif o drigolion Prydain ac arglwyddi'r faenor hwnnw sydd wedi achosi llawer i gofleidio gwleidyddiaeth IWCIP.
Mae mater ein perthynas gyda'r Gymuned Ewropeaidd y mae Nick Clegg mor hoff ohoni wedi poeni llawer hefyd yn bennaf oblegid ei bod yn anemocrataidd ac anatebol. Er enghraifft, ar y mater o fewnfudo i'r wlad hon nid oes gennym yr hawl i'w rwystro. Pa les ydy hynny i drwch poblogaeth Prydain ?
Yn fy sylw blaenorol fe ddywedais dy fod wedi teithio i wlad go bell yn ystod y deng mlynedd sydd wedi mynd heibio hyd y gwelwn i a dy fod wedi colli llawer o gysylltiad gyda realaeth yn y broses. Fe ddengys dy ymateb diweddaraf i'm sylwadau dy fod wedi colli dy bwyll yn gyfangwbl yn ystod y ddegawd grybwylliedig!
Dwi ddim yn deall y sylw hurt fy mod i wedi "teithio i wlad bell". Roeddwn yn genedlaetholwr Cymreig pan gwrddais â thi am y tro cyntaf rhyw 37 mlynedd yn ôl ac yr wyf yn parhau i fod yn genedlaetholwr Cymreig. Sut mae dy falu cachu am San Steffan a Nick Clegg a Gordon Brown yn berthnasol i unrhyw farn wleidyddol yr wyt wedi clywed fi'n coleddu erioed?
ReplyDeleteY gwir yw, y broblem mewnfudo sydd yn effeithio fwyaf ar Ddyffryn Conwy yw mewnfudo o Loegr, nid mewnfudo o unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mae'r Blaid yr wyt ti bellach mor frwd drosti yn hollol gefnogol ac yn gynrychiadol o'r mewnfudwyr yna. Mae dy blaid yn hollol wrthwynebus i Gymru fel gwlad, yn wir yn gwadu bod ein gwlad yn ddim byd amgenach na ranbarth o Loegr; mae wedi galw am ddiddymu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw am wahardd dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion ac wedi cwyno am fodolaeth arwyddion dwyieithog ar lonydd Cymru.
Rwy'n cofio'r adeg pan oeddet ti yn undebwr llafur brwd yn cefnogi hawliau gweithwyr, bellach yr wyt yn rhoi llais i blaid sydd am ddiddymu holl hawliau gweithwyr. Rwy'n cofio amser pan oeddet ti yn sefyll i fynnu tros y difreintiedig, bellach yr wyt yn gefnogol i blaid sydd am sathru ar y difreintiedig, rwy'n cofio'r adeg pan oeddet yn lled gefnogi Cymru fel dy wlad, bellach yr UK yw dy wlad - pwy sydd wedi teithio i wlad bellennig o ran wleidyddiaeth?
This comment has been removed by the author.
DeleteGan y bydd eu cynnwys o ddiddordeb i ti o bosibl, dyma ddau sylw arall a bostiais yn wreiddiol ar Gweplyfr mewn perthynas â'm cefnogaeth o IWCIP yn yr etholiadau a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf:
ReplyDeleteAr un adeg bûm yn gefnogwr brwd o'r Blaid Lafur ond cefais fy siomi ganddi droeon wedi iddi ennill grym gwleidyddol. Wedyn, pan oedd Elwyn Llwyd yn AS dros Gonwy fe'i cefnogais ef tan iddo ddechrau cynrychioli etholaeth arall oblegid mai AS proffesiynol ydoedd yn y bôn. Gwastraff llwyr o'm pleidlais fu hynny ar fwy nac un achlysur oblegid, er i mi geisio'i gymorth ddwywaith yn ystod y cyfnod crybwylliedig, chefais i ddim math o help ganddo. Gan hynny, gyda threiglad amser cefais fy siomi gan y ddwy blaid a enwyd gennyf hyd yma. Yn y flwyddyn 2010 fe gefnogais plaid David Cameron yn bennaf oherwydd ei fod ef wedi addo rheoli mewnfudo i'r Deyrnas Unedig o bedwar ban byd a chefais fy siomi unwaith yn rhagor oherwydd ei anonestrwydd yn y mater. Gan hynny, fe gefnogais IWCIP yn yr etholiadau a gynhaliwyd ddydd Iau diwethaf. Fe agorodd y Blaid Lafur lifddorau'r wlad i fewnfudo o bob rhan o'r byd heb yn gyntaf ymgynghori gydag etholwyr y wlad. Hefyd, wedi Maastricht, mae'r Gymuned Ewropeaidd ym mae Llafur, y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd a'u canlynwyr mor hoff ohoni wedi newid o'r hyn ydoedd i fod yn gorff anatebol ac anemocrataidd. Mae Nigel Farage yn anad yr un gwleidydd arall yn deall yn burion nad oes fodd rheoli mewnfudo i'r Deyrnas Unedig heb yn gyntaf gadael y Gymuned Ewropeaidd. Mae ei farn ef a minnau ar y ddau ben hwnnw fel llawer un arall yn cynghaneddu'n dda a dyna pam y bydd 24 aelod o IWCIP yn cynrhychioli'r wlad hon ym Mrwsel maes o law.
Rwyf fi'n gysylltiedig â dau y mae eu henwau erbyn hyn yn greithiau o lythrennau sudd ar gofebau milwrol o ganlyniad i'r slachtar yn y llwtra ar y Somme adeg y Rhyfel Mawr. Gorwedd un ohonynt ym Mynwent Filwrol Lijssenthoek yn Nglwad Belg tra gorwedd y llall ym Mynwent Filwrol Sucrerie yn Ffrainc a maged fi'n y mynych sôn am flynyddoedd lawer am y ddau ohonynt. Roedd y naill yn frawd i fy nain ar ochr fy ymadawedig fam o waed ac roedd y llall yn dad i fy niweddar fam faeth. Anrhydeddwyd brawd i fy niweddar fam o waed gyda medal y DCM am ei ddewrder tra'n paffio yn erbyn y gelyn yn harbwr Boulogne adeg yr Ail Ryfel Byd ac wedi iddo gael ei ddal gan y gelyn a'i garcharu ganddynt fe gafodd ei arteithio'n ddifrifol gan y Gesptapo. Yn 1964 a 1965, gwelodd fy hanner brawd hynaf ar ochr fy mam o waed frwydro yn erbyn comiwnyddion yn Aden (Yemen heddiw) gyda chorfflu morol Prydain. Roedd pob un o'r rhai a gafodd eu crybwyll gennyf yn caru eu gwlad yn union fel Nigel Farage a minnau. Nid Natsi yw Nigel Farage ac nid eithafiaeth adain dde yw dymuno gadael y Gymuned Ewropeaidd felly pam ydych yn codi bwganod o'r fath ? Wn i ddim am Farage ond dw i o blaid Ewrop o wledydd annibynol yn masnachu gyda'i gilydd eithr nid wyf o blaid yr anghenfil anatebol ac anemocrataidd sy'n ein rheoli o Frwsel yn bresennol ac rwyf hefyd yn erbyn mewnfudo ar raddfa ddiwydiannol i'r wlad hon o bedwar ban y byd ond nid wyf yn erbyn mewnfudo i Brydain ynddo'i hun. Mae'n debyg mai am yr un rhesymau â minnau mae 4½ miliwn o etholwyr eraill wedi bwrw eu pleidlais o blaid IWCIP. Ai eithafwyr adain dde ydy bob un ohonyn nhw ? Bwrw sen arnynt yw awgrymu'r fath beth. Dw i ddim yn credu y byddai yr un ohonynt yn ffafrio gwleidyddiaeth Natsïaidd Gabor Vona o Hwngari a'i ddilynwyr nac ychwaith gwleidyddiaeth Natsïaidd Illias Panagiotaros a'i ddilynwyr o Wlad Groeg. Mae byd mawr o wahaniaeth rhwng gwleidyddiaeth y ddau olaf a enwyd gennyf fi a gwleidyddiaeth IWCIP fel mae'r blaid honno wedi'i chyfansoddi'n bresennol.
Gwir yr! Dafydd bach!
DeleteMae dy ymateb yn drewi o ffug academyddiaeth ac yn fy atgoffa o feirniadaeth y Dr Tudur Jones o Fudiad Adfer (mudiad yr oeddwn yn aelod ohoni pan ddaethom i adnabod ein gylydd cyntaf) llwyth o gac wedi ei lapio mewn enwau ffilosoffwyr nad oes disgwyl i gefnogwyr na gwrthwynebwyr achos i fod yn gyfarwydd â hwy.
Heb wybod, heb eisio gwybod, am Gobar Voner a'i debyg, rwy'n gwybod bod Nigel Farage yn uwch filiwnydd sydd wedi gwneud ei ffortiwn yn y sector bancio ac sydd am feio mewnfudwyr ac Ewrop am holl drafferthion Prydain Fawr yn hytrach na derbyn mae efe a'i debyg yw'r broblem. Does dim ots gen i os ydy hynny yn ei wneud o'n ffasgydd neu beidio yn ôl diffiniad llawlyfr o ddiffiniadau gwleidyddol. Yn ôl fy niffiniad i mae ei agwedd a'i ymddygiad yn drewi o faw isa’r domen.
Sylwi dy fod wedi teithio'n bell eto; i Ffrainc, a Fflandrys a Gwlad Groeg, ond eto yn gwrthod ymateb i'r sylwadau a wnaed yn y post gwreiddiol a phob ymateb i dy sylwadau blaenorol parthed y ffaith bod IWCIP yn blaid wrth Gymreig a gwrth Gymraeg
Pam wyt ti wedi cael dy gynhyrfu unwaith yn rhagor gan fy sylwadau call uchod ? Ynghylch y ' wlad bell ' a soniais amdani, credaf y dylet ddarllen dameg y Mab Afradlon. Pan ddywedais uchod dy fod wedi teithio i wlad bell, yr hyn a olygwn oedd dy fod wedi troi oddi wrth realiti'r byd go iawn. Mewn geiriau eraill dy fod wedi colli cysylltiad gyda'r sefyllfa gwrthrychol yn y byd go iawn mewn perthynas â mewnfudo i Brydain, Mahometaniaeth, a'r Gymuned Ewropeaidd sydd erbyn hyn wedi troi'n sefydliad llwgr sydd yn cael ei rhedeg gan bobl ddigywilydd fel pot. Fe ddengys dy sylwadau uchod i mi dy fod yn ymddwyn fel gorffwylyn sarhaus !
ReplyDeleteAc eto byth wyt ti'n gwneud sylwadau gwbl amherthnasol a phersonol sarhaus sydd yn osgoi'r pwnc dan sylw; pam dy fod ti a phaham dyliwn i cefnogi blaid sydd yn hollol hollol gwrth Gymreig a gwrth Gymraeg?
ReplyDeleteGwneud sylwadau personol sarhaus a ddywedaist ? Yli, tyn y trawst o dy lygad dy hun yn gyntaf ac yna fe weli di'n ddigon clir i dynnu'r brycheuyn o'm llygaid i wedyn. Fe ddylet ti o bawb wybod nad gwiw i neb fod yn groendenau os ydynt am ymhel â gwleidyddiaeth fel yr wyt ti mor hoff o'i wneud. Rhydd i bawb ei farn ac yr wyf fi wedi cyfathrebu honno uchod mor gwrtais â phosibl. Dw i wastad yn ceisio fy ngorau glas i gadw y cysylltiad agosaf posibl gyda gwirioneddau gwrthrychol yn y byd go iawn ac yn fy marn i y mwyaf o'r rheiny'n bresennol yw mai corff cwbl anatebol ac anemocrataidd yw'r Gymuned Ewropeaidd erbyn hyn a chan hynny, er ein lles ein hunain, mae'n rhaid unai'i ddiwygio'n ebrwydd neu ei adael. Os wyt ti ddim yn cytuno gyda'r asesiad hwnnw ar hyn o bryd, efallai y byddi di'n gallu gweld hynny dy hun wedi i ti ddychwelyd o'r wlad bell honno yr wyt ynddi ar hyn o bryd lle'r wyt ti yn fy nhyb i wedi colli pob cysylltiad gyda gwirioneddau gwrthrychol y byd go iawn !
ReplyDeleteTi sydd yn gwrthod ymdrin â gwirioneddau gwrthrychol y byd go iawn trwy osgoi, unwaith yn rhagor, y gwirionedd plaen bod IWCIP yn gyfan gwbl gwrth Cymreig. Os oes agen i rywun ail gysylltu â realaeth ti yw hwnnw. Y realaeth am IWCIP yw ei fod yn blaid sydd wedi ei selio ar anghyffyrddusrwydd / casineb tuag at bobl sydd yn wahanol iddynt; a dy fod di yn un o'r bobl "gwahanol" hynny y maent yn eu casáu. Mae'r sawl sydd yn cefnogi'r rhai sydd yn eu casáu wedi teithio i wlad bell iawn o wlad realaeth - yr holl ffordd i wlad y gwcw, lle mae'n ymddangos dy fod di'n trigo bellach.
Delete