Er gwell, er gwaeth, mi fûm yn gefnogwr
brwd o Fudiad Adfer ar ddiwedd y Saithdegau, dechrau'r Wythdegau. Rwy'n dal i
gredu bod polisi iaith Adfer yn gywir. Pe bai Bro Gymraeg wedi ei greu yn y
1980au byddai hanes yr iaith yn wahanol!
Dadl Adfer oedd Un Iaith i'r Fro!
Rwy'n cael fy nhristau gan ddadl rhai bod
angen Uniaith i waddol Cymru (Saesneg) a dwyieithrwydd i'r Fro a hynny'n cael
ei gyflwyno fel etifeddiaeth Adfer.
Newydd wedi prynu "Pa Beth yr Aethoch Allan i'w Achub?" (Brooks & Roberts etc.) yn meddwl ei fydde rhyw fath o "Adfer a'r Fro Gymraeg" (Llywelyn) i heddiw, ond dwi'n hollol siomedig. Maen nhw dim ond dweud y petha sy'n amlwg i bawb yn y Bro mewn geiriau hir ac astrus, yn disgrifio'r broblem heb gynnig atebion ymarferol. Gwell felly tro'n ôl i geiria Emyr Ll., dyna o leia y mae ysbrydoliaeth, dyna ddychymyg (... heb dim sôn am ei Gymraeg ardderchog!)
ReplyDelete