Mi fûm yn un o'r ychydig prin a oedd yn gwylio darllediadau o'r Cynulliad ar S4C2 yn weddol reolaidd - oleiaf 2-3 gwaith yr wythnos. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, da oedd cael y sianel ar gyfer darllediadau byw o'r Babell Lên fel gefaill i ddarllediadau o'r Pafiliwn Pinc.
Mae fy ymateb i'r holiadur ar gael yma (dogfen pdf)
Yn fras fy ymateb oedd:
Er gwaetha'r ffaith fy mod yn un o wylwyr rheolaidd prin y sianel, yr wyf yn fodlon aberthu'r cynnwys yr wyf fi yn ei fwynhau er mwyn creu gwasanaeth amgen i blant a phobl ifanc.
Mae'r gwasanaeth i blant arfaethedig wedi ei greu (ond nid y gwasanaeth i bobl ifanc); ond mae'n cael ei ddarlledu fel rhaglenni Cyw ar S4C1 yn ystod yr oriau hynny cyn y pnawn pan nad oedd S4C yn arfer darlledu yn ddigidol o gwbl.
Ers yr wythfed o fis Awst, bron i bum mis yn ôl, yr unig beth sydd wedi ei ddarlledu ar S4C2 yw Tudalennau Gwybodaeth gyda llun o fwi môr a rhif ffôn y Gwifryn Gwylwyr. Yr oeddwn yn fodlon colli fy ngallu i wylio'r Cynulliad a'r Babell Lên ar gyfer creu lle i wasanaeth amgen a mwy poblogaidd, ond nid er mwyn ei golli am rif ffôn a llun gwirion!
Er mwyn darlledu'r Tudalennau Gwybodaeth, mae'n rhaid bod S4C yn parhau i dalu'n ddrud am y slot darlledu. Rwy'n gallu meddwl am gant a mil o ddefnyddiau ar ei gyfer yn ogystal a'r sianel i bobl ifanc a addawyd:
S4C + 1 - ar gyfer y rhai sy'n codi'n hwyr ar ol siesta'r pnawn Sianel Amaethyddol, fel nad oes raid inni gael gymaint o faw gwartheg ar y brif sianel ar raglenni megis Cefn Gwlad, Ffermio a Fferm ffactor. Sianel Chwaraeon er mwyn osgoi newidiadau i'r arlwy arferol gan fod gemau rygbi / pêl-droed / tidliwincs pwysig yn cael eu cynnal. Sianel ailddarllediadau - i wneud lle i gynnwys rhaglenni newydd ar y brif sianel yn hytrach na dangos Fferm Ffactor pum gwaith yr wythnos
Pa bynnag defnydd a wneir o sianel S4C2, oni bydda rywbeth yn well na thalu am sianel wag?