12/01/2011

Rwyf am arwain yr Ymgyrch Na swyddogol. A oes Gefnogwyr?

Rwy'n ansicr os yw blogiad diweddaraf Ifan Morgan Jones ar Flog Golwg yn un difrifol neu'n un tafod mewn boch – rwy'n credu ei fod o ddifrif!

Yn ôl Ifan mae True Wales yn bygwth peidio a gwneud cais i fod yn ymgyrch Na swyddogol.

Yn ôl y ddeddf os nad oes ymgyrch Na swyddogol 'does dim modd cael ymgyrch Ie swyddogol chwaith!

Mae'n dacteg ddiddorol.

Os bydd ymgyrchoedd Ie a Na swyddogol bydd y naill ochr a'r llall yn cael £70,000 o goffrau'r Llywodraeth er mwyn eu cefnogi. Os na fydd ymgyrch Na swyddogol, bydd dim hawl i ymgyrch Ie swyddogol bodoli chwaith.

Os nad oes ymgyrchoedd swyddogol bydd dim hawl i Undebau Llafur na Phleidiau Gwleidyddol nac Elusennau na Busnesau nac amryw o gyrff eraill cefnogi ymgyrch Ie nad yw'n bodoli yn swyddogol.

Mae'n dacteg bydd yn ceisio boddi trafodaeth ar y pwnc (a chreu dadl cyn lleied a phleidleisiodd at y dyfodol)! Mae'n dacteg sydd raid ei drechu!

Y mae gennyf trac record am amau dilysrwydd trywydd datganoli gan nad ydyw yn mynd yn ddigon pell. Yr wyf yn Genedlaetholwr yn hytrach nac yn Ddatganolwr. Os nad oes ymgyrch Na go iawn yn cael ei gynnig gan y gwrth Gymreig yr wyf yn fwy na bodlon ffurfio ymgyrch Na ar sail Cenedlaetholdeb, ac yn gwbl sicr caf digon o genedlaetholwyr ynghyd bydd yn fodlon llyncu'r £70K o nawdd mewn cyfarfodydd trefnu'r ymgyrch!

Sut mae mynd ati i wneud cais am fod yn arweinydd ymgyrch Na?

4 comments:

  1. Aled GJ1:34 pm

    Syniad diddorol HRF! Er mewn ffordd-basa hynny'n golygu dwy ymgyrch IA yn byddai, IE swyddogol ac IE PLUS....? Tybed a fyddai hynny'n dderbyniol gan y Comisiwn Etholiadol?

    Be wyt ti'n ei ragweld fel rhan o'r IE PLUS? A fyddai'n bosib cynnwys syniadau beiddgar y mae'r IE swyddogol yn ofni eu cyffwrdd megis rheolaeth dros y sector ynni, trosglwyddo hawliau dros ddarlledu i Gaerdydd, Symud S4C i'r Fro Gymraeg, hawl i amrywio trethi ayb, ayb. Yn sicr, byddai'n fodd o gyflwyno y math o syniadau yr hoffai cenedlaetholwyr eu gweld yn rhan o'r drafodaeth genedlaethol!

    ReplyDelete
  2. Er mwyn osgoi dryswch - er mod i wedi defnyddio'r enw Macsen ar Maes-e, dw i ddim yn ei arddel mwyach. Mae yna rywun arall yn gadael sylwadau ar y blog yma ac eraill sy'n galw ei hun yn 'Macsen', ond nid fi ydyw. Rhag ofn bod rhywun yn drysu a meddwl mai fi yw'r Macsen hwnnw.

    Diolch, Ifan

    ReplyDelete
  3. Rwy'n ymddiheuro Ifan, roeddwn wedi gwneud y camgymeriad o feddwl mai dy gyfraniadau di oedd cyfraniadau "Macsen" ar dudalennau sylwadau blogiau Cymru. Yr wyf wedi golygu'r post!

    ReplyDelete
  4. Yn anffodus Aled yn ôl Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferendwm 2000 gall y Comisiwn Etholiadau dim ond rhoi cefnogaeth i un ymgyrch o'r naill ochor neu'r llall. Ond mae'r pwynt yr wyt yn ei wneud yn un ddilys. Mi fyddwyf, er gwaethaf y post yma, yn pleidleisio Ie, ond nid am y rhesymau bydd yr ymgyrch Ie yn ei hybu. Yn rhyfedd iawn byddaf yn pleidleisio Ie oherwydd dadl mae True Wales yn ei wneud sef y bydd pleidlais gadarnhaol yn gam arall ar y llwybr llithrig tuag at annibyniaeth.

    Dyma wendid y ddeddf, nid ydyw'n cydnabod bod pobl wahanol am bleidleisio mewn refferenda am resymau gwbl wahanol i'r ymgyrchoedd swyddogol, ond na fydd hawl gwyntyllu'r rhesymau yna fel rhan o'r ymgyrch swyddogol.

    ReplyDelete