Difyr bod Blog Menai wedi gwneud ffys am ddatganiad parthed fy sylw am nifer y bobl yng Ngwynedd sy'n cydnabod eu hunaniaeth Gymreig.
Byrdwn fy sylw oedd effeithlonrwydd polisi addysg Gymraeg Gwynedd, druan na chafodd ymateb!
Ym 1974, pan ffurfiwyd y Sir newydd, penderfynodd Awdurdod Addysg Gwynedd mae'r Gymraeg oedd iaith naturiol ei thiriogaeth, a gan hynny nad oedd rhaid iddi ddilyn trywydd ysgolion Gwent, Morgannwg a Chlwyd o sefydlu ysgolion Cymraeg penodedig.
Ffug benderfyniad wedi ei selio ar ddelfryd o'r cychwyn cyntaf.
Mi ddilynais i gwrs lefel A Hanes yn Ysgol y Gader Dolgellau ychydig ar ôl gychwyn y polisi. Roedd 10 ddisgybl am ddilyn y cwrs drwy'r Gymraeg, fi oedd yr unig un digon ansicr fy Nghymraeg i ddymuno dilyn y cwrs trwy'r Saesneg, ac yn ôl traddodiad y dafarn, os oes un yn y cwmni yn ddi-Gymraeg yr ydym i gyd yn troi at y Saesneg - a dyna a wnaed yn y gwersi hanes! Y peth ffieiddiaf oedd fy mod, nid yn unig wedi troi iaith y dosbarth, ond fy mod wedi methu'r arholiad efo gradd F.
Roedd gan yr athro Ysgrythur agwedd gwahanol! Yr oedd yn gwybod fy mod yn mynychu ysgol Sul Cymraeg ac yn mynnu bod fy ngwybodaeth ysgrythurol yn well yn y Gymraeg nag oedd yn y Fain ac yn gwrthod troi iaith ei wersi ar fy nghyfer. Roedd o'n fodlon marcio traethodau Saesneg gennyf ac yn y Saesneg sefais yr arholiad, ond trwy'r Gymraeg fu 90% o'r gwersi. Yn rhyfedd iawn cefais radd A yn yr Ysgrythur!
Pymtheng mlynedd ar hugain yn ôl penderfyniad athro unigol oedd sicrhau gwireddiad y polisi o "naturioldeb" y Gymraeg mewn addysg, ac roedd angen athro cryf i'w gwireddu. Efo llai a llai o blant cynhenid Gymraeg yn ysgolion Gwynedd mae gwireddu polisi sydd wedi aros yn ei hunfan ers 37 mlynedd yn amlwg am fod yn fethiant. Mae gormod o blant mewnfudwyr wedi troi iaith "naturiol" ysgolion. Mae'n rhaid i Wynedd derbyn bod angen ysgolion penodedig Cymraeg i gadw'r iaith yn fyw yn y dalaith!
Y peth tristaf am addysg Gwynedd yw mai'r ysgolion lleiaf, fel Ysgol y Parc ac Ysgol y Clogau, ysgolion sydd am gau, bu'r fwyaf llwyddiannus o gadw'r ethos Gymraeg yn fyw. Trwy eu huno ag ysgolion mwy bydd naturioldeb y Gymraeg yn ysgolion Gwynedd yn gwanhau - a gwaeth i ysgol 3-16 oed ar gyfer plant canolbarth Meirionnydd cael ei nodi fel Ysgol Penodedig Saesneg - dyna fydd mewn pob dim ond enw!
Mae'n rhaid i Gyngor Sir Gwynedd derbyn bod y lol o bob Ysgol yn Ysgol Gymraeg yn jôc bellach, a dechrau trefnu addysg Gymraeg go iawn.
Diolch, Alwyn. Mae hyn yn wir hefyd, wrth gwrs, yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Drefaldwyn a (Gogledd) Penfro.
ReplyDeleteMae'r awdurdodau addysg wedi gwrthod agor ysgolion penodedig Cymraeg eu hiaith yn yr ardaloedd gwledig, gan bwysleisio mae'r Gymraeg yw iaith "naturiol" bob un ohonynt.
Efallai y bu hi felly yng nghanol y '70au, ond erbyn heddiw mae'r Cymro a'r Gymraes fach yn medru bod yn brin iawn. Mewn rhai ysgolion "naturiol" mae hyd at 90% o'r plant yn dod o aelwydydd di-Gymraeg. Pa obaith sydd i'r trueiniaid prin o Gymry o dan yr amgylchiadau hynny?
Aled.
Cytuno i'r dim â'r hyn rwyt ti'n ei ddweud. Dylid penodi bob ysgol naturiol yn ysgol penodedig. Cyfle i neud e nawr gan fod mesur iaith newydd ayyb.
ReplyDeleteOs chi'n meddwl bod y sefyllfa'n wael yng ngwynedd angen dod i Sir Gâr. Mae'r cyngor yn amwys iawn dros ehangu addysg Gymraeg. Dwi'n mynychu naturiol ddwyieithog. A brwydr parhaol yw i fynnu gwybodaeth yn Gymraeg, fynnu pynciau yn yr iaith er fod canran Cymry'r Cwm tua 74% dim ond 38% yn yr ysgol sydd yn derbyn addysg neu peth o'u haddysg yn Gymraeg. Mae'n gywilyddus. A'r holl busnes naturiol yma dwli, angen diffinio a chael gwared ar apathi. Pobl Cymru o hyd yn eistedd ar y ffîn yn hytrach na dweud yn glir beth ni eisiau.