05/01/2011

Hel Tai efo'r Arg Roj

Yn fy hosan eleni fe fu Siôn Corn yn ddigon caredig i adael llyfr nad oeddwn yn gwybod ei fod wedi ei gyhoeddi gan na chlywais dim son amdano yn y wasg Gymreig na'r wasg leol sef atgofion y Parchedig Arglwydd Roger Roberts. Hel Tai - O Dŷ Plant i Dŷ'r Arglwyddi

O ran gofiant i bregethwr, rhaid cydnabod nad yw yn cymharu â Chofiant John Jones Talsarn, dydy o ddim ychwaith ymysg yr hunangofiannau gorau gan wleidydd. 'Does yna ddim byd syn hunandybus am Roger, am ŵr cyhoeddus mae o'n eithriadol swil ac yn gyndyn i frolio ei gryfderau ei hun ac i ladd ar wendidau eraill - sef yr union bethau mae dyn yn disgwyl o gofiant gwleidydd.

Sawl blwyddyn yn ôl fe wnaeth Roger gael darlithydd gwnsela o Goleg Llandrillo i roi cyfres o wersi i bregethwyr a blaenoriaid y gylchdaith er mwyn gwella ein sgiliau empathi a'r praidd. Yn un o'r gwersi gofynnodd y darlithydd inni feddwl am rywbeth trychinebus yn digwydd i berson yr oeddem yn ddrwg leicio, a be fydda ein hymateb? Roedd y mwyafrif ohonom yn feddwl am farwolaeth cymydog yr oeddem wedi cael ffrae a fo a'r anhawster o gydymdeimlo a'r teulu wedyn; ymateb Roger oedd mai ei ymateb ef i newyddion drwg am ei arch-elyn bydda paratoi am isetholiad. Does dim o'r cig-noethder yna yn y llyfr - mwya’r piti.

Mae'n llyfr darllenadwy ac yn un gwerth ei brynu (oni bai bod Siôn Corn wedi gadel copi yn yr hosan).

Mae'n ddifyr hefyd oherwydd bod dau o wrthwynebwyr Roger yn sedd Conwy eisoes wedi cyhoeddi hunan gofiannau. Daeth Right From the Start Syr Wyn allan yn 2005 a llyfr Betty Williams, O Ben Bryn i Dŷ'r Cyffredin llynedd, sydd o bosib, yn gwneud Conwy'r etholaeth fwyaf hunangofiantedig yn y bydysawd!

Hel Tai - O Dŷ Plant i Dŷ'r Arglwyddi Roger Roberts Gwasg y Bwthyn £7.95 ISBN: 9781907424120

No comments:

Post a Comment