Mae'r post hwn yn codi o sylwadau sydd wedi eu cynnig mewn rhai o'r sylwadau ar fy mhyst parthed canlyniad etholiadau Ewrop
Rwy'n anghytuno'n llwyr efo'r syniad o gynnal refferendwm ar yr un ddiwrnod ag etholiad cynulliad am nifer o resymau. Mi wnâi godi post arall yn y man i'w egluro yn llawn.
Rwy'n cytuno efo sylw Dyfrig parthed yr anhawster o ennill refferendwm yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol.
Yn ddi-os mae profiad wedi dangos bod pobl yn defnyddio refferendwm gymaint i roi stid i'r llywodraeth ag ydynt i fynegi barn am yr achos dan sylw. Un o'r ffactorau a arweiniodd at drychineb 1979 oedd bod y refferendwm yn cael ei chynnal gan lywodraeth flinedig amhoblogaidd Jim Callahagn. Roedd llywodraeth Blair ym 1997 yn newydd, yn ffres ac yn dal yn boblogaidd, dyna pam bu llwyddiant.
O ran sylw Rhydian parthed heb Gymru'n Un, does yna ddim refferendwm, dyma agwedd dactegol beryglus i'w arddel.
Os nad oes gan Blaid Cymru dewis ond aros efo Cymru'n un mae hi mewn man gwan. Bydd y Blaid Lafur yn gwybod bod modd iddi brofocio'r Blaid ar hyd y daith oherwydd bod y cerdyn trwmp yn ei llaw hi.
Ond y gwir yw mai yn llaw'r Blaid mae'r cerdyn trwmp. Mae modd cael refferendwm heb Gymru'n Un. Ystyria pe bai Clymblaid Enfys yn cael ei ffurfio yfory gydag addewid o gyflwyno cais cynnal refferendwm i'r cynulliad cyn pen y mis. Mae Rhydian yn iawn i ddweud nad oes digon o bleidleisiau yn y bag gan y Blaid, Y Toriaid ar Rhydd Dems i sicrhau llwyddiant. Ond be am y Blaid Lafur, pe bai hyn yn digwydd? Bydd hi mewn twll o gyfyng gyngor.
Os yw Llafur yn chwipio i wrthwynebu'r refferendwm bydd hi'n torri addewid ac yn agored i'w beio pob tro bydd y Torïaid yn cynnig mesur amhoblogaidd yn San Steffan fydda'r cynulliad di gallu ei wrthsefyll
Os yw Llafur yn chwipio o blaid bydd hi'n edrych yn wirion, yn cefnogi achos buasid modd iddi ei chyflwyno ei hunan ac aros mewn grym.
Beth bynnag bydd y chwipiaid yn dweud bydd y datganolwyr brwd o fewn Llafur mewn twll mwy. Ydyn nhw'n troi cefn ar eu hegwyddorion a'u gwlad, neu yn rhwygo eu plaid sydd yn ddigon wan fel y mae? Bydd y naill dewis neu'r llall yn "anghywir" yng ngolwg garfanau mawr o'u cefnogwyr. Ond rwy'n credu bydd modd denu digon o rebeliaid i gael pleidlais o 60%
Ond mae'r Blaid mewn sefyllfa i osgo broblem y refferendwm yn llwyr.
Gall dweud wrth y Blaid Lafur Drychwch does dim modd i Lywodraeth amhoblogaidd ennill refferendwm, a bydd Llywodraeth Dorïaidd mewn grym cyn pen y flwyddyn. I amddiffyn Cymru rhag y bwystfil Torïaidd diddymwch gymal y refferendwm cyn toriad yr haf neu 'da'n ni'n mynd. Os ydy'r glymblaid yn chwalu bydd Llafur gwan yn wannach byth.
Neu gall y Blaid gwneud cynnig tebyg i'r Torïaid. Rydym yn fodlon rhoi cic heger i Blaid Lafur gwan trwy dynnu allan o'r glymblaid am addewid bydd y cymal refferendwm yn cael ei ddiddymu fel un o weithredoedd cyntaf Llywodraeth Geidwadol
Anhawster y cynllun yma wrth gwrs yw bod pobl yn disgwyl refferendwm ac mae pobl yn ddigon blin o achos y ffaith bod refferendwm ar Lisbourn heb ei gynnig. Ond mae yna ffordd i osgoi hyn hefyd. Y gred boblogaidd yw mai refferendwm ar gyfer Pwerau'r Alban sydd yn cael ei gynnig. Dyw hyn ddim yn wir! Dim ond pwerau deddfu dros bolisïau cyfyng y Cynulliad sydd yn y ddeddf. Trwy ffeirio'r cymal refferendwm presennol am un ar bwerau go iawn yr Alban, bydd modd trosglwyddo'r pwerau deddfu heb dorri'r disgwyliadau am refferendwm rhywbryd eto ar ddatganoli ehangach.
No comments:
Post a Comment