08/06/2009

Amser i Ieuan noswylio?

Roedd etholiad San Steffan 2005, etholiad y Cynulliad 2007 ac etholiad Ewrop 2009 yn etholiadau lle'r oedd gan Blaid Cymru gobeithion i gael eu canlyniadau gorau erioed.

Methiant daeth ar bob cyfle.

Er gwaetha'r cyfle oedd ger ei fron i ddod yn Brif Weinidog Cymru yn 2007 daeth Ieuan yn ddirprwy, oherwydd ei fod yn rhy wan i wrthsefyll blacmel y Comiwnyddion sydd yn cysgodi dan fantell Plaid Cymru!

Mae arweiniyddiaeth Ieuan wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'n hen bryd cael arweinydd newydd yn ei le.

Wrth ddwys ystyried pam bod y Blaid yn y drydydd safle, a phaham mae UKIP gwrth Gymreig, yn hytrach na'r Blaid Genedlaethol, a enillodd y bedwaredd sedd yn Ewrop, rwy’n mawr obeithio bydd y Blaid yn ystyried methiant Ieuan Wyn yn y cawlach.

Mae angen cenedlaetholwr brwd i arwain y Blaid yn hytrach na chyfaddawdwr llwfr - Alun Ffred, tybiwn i!

7 comments:

  1. Anonymous9:08 am

    Hawdd iawn i Lib Dem ddweud - wyt ti hefyd am alw am ben Nick Clegg wedi perfformiad trychinebus ei blaid?

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn9:25 am

    Comiwnyddion? Ar pa blaned wyt ti'n byw 'ta Alwyn?

    ReplyDelete
  3. Tra ei bod wedi bod yn etholiad siomedig i'r Blaid, rhaid hefyd cofio nad bai IWJ mo'r canlyniad cyffredinol, ond yn sicr mae angen newid o ryw fath ar y Blaid - roedd y neges yn gymysglyd yn yr ymgyrch, er enghraifft, os oedd neges o gwbl.

    Cofier hefyd 'does modd i ymwared â IWJ oherwydd ei sefyllfa. Dydi ei arweinyddiaeth ddim wedi bod yn fethiant, ond fel rwyt yn ei ddweud, mae'r cyfleoedd a gollwyd yn ystod ei arweinyddiaeth yn peri i rywun feddwl am yr hyn a allai fod.

    ReplyDelete
  4. Anonymous12:35 pm

    Mae angen i IWJ godi ei gem. Gyda Llafur mor wan gallai IWJ a'r BLaid fod yn safleioli ei hun fel Prif Weinidog Cymru. Mae'r ffaith nad yw hyn yn digywdd yn dangos gwendid IWJ a'r Blaid.

    Mae angen i Blaid godi ei gem a bod yn llai asgwell chwith neis neis.

    ReplyDelete
  5. Pam fyddai Ieuan eisiau clymblaid enfys? Dim digon o fwyafrif i wthio am refferendwm, gorfod cydweithio gyda'r Ceidwadwyr sydd yn mabwysiadu delwedd wahanol o gymdeithas i ni, ac a fyddai'n anghytuno gyda nifer o'n polisiau.

    Lle yn union fyddai'r mantais i'r Blaid?

    ReplyDelete
  6. Dienw 1. Nid ydwyf ac nid ydwyf erioed wedi bod yn aelod o'r Rhyddfrydwyr Democrataidd. Mi fûm yn aelod o'r hen Blaid Ryddfrydol o 1972 i 1979. Ond pe bawn yn aelod o'r blaid neu a diddordeb yn achos y blaid byddwn yn sicr yn dymuno ateb i paham ei fod wedi gwneud mor drychinebus o wael, gan Nick Clegg a Kirsty Williams.

    Rhydian. Rwy'n byw ar yr un blaned ac yn yr un wlad a Bethan Jenkins sydd am annerch cyfarfod yr wythnos nesaf i gefnogi'r Morning Star papur y Communist Party of Great Britain, a Leanne Wood sydd yn cyfrannu yn ariannol at The Weekly Worker, papur arall y CPGB

    Cangen Bontnewydd. Pa bryd bydd refferendwm yn cael ei gynnal o dan y glymblaid efo Llafur? Bydd dim modd i Lafur gwarantu refferendwm ar ôl mis Mehefin y flwyddyn nesaf, a does dim golwg bod un am ei gynnal cyn hynny. Yr hyn mae cytundeb Cymru'n Un yn ei wneud ar hyn o bryd yw rhwystro'r Blaid rhag ymgyrchu ar gyfer deddfau ehangach i'r Cynulliad a thrwy hynny yn rhwystro un o negeseuon craidd y Blaid.

    ReplyDelete
  7. rhydian fôn9:27 am

    Alwyn: Ydi, mae Leanne a Bethan yn cefnogi'r papurau yma. Mae'r organau yma yn ystorfeydd gwerthfawr o syniadaeth. Mae Leanne a Bethan yn sosialaidd heb os - ond mae'n dipyn o naid McCarthyaidd i'w cyhuddo o fod yn Gomiwnyddion.

    Fy hun, dwi'n hoff iawn o ddarllen The Economist ond dwi ddim yn cytuno gyda popeth sydd yn cael ei ddweud ynddo.

    Rwyf wedi dweud yn gyhoeddus o'r blaen, y prif reswm fod Cymru'n Un wedi cael ei dderbyn oedd y ffaith i refferendwm gael ei addo, neu mi fyddwn i wedi cefnogi clymblaid enfys er fy mod ar asgell chwith y Blaid. Ni fyddem yn llawer o genedlaetholwyr petaent wedi gwrthod y cyfle.

    ReplyDelete