11/06/2009

Cai, Gwilym, Golwg a fi

Mae yna erthygl yn Golwg heddiw sydd yn ddweud bod Gwilym Euros wedi cwyno bod Cai Larsen wedi "cyhuddo llais Gwynedd o gefnogi'r BNP".

Mae'r stori yn gwbl di sail, hoffwn gynnig rhywfaint o gefndir yr hanes er mwyn dangos pam ei fod yn stori na ddylid wedi ei gyhoeddi.

Mewn post o'r enw Siom Etholiad Ewrop mi ddwedais i hyn:
Un o wendidau Plaid Cymru yn yr etholiad yma oedd peidio ag ymosod ar UKIP. Dyma blaid sydd yn credu mai "dim ond enw ar fap" yw Cymru, bod angen dileu'r Cynulliad ac sydd yn wrthwynebus i unrhyw gefnogaeth i'r iaith. Mae'r ffaith bod plaid o'r fath yma yn gallu ennill chwarter o seddi senedd Ewrop Cymru yn siom aruthrol.

Pe bai Cymry driw yn gwybod bod yna berygl i'r fath yma o blaid ennill sedd rwy'n sicr bydda nifer ohonynt a arhosodd adref wedi pleidleisio ac rwy’n sicr bydda sawl un a bleidleisiodd i UKIP wedi rhoi eu pleidlais protest i Blaid Cymru. Mae'n bwysig bod y diawliaid yma ddim yn cael taith mor hawdd yn y dyfodol.

Roedd Cai Larsen yn anghytuno a fy nadansoddiad. Fe ddywedodd o mewn post ymateb ar Flog Menai Yr ail etholiad Ewrop orau i'r Blaid erioed!

Oherwydd i ni fethu a pherswadio pleidleiswyr naturiol Llafur i bleidleisio i ni yn hytrach nag aros adref yn pwdu. Dyna pam bod Hen Rech Flin yn anghywir pan mae'n honni mai prif gamgymeriad y Blaid oedd peidio ag ymosod digon ar UKIP (er ei fod yn fwy cywir na mi wrth ddarogan y canlyniad a bod yn deg). Gelyn Plaid Cymru ydi Llafur. Mae UKIP yn pysgota yn yr un pwll etholiadol a'r Blaid Geidwadol.
Mewn ymateb i hyn mi ddywedais fy mod wedi clywed gan rhai o fy mherthnasau eu bod wedi pleidleisio i UKIP eleni
Fe bleidleisiasant yn erbyn y Blaid am y tro cyntaf erioed llynedd oherwydd bod addysg leol Gymreig eu gôr wyrion ac wyresau yn cael ei fygwth gan Blaid Cymru, o bob Plaid.

Dyma fu hanes llawer un yng Ngwynedd.

Yn niffyg Plaid Cymru driw i'w ddaliadau i bleidleisio drosti - IWCIP, gwaetha'r modd, cafodd eu plediais brotest eleni.

Mae'r dyfyniad uchod yn ei gwneud yn amlwg mae myfi, nid Cai, oedd y gyntaf i gysylltu Llais Gwynedd a phlaid asgell dde. Os oedd hynny yn gwneud cam a Llais y fi sydd ar fai. Yn wir trwy anghytuno a fy sylwadau i roedd Cai yn achub cam Llais trwy ddweud bod fy nadansoddiad yn anghywir.

Ymateb Cai oedd fy mod yn ANGHYWIR i wneud y cysylltiad yma rhwng pleidleisiau yn symud oddi wrth Llais i UKIP, bod maint pleidlais UKIP mor fychan yng Ngwynedd fel bod unrhyw symud yn beth nad oedd rhaid ei boeni amdano:

Y broblem efo hyn ydi bod pleidlais UKIP bron yn sicr yn is yng Ngwynedd y tro hwn nag oedd yn 2004 (mae'n anodd gwneud cymhariaeth lwyr oherwydd bod y rhanbarthau cyfri yn wahanol).

'Dwi ddim yn amau am eiliad bod cydran o bleidlais Llais Gwynedd wedi rhoi croes i UKIP (a'r BNP o ran hynny)- ond fel mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith, pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd.

Rwy'n deall sut bod modd camddehongli sylwadau Cai trwy eu cymryd allan o gyd-destun, ond yn y cyd-destun llawn mae'n hollol amlwg bod Cai yn dweud bod yna dim tystiolaeth i awgrymu bod y niferoedd mawr o bobl a bleidleisiodd i Lais Gwynedd yn etholiadau'r cyngor sir y llynedd wedi troi at UKIP na'r BNP, hyd yn oed os oedd rhyw ychydig wedi gwneud. Mae o hefyd yn eglur mai'r rhai a neidiodd ar fandwagen Llais byddai'r rheiny, nid y sawl oedd yn gefnogol i Lais oherwydd eu pryderon am ysgolion bach.

Rwy'n hollol sicr nad oedd Cai yn cysylltu Llais a'r BNP; i'r gwrthwyneb dweud NAD oedd sail gwneud y fath gysylltiad ydoedd. Yr wyf yr un mor sicr nad ydy Gwilym wedi enllibio Cai, cam ddeall y sylw wnaeth Gwilym trwy fethu a'i ddarllen yn ei chyd-destun llawn.

Mae gweld sylwadau yn eu cyd-destyn llawn yn anodd weithiau ar flogiau, yn arbennig pam, fel yn yr achos hwn, mae'r sylwadau yn rhan o drafodaeth eang ar ragor nag un blog a phost.

Y mae'n siom bod Golwg heb wirio eu stori yn well cyn cyhoeddi, yn sicr mae angen ymddiheuriad ganddynt i Cai.

O fy rhan i hoffwn ymddiheuro i Cai a Gwilym bod fy sylwadau cychwynnol wedi corddi’r dyfroedd mewn ffordd mor ddianghenraid o atgas.

6 comments:

  1. Post call iawn HRF - y boen sydd gennyf i yw fod Gwilym Euros yn dal i fyny nad oes camddeall wedi bod a dal i fynny fod Blog Menai wedi dweud fod pledleiswyr Llais Gwynedd wedi troi at y BNP.

    Mae yn un peth cangymeryd brawddeg allan o'i gyd-destyn - mae'n beth hollol wahanol gwrthod disgy ar eich bai ac ymddiheuro - a hyd yn oed cario ymlaen i gyhuddo fel mae y CYnghorydd yn ei wneud.

    ReplyDelete
  2. Does gen ti ddim oll i ymddiheuro ynglyn a fo - mynegi safbwynt oeddet ti. Mae gen ti pob hawl i wneud hynny.

    ReplyDelete
  3. Hen Ferchetan Mae yn un peth cangymeryd brawddeg allan o'i gyd-destyn - mae'n beth hollol wahanol gwrthod disgyn ar eich bai ac ymddiheuro - a hyd yn oed cario ymlaen i gyhuddo fel mae y Cynghorydd yn ei wneud.

    Ond mae'n rhaid derbyn dig Gwilym yn ei gyd-destyn hefyd. Mae rhyfel cartref wedi bod yn digwydd yn yr achos cenedlaethol yng Ngwynedd am y ddwy flynedd diwethaf. Rhyfel cartref yw'r rhyfel mwyaf cignoeth sy'n bod.

    Mae'r Blaid wedi bod yn dweud ambell i beth rhyfeddol o annheg am Lais yn y frwydr (mae Llais wedi bod yn driw wrth dalu'r pwyth yn ôl hefyd). Cai a Gwilym fu cadfridogion yr achos ar y blogosffer. Yn y cyd destyn yna rwy'n ddeall pam bod Gwilym wedi darllen y gwaethaf i mewn i sylw Cai, mae o i'w ddisgwyl.

    Ond byddwn wedi disgwyl i newyddiadurwyr proffesiynol Golwg cymryd llawer mwy o bwyll cyn cyhoeddi pennawd sy'n dweud "Cymharu Llais Gwynedd a'r BNP"

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:02 am

    Mae Cai gyda'i sywadau ers blwyddyn wedi ymylu ar yr ochr, ond tro hwn mae wedi mynd tros y dibyn. Mae Cai yn gwybod yn iawn beth oedd yn ei wneud, mae rhoi sywadau o'i fath gan athro yn beryg. Hyd yn oed yn ei flogiau cynt, mae popeth Plaid Cymru gan Cai yn dda a ffrwythlon ac unrhyw un sy'n erbyn hynny yn ffiaidd, dwl, Seisnig, a gwrth Gymraeg a Chymreig. Tydi rhesymoldeb ddim yn rhan o eirfa Cai yn anffodus, sy'n gwbl groes i eraill oddi fewn i Blaid Cymru. Mae o yn gwenwyno cydweithrediad er mwyn Gwynedd gyda'i eiriau. Dylai fod wedi ymddiheuro yn iawn i Gwil ac fuasai wedyn wedi osgoi yr holl stwr. Mae yna beryg yn y fan hon i'w swydd fel athro.

    Hen bryd ei dynnu lawr peg neu ddau, ond i osgoi mwy o drwbeini, rhaid iddo ymddiheuro yn iawn.

    ReplyDelete
  5. Cigfran1:44 pm

    Anhys,
    Sylwaf fod dy arddull yn debyg iawn i sylw sydd wedi ei adael ar flog Cai,yw hi'n ddistaw yn y byncyr yn Nhremadog heddiw tybed?
    Pawb a'i fys lle bo'i ddolur gredaf i,mae'n amlwg yma ym mhen Llyn fod canran nodedig o gefnogwyr Llais yn bobl wrth gymreig,mi glywais sawl un sydd heb ddim i ddweud dros yr iaith nac hunaniaeth yn gorfoleddu dros lwyddiant "The Voice of Gwynedd"y llynedd.
    Diddorol iawn fuasai gwybod i ble aeth pleidlais ymgeiswyr Llais a'i cefnogwyr yn Neiniolen ,Abersoch a Chwilog i enwi ond tri.
    Mae Cai yn llyged ei le ,dyna pam mae Gwylym yn gwneud hyd yn oed mwy o falu nac arfer

    ReplyDelete
  6. Anhysbys 9:02:
    Yr wyf wedi bod yn cwyno ar Faes-e ac ym myd y blogiau am ddiffygion Plaid Cymru ers rhyw pum mlynedd bellach. Trwy gydol y cyfnod yna Cai / Blog Menai fu amddiffynnydd mwyaf Plaid Cymru yn erbyn fy sylwadau.

    Fel rhan o'r drafodaeth yr wyf wedi derbyn llawer i gic gan Cai. Bu ambell un yn gyfiawn, y rhan fwyaf yn ddisynnwyr ac ambell un yn gignoeth o gas. Gan hynny yr wyf yn gallu cyd-ymdeimlo efo ysbryd dy ymateb.

    Ar yr achlysur yma mae'r cwynion yn erbyn Cai yn gwbl di sail.

    Yr wyt ti'n gwybod, mae Gwilym yn gwybod ac mae Cai yn gwybod pe bai sail i'r cwyn byddwn wedi ymosod ar Cai efo'r dunnell brics chwedlonol, yn hytrach na'i amddiffyn.

    Mae ceisio gwneud mor a mynydd allan o'r hyn na ddywedodd Cai yn gwneud mwy o ddrwg i Lais nac ydy o i'r Blaid. Yn fy marn fach i rwy'n credu mai'r ymateb gorau yw i'r ddwy ochor derbyn bod camddealltwriaeth wedi digwydd, ysgwyd llaw a mynd rhagddi i'r ornest nesaf rhyngddynt.

    Un peth sydd yn fy mhoeni yn arw am dy sylwadau yw'r bygythiad i swydd Cai. Os na all dyn fynegi ei farn yn rhydd am bynciau llosg y dydd, heb orfod poeni am ddyfodol ei swydd, rydym yn syrthio i byllau dyfnion iawn.

    ReplyDelete