08/06/2009

Siom Etholiad Ewrop

Er bod fy narogan parthed dosbarthiad y seddi yng Nghymru yn gywir, rwyf yn hynod siomedig efo canlyniadau'r etholiad Ewropeaidd. Yn arbennig efo perfformiad y Blaid.

Mae Plaid Cymru wedi colli 34,000 o bleidleisiau ers yr etholiad Ewropeaidd diwethaf, etholiad oedd yn cael ei gyfrif yn gyffredinol trychinebus iddi. O ran canran y bleidlais doedd dim ond cynnydd o 1% ym mhleidlais y Blaid. Pan fo'r Blaid Lafur yn colli 12% o'i bleidlais a bod y Ceidwadwyr, y BNP ac UKIP yn cael y fendith o'r golled mae'n rhaid i'r blaid ddwys ystyried pam.

Un o wendidau Plaid Cymru yn yr etholiad yma oedd peidio ag ymosod ar UKIP. Dyma blaid sydd yn credu mai "dim ond enw ar fap" yw Cymru, bod angen dileu'r Cynulliad ac sydd yn wrthwynebus i unrhyw gefnogaeth i'r iaith. Mae'r ffaith bod plaid o'r fath yma yn gallu ennill chwarter o seddi senedd Ewrop Cymru yn siom aruthrol.

Pe bai Cymry driw yn gwybod bod yna berygl i'r fath yma o blaid ennill sedd rwy'n sicr bydda nifer ohonynt a arhosodd adref wedi pleidleisio ac rwy’n sicr bydda sawl un a bleidleisiodd i UKIP wedi rhoi eu pleidlais protest i Blaid Cymru. Mae'n bwysig bod y diawliaid yma ddim yn cael taith mor hawdd yn y dyfodol.

6 comments:

  1. Clywais si fod dy annwyl gynghorwyr Llais Gwynedd ar wahan i un wedi pleideisio i UKIP

    ReplyDelete
  2. Aros eiliad - sud fedri di gymeryd y cwymp mewn nifer o bledleisiau fel rheswm i gwyno?

    Fe gollodd y Toriaid dros 30,000 pleidilais rhwng 2004 a 2009 - ond dim ond ffwl fysa'n dweud fod hynny yn fethiant ar ei rhan. (35,000 gollodd Plaid, dim 14,000)

    Roedd etholiad Ewrop yn 2004 yr un diwrnod a etholiadau Cyngor, felly roedd llawer llawer mwy o bobol yn pledleisia - i bob plaid.

    Wrth gymhrau dau etholiad efo turnout hollol wahanol yna y ganran di'r unig beth y gelli di gymharu.

    ReplyDelete
  3. Un o Eryri

    Dw’n i'm i bwy y pleidleisiodd cynghorwyr Llais Gwynedd, ond yn sicr fe bleidleisiodd nifer o'r rhai a drodd at Lais o'r Blaid i UKIP eleni. Gan mae pobl sydd yn weddol gefnogol i genedlaetholdeb yw'r rhain, rwy'n sicr na fyddent wedi pleidleisio i UKIP pe baent wedi cael gwybod pa mor eithafol o wrth Gymreig ydy'r blaid.


    Hen Ferchetan

    Mae'n deg cymharu niferoedd y bleidlais yn achos Plaid Cymru oherwydd bod y Blaid wedi ymhyfrydu yn y ffaith ei fod yn gallu cael ei phleidlais allan mewn etholiadau sydd ag ychydig yn pleidleisio iddynt. Fe fethodd y Blaid i wneud hynny eleni. O ran y canran bu bron ddim cynnydd dim ond 1%, ac fe safodd y Blaid yn ei hunfan yn y drydydd safle. Ddeng mlynedd yn ôl pan oedd y canran yn pleidleisio yn eithaf tebyg cafodd y Blaid 185 o filoedd o bleidleisiau, 29.5% o'r bleidlais ac ail safle agos iawn, gyda'r Blaid Lafur yn y cac, dyma'r fath o ganlyniad yr oeddwn i'n ei ddisgwyl ac yn sicr bu nifer o gefnogwyr y Blaid yn gobeithio amdani. Waeth peidio â throelli roedd y canlyniad yn fethiant ac yn siom.

    ReplyDelete
  4. Buaswn yn rhoi mwy y synnwyr cyffredin i chdi na hyn. Ti'n dweud "rwy'n sicr na fyddent wedi pleidleisio i UKIP pe baent wedi cael gwybod pa mor eithafol o wrth Gymreig ydy'r blaid."

    Helo, oes rhywun yn cysgu yma, ti'n dweud nad oedd pobl yn gwybod mai ystyr UKIP yw United Kingdom Independence Party. Tynna'r goes arall wnei di. Ni fuasai yr un cenedlaetholwr Cymreig yn mynd yn agos at UKIP a dyna pam fod y si ynglyn a Llais Gwynedd mor gryf. Ar wahan i un, nid oes ganddynt Genedlaetholwr Cymreig arall yn gynghorydd iddynt.

    ReplyDelete
  5. Mae honni bod pobl fel Alwyn Gruffydd, Gwilym Euros, Seimon Glyn a Now Gwynys ddim yn genedlaetholwyr yn hurt botas. Mae sarhau pobl, rhai ohonynt sydd wedi cefnogi'r Blaid am ddegawdau cyn troi at Lais oherwydd achos yr ysgolion bychan, yn ffordd od ar y diawl o ennill eu teyrngarwch yn ol.

    Gyda llaw mae'r "Independence" sydd yn enw UKIP yn cyfeirio at y dymuniad i gael y DU yn annibynnol o Ewrop, rhywbeth bydda nifer o Gymry yn dymuno hefyd. Rwy'n sicr nad ydy y rhan fwyaf o bobl a bleidleisiodd i'r diawliaid yn gwybod bod polisi ganddynt i wahardd addysg trwy Gyfrwng y Gymraeg - a does yna DIM yn eu henw sydd yn adlewyrchu'r polisi yna.

    Rwy'n synnu fy mod yn cael fy mlagardio gan aelodau o Blaid Cymru am fynegi siom mae'r blaid eithafol wrth Gymreig hon a enillodd y bedwaredd sedd yn hytrach na Phlaid Cymru.

    Rhyfedd o fyd!

    ReplyDelete
  6. Mae yna lawr gormod o 'patio cefn' wedi bod gan PC o beth wela i sy'n gwneud dim lles. Tra bod rhesymau lwfansau wedi effeithio Llafur a'r Toriaid i raddau, doedd dim rheswm pam bod nifer pleidleisiau PC wedi gostwng.

    All rhywun ddim dweud o sicrwydd sawl cenedlaetholwr bleidleiodd i UKIP, bach iawn ddychmyga i, a thra dw i'n cytuno bod y blaid yn ffiaidd ac yn amlwg (i fi beth bynnag) yn wrth-Gymreig ac yn arbennig o wrth-Gymraeg, efallai i'r cenedlaetholwyr hynny a bleidleisiodd drostynt (nad oeddynt yn 'ddwl'!) gredu nado edd gweld ethol ASE UKIP o unrhyw beryg i addysg Gymraeg na dyfodol y Cynulliad.

    Buaswn i'n cydfynd a hynny i ryw raddau,ond mae'n beryg rhoi 'foothold' i unrhyw blaid newydd. Mae'n well mai UKIP gaeth y bleidlais brotest yn hytrach na BNP.

    Byddai rhywun ddim yn disgwyl i UKIP wneud hannner cytal yn etholiadau y Cynuliad, ond fe allant deimlo'n hyderus a mynd amdani. Mae mantais ac anfantias i hyn hyd y gwela i. Mantais yw y byddant yn dwyn pleidleisiau Toriaid a lll fod yn fanteisiol i BC mewn rhai seddi yn y gogledd ac efallai Maldwyn/
    Anfantais fyddai bod nhw'n denu pleidlais brotest eto, ond ei fod yn adlewyrchu (yn gywir neu beidio) bod yr etholwyr am wedl diwedd y Cynulliad.

    ReplyDelete