Showing posts with label Gwyliau. Show all posts
Showing posts with label Gwyliau. Show all posts

31/05/2010

Dim Sylw!

Yr wyf am fynd am dro bach i wlad bellennig am yr ychydig ddyddiau nesaf.



Y tro diwethaf imi fod i ffwrdd o gartref ac o'r cyfrifiadur, gadawyd sylw enllibus cas am Cai Larson ar un o fy mhyst. Diolch byth mai am Cai ydoedd ac nid am unigolyn efo bwyell i'w hogi, a bod Cai wedi deall fy arafwch i gael gwared â'r sylw . Rhag bod yr un peth yn digwydd eto yr wyf wedi gosod cymedroli ar bob sylw, a ni chaiff yr un sylw ei gyhoeddi cyn imi gyrraedd Cymru'n ôl nos Wener nesaf.

Rwy'n ymddiheuro am yr anghyfleustra bydd hyn yn achosi i'r miloedd bydd am adael sylw yn ystod y pum niwrnod nesaf, ond gwell hynny na chael llythyr twrne i'm croesawu adref!

15/08/2008

Noddwyd y post hwn gan Ganolfan Croeso Caerdydd!

Ymddiheuriadau mawr i'r darllenwyr ffyddlon sydd wedi bod ar bigau drain yn disgwyl am bron i bythefnos am un o berlau doethineb yr Hen Rech Flin.

Doedd dim bwriad gennyf ymweld â'r Eisteddfod eleni, ond wedi cael blas ar fwrlwm yr ŵyl at y teledu penderfynodd y teulu bach, ar amrant, i fynd i lawr i'r Brifddinas am ddiwedd y brifwyl. Wedi cael blas ar ymweld â Chaerdydd - yn hytrach na mynd yna ar fusnes, penderfynasom aros ychydig yn ychwanegol, er mwyn fwynhau'r ddinas fel ymwelwyr pur.

Er fy mod yn byw yn y Gogledd eithaf, yr oeddwn yn credu fy mod yn weddol gyfarwydd â'r brifddinas. Rwy'n mynd yna'n aml, o leiaf chwe gwaith y flwyddyn. Rwy'n mynd i dribiwnlysoedd, yn ymweld â'r Senedd yn gwneud pytiau i'r cyfryngau ac ati, ond prin iawn fu fy ymweliadau fel twrist.

Roedd yr wythnos yma yn agoriad llygad! Mae 'na gymaint i'w fwynhau yng Nghaerdydd, ac mae'r lle yn ganolfan mor rhwydd i deithio o 'na i gannoedd o atyniadau Deheubarth Cymru a Gorllewin Lloegr.

Wedi cael wythnos annisgwyl o wyliau gwych rwyf yn annog y Gogs, ac eraill, sydd dim ond yn gweld Caerdydd fel cyrchfan busnes neu le i weld gem pêl, i ddwys ystyried y Brifddinas fel canolfan gwyliau gwerth chweil. Cewch chi ddim o'ch siomi!

Mi af i Gaerdydd ar fy ngwyliau eto! Ond yr wyf yn ôl rŵan! A bydd y blogbyst yn byrlymu unwaith eto, (Neu yn ymddangos ddwywaith pob wythnos o leiaf)

23/12/2007

Nadolig Llawen Traddodiadol Cymreig

Mae 'na nifer o bethau, gweddol newydd, sydd bellach yn rhan o draddodiad hanesyddol y Nadolig. Mae'n debyg mae Albert, gwr y Frenhines Victoria oedd yn gyfrifol am y goeden Nadolig sydd yn must have ym mhob tŷ yng Ngwledydd Prydain bellach. Hysbyseb gan Coca-Cola ym 1931 sydd yn gyfrifol, yn ôl y son, am y dyn barfog yn ei benwynni a'i wisg goch, a J Glyn Davies sy'n gyfrifol am enw Cymraeg y gwron Siôn Corn.

Mae'r pethau yma mor gyffredin bellach fel ei bod yn anodd credu bod yna rhai ar dir y byw (gan gynnwys fy rhieni) sydd yn hyn na thraddodiad Siôn Corn a bod y goeden Nadolig wedi ymddangos yn beth newydd estron i bobl yr wyf yn eu cofio, megis fy hen daid.

Rhan arall o draddodiad y Nadolig cyfoes yw clywed arweinwyr crefyddol yn cwyno bod y seciwlar wedi dwyn y Nadolig oddi wrth y Cristionogion. Bod ystyr ac ysbryd y Nadolig wedi ei golli.

Traddodiad anghydffurfiol bu traddodiad crefyddol Cymru ers dros ddwy ganrif. Dydy anghydffurfwyr ddim yn dathlu gwyliau eglwysig. Mae anghydffurfiwr go iawn yn credu bod rhaid cofio am enedigaeth, bywyd, dysgeidiaeth, marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu yn barhaus - nid jyst ar ddyddiau arbennig. Cystal cofio am enedigaeth y Crist ar Fawrth y pymthegfed ag ar Ragfyr y 25in.

Dydy'r Nadolig ddim yn perthyn i draddodiad crefyddol y Cymry o gwbl, a nonsens yw i grefyddwyr Cymru cwyno am golli gwir ystyr gŵyl nad oedd ystyr iddi erioed yn ein traddodiad Cristionogol arbennig ni.

Gall Gristion o Gymro mwynhau hwyl yr ŵyl fel rhan o ddathliad cymdeithasol neu ymwrthod a'r ŵyl fel rhywbeth sy'n perthyn i'r byd. Yr hyn na all Cymro Efengylaidd Cristionogol gwneud yw cwyno am sarhad Nadoligaidd trwy honni bod pobl wedi dwyn oddi wrthym rywbeth nad oedd yn eiddo i'n traddodiad cynhenid yn y lle cyntaf!

Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr blog yr HRF. Mwynhewch yr ŵyl trwy loddest, trwy weddi neu trwy'r ddau!