Showing posts with label Crefydd. Show all posts
Showing posts with label Crefydd. Show all posts

11/02/2012

Crefydd a Chyngor

Yr wyf, fel Cristion, yn croesawu penderfyniad yr Uchel Lys, bod mynnu bod aelodau Cyngor yn fynychu cyfnod gweddi yn anghyfreithiol.

Pe byddwn yn aelod o gyngor, mi fyddwn, yn ddiamheuaeth, yn gofyn ar i Dduw fy arwain yn fy mhenderfyniadau cyn pob cyfarfod, ond mater bersonol rhwng fi a fy Nuw byddai hynny, nid mater i'r cyngor yn ei gyfanrwydd.

Ers bron i ganrif mae Cymru wedi bod yn wald seciwlar o ran ei reolaeth, a da o beth yw hynny.

Nid ydwyf yn gwybod am unrhyw cyngor Sir na Chymuned yng Nghymru sydd a gweddïau yn eitem ar eu agenda.

Er gwaetha'r ffaith bod y dyfarniad yn un England and Wales, rwy'n amau mae at Loegr a'i Eglwys Wladol mae'r ddyfarniad wedi ei anelu!

Ond mae yna elfen o'r dyfarniad sydd yn peri pryder imi. Mae'r dyfarniad yn ddweud mae lle seciwlar yw man cyfarfod cyngor.

Mae cyngor fy nghymuned i yn cyfarfod yn festri y capel MC lleol, mangre sydd, yn amlwg, ddim yn seciwlar!

Mewn cymunedau gwledig trwy Gymru a Lloegr, Festri'r Capel neu Neuadd yr Eglwys yw'r unig mannau lle gellid cynnal cyfarfodydd, megis cyfarfod o Gyngor Cymuned. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn awgrymu y byddai modd herio unrhyw benderfyniad a wneir gan gyngor sy'n cwrdd mewn lle o addoliad!

Rwy'n credu bod y Cyngor Gymuned yn hollbwysig i'r drefn democrataidd, ond os na chaniateir i gynrychiolwyr y gymuned cyfarfod mewn adeilad at iws grefyddol, bydd ambell i gyngor lleol yn cael ei orfodi i ddod i ben!

24/04/2011

Pasg Anghydffurfiol Cymreig

Dyma Ddydd y Pasg, y diwrnod pwysicaf yn y calendr Cristionogol, ac un o'r ychydig ddyddiau pan fydd neges Gristionogol yn cael ei nodi ar y newyddion.

Er gwaetha'r ffaith nad yw Cymru wedi bod yn wlad Gatholig ers yr unfed ganrif ar bymtheg a bod datgysylltiad Cymru a'r Eglwys Anglicanaidd wedi mynd heibio ei nawddegfed penblwydd, mae'n debyg bydd newyddion Cymru heddiw yn nodi neges y Pasg gan y Pab a chan Archesgob Caergaint, siawns bydd Archesgob Anglicanaidd Cymru yn cael mensh (er mwyn cydbwysedd Cymreig); ond bydd dim siw na miw yn cael ei adrodd gan arweinwyr yr anghydffurfwyr Cymreig.

Bydd y BBC, unwaith eto eleni, yn anghofio'r datgysylltu a fu rhwng gwlad ag eglwys yng Nghymru ym 1920, ac yn anwybyddu neges Pasg yr Annibynwyr, Y Bedyddwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd.

Yn niffyg neges swyddogol gan eraill dyma neges Pasg Wesleaidd - mwynhewch yr ŵyl yn ôl eich arfer, gan gofio bod gennych yr allu i ddewis yr Iesu fel eich Gwaredwr os mae dyna’ch dymuniad.

08/01/2009

Satan i gael Cerdyn Teithio Cymru?

Yn ôl y Daily Post (mewn stori sydd ddim ar lein) bu'r ymgyrch hysbysebu atheistiaeth ar fysys Llundain yn gymaint o lwyddiant bod yr ymgyrch am gael ei ehangu i gynnwys bysus yng Ngogledd Cymru.

Bu'r sylwebyddion arferol yn cwyno am y newyddion, wrth gwrs; ond mae'n rhaid imi ei groesawu.

Mae 'na hen ddweud mai yr unig beth sydd yn waeth na phobl yn siarad amdanoch yw bod pobl ddim yn siarad amdanoch. I raddau dyma fu problem achos crefydd yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf - nid bod pobl yn elyniaethus i neges Crist ond eu bod yn ddi-hid ohoni, neu'n anymwybodol o'i fodolaeth. H.Y. dydy pobl ddim yn siarad amdani.

O weld hysbysebion sydd yn lladd ar Gristionogaeth ar fysys y Gogledd, rwy'n cyd obeithio a threfnwyr yr ymgyrch y dônt yn achos trafod ddwys!

Yn ddi-os ni fydd neb sydd yn creu bod Iesu Grist yn waredwr iddo neu iddi yn colli ffydd o ganlyniad i hysbysebion o'r fath. Ond mae'n wir bosib bydd y drafodaeth sydd yn cael ei godi o'u bodolaeth yn arwain ambell un i adnabyddiaeth bersonol o'r Arglwydd Iesu Grist.

Gan hynny rwyf am ddiolch i drefnwyr yr ymgyrch hysbysebu. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr hysbyseb cyntaf ar fysys rhif 25 ac at y cyfle i dystiolaethu bydd eu hymddangosiad yn cyflwyno imi.

English

25/10/2008

Harri Potter a'r Athro Poti

Mae The Half Blood Welshman yn tynnu sylw at gyhoeddiad diweddaraf Archesgob y Ffwndamentalwyr Seciwlar, Yr Athro Richard Dawkins. Mae'r athro am wneud ymchwil, yn ôl y Daily Telegraph, ar yr effaith andwyol mae llyfrau megis rhai Harry Potter yn cael ar blant. Gan nad yw'r hanesion am ddewiniaeth a hudoliaeth a adroddir yn llyfrau Harry Potter yn ffeithiol gywir mae'r hurtyn yn credu eu bod yn gallu bod yn beryglus i ddatblygiad plant.

Pe bai agweddau anoddefgar Dawkins i unrhyw farn ond ei farn gyfyng ei hun ddim mor beryglus, bydda ei ddatganiad diweddar yn hollol chwerthinllyd. Nid yn unig yn chwerthinllyd ond yn rhagrithiol hefyd.

Mae'r gyfres Dr Who yr un mor anwyddonol ag ydy cyfres Harry Potter, os ydy ei wylio yn andwyol i blant mae'r sawl sydd yn actio yn y gyfres yn euog o greu niwed i blant. Pobl megis yr actores Lalla Ward a chwaraeodd rhan Roana, Arglwyddes Amser mewn sawl rifyn o'r gyfres beryglus anwyddonol. Enw arall Lalla Ward yw Yr Anrhydeddus Mrs Richard Dawkins.

23/12/2007

Nadolig Llawen Traddodiadol Cymreig

Mae 'na nifer o bethau, gweddol newydd, sydd bellach yn rhan o draddodiad hanesyddol y Nadolig. Mae'n debyg mae Albert, gwr y Frenhines Victoria oedd yn gyfrifol am y goeden Nadolig sydd yn must have ym mhob tŷ yng Ngwledydd Prydain bellach. Hysbyseb gan Coca-Cola ym 1931 sydd yn gyfrifol, yn ôl y son, am y dyn barfog yn ei benwynni a'i wisg goch, a J Glyn Davies sy'n gyfrifol am enw Cymraeg y gwron Siôn Corn.

Mae'r pethau yma mor gyffredin bellach fel ei bod yn anodd credu bod yna rhai ar dir y byw (gan gynnwys fy rhieni) sydd yn hyn na thraddodiad Siôn Corn a bod y goeden Nadolig wedi ymddangos yn beth newydd estron i bobl yr wyf yn eu cofio, megis fy hen daid.

Rhan arall o draddodiad y Nadolig cyfoes yw clywed arweinwyr crefyddol yn cwyno bod y seciwlar wedi dwyn y Nadolig oddi wrth y Cristionogion. Bod ystyr ac ysbryd y Nadolig wedi ei golli.

Traddodiad anghydffurfiol bu traddodiad crefyddol Cymru ers dros ddwy ganrif. Dydy anghydffurfwyr ddim yn dathlu gwyliau eglwysig. Mae anghydffurfiwr go iawn yn credu bod rhaid cofio am enedigaeth, bywyd, dysgeidiaeth, marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu yn barhaus - nid jyst ar ddyddiau arbennig. Cystal cofio am enedigaeth y Crist ar Fawrth y pymthegfed ag ar Ragfyr y 25in.

Dydy'r Nadolig ddim yn perthyn i draddodiad crefyddol y Cymry o gwbl, a nonsens yw i grefyddwyr Cymru cwyno am golli gwir ystyr gŵyl nad oedd ystyr iddi erioed yn ein traddodiad Cristionogol arbennig ni.

Gall Gristion o Gymro mwynhau hwyl yr ŵyl fel rhan o ddathliad cymdeithasol neu ymwrthod a'r ŵyl fel rhywbeth sy'n perthyn i'r byd. Yr hyn na all Cymro Efengylaidd Cristionogol gwneud yw cwyno am sarhad Nadoligaidd trwy honni bod pobl wedi dwyn oddi wrthym rywbeth nad oedd yn eiddo i'n traddodiad cynhenid yn y lle cyntaf!

Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr blog yr HRF. Mwynhewch yr ŵyl trwy loddest, trwy weddi neu trwy'r ddau!