26/04/2010

Mae Guto Bebb yn Gachgi!

Mae croeso i unrhyw un gwneud sylwadau ar flog Yr Hen Rech Flin. Oni bai eu bod yn enllibus neu yn groes i gyfraith bydd y sylwadau yn sefyll. Os ydynt yn dangos fy mod wedi gwneud camgymeriad yn fy sylwadau, os ydynt yn fy nghyhuddo o fod yn wirion yn fy asesiad o sefyllfa wleidyddol, os ydynt yn honni y dylwn wedi rhoi mwy o ddŵr yn y chwisgi cyn dweud fy nweud, mae'r sylwadau yn cael eu cyhoeddi.

I mi dyma sylwedd blog, lle i ddweud fy nweud a lle i eraill gwneud sylwadau i wrthddweud yr hyn a ddwedwn. Yn anffodus, er gwaethaf imi wneud sylwadau ar y saith post diweddaraf ar flog Guto nid oes un ohonynt wedi eu cyhoeddi yno.

Os oes gan Guto ofn sylw beirniadol, ofn anghytundeb ac ofn dadl a oes ganddo'r sylwedd i fod yn AS dros holl aelodau ei etholaeth?

10 comments:

  1. Anonymous11:57 am

    Yr Aelod Seneddol David Jones. Yr ydwyf wedi cofnodi sawl sylw yn y gorffenol, oll gyda ffynonellau, ond yr un ohonynt wedi eu cyhoeddi.

    ReplyDelete
  2. Anonymous4:34 pm

    Pam na chyhoeddi di dy sylwadau ar y blog hwn?

    ReplyDelete
  3. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:37 pm

    Sgwn i os mai dyma fydd yn ei wneud gyda'i gostau os bydd yn ennill sef dim ond cyhoeddi y rhai y bydd yn dymuno i ni ei weld

    ReplyDelete
  5. Anonymous9:58 pm

    Hwyrach dy fod yn poeni mai Guto yw'r "hen rech flin" go iawn!

    ReplyDelete
  6. Nid chdi ydi'r cyntaf i gael y broblem yma - Roedd 'Syniadau' yn poeni hefyd.

    Mae'n fy atgoffa o Martin Eaglestone braidd. Roedd hwnnw'n hollol barod i drafod pan nad oedd etholiad ar y gorwel, ond pan fyddai etholiad yn dynesu ni fyddai'n cyhoeddi unrhyw sylw nad oedd yn ei hoffi - hyd yn oed rhai hynod gwrtais oedd yn cywiro camgymeriadau ffeithiol yn ei flog.

    ReplyDelete
  7. Anonymous1:37 am

    Pethau'n troi'n hyll yn Aberconwy - honiadau o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr fod yn naill blaid wedi bod yn dymchwel arwyddion.

    ReplyDelete
  8. Mae Guto angen geiriadur, mae'n honni ar ei flog mai Cowardly Shit yw ysytr 'cachgi'!

    http://aberconwyconservatives.co.uk/ironic-or-just-nasty/

    ReplyDelete
  9. Pethau'n troi'n hyll yn Aberconwy - honiadau o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr fod yn naill blaid wedi bod yn dymchwel arwyddion.

    Mae'n debyg bod y Blaid wedi cael bai ar gam am dorri rhai o arwyddion y Torïaid er gwaetha'r ffaith bod perchennog y cau wedi dweud wrth y Torïaid bod buwch wedi eu curo i lawr.

    ReplyDelete
  10. Diolch am y cyswllt Rhys, mi fethais i hwnna, ond yr wyf wedi ymateb rwan.

    ReplyDelete