20/06/2009

Y Blaid a thranc Llafur

Dyma Gwestiwn Cai parthed Etholiadau Ewrop a thranc y Blaid Lafur:

Y cwestiwn y dylid ei ofyn mae'n debyg yw os ydi'r hyn sydd wedi digwydd y tro hwn yn barhaol neu'n lled barhaol?

Yr ateb syml yw ei fod yn barhaol!

Y rheswm am sicrwydd fy ymateb yw, mae nid "blip" mo'r canlyniad diweddaraf i Lafur. Mae'r gefnogaeth i'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn syrthio ers bron i bedwar degawd.

Rwy'n cofio gweld map gwleidyddol yn fy mhlentyndod yn dangos y Blaid Lafur yn cipio pob sedd Gymreig ac eithrio Maldwyn, rwy’n methu cofio ac yn methu gwirio os mae etholiad 1966 neu 1970 ydoedd. Ond ta waeth ar ei lawr fu'r bleidlais Llafur ers hynny.

Do! Fu trai a llanw yn hanes Llafur ers hynny, ond bu'r un llanw yn ddigon nerthol i adennill y trai a fu.

Cyn pen blwyddyn bydd etholiad San Steffan. Bydd Llafur yn sicr o wneud yn well yng Nghymru yn yr etholiad hwnnw na wnaeth hi yn Etholiad Ewrop, ond dim agos cystal â'r etholiad cyffredinol diwethaf.

Y cwestiwn go iawn yng ngwleidyddiaeth Cymru yw pwy fydd yn elwa o dranc Llafur?

Yn ddi-os ethol Gwynfor yn '66 oedd sbardun y trai, ond ers hynny, y Ceidwadwyr sydd wedi elwa mwyaf, nid Plaid Cymru.

Pam?

Credaf mai gwendid mwyaf y Blaid yw ei bod hi wedi ceisio llenwi bwlch y Blaid Lafur trwy or efelychu'r hen Blaid Lafur llwgr. Daeth Llafur newydd i fodolaeth oherwydd bod y Blaid Lafur yn sylweddoli bod 'na twll mawr yn ei sgidiau. Ers ugain mlynedd, bellach, mae Plaid Cymru wedi ceisio llenwi'r sgidiau tyllog 'na.

Dyna fu ei cham gymeriad marwol!

Mae gan Blaid Cymru USP, sef mae'r Blaid ydy'r unig blaid sydd yn apelio at genedlgarwch cynhenid y rhan fwyaf o bobl Cymru, boed o'r chwith y canol neu'r dde. Dyma'r neges mae'n rhaid i'r Blaid ei werthu.

Mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn gelyniaethu pobl fel fi, o bawb, yn f***ing gwirion!

Pam na all bwysigion y Blaid deall hynny?

Ac os ydy'r Blaid yn fy ngelyniaethu fi sut ff**c mae hi'n disgwyl ennill pleidleisau eraill?

Yr wyf yn rhannu rhywbeth efo Adam, Bethan a Leanne, sef cariad angerddol at wlad fy nhadau.

Felly pam eu bod hwy yn fy nghau allan o'u hymgyrch dros y Genedl?

Oherwydd fy mod yn credu mai gobaith gorau Cymru am ryddid yw trwy lwyddiant fel cenedl gyfalafol??

Os yw'r Blaid am lwyddo i ennill y mwyafrif o'r pleidleisiau sy'n gwaedu o'r Blaid Lafur ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddi eu denu trwy genedlaetholdeb yn hytrach na Sosialaeth.

Mae Robart Gruffydd a'i fath yn cynig twll i'r sosialwyr cael dianc.

Rhaid i'r Blaid sylweddoli bod yna apel mewn cenedlgarwch i bob Cymro, boed o'r chwith, y canol neu'r dde!

11 comments:

  1. 'Dwi'n credu mai 66 oedd penllanw Llafur - ond roedd gan y Toriaid ambell i sedd hyd yn oed bryd hynny - Gogledd Caerdydd yn eu mysg efallai - dydi'r ffigyrau ddim o fy mlaen fel tithau.

    Efallai y ceisiaf ymateb i'r gweddill ar fy mlog pan gaf gaf ddau funud.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn1:05 pm

    'Oherwydd fy mod yn credu mai gobaith gorau Cymru am ryddid yw trwy lwyddiant fel cenedl gyfalafol??'

    Lle mae dy dystiolaeth di? O ble mae'r addysg sydd wedi rhoi ffydd anfarwol mewn sustem gyfalafol wedi dod?

    Fel mae esiampl DJ Davies yn dangos, roedd sosialwyr yn ran dylanwadol o'r Blaid o'i geni. Ydi, mae'r asgell chwith wedi ennill yn ddiweddar - gan fod mwy o bobl wedi pleidleisio amdano. Gad i mi dy atgoffa fod llwyddiant mwya'r Blaid wedi dod yn y ddeng mlynedd diwethaf.

    Os wyt ti am newid cyfeiriad y Blaid, cei ymuno a cheisio newid polisi. Os wyt ti yn llwyddo, da iawn ti - mi wna i aros yn aelod gan fy mod i yn genedlaetholwr.

    Llawer callach na gweiddi babîaidd o'r ymylon, gan nad wyt yn cael dy ffordd dy hun. Os wyt am newid unrhywbeth, rhaid chwarae rhan.

    ReplyDelete
  3. Vaughan7:52 pm

    Parthed y map. Mae'n wir mai Maldwyn yw'r unig sedd yng Nghymru sydd erioed wedi ethol aelod Llafur ond dyw "pobman ond Maldwyn" ddim wedi digwydd mewn unrhyw un etholiad seneddol. Llafur (Ted Rowlands) oedd a Gogledd Caerdydd yn 1966 ond roedd Syr Raymond Gower wedi dal ei afael ar hen sedd "Barri a Llandaf" i'r Toriaid a dwi'n meddwl bod o leiaf un Ceidwadwr/Rhyddfrydwr Cenedlaethol yn y Gogledd Ddwyrain. Ai yn '66 aeth Geraint Morgan mewn yn Nimbych?

    ReplyDelete
  4. plaid whitegate9:39 pm

    Mae Rhydian yn llygad ei le... mae'r ymbilio am Blaid sy'n dy gynrychioli braidd yn pathetic, Hen Rech. Yr unig lwybr tuag at annibyniaeth o fewn gwleidyddiaeth Cymreig ydi'r Blaid - felly be amdani?

    Unwaith y cawn ni annibyniaeth, bydd dewis clir rhwng gweriniaeth sosialaidd a dy weriniaeth gyfalafol. Bydd angen ad-drefnu plaid ar ol y n hynny.

    ReplyDelete
  5. I ymateb i Bleidwyr Wrecsam a Bontnewydd parthed ymuno a'r Blaid a cheisio newid o'r tu mewn - Byddai’n amhosibl imi wneud hynny o dan gyfansoddiad y Blaid!

    I ymuno a Phlaid Cymru byddai'n rhaid imi gytuno a pholisi sylfaenol y Blaid o Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganoledig.

    Gan nad ydwyf yn credu mewn Sosialaeth Ddatganoledig (nac unrhyw Sosialaeth arall), yr wyf yn cael fy ngwahardd rhag bod yn aelod o Blaid Cymru. Pe bawn yn gwneud cais am aelodaeth byddai'r cais yn cael ei wrthod gan nad ydwyf yn fodlon cytuno ag un o egwyddorion sylfaenol aelodaeth.

    Dyna, i raddau byrdwn y post, bod y sawl sydd ddim yn cytuno a Sosialaeth yn cael eu gwahardd o'r unig Blaid genedlaethol sy'n bodoli yng Nghymru. Os mae'r dewis yw arwyddo lan i sosialaeth neu "weiddi babïaidd o'r ymylon", y gweiddi babïaidd pia hi!

    Yr hurtrwydd yw bod yna ymdeimlad gwladgarol cryf yn y cymoedd, mwy o lawer na sydd yn y Gymru wledig. Mae'r ymrwymiad at Gymru yn gryfach na'r ymrwymiad at sosialaeth bellach. Mae'r Blaid yn afradu ei apêl trwy ddilyn y trywydd sosialaidd yn hytrach na gwneud yn fawr o'r apêl wladgarol.

    ReplyDelete
  6. Diolch am y cywiriad Vaughan, mi nodais mai cof plentyn odd gweld y map yn goch i gyd a bod dim modd imi wirio fy atgofion.

    Braf atgof am y diweddar annwyl Syr Geraint Morgan - Cymro a hanner - a phrawf bod modd bod yn genedlgarwr go iawn heb ymrwymo i athrawiaeth ffiaidd sosialaeth

    ReplyDelete
  7. rhydian fôn1:34 pm

    Alwyn: Dwi yn hoff iawn o Dafydd Wigley, ond dwi yn reit siwr nad 'sosialydd' fyddai ei ddisgrifiad o'i hun. Mar Dafydd Iwan yn gyfaill annwyl ond dwi yn amau mai sosialydd ydi o chwaith. Mae rhai o'r bobl dwi yn barchu mwyaf o fewn y Blaid yn bobl na fyddwn yn disgrifio fel sosialyddion. Maent yn y Blaid gan eu bod yn rhannu'r weledigaeth o Gymru annibynnol y chyfiawnder cymdeithasol.

    Pan y cawn ni annibynniaeth, dwi yn reit sicr y bydd y bobl yma eisiau mynd i lawr cyfeiriad syniadaethol gwahanol i mi. Felly mae dy wrthodiad i ymuno a'r Blaid yn reit wirion - mae'r rhan fwyaf o aelodau wedi cytuno gyda sosialaeth ddatganoledig. Byddai'n ddigon hawdd newid hynny os wyt ti yn gallu darganfod y gefnogaeth.

    O ran y Cymoedd, ti yn cyfeirio at Lafur yn gwaedu cefnogaeth. Gwir, ond yn y rhan fwyaf maent yn dal i ennill gyda mwyafrif mawr a'n bell ar y blaen o'r Toriaid - hyn yn oed yn etholiadau Ewrop yn ddiweddar!

    ReplyDelete
  8. Ymateb od ar y naw Rhydian.
    Mae'r ymrwymiad i sosialaeth ddatganoledig yn rhan o gyfansoddiad Plaid Cymru. Ond yr wyt yn ddweud fy mod yn wirion am gymryd yr ymrwymiad yna o ddifri. Yn waeth byth yr wyt yn dweud nad yw Llywydd na Llywydd Anrhydeddus y Blaid yn credu yn yr elfen yna o'r cyfansoddiad. Yr wyt yn creu darlun o blaid sydd yn ddauwynebog, yn ddiegwyddor ac yn fas. Yn wir yr wyt yn dweud mai celwydd dibwys yw'r hyn y mae'r Blaid yn dweud am ei hymrwymiad i sosialaeth gan ei fod yn rhywbeth gellir ei anwybyddu yn hawdd, a'i fod yn bolisi sydd yn cael ei hanwybyddu gan aelodau mwyaf blaenllaw'r mudiad. Os ydwyf yn derbyn dy honiadau am bolisi sosialaidd y Blaid sut mae modd imi, a phleidleiswyr eraill, ymddiried ynddi parthed unrhyw bolisi arall mae'n ei harddel ar adeg etholiad?

    ReplyDelete
  9. rhydian fôn9:21 pm

    Alwyn: Plaid ddemocrataidd yw'r Blaid. Nid ydym yn cael gwared o bob aelod sydd a syniadau sydd ddim yn cydymffurfio gyda'r cyfansoddiad. A wnei di ddangos plaid wleidyddol o'r fath i mi?

    Mae aelodau'r Blaid yn genedlaetholwyr. Mae rhai yn sosialwyr, rhai yn fwy i'r cannol, a dwi yn sicr fod rhai yn tueddu at fod yn geidwadol. Sosialwyr yw'r mwyafrif ar hyn o bryd. Dydi hyn ddim yn golygu na all neb ond sosialwyr pur ddringo i'r brig. Cenedlaetholdeb yw ein USP, nid sosialaeth.

    Ddywedais i erioed ei bod hi yn hawdd anwybyddu sosialaeth o fewn y Blaid. Mae'r cyfansoddiad yn sosialaidd gan fod mwyafrif o aelodau wedi peidleisio am hyn. Beth ddywedais oedd bod croeso i ti geisio newid cyfeiriad y Blaid o'r tu mewn - er bod mwyafrif o sosialwyr, dwi yn sicr bydd nifer yn cytuno a ti. Dyma sut mae democratiaeth yn gweithio, rhag ofn dy fod yn anghyfarwydd gyda'r terminoleg.

    Fe ydym ni yn grwp o genedlaetholwyr sydd yn cytuno ar annibyniaeth i Gymru. A wyt ti yn ceisio dweud y dylem beidio a cydweithio am annibyniaeth a Chymru deg gan ein bod yn anghytuno am fanylion syniadaeth? Yn y modd hynny, fydd annibyniaeth byth yn bosib!

    ReplyDelete
  10. Anonymous9:02 am

    Rhydian ti'n siarad allan o dy het. Tydi aelodau Plaid i gyd ddim yn Genedlaetholwyr. Edrych ar yr hen Gyngor Gwynedd , Sol Owen, Eddie Doogan, i enwi ond dau. Cenedlaetholwyr Prydeinig yw'r ddau yma. Ac mae yna lot mwy i edrych yn fanwl.

    ReplyDelete
  11. rhydian fôn10:10 am

    Anhysbys: Dwi ddim am gyfeirio at aelpodau unigol, ond mae'n ddigon posib bod rhai aelodau o'r Blaid sydd yn gweld hunaniaeth Gymreig fel blaenoriaeth, ac nid annibyniaeth.

    Mae fy nadl i uchod wedi ei seilio ar y ffaith fod annibyniaeth i Gymru yn bolisi Plaid Cymru - hynny yw, mae'r mwyafrif llethol o'r aelodaeth yn cefnogi'r syniad.

    ReplyDelete