04/05/2007

Sylwadau Etholiadaol 3

Straeon od o'r Alban..

Llong wedi suddo ac wedi colli blychau pleidleisiau.

Rhywun wedi ymosod ar orsaf pleidleisio efo clwb golff ac wedi rhwygo'r orsaf pleidleisio yn rhacs.

Tua mil o bleidleisiau gwasarn ym mhob etholaeth i gymharu â thua 100 ym mhob etholaeth Gymreig.

Yw mae Cymru'n boring ar adegau!!

Llongyfarchiadau i Ieuan Wyn am gadw Môn, yr oeddwn, wir yr yn poeni am yr etholaeth yma - da yw gweld bod Ieuan wedi cynyddu ei fwyafrif!

Hwreeeeeeeeeeeeee! I Helen Mary

Buddigoliaeth anhygoel o fawr i HMJ. O ystyried ei mwyafrif a phwyso'r fot ym Meirion a oes mood i'r Blaid cadw sedd ar rhestr y Canolbarth hefyd?

Wigley a Salmond

Siomedigaeth yn etholaethau Maldwyn, Gorllewin Abertawe a Chwm Cynnon - pob un yn llefydd dylid bod o fewn gafael Y Blaid ar noson dda ond y Blaid yn colli tir ym mhob un - sy'n peryglu ambell i sedd ranbarthol.

Dim hwyl i Martin, Vote Eaglestone get Wigley heb weithio. A chawn Wigley? Annhebygol yn ôl y canlyniadau sydd wedi dod o'r Gogledd hyd yn hyn

MAE ALEX SALMOND NEWYDD EI ETHOL

Pob Parch i'r Ymgeiswyr (a'r Blogwyr)

Rhag cywilydd i ohebydd y BBC yn awgrymu bod blogwyr yn negyddol. Rwy'n gobeithio bod fy mlog innau wedi bod yn gadarnhaol trwy gydol yr ymgyrch. Yn sicr dweud pethau da am wleidyddiaeth Cymru oedd fy mwriad wrth gychwyn fy mlog.

Mae'n amlwg bod gennyf fy rhagfarnau, ond o ddweud hynny yr wyf yn credu bod Cymru yn ffodus o'u gweledyddion. Yma yn Aberconwy yr wyf wedi bod yn driw fy nghefnogaeth i Gareth Jones, os ydy Gareth yn colli bydd Dylan neu Euron yn aelodau clodwiw o'r Senedd.

Mae'n rhaid i bobl Cymru dod dros y rhagfarn hurt bod pob gwleidydd a'i big yn y pwdin am resymau personol. Mae pob unigolyn sy'n derbyn yr her o sefyll etholiad yn unigolyn dewr ac yn unigolyn sy'n teimlo bod ganddo neu ganddi gyfraniad i wneud i wleidyddiaeth Cymru. Mae'n hen bryd inni eu parchu.

Mae democratiaeth yn gysyniad pwysig, mae'r rhan fwyaf o'n ymgeiswyr yn ategu at ddemocratiaeth. O'u plaid neu yn eu herbyn, dylid ymfalchïo yn eu cyfraniad, a DIOLCH IDDYNT am eu cyfraniad i hyrwyddo'r broses ddemocrataidd.

Llongyfarchiadau i Trish

Llongyfarchiadau i Trish Law, roeddwn yn disgwyl iddi ei cholli mae'n rhaid dweud

Sylwadau Etholiadaol 2

Mae'n debyg bod yr ymgeisyddion Llais y Bobl / Annibynol wedi caniatau i'r Blaid Lafur cadw Islwyn a Chaerffili. Prawf o'r ffaith o'r canlyniad (nid "Conspiracy Theory felly Dewi!!!!)

SNP newydd enill eu sedd cyntaf

Mae'r SNP newydd enill eu sedd cyntaf ar ol curo Llafur yng Ngorllewin Dundee. Swing o 16% i'r cenedlaetholwyr. Llongyfarchiadau i'r MSP newydd

Sylwadau Etholiadol

Mae'n edrych yn debyg bod Gareth wedi ennill Aberconwy yn hawdd (da iawn) a noson ddrwg i'r Blaid yng Ngorllewin Clwyd.

Ceidwadwyr wedi cipio Preseli Penfro, a'r Blaid wedi curo Christine Gwyther.

Siôn bod y Blaid yn bryderus ym Môn.

Trish Law wedi caw B. Gwent

Jack MacConell, Prif Weinidog yr Alban wedi cadw ei sedd. Swing o 6.9% o Lafur i'r SNP - edrych yn dda. (Yn ôl y son mae llong yn cario rhaid pleidleisiau o'r un o'r ynysoedd wedi suddo ac mae'r pleidleisiau wedi eu colli!)

Os ydy'r sion sy'n cyraedd y BBC yn gywir a oes posibilrwydd na fydd gan Llafur mwyafrif o'r seddi etholaethol?

Christine Gwyther yn saff medd y BBC bellach!

03/05/2007

Prysurdeb ym Mae Colwyn

Rwyf newydd fod i godi'r plantos o gymdeithas ieuenctid sy'n cael ei gynnal gyferbyn ag un o orsafoedd pleidleisio Bae Colwyn (etholaeth Gorllewin Clwyd). Yn ystod y chwarter awr yr oeddwn yn disgwyl yno aeth degau o bobl heibio i fwrw pleidlais. Nid ydwyf yn cofio gweld gorsaf pleidleisio mor brysur ers etholiadau cyffredinol y 1970au.

Galw i mewn i fwrw fy mhleidlais yng Nglan Conwy (Aberconwy) dim ond fi a'r wraig oedd yno a llai na chwarter y bleidlais wedi ei fwrw hyd yn hyn yn ôl y swyddogion.

Os ydy’r ddwy orsaf yma yn adlewyrchu sut mae'r bleidlais yn mynd yn y ddwy etholaeth mae'n edrych yn debyg y bydd pleidlais uchel yng Ngorllewin Clwyd bydd yn fanteisiol i Alun Pugh mi dybiaf, ond pleidlais isel yn Aberconwy bydd yn fanteisiol i Gareth Jones.

Y We a'r Etholiad

Gan fod yr ymgyrch etholiadol wedi tynnu at ei derfyn bydd y blogiau gwleidyddol mewn rhyw fath o limbo am yr 20ain awr nesaf. Prin fydd fawr o sylwadau i'w gwneud hyd y dadansoddi yn oriau man bore dydd Gwener. Yn ystod y cyfnod yma hoffwn ofyn cwestiwn yn hytrach na gwneud sylw.

Pa ddylanwad mae'r we wedi cael ar yr etholiad yma?

Yn ddi-os mae 'na llawer iawn fwy o weithgaredd ar y we wedi bod eleni nag oedd hyd yn oed dwy flynedd yn ôl yn ystod etholiadau San Steffan 2005. Mae tua 35 o flogiau Cymreig wedi bod yn ymdrin â'r etholiad yng Nghymru yn unig. Mae defnydd eang wedi ei wneud o YouTube ac, yn ôl y son (er na dderbyniais i 'run ) mae e-byst wedi eu danfon gan rai ymgeiswyr i'w hetholwyr. Ond ydy o wedi cael unrhyw effaith ymarferol ar yr etholiad a'i chanlyniadau?

Oes yna bleidlais wedi ei hennill neu ei golli gan y gweithgaredd ar y we?

Ydy'r we yn cael effaith mwy subtle, yn cynorthwyo'r rhai gweithgar i finiogi dadl neu i fenthyg ymateb gan wefan wrth ymgyrchu yn y cigfyd?

Ydy'r we yn gwneud niwed? Bod y rhai gweithgar yn credu eu bod wedi gwneud eu dyletswydd trwy flogio neu greu fideo YouTube ac yn defnyddio hynny fel esgus tros beidio curo drysau, llenwi amlenni ac ati?

02/05/2007

Annwyd Gwleidyddol

Rhaid ymddiheuro i ddarllenwyr rheolaidd am y diffyg post ers nos Sul. Rwyf wedi bod yn dioddef o ddos trwm o'r annwyd, ac wedi bod yn teimlo fath a rhecsyn o'r herwydd a heb ddiddordeb mewn dim ond teimlo hunan dosturi.

Rwy'n ansicr pwy i feio am fy afiechyd, ond mae'n rhaid beio rhywun. Rwy bron yn sicr mae canfasiwr afiach Rhyddfrydol rhy ryddfrydig efo'i germau a rhoddodd yr annwyd imi - rhyw gynllwyn dan din i sicrhau bod cefnogwyr y pleidiau eraill yn rhy swp sâl i bleidleisio dydd Iau nesaf. Ar y llaw arall pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi rhoi cyllid digonol i Uned Ymchwil yr Annwyd yng Nghaerdydd bydda foddion digonol ar gael i'r cyflwr erbyn hyn.

Rwy'n gobeithio y byddwyf wedi gwella digon erbyn nos Iau/ bore Gwener i chware rhan yn ymgyrch blogio'r etholiad Blamerbell a'r BBC.

29/04/2007

Etholiad Cymru'n Ddibwys medd Gordon Brown

Y peth sydd yn debygol o wneud y niwed mwyaf i Lafur dydd Iau nesaf bydd cefnogwyr y Blaid Lafur yn aros adre yn hytrach na bwrw eu pleidlais. Mae Rhodri Morgan a'r Blaid Lafur yn gwybod hyn - dyna paham y maent wedi gwario y rhan fwyaf o'u hamser canfasio yn ceisio annog eu cefnogwyr i ymweld â'r gorsafoedd pleidleisio yn hytrach cheisio troi cefnogwyr y pleidiau eraill at eu hochor hwy.

Ond waeth i'r Llafurwyr cyndyn aros adre, gan nad yw etholiadau'r Cynulliad yn bwysig yn ôl darpar arweinydd newydd y Blaid Lafur Prydeinig. Dim ond etholiadau San Steffan sydd yn bwysig.

Dyma union eiriau'r Canghellor / darpar Prif Weinidog yn ôl adroddiad yn yr Observer:

Look, the only result that matters in the end is when it actually comes to a general election and people decide what they want to do.


Y ffordd gorau i brofi i Gordon haerllug bod etholiadau Cymru yn bwysig i'r sawl sy'n poeni am gyflwr iechyd Cymru, cyflwr addysg Cymru, cyflwr yr economi Gymreig a dyfodol ein gwlad yw trwy fynd allan yn ein miloedd dydd Iau nesaf i bleidleisio dros Blaid Cymru a chael gwared â'r blaid sydd yn credu bod barn pobl Cymru yn ddibwys.

English: Miserable Old Fart: Assembly Election Unimportant says Gordon Brown

Newyddion da, newyddion drwg - rheolau gwahanol?

Yn ôl erthygl yn y Guardian ddoe mae Ofsted, yr awdurdod archwilio ysgolion yn Lloegr, wedi ei gwahardd rhag cyhoeddi manylion am ysgolion sy'n methu, oherwydd y cyfnod etholiadol. Gan fod etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal yn Lloegr mae'n rhaid i'r corff ymarfer cyfnod o dawelwch (sy'n cael ei alw'n Purdah yn Lloegr - ond nid yng Nghymru) rhag ofn bod unrhyw gyhoeddiad swyddogol o'u heiddo yn cael effaith ar yr ymgyrch.

Bydda gyhoeddi bod ysgol mewn rhyw sir arbennig yn methu yn ystod cyfnod yr ymgyrch etholiadol yn amlwg o fantais i'r wrthblaid ac yn anfanteisiol iawn i'r blaid mewn grym ar y cyngor. Sefyllfa annheg yn ôl rheolau'r gwasanaeth sifil, gan hynny mae'n rhaid cadw pob adroddiad o'r fath yn ddirgelwch tan ddydd Gwener. Ond does dim dirgelwch yn y ffaith bod y rhan fwyaf o ysgolion sy'n methu mewn siroedd a reolir gan y Blaid Lafur.

Mae'r rheolau tawelwch i fod i gael eu cadw gan y Gwasanaeth Sifil ledled y DU gan gynnwys y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Sut felly bod adroddiad a oedd yn datgelu bod y niferoedd ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gostwng - ffigyrau manteisiol iawn i achos etholiadol Llafur gan fod y GIG ar frig yr Agenda yn ein hetholiad - wedi eu cyhoeddi gan y Gwasanaeth Sifil dydd Mercher diwethaf?

Mae'n ymddangos bod dwy reol wahanol yn cael ei ddilyn. Tawelwch am achosion sy'n gwneud niwed i Lafur, ond cyhoeddusrwydd mawr i adroddiadau sydd yn ffafriol i Lafur.

26/04/2007

Protestio yn erbyn y Gymraeg ym Môn

Mae yna stori yn y Daily Post heddiw yn dwyn y penawd Welsh-only polling cards bring protest. Yn ôl y stori mae rhai o drigolion Ynys Môn wedi bod yn cwyno eu bod yn cael eu hamddifadu o'u hawliau democrataidd oherwydd y Gymraeg ar gardiau hysbysebu pleidlais a ddosbarthwyd gan y cyngor lleol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Mae'r pennawd yn gamarweiniol iawn. Dydy'r cardiau ddim yn uniaith Cymraeg, maent yn ddwyieithog. Yr hyn sydd wedi cythruddo Saeson yr ynys yw'r ffaith bod enwau'r gorsafoedd pleidleisio yn rhai Cymraeg. Llefydd fel Hen Ysgol Llandegfan, Ysgol Gynradd Henblas Llangristiolus, Neuadd Goffa Amlwch ac ati.

Yn ôl yr erthygl mae'r cyngor yn gwrido o herwydd y camgymeriad ac wedi ymddiheuro. Pam tybed? Enwau Cymraeg yn unig ddylid fod ar y fath sefydliadau mewn trefi a phentrefi Cymreig - does dim angen i'w bastardeiddio er mwyn hwyluso pobl dŵad, sydd yn rhy ddiog i werthfawrogi eu bod wedi symud i ardal Cymraeg, cael pleidleisio.

25/04/2007

Y Natsïaid Saesneg

Neithiwr dangoswyd darllediad gwleidyddol y Ffasgwyr ar S4C. Yn y darllediad roedd Ennys Hughes - Eva Braun Cymru - yn gwneud apel wedi ei anelu yn unswydd at gefnogwyr Plaid Cymru a charedigion yr iaith. Rhyw lol am yr iaith Bwyleg yn lladd yr iaith Gymraeg a honiadau bod mwy o Bwyleg na Chymraeg i'w clywed yn y Trallwng bellach, a ballu. Roedd Eva Hughes yn ceisio ein darbwyllo mae dim ond y Ffasgwyr all achub yr iaith.

Daeth taflen etholiadol y Ffasgwyr trwy'r drws y bore 'ma yn ail adrodd pryder Eva am y bygythiad i ddyfodol yr iaith. I danlinellu, fel petai, gwir gariad y Natsïaid tuag yr iaith Gymraeg a gwir faint eu pryder am ei ddyfodol - roedd eu taflen yn uniaith Saesneg!

24/04/2007

Y Torïaid yn "Ddwys Goffau" y Rhwyg o Golli'r Hogiau?

Pan nad ydwyf yn gwleidydda fy hoff deleit yw hel achau. Yn fy achres mae enwau nifer o bobl a fu farw yn y ddwy gyflafan fawr ac mewn rhyfeloedd eraill. Yr wyf yn parchu eu coffa ac yn gwerthfawrogi eu haberth.

Rwy'n hollol sicr, na wnaethon dalu'r pris eithaf er mwyn bod yn gyff gwawd mewn ymosodiad cartŵn gan un plaid wleidyddol ar blaid wleidyddol arall.



Hawlfraint y llun y Blaid Geidwadol a Blog Alun Cairns


Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r pwynt sy'n cael ei gyfleu yn y cartŵn ac yn cytuno a hi. Ond ow! Mae'n rhaid bod amgenach ffurf o fynegi barn ar wrthwynebydd gwleidyddol na throi'r rhwyg o golli'r hogiau yn gartŵn er mwyn enill pwynt gwleidyddol dan dîn.

23/04/2007

Metron. Dim diolch!

Pob tro mae pwnc y gwasanaeth iechyd yn cael ei godi gellir gwarantu bydd rhywun yn awgrymu mae'r ateb yw dod a'r fetron yn ôl. Dyna oedd gri aelod o'r gynulleidfa ar raglen hustings a BBC neithiwr, dyna oedd ple'r Athro Dylan Jones-Evans yn ei araith ym mhrotest Achub Ysbyty Llandudno dydd Sadwrn, mae'r un un sylw yn cael ei ail adrodd tro ar ôl tro yn ystod pob ymgyrch etholiadol.

Nyrs oedd metron ysbyty yn arfer bod, rhywun wedi ei hyfforddi i ofalu am gleifion. Fel arfer nyrs gyda blynyddoedd o brofiad. Gwastraff llwyr o brofiad a hyfforddiant oedd rhoi person o'r fath mewn swydd weinyddol. Y person gorau i weinyddu ysbyty yw unigolyn sydd wedi ei hyfforddi i fod yn weinyddwr ysbyty nid nyrs.

Mi fûm yn gweithio fel nyrs cofrestredig am flynyddoedd. Pan ddechreuais nyrsio prin oedd y gweinyddwyr yn y gwasanaeth iechyd. Ond roedd digon o weinyddiaeth i wneud. Pryd hynny dyletswydd y chware nyrs oedd y gweinyddu a bydda chwaer nyrs yn gwario gymaint â 90% o'i diwrnod gwaith yn gwneud gwaith swyddfa, gwaith nad oedd hi wedi ei hyfforddi i wneud, a dim ond 10% o'i hamser yn gwneud ei gwaith priodol o nyrsio. Pan gyflwynwyd polisi o gyflogi clercod ward mewn ysbytai yng nghanol yr 80'au roeddwn yn ei groesawu fel cam da, polisi oedd yn caniatáu imi ofalu am gleifion yn hytrach nag ofalu am bapurach.

Hwyrach bod yna gormod o weinyddwyr yn y GIC, ond cyn cael eu gwared mae'n rhaid cael gwared â'r gwaith gweinyddol y maent yn eu cyflawni. Yn sicr digon nid ydwyf am weld y cloc yn cael ei droi'n ôl i'r dyddiau du pan nad oedd nyrsiaid yn cael amser i nyrsio. Nid ydwyf am weld y goreuon a'r mwyaf profiadol o nyrsiaid y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu troi yn metrons gweinyddol eto gan afradu cleifion o'u dawn a'u profiad fel gweithwyr iechyd proffesiynol.

22/04/2007

Guernsey

Mae'r Alban yn ymladd etholiad am y posibilrwydd o gael refferendwm ar annibyniaeth. Mae Cymru yn cynnal etholiad lle nad yw annibyniaeth ar yr agenda. Yn y cyfamser mae Guernsey yn cynnal pwyllgor, heddiw, i drafod annibyniaeath.

O! Am hawliau Guernsey bach i Gymru!

21/04/2007

IWJ & Wylfa B

Yn y 1880au symudodd fy hen, hen daid a'i dylwyth o Lanelltud, Dolgellau i Bontypridd. Nid er mwyn gweithio yn y pyllau megis y mwyafrif a ffodd i'r Sowth ond oherwydd ei fod y saer eirch. Roedd llawer, llawer mwy o waith i'w cael i'r rhai oedd yn dilyn y fath alwedigaeth yng nghymoedd diwydiannol y de nag oedd ar gael ym Meirion gwledig.

Mae cofio am fudo fy nheulu i Bontypridd yn atgof byw i mi o ba mor beryglus oedd gwaith yn y diwydiant glofaol. Roedd cloddio am lo yn swydd afiach a achosodd marwolaethau miloedd trwy ddamwain. Bu nifer o'r rhai a arbedwyd o farwolaeth ddisymwth mewn damwain yn dioddef o gystudd hir, cyn marw o blaen eu hamser ta waeth.

Rhywbeth oedd yn nodweddiadol o fy holl gysylltiadau yn y deheubarth yn ystod y cyfnod pan oedd y pyllau glo yn parhau i fod yn bwysig oedd yr awch, yr awydd, y gweddïo i arbed eu meibion rhag mynd lawr y pwll. Ond eto pan fu bygwth cau'r pyllau roedd y rhai nad oeddynt am weld eu meibion yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn ymladd nerth eu gallu i gadw'r diwydiant yn fyw.

Pam? O herwydd eu bod yn gwybod pe bai'r swyddi yn y lofa yn cael eu colli nad oedd dim oll ar gael i'w rhoi yn eu lle. Er mor frwnt, afiach a pheryglus oedd y diwydiant glo, rhwygwyd calon ag enaid y cymoedd o golli'r diwydiant

Digwyddodd peth tebyg yng Ngogledd Meirionnydd ar gau orsaf niwclear Traws. Daeth ardal lewyrchus yn ardal o dlodi ac anobaith o golli'r swyddi da oedd ar gael yn y pwerdy. Ydy'r sawl sy'n mwynhau cyfyng gyngor Ieuan Wyn Jones parthed Wylfa B, o ddifri am weld yr hyn a digwyddodd i'r cymoedd a'r hyn a digwyddodd i ogledd Meirion yn digwydd ym Môn hefyd?

Beth bynnag fo barn y lobi wrth niwcliar fe ymddengys bod y Llywodraeth Lafur am godi cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwcliar. O dderbyn hynny pa beth sydd orau, bod un ohonynt yn cael eu hadeiladu yn yr Wylfa gan ddiogeli swyddi, neu fod y cyfan yn cael eu hadeiladu yn Lloegr a bod teuluoedd Cymraeg eu hiaith yn symud i Loegr i chwilio am waith yn y gorsafoedd newydd?

Rwy’n methu derbyn y ddadl bod Ieuan Wyn Jones yn ddau wynebol neu wedi gwerthu ei egwyddorion am gefnogi'r syniad mae gwell yw adeiladu ail orsaf ym Môn os oes rhaid adeiladu gorsaf newydd yn rhywle. Does dim byd mwy dau wynebol yn ei safiad nag oedd yn safiad y sosialwyr deheuol a oedd yn pregethu bod ein plant yn haeddu gwell na phyllau budron ond a aeth ati yn ddygn i geisio achub y pyllau budron hynny pan oedd bygythiad i barhad y diwydiant glo Doedd y sosialwyr yna ddim yn ddiegwyddor gan eu bod yn gwybod nad oedd dim gwell yn cael ei gynnig.

Rwy'n credu bod pobl Sir Fôn yn haeddu gwell na pheryglon y diwidiant ynni niwcliar. Ond hyd, neu oni bai, bod rhywbeth gwell yn cael ei gynnig iddynt yr unig ddewis sydd gan wleidyddion yr ynys, boed IWJ, Albert Owen neu rywun arall, yw amddiffyn parhad swyddi da yn y diwidiant niwcliar am ba hyd y mae modd i'w cynnal.

This post in English: Miserable Old Fart: Ieuan Wyn Jones & Wylfa B

20/04/2007

Gormes y Siopau Bychain

Bellach yr wyf wedi cael gafael ar rifyn Ebrill o Barn. Dyma'r erthygl o'm heiddo sydd yn ymddangos ynddi


Gormes y Siopau Bychain

Mae Sawl un wedi dadlau bod archfarchnadoedd yn bygwth dyfodol ein cymunedau. Ond mae casineb tuag at fusnesau mawrion yn ein dallu ni i rai o beryglon siopau lleol

Mae yna chwedl, sydd yn gyffredin ymysg y rhai sydd yn byw ym mhentrefi gwledig Prydain Fawr, bod yna rhai sefydliadau sydd yn angenrheidiol i barhad y bywyd gwledig. Swyddfa Post, Ysgol, Tafarn, Capel neu Eglwys a Siop y Pentref. Yn y Gymru Wledig mae parhad yr eiconau hyn o fywyd pentrefol yn bwysicach byth gan mae pentrefi gwledig, ysywaeth, ydy'r unig gymdeithasau Cymraeg sydd yn dal i fodoli. Yn ôl y chwedl, o golli un neu ragor o'r sefydliadau hyn mae bywyd pentrefol ar ei golled. Ac felly yng Nghymru mae'r Iaith Gymraeg hefyd yn cael ei cholli.

Chwedl, nid ffaith. Drwg chwedl y Brydain wledig yw mai chwedl y dosbarth canol ydyw. Drwg chwedl y Cymry gwledig yw ei fod yn troi'r iaith Gymraeg yn foethusrwydd na all y dosbarth gweithiol cynhenid Cymraeg ei fforddio.

Mae pawb yn gwybod, bellach, ei bod hi'n amhosibl i'r dosbarth gweithiol lleol brynu tai yn ardaloedd gwledig Prydain. Llai byth yw eu gallu i brynu busnes lleol. Mewnfudwyr yw perchenogion bron pob busnes.

Mae bod yn berchennog busnes yn hynod ddylanwadol. Mae tua 60% o gynghorwyr plwyf a thua 40% o gynghorwyr sir y DU yn hunan cyflogedig, mae'r ffigyrau yn uwch o lawer yn yr ardaloedd gwledig. Wrth brynu busnes mewn pentref gwledig mae'r mewnfudwr yn prynu enaid y gymdeithas hefyd

Rwy'n byw mewn pentref lle mae, yn ôl y cyfrifiad diwethaf, 55% o'r boblogaeth yn gallu'r Gymraeg. Ffigwr a,m syfrdanoddi, a ddweud y gwir, gan imi gredu fy mod yn byw mewn pentref a oedd i bob pwrpas yn uniaith Saesneg..

Un o'r rhesymau am y camargraff mae pentref Saesnig yw'r Llan hon yw'r ffaith mae Saeson sydd â'u gafael ar y pentref. Saeson biau trwyddedau'r ddau dafarn, Sais yw perchennog y modurdy, Sais biau'r Swyddfa Post a Sais biau'r Siop Bach. A Saeson llafar eu gwrth Cymreictod ydyw pob un ohonynt. Saeson llafar dylanwadol.

Oherwydd eu bod yn "ganolbwynt" y pentref mae'r Saeson llafar dylanwadol yn cael effaith ar bob dim arall. Nhw yw aelodau'r Cyngor Plwy. Efallai mai prin yw dylanwad Cynghorau Plwy y dwthwn hwn, ond digon dylanwadol i roi nawdd igylch addysg meithrin (Saesneg) heb holi am ddyfodol yr Iaith Gymraeg. Digon dylanwadol i roi nawdd i'r Sgowts ond nid i'r Urdd. Digon dylanwadol i gael presenoldeb ar Gorff Llywodraethol yr Ysgol. Digon dylanwadol i redeg Cyngor Plwyf yr Eglwys a Phwyllgor y Neuadd Goffa - gan sicrhau mae'r Saesneg yw brif iaith y sefydliadau hynny.

I bobl ddiwylliedig Cymreig i ddarllenwyr Barn, Golwg a'r Cymro - mae 'na ryw syniad hiraethus bod busnesau bach lleol yn amddiffyn y pentref. Ond onid y gwirionedd cignoeth yw mai Tesco, Asda a Morrisons yn gwneud llai o niwed na'r busnesau bychain?

Mae prisiau rhad y siopau mawr yn cynnig modd i fyw yn lleol i'r dosbarth gweithiol cynhenid, lle mae crocbrisiau'r siopau bach lleol yn eu cau allan. Mae modd pwyso ar y cwmnïau mawr i gael gwasanaeth Cymraeg, lle nad oes modd rhoi'r fath bwysau ar y siop leol. Os ydy siop y mewnfudwr yn cau o dan bwysau Tesco, bydd modd i Gymro lleol sefyll yn gyfartal a'r mewnfudwr ar gyfer etholiadau'r cyngor, llywodraethwr ysgol ac ati. Mae pentref Cymreig sydd o fewn dalgylch un o'r siopau mawr yn debycach o gadw ei Gymreictod nac ydy pentref sy'n ddibynnol ar siop fach leol y mewnfudwr.

Naw wfft i'r siopau bach - Tesco a'i pholisi iaith gadarnhaol o fewn deng milltir i bob tref a phentref Cymreig yw "YR UNIG ATEB"


Yr wyf wedi derbyn gwahoddiad i drafod cynnwys yr erthygl ar raglen Wythnos Gwilym Owen i'w darlledu ar Radio Cymru pnawn Lun nesaf