04/05/2007

Sylwadau Etholiadaol 2

Mae'n debyg bod yr ymgeisyddion Llais y Bobl / Annibynol wedi caniatau i'r Blaid Lafur cadw Islwyn a Chaerffili. Prawf o'r ffaith o'r canlyniad (nid "Conspiracy Theory felly Dewi!!!!)

SNP newydd enill eu sedd cyntaf

Mae'r SNP newydd enill eu sedd cyntaf ar ol curo Llafur yng Ngorllewin Dundee. Swing o 16% i'r cenedlaetholwyr. Llongyfarchiadau i'r MSP newydd

Sylwadau Etholiadol

Mae'n edrych yn debyg bod Gareth wedi ennill Aberconwy yn hawdd (da iawn) a noson ddrwg i'r Blaid yng Ngorllewin Clwyd.

Ceidwadwyr wedi cipio Preseli Penfro, a'r Blaid wedi curo Christine Gwyther.

Siôn bod y Blaid yn bryderus ym Môn.

Trish Law wedi caw B. Gwent

Jack MacConell, Prif Weinidog yr Alban wedi cadw ei sedd. Swing o 6.9% o Lafur i'r SNP - edrych yn dda. (Yn ôl y son mae llong yn cario rhaid pleidleisiau o'r un o'r ynysoedd wedi suddo ac mae'r pleidleisiau wedi eu colli!)

Os ydy'r sion sy'n cyraedd y BBC yn gywir a oes posibilrwydd na fydd gan Llafur mwyafrif o'r seddi etholaethol?

Christine Gwyther yn saff medd y BBC bellach!

03/05/2007

Prysurdeb ym Mae Colwyn

Rwyf newydd fod i godi'r plantos o gymdeithas ieuenctid sy'n cael ei gynnal gyferbyn ag un o orsafoedd pleidleisio Bae Colwyn (etholaeth Gorllewin Clwyd). Yn ystod y chwarter awr yr oeddwn yn disgwyl yno aeth degau o bobl heibio i fwrw pleidlais. Nid ydwyf yn cofio gweld gorsaf pleidleisio mor brysur ers etholiadau cyffredinol y 1970au.

Galw i mewn i fwrw fy mhleidlais yng Nglan Conwy (Aberconwy) dim ond fi a'r wraig oedd yno a llai na chwarter y bleidlais wedi ei fwrw hyd yn hyn yn ôl y swyddogion.

Os ydy’r ddwy orsaf yma yn adlewyrchu sut mae'r bleidlais yn mynd yn y ddwy etholaeth mae'n edrych yn debyg y bydd pleidlais uchel yng Ngorllewin Clwyd bydd yn fanteisiol i Alun Pugh mi dybiaf, ond pleidlais isel yn Aberconwy bydd yn fanteisiol i Gareth Jones.

Y We a'r Etholiad

Gan fod yr ymgyrch etholiadol wedi tynnu at ei derfyn bydd y blogiau gwleidyddol mewn rhyw fath o limbo am yr 20ain awr nesaf. Prin fydd fawr o sylwadau i'w gwneud hyd y dadansoddi yn oriau man bore dydd Gwener. Yn ystod y cyfnod yma hoffwn ofyn cwestiwn yn hytrach na gwneud sylw.

Pa ddylanwad mae'r we wedi cael ar yr etholiad yma?

Yn ddi-os mae 'na llawer iawn fwy o weithgaredd ar y we wedi bod eleni nag oedd hyd yn oed dwy flynedd yn ôl yn ystod etholiadau San Steffan 2005. Mae tua 35 o flogiau Cymreig wedi bod yn ymdrin â'r etholiad yng Nghymru yn unig. Mae defnydd eang wedi ei wneud o YouTube ac, yn ôl y son (er na dderbyniais i 'run ) mae e-byst wedi eu danfon gan rai ymgeiswyr i'w hetholwyr. Ond ydy o wedi cael unrhyw effaith ymarferol ar yr etholiad a'i chanlyniadau?

Oes yna bleidlais wedi ei hennill neu ei golli gan y gweithgaredd ar y we?

Ydy'r we yn cael effaith mwy subtle, yn cynorthwyo'r rhai gweithgar i finiogi dadl neu i fenthyg ymateb gan wefan wrth ymgyrchu yn y cigfyd?

Ydy'r we yn gwneud niwed? Bod y rhai gweithgar yn credu eu bod wedi gwneud eu dyletswydd trwy flogio neu greu fideo YouTube ac yn defnyddio hynny fel esgus tros beidio curo drysau, llenwi amlenni ac ati?

02/05/2007

Annwyd Gwleidyddol

Rhaid ymddiheuro i ddarllenwyr rheolaidd am y diffyg post ers nos Sul. Rwyf wedi bod yn dioddef o ddos trwm o'r annwyd, ac wedi bod yn teimlo fath a rhecsyn o'r herwydd a heb ddiddordeb mewn dim ond teimlo hunan dosturi.

Rwy'n ansicr pwy i feio am fy afiechyd, ond mae'n rhaid beio rhywun. Rwy bron yn sicr mae canfasiwr afiach Rhyddfrydol rhy ryddfrydig efo'i germau a rhoddodd yr annwyd imi - rhyw gynllwyn dan din i sicrhau bod cefnogwyr y pleidiau eraill yn rhy swp sâl i bleidleisio dydd Iau nesaf. Ar y llaw arall pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi rhoi cyllid digonol i Uned Ymchwil yr Annwyd yng Nghaerdydd bydda foddion digonol ar gael i'r cyflwr erbyn hyn.

Rwy'n gobeithio y byddwyf wedi gwella digon erbyn nos Iau/ bore Gwener i chware rhan yn ymgyrch blogio'r etholiad Blamerbell a'r BBC.

29/04/2007

Etholiad Cymru'n Ddibwys medd Gordon Brown

Y peth sydd yn debygol o wneud y niwed mwyaf i Lafur dydd Iau nesaf bydd cefnogwyr y Blaid Lafur yn aros adre yn hytrach na bwrw eu pleidlais. Mae Rhodri Morgan a'r Blaid Lafur yn gwybod hyn - dyna paham y maent wedi gwario y rhan fwyaf o'u hamser canfasio yn ceisio annog eu cefnogwyr i ymweld â'r gorsafoedd pleidleisio yn hytrach cheisio troi cefnogwyr y pleidiau eraill at eu hochor hwy.

Ond waeth i'r Llafurwyr cyndyn aros adre, gan nad yw etholiadau'r Cynulliad yn bwysig yn ôl darpar arweinydd newydd y Blaid Lafur Prydeinig. Dim ond etholiadau San Steffan sydd yn bwysig.

Dyma union eiriau'r Canghellor / darpar Prif Weinidog yn ôl adroddiad yn yr Observer:

Look, the only result that matters in the end is when it actually comes to a general election and people decide what they want to do.


Y ffordd gorau i brofi i Gordon haerllug bod etholiadau Cymru yn bwysig i'r sawl sy'n poeni am gyflwr iechyd Cymru, cyflwr addysg Cymru, cyflwr yr economi Gymreig a dyfodol ein gwlad yw trwy fynd allan yn ein miloedd dydd Iau nesaf i bleidleisio dros Blaid Cymru a chael gwared â'r blaid sydd yn credu bod barn pobl Cymru yn ddibwys.

English: Miserable Old Fart: Assembly Election Unimportant says Gordon Brown

Newyddion da, newyddion drwg - rheolau gwahanol?

Yn ôl erthygl yn y Guardian ddoe mae Ofsted, yr awdurdod archwilio ysgolion yn Lloegr, wedi ei gwahardd rhag cyhoeddi manylion am ysgolion sy'n methu, oherwydd y cyfnod etholiadol. Gan fod etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal yn Lloegr mae'n rhaid i'r corff ymarfer cyfnod o dawelwch (sy'n cael ei alw'n Purdah yn Lloegr - ond nid yng Nghymru) rhag ofn bod unrhyw gyhoeddiad swyddogol o'u heiddo yn cael effaith ar yr ymgyrch.

Bydda gyhoeddi bod ysgol mewn rhyw sir arbennig yn methu yn ystod cyfnod yr ymgyrch etholiadol yn amlwg o fantais i'r wrthblaid ac yn anfanteisiol iawn i'r blaid mewn grym ar y cyngor. Sefyllfa annheg yn ôl rheolau'r gwasanaeth sifil, gan hynny mae'n rhaid cadw pob adroddiad o'r fath yn ddirgelwch tan ddydd Gwener. Ond does dim dirgelwch yn y ffaith bod y rhan fwyaf o ysgolion sy'n methu mewn siroedd a reolir gan y Blaid Lafur.

Mae'r rheolau tawelwch i fod i gael eu cadw gan y Gwasanaeth Sifil ledled y DU gan gynnwys y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.

Sut felly bod adroddiad a oedd yn datgelu bod y niferoedd ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gostwng - ffigyrau manteisiol iawn i achos etholiadol Llafur gan fod y GIG ar frig yr Agenda yn ein hetholiad - wedi eu cyhoeddi gan y Gwasanaeth Sifil dydd Mercher diwethaf?

Mae'n ymddangos bod dwy reol wahanol yn cael ei ddilyn. Tawelwch am achosion sy'n gwneud niwed i Lafur, ond cyhoeddusrwydd mawr i adroddiadau sydd yn ffafriol i Lafur.

26/04/2007

Protestio yn erbyn y Gymraeg ym Môn

Mae yna stori yn y Daily Post heddiw yn dwyn y penawd Welsh-only polling cards bring protest. Yn ôl y stori mae rhai o drigolion Ynys Môn wedi bod yn cwyno eu bod yn cael eu hamddifadu o'u hawliau democrataidd oherwydd y Gymraeg ar gardiau hysbysebu pleidlais a ddosbarthwyd gan y cyngor lleol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Mae'r pennawd yn gamarweiniol iawn. Dydy'r cardiau ddim yn uniaith Cymraeg, maent yn ddwyieithog. Yr hyn sydd wedi cythruddo Saeson yr ynys yw'r ffaith bod enwau'r gorsafoedd pleidleisio yn rhai Cymraeg. Llefydd fel Hen Ysgol Llandegfan, Ysgol Gynradd Henblas Llangristiolus, Neuadd Goffa Amlwch ac ati.

Yn ôl yr erthygl mae'r cyngor yn gwrido o herwydd y camgymeriad ac wedi ymddiheuro. Pam tybed? Enwau Cymraeg yn unig ddylid fod ar y fath sefydliadau mewn trefi a phentrefi Cymreig - does dim angen i'w bastardeiddio er mwyn hwyluso pobl dŵad, sydd yn rhy ddiog i werthfawrogi eu bod wedi symud i ardal Cymraeg, cael pleidleisio.

25/04/2007

Y Natsïaid Saesneg

Neithiwr dangoswyd darllediad gwleidyddol y Ffasgwyr ar S4C. Yn y darllediad roedd Ennys Hughes - Eva Braun Cymru - yn gwneud apel wedi ei anelu yn unswydd at gefnogwyr Plaid Cymru a charedigion yr iaith. Rhyw lol am yr iaith Bwyleg yn lladd yr iaith Gymraeg a honiadau bod mwy o Bwyleg na Chymraeg i'w clywed yn y Trallwng bellach, a ballu. Roedd Eva Hughes yn ceisio ein darbwyllo mae dim ond y Ffasgwyr all achub yr iaith.

Daeth taflen etholiadol y Ffasgwyr trwy'r drws y bore 'ma yn ail adrodd pryder Eva am y bygythiad i ddyfodol yr iaith. I danlinellu, fel petai, gwir gariad y Natsïaid tuag yr iaith Gymraeg a gwir faint eu pryder am ei ddyfodol - roedd eu taflen yn uniaith Saesneg!

24/04/2007

Y Torïaid yn "Ddwys Goffau" y Rhwyg o Golli'r Hogiau?

Pan nad ydwyf yn gwleidydda fy hoff deleit yw hel achau. Yn fy achres mae enwau nifer o bobl a fu farw yn y ddwy gyflafan fawr ac mewn rhyfeloedd eraill. Yr wyf yn parchu eu coffa ac yn gwerthfawrogi eu haberth.

Rwy'n hollol sicr, na wnaethon dalu'r pris eithaf er mwyn bod yn gyff gwawd mewn ymosodiad cartŵn gan un plaid wleidyddol ar blaid wleidyddol arall.



Hawlfraint y llun y Blaid Geidwadol a Blog Alun Cairns


Rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r pwynt sy'n cael ei gyfleu yn y cartŵn ac yn cytuno a hi. Ond ow! Mae'n rhaid bod amgenach ffurf o fynegi barn ar wrthwynebydd gwleidyddol na throi'r rhwyg o golli'r hogiau yn gartŵn er mwyn enill pwynt gwleidyddol dan dîn.

23/04/2007

Metron. Dim diolch!

Pob tro mae pwnc y gwasanaeth iechyd yn cael ei godi gellir gwarantu bydd rhywun yn awgrymu mae'r ateb yw dod a'r fetron yn ôl. Dyna oedd gri aelod o'r gynulleidfa ar raglen hustings a BBC neithiwr, dyna oedd ple'r Athro Dylan Jones-Evans yn ei araith ym mhrotest Achub Ysbyty Llandudno dydd Sadwrn, mae'r un un sylw yn cael ei ail adrodd tro ar ôl tro yn ystod pob ymgyrch etholiadol.

Nyrs oedd metron ysbyty yn arfer bod, rhywun wedi ei hyfforddi i ofalu am gleifion. Fel arfer nyrs gyda blynyddoedd o brofiad. Gwastraff llwyr o brofiad a hyfforddiant oedd rhoi person o'r fath mewn swydd weinyddol. Y person gorau i weinyddu ysbyty yw unigolyn sydd wedi ei hyfforddi i fod yn weinyddwr ysbyty nid nyrs.

Mi fûm yn gweithio fel nyrs cofrestredig am flynyddoedd. Pan ddechreuais nyrsio prin oedd y gweinyddwyr yn y gwasanaeth iechyd. Ond roedd digon o weinyddiaeth i wneud. Pryd hynny dyletswydd y chware nyrs oedd y gweinyddu a bydda chwaer nyrs yn gwario gymaint â 90% o'i diwrnod gwaith yn gwneud gwaith swyddfa, gwaith nad oedd hi wedi ei hyfforddi i wneud, a dim ond 10% o'i hamser yn gwneud ei gwaith priodol o nyrsio. Pan gyflwynwyd polisi o gyflogi clercod ward mewn ysbytai yng nghanol yr 80'au roeddwn yn ei groesawu fel cam da, polisi oedd yn caniatáu imi ofalu am gleifion yn hytrach nag ofalu am bapurach.

Hwyrach bod yna gormod o weinyddwyr yn y GIC, ond cyn cael eu gwared mae'n rhaid cael gwared â'r gwaith gweinyddol y maent yn eu cyflawni. Yn sicr digon nid ydwyf am weld y cloc yn cael ei droi'n ôl i'r dyddiau du pan nad oedd nyrsiaid yn cael amser i nyrsio. Nid ydwyf am weld y goreuon a'r mwyaf profiadol o nyrsiaid y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu troi yn metrons gweinyddol eto gan afradu cleifion o'u dawn a'u profiad fel gweithwyr iechyd proffesiynol.

22/04/2007

Guernsey

Mae'r Alban yn ymladd etholiad am y posibilrwydd o gael refferendwm ar annibyniaeth. Mae Cymru yn cynnal etholiad lle nad yw annibyniaeth ar yr agenda. Yn y cyfamser mae Guernsey yn cynnal pwyllgor, heddiw, i drafod annibyniaeath.

O! Am hawliau Guernsey bach i Gymru!

21/04/2007

IWJ & Wylfa B

Yn y 1880au symudodd fy hen, hen daid a'i dylwyth o Lanelltud, Dolgellau i Bontypridd. Nid er mwyn gweithio yn y pyllau megis y mwyafrif a ffodd i'r Sowth ond oherwydd ei fod y saer eirch. Roedd llawer, llawer mwy o waith i'w cael i'r rhai oedd yn dilyn y fath alwedigaeth yng nghymoedd diwydiannol y de nag oedd ar gael ym Meirion gwledig.

Mae cofio am fudo fy nheulu i Bontypridd yn atgof byw i mi o ba mor beryglus oedd gwaith yn y diwydiant glofaol. Roedd cloddio am lo yn swydd afiach a achosodd marwolaethau miloedd trwy ddamwain. Bu nifer o'r rhai a arbedwyd o farwolaeth ddisymwth mewn damwain yn dioddef o gystudd hir, cyn marw o blaen eu hamser ta waeth.

Rhywbeth oedd yn nodweddiadol o fy holl gysylltiadau yn y deheubarth yn ystod y cyfnod pan oedd y pyllau glo yn parhau i fod yn bwysig oedd yr awch, yr awydd, y gweddïo i arbed eu meibion rhag mynd lawr y pwll. Ond eto pan fu bygwth cau'r pyllau roedd y rhai nad oeddynt am weld eu meibion yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn ymladd nerth eu gallu i gadw'r diwydiant yn fyw.

Pam? O herwydd eu bod yn gwybod pe bai'r swyddi yn y lofa yn cael eu colli nad oedd dim oll ar gael i'w rhoi yn eu lle. Er mor frwnt, afiach a pheryglus oedd y diwydiant glo, rhwygwyd calon ag enaid y cymoedd o golli'r diwydiant

Digwyddodd peth tebyg yng Ngogledd Meirionnydd ar gau orsaf niwclear Traws. Daeth ardal lewyrchus yn ardal o dlodi ac anobaith o golli'r swyddi da oedd ar gael yn y pwerdy. Ydy'r sawl sy'n mwynhau cyfyng gyngor Ieuan Wyn Jones parthed Wylfa B, o ddifri am weld yr hyn a digwyddodd i'r cymoedd a'r hyn a digwyddodd i ogledd Meirion yn digwydd ym Môn hefyd?

Beth bynnag fo barn y lobi wrth niwcliar fe ymddengys bod y Llywodraeth Lafur am godi cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwcliar. O dderbyn hynny pa beth sydd orau, bod un ohonynt yn cael eu hadeiladu yn yr Wylfa gan ddiogeli swyddi, neu fod y cyfan yn cael eu hadeiladu yn Lloegr a bod teuluoedd Cymraeg eu hiaith yn symud i Loegr i chwilio am waith yn y gorsafoedd newydd?

Rwy’n methu derbyn y ddadl bod Ieuan Wyn Jones yn ddau wynebol neu wedi gwerthu ei egwyddorion am gefnogi'r syniad mae gwell yw adeiladu ail orsaf ym Môn os oes rhaid adeiladu gorsaf newydd yn rhywle. Does dim byd mwy dau wynebol yn ei safiad nag oedd yn safiad y sosialwyr deheuol a oedd yn pregethu bod ein plant yn haeddu gwell na phyllau budron ond a aeth ati yn ddygn i geisio achub y pyllau budron hynny pan oedd bygythiad i barhad y diwydiant glo Doedd y sosialwyr yna ddim yn ddiegwyddor gan eu bod yn gwybod nad oedd dim gwell yn cael ei gynnig.

Rwy'n credu bod pobl Sir Fôn yn haeddu gwell na pheryglon y diwidiant ynni niwcliar. Ond hyd, neu oni bai, bod rhywbeth gwell yn cael ei gynnig iddynt yr unig ddewis sydd gan wleidyddion yr ynys, boed IWJ, Albert Owen neu rywun arall, yw amddiffyn parhad swyddi da yn y diwidiant niwcliar am ba hyd y mae modd i'w cynnal.

This post in English: Miserable Old Fart: Ieuan Wyn Jones & Wylfa B

20/04/2007

Gormes y Siopau Bychain

Bellach yr wyf wedi cael gafael ar rifyn Ebrill o Barn. Dyma'r erthygl o'm heiddo sydd yn ymddangos ynddi


Gormes y Siopau Bychain

Mae Sawl un wedi dadlau bod archfarchnadoedd yn bygwth dyfodol ein cymunedau. Ond mae casineb tuag at fusnesau mawrion yn ein dallu ni i rai o beryglon siopau lleol

Mae yna chwedl, sydd yn gyffredin ymysg y rhai sydd yn byw ym mhentrefi gwledig Prydain Fawr, bod yna rhai sefydliadau sydd yn angenrheidiol i barhad y bywyd gwledig. Swyddfa Post, Ysgol, Tafarn, Capel neu Eglwys a Siop y Pentref. Yn y Gymru Wledig mae parhad yr eiconau hyn o fywyd pentrefol yn bwysicach byth gan mae pentrefi gwledig, ysywaeth, ydy'r unig gymdeithasau Cymraeg sydd yn dal i fodoli. Yn ôl y chwedl, o golli un neu ragor o'r sefydliadau hyn mae bywyd pentrefol ar ei golled. Ac felly yng Nghymru mae'r Iaith Gymraeg hefyd yn cael ei cholli.

Chwedl, nid ffaith. Drwg chwedl y Brydain wledig yw mai chwedl y dosbarth canol ydyw. Drwg chwedl y Cymry gwledig yw ei fod yn troi'r iaith Gymraeg yn foethusrwydd na all y dosbarth gweithiol cynhenid Cymraeg ei fforddio.

Mae pawb yn gwybod, bellach, ei bod hi'n amhosibl i'r dosbarth gweithiol lleol brynu tai yn ardaloedd gwledig Prydain. Llai byth yw eu gallu i brynu busnes lleol. Mewnfudwyr yw perchenogion bron pob busnes.

Mae bod yn berchennog busnes yn hynod ddylanwadol. Mae tua 60% o gynghorwyr plwyf a thua 40% o gynghorwyr sir y DU yn hunan cyflogedig, mae'r ffigyrau yn uwch o lawer yn yr ardaloedd gwledig. Wrth brynu busnes mewn pentref gwledig mae'r mewnfudwr yn prynu enaid y gymdeithas hefyd

Rwy'n byw mewn pentref lle mae, yn ôl y cyfrifiad diwethaf, 55% o'r boblogaeth yn gallu'r Gymraeg. Ffigwr a,m syfrdanoddi, a ddweud y gwir, gan imi gredu fy mod yn byw mewn pentref a oedd i bob pwrpas yn uniaith Saesneg..

Un o'r rhesymau am y camargraff mae pentref Saesnig yw'r Llan hon yw'r ffaith mae Saeson sydd â'u gafael ar y pentref. Saeson biau trwyddedau'r ddau dafarn, Sais yw perchennog y modurdy, Sais biau'r Swyddfa Post a Sais biau'r Siop Bach. A Saeson llafar eu gwrth Cymreictod ydyw pob un ohonynt. Saeson llafar dylanwadol.

Oherwydd eu bod yn "ganolbwynt" y pentref mae'r Saeson llafar dylanwadol yn cael effaith ar bob dim arall. Nhw yw aelodau'r Cyngor Plwy. Efallai mai prin yw dylanwad Cynghorau Plwy y dwthwn hwn, ond digon dylanwadol i roi nawdd igylch addysg meithrin (Saesneg) heb holi am ddyfodol yr Iaith Gymraeg. Digon dylanwadol i roi nawdd i'r Sgowts ond nid i'r Urdd. Digon dylanwadol i gael presenoldeb ar Gorff Llywodraethol yr Ysgol. Digon dylanwadol i redeg Cyngor Plwyf yr Eglwys a Phwyllgor y Neuadd Goffa - gan sicrhau mae'r Saesneg yw brif iaith y sefydliadau hynny.

I bobl ddiwylliedig Cymreig i ddarllenwyr Barn, Golwg a'r Cymro - mae 'na ryw syniad hiraethus bod busnesau bach lleol yn amddiffyn y pentref. Ond onid y gwirionedd cignoeth yw mai Tesco, Asda a Morrisons yn gwneud llai o niwed na'r busnesau bychain?

Mae prisiau rhad y siopau mawr yn cynnig modd i fyw yn lleol i'r dosbarth gweithiol cynhenid, lle mae crocbrisiau'r siopau bach lleol yn eu cau allan. Mae modd pwyso ar y cwmnïau mawr i gael gwasanaeth Cymraeg, lle nad oes modd rhoi'r fath bwysau ar y siop leol. Os ydy siop y mewnfudwr yn cau o dan bwysau Tesco, bydd modd i Gymro lleol sefyll yn gyfartal a'r mewnfudwr ar gyfer etholiadau'r cyngor, llywodraethwr ysgol ac ati. Mae pentref Cymreig sydd o fewn dalgylch un o'r siopau mawr yn debycach o gadw ei Gymreictod nac ydy pentref sy'n ddibynnol ar siop fach leol y mewnfudwr.

Naw wfft i'r siopau bach - Tesco a'i pholisi iaith gadarnhaol o fewn deng milltir i bob tref a phentref Cymreig yw "YR UNIG ATEB"


Yr wyf wedi derbyn gwahoddiad i drafod cynnwys yr erthygl ar raglen Wythnos Gwilym Owen i'w darlledu ar Radio Cymru pnawn Lun nesaf

18/04/2007

Mebyon Kernow

Nid Cymru a'r Alban yw'r unig ddwy wlad Geltaidd sydd yn ymladd etholiad ar hyn o bryd. Bydd etholiadau yng Nghernyw hefyd fel rhan o etholiadau llywodraeth lleol Lloegr ysywaeth. Yn ôl yr hyn a glywaf mae Mebyon Kernow, plaid genedlaethol Cernyw yn mwynhau ymgyrch rhagorol gyda rhagolygon bydd y blaid yn cael eu canlyniad gorau erioed eleni. Yn wir yn yr etholiadau ar gyfer y cynghorau plwyf a thref mae un-ar-ddeg o gynghorwyr MK eisoes wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad.

Os hoffai unrhyw un cysylltu â MK er mwyn cynnig cymorth ymarferol neu er mwyn dymuno'n dda i'r ymgyrch gellir cysylltu â'r blaid trwy ddanfon e bost i mebyonkernow[at]btinternet.com.

English: Miserable Old Fart: Mebyon Kernow

Rhaid cael Barn yn Nhesco

Mi fûm i Landudno'r bore 'ma yn unswydd i brynu copi o'r rhifyn cyfredol o'r cylchgrawn Barn. Yn anffodus doedd dim copi ar gael yn Siop Na Nog. Bydd rhaid imi wneud taith hirach yfory i Lanrwst i geisio copi o'r cylchgrawn yn Siop Bys a Bawd.

Y rheswm am fy mrwdfrydedd dros godi copi o Barn yw fy mod ar ddeall bod sylwadau a wnaed gennyf am archfarchnad Tesco yn codi o drafodaeth a fu ar Faes-e cyn y Nadolig wedi eu cyhoeddi yn y rhifyn diweddaraf.

Os ydy'r erthygl yn driw i'r farn a mynegais mi fydd yn dadlau bod Cymreigio'r Archfarchnadoedd yn bwysicach na cheisio cadw'r siopau bach. Mae fy anawsterau wrth geisio copi o'r cylchgrawn, er mwyn gweld fy erthygl, yn brawf o hyn.

Pan oeddwn yn byw yn Llanrwst 10 mlynedd yn ôl roedd Siop Bys a Bawd yn gyfleus iawn, jest rownd y gornel. Byddwn yn pigo'i fewn yn rheolaidd ac yn prynu ambell i gylchgrawn Cymraeg yn rheolaidd. Barn, Y Faner Newydd, Y Cylchgrawn Efengylaidd, Llafar Gwlad, Fferm a Thyddyn ac ati. Bellach Golwg yw'r unig gylchgrawn Cymraeg byddwyf yn ei ddarllen yn rheolaidd am y rheswm syml mae Golwg yw'r unig gylchgrawn Cymraeg sydd ar werth yn Tesco.

Mae'r un yn wir am lyfrau Cymraeg. Pan oedd Siop Lyfrau Cymraeg yn gyfleus i'm cartref byddwn yn prynu llyfrau Cymraeg gyda chlawr neu gyflwyniad apelgar ar hap. Heb fod Siop Lyfrau Cymraeg yn gyfleus dim ond llyfrau yr wyf wir yrr yn awchu i'w darllen byddwyf yn mynd allan o'm ffordd i'w prynu.

Rwy'n siŵr nad ydwyf yn unigryw ymysg darllenwyr Cymraeg yn hyn o beth.

Os ydym am godi cylchrediad cylchgronau Cymraeg a sicrhau mwy o werthiant ar lyfrau Cymraeg; os ydym am sicrhau bod Cymry Cymraeg a dysgwyr yn defnyddio ac yn magu hyder yn eu defnydd o'r Gymraeg trwy ei ddarllen yn rheolaidd, mae'n rhaid sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael yn gyfleus i bawb, yn hytrach na'n gyfleus i'r ychydig sy'n byw yn ymyl Siop Cymraeg yn unig. Yr unig ffordd i sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael yn gyfleus i bawb yw trwy sicrhau bod y deunydd yna ar gael yn yr Archfarchnadoedd.

O ddewis gweld y wasg Gymraeg yn ffynnu trwy ehangu argaeledd deunydd Cymraeg yn gyfleus i bawb, neu ei weld yn cael ei dagu er mwyn cadw un neu ddau o siopau bach anghyfleus yn fyw - rwyf yn sicr o blaid yr ehangu.

16/04/2007

Peli

Mae dadl y bel crwn v y bel hirgrwn wedi rhygnu ymlaen ers blynyddoedd yng Nghymru, bellach mae wedi dod yn rhan o'r frwydr wleidyddol.

Mae'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol wedi cwyno i'r cyfryngau am guddio eu hysbysfyrddau gwleidyddol ar gaeau pêl droed, na medd Plaid Cymru cuddio'r hysbysfyrddau gwleidyddol ar feysydd rygbi yw gwir bechod y cyfryngau.

Cefnogwyr pa gamp bydd yn curo ar Fai 3ydd?

English. Miserable Old Fart: Balls

15/04/2007

Hysbysebion Saesneg Alun Ffred

Mae Martin Eaglestone yn tynnu sylw at yr erthygl yma yn y Western Mail:

LABOUR has called on Cymdeithas yr Iaith and Plaid Cymru to organise a picket at the campaign office of the Plaid candidate for Arfon.
The call came in response to Alun Ffred Jones's decision to take adverts in a local paper in English only. Now Labour's Martin Eaglestone, who will contest the seat on May 3, has called for Plaid Cymru and the language pressure group to organise a protest.
Mr Eaglestone said, "I have been a Welsh learner so I understand that bilingual material is really important in Arfon. I fail to understand why Plaid Cymru has not produced bilingual adverts.
Mr Jones, who is AM for the Caernarfon constituency which will disappear after boundary changes, countered by saying, "In four of the local Welsh language papurau bro we have printed Welsh-only adverts.


Rhaid cyfaddef fy mod innau hefyd yn teimlo yn anghynnes braidd am benderfyniad Alun Ffred (o bawb) i gyhoeddi hysbysebion uniaith Saesneg.

Prin fod y ddadl bod hysbysebion yn y Papurau Bro i'w cyhoeddi yn uniaith Gymraeg yn dal dŵr fel cyfiawnhad dros hysbysebion uniaith Saesneg mewn papurau lleol Saesneg sydd yn cael eu darllen gan niferoedd o bobl Cymraeg eu hiaith, a lle fu hysbysebion cyhoeddus dwyieithog yn "norm" ers sawl flwyddyn.

Yr hyn sydd yn fy nghorddi, ta waeth, yw'r ffordd mae Martin Eaglestone yn cam-ddefnyddio achos yr iaith dim ond er mwyn achub cyfle i ladd ar wrthwynebydd gwleidyddol.

Pe bai Eaglestone, wir yr, yn credu bod Alun Ffred wedi gwneud cam a'r iaith mi fyddai'r un mor llawdrwm ar y sawl yn ei blaid ef ei hun sydd yn dangos diffyg parch i'r iaith - gan gynnwys Alun Pugh (gweinidog, honedig, yr iaith Gymraeg).

Os yw Eaglestone yn credu ei fod yn iawn i bicedu swyddfeydd y Blaid yn Arfon i brotestio yn erbyn y sarhad honedig i'r iaith gan Alun Ffred pam na welwyd o'n picedu, na chwyno, nac ymgyrchu yn erbyn unrhyw sarhad arall tuag at yr iaith Gymraeg?

Os ydy Martin Eaglestone mor frwdfrydig dros ehangu defnydd yr iaith paham ei fod yn sefyll etholiad ar faniffesto'r unig blaid sy'n gwrthod deddf iaith newydd?

Nid oportiwnistiaeth etholiadol yw cefnogi'r iaith Gymraeg, Martin bach, ond ymrwymiad.

Mae ymrwymiad Alun Ffred a Phlaid Cymru, ymrwymiad Glyn Davies a'r Blaid Geidwadol ac ymrwymiad Elinor Burnham a'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r iaith canwaith mwy nag ydy unrhyw ymrwymiad gan neb o'r Blaid Lafur - gan gynnwys Martin Eaglestone a'i bos Rhodri mae'r Iaith yn boring Morgan!

14/04/2007

Ymosodiadau hiliol. Un ffiaidd ac un darbwyllol

Dydd Mercher diwethaf adroddwyd am ymosodiad ffiaidd ar ddynes oedd yn mynd a'i phlentyn blwydd oed am dro yn ei phram trwy barc yng Nglasgow.

Taflwyd cerrig ati gan bedwar glaslanc, gorfodwyd y ddynes i'r llawr a chafodd ei chicio yn ei phen. Ymosodwyd ar y fam mewn modd rhywiol ac yna bu ymgais gan un o'r llanciau i ymosod yn rhywiol ar y babi bach. Er na lwyddodd y llabwst anghall yn ei ymgais, cafodd y babi druan ei chleisio'n ddifrifol. Yn ffodus fe lwyddodd y fam i achub y plentyn a ffoi oddi wrth yr ymosodwyr am eu heinioes.

Be sydd gan hyn i wneud a gwleidyddiaeth Cymru? meddech.

Hyn:

Mi glywais am yr ymosodiad ciaidd yma ar y ddynes o Algeria a'i phlentyn ar newyddion yr Alban wrth geisio cadw golwg ar hynt a helynt etholiadol yr SNP. Heno ar ôl newyddion yr Alban darlledwyd Darllediad Gwleidyddol gan y BNP ar gyfer Senedd yr Alban.

Roedd y darllediad yn rhesymegol, yn ddarbwyllol, yn llawn perswâd ac yn ddeniadol ei ddadl. Ond neges resymegol y blaid ffiaidd yma yn erbyn mewnfudwyr croenddu oedd yr un neges ar un a roddwyd, mewn modd mor di-drugaredd, i'r fam ifanc a'i baban bach diniwed yn y parc yng Nglasgow

Dydy Darllediad Gwleidyddol y BNP yng Nghymru heb ymddangos eto, fe ddaw yn ystod y dyddiau nesaf. Mae'n siŵr y bydd mor slic ac apelgar a'r darllediad Albanaidd.

Mae'n bwysig bod pob un ohonom yn sicrhau bod pobl Cymru yn hollol ymwybodol mae ffieidd-dra hiliol a threisiol yw gwir neges y BNP, nid y ffug neges neis-neis a chaiff ei mynegi ar y darllediad swyddogol.


Mwy am ymgyrch y BNP yn etholiadau lleol Lloegr