03/05/2007

Y We a'r Etholiad

Gan fod yr ymgyrch etholiadol wedi tynnu at ei derfyn bydd y blogiau gwleidyddol mewn rhyw fath o limbo am yr 20ain awr nesaf. Prin fydd fawr o sylwadau i'w gwneud hyd y dadansoddi yn oriau man bore dydd Gwener. Yn ystod y cyfnod yma hoffwn ofyn cwestiwn yn hytrach na gwneud sylw.

Pa ddylanwad mae'r we wedi cael ar yr etholiad yma?

Yn ddi-os mae 'na llawer iawn fwy o weithgaredd ar y we wedi bod eleni nag oedd hyd yn oed dwy flynedd yn ôl yn ystod etholiadau San Steffan 2005. Mae tua 35 o flogiau Cymreig wedi bod yn ymdrin â'r etholiad yng Nghymru yn unig. Mae defnydd eang wedi ei wneud o YouTube ac, yn ôl y son (er na dderbyniais i 'run ) mae e-byst wedi eu danfon gan rai ymgeiswyr i'w hetholwyr. Ond ydy o wedi cael unrhyw effaith ymarferol ar yr etholiad a'i chanlyniadau?

Oes yna bleidlais wedi ei hennill neu ei golli gan y gweithgaredd ar y we?

Ydy'r we yn cael effaith mwy subtle, yn cynorthwyo'r rhai gweithgar i finiogi dadl neu i fenthyg ymateb gan wefan wrth ymgyrchu yn y cigfyd?

Ydy'r we yn gwneud niwed? Bod y rhai gweithgar yn credu eu bod wedi gwneud eu dyletswydd trwy flogio neu greu fideo YouTube ac yn defnyddio hynny fel esgus tros beidio curo drysau, llenwi amlenni ac ati?

2 comments:

  1. Anonymous2:22 am

    Dyw'r blogs dim yn cael "influence" o gwbl. Dim ond anoracs fatha ti a fi sy'n darllen y blogiau. Mae pawb sy'n darllen blog am etholiad yn gwybod sut mae e mynd i fotio yn barod.

    Hwyl i politicos yw blog etholiad nid "vote winner"

    ReplyDelete
  2. Anonymous5:24 pm

    Do, mae blogiau yn dylanwadu ar y cyfryngau.

    ReplyDelete