02/05/2015

Picl Ed Miliband a Mrs Windsor


Mae datganiadau Ed Milliband o alw "blỳff" y pleidiau cenedlaethol trwy ddweud ei fod am gyflwyno Araith Brenhinol Llafur di gyfaddawd a herio'r pleidiau llai i'w drechu yn nonsens!

Er mwyn creu'r cam argraff ei bod hi'n wleidyddol di duedd mae Araith y Frenhines yn rhestr ffug o bethau y mae hi'n gofyn i'w llywodraeth i wneud.

Dyma broblem fwyaf y Blaid Lafur, bydd y Frenhines ddim yn gwneud araith oni bai ei bod hi'n gant y cant yn sicr bydd yr araith yn cael ei basio, byddai gwrthod pasio Araith Brenhinol yn her i'r Frenhiniaeth yn hytrach na her i Lafur a bydd y Frenhiniaeth dim yn fodlon cael ei herio er mwyn chware rhan yn gemau Llafur.

Mae bygythiad Llafur o herio Plaid / SNP i beidio a chefnogi araith frenhinol, sy'n cael ei ysgrifennu gan Lafur, yn dwt lol botas maip! Os nad ydy Llafur yn GOFYN i eraill am gefnogaeth a chael sicrwydd o'r gefnogaeth honno bydd Ei Mawrhydi ddim yn yngan gair o araith arfaethedig Llafur, bydd dim cyfle i Lafur "herio'r" pleidiau llai i drechu ei gynigion!

Yr unig ddewis bydd gan Lafur, ac eithrio i ofyn yn barchus i bleidiau llai i roi cefnogaeth iddi am bris, yw peidio a chyflwyno Araith Frenhinol gan roi sicrwydd i Mrs Windsor na fydd yn pleidleisio yn erbyn araith Ceidwadol (trwy ymatal).

Yn hytrach na galw "blỳff" Plaid a'r SNP a'r pleidiau eraill mae Ed druan wedi creu ei bicl ei hun!

22/04/2015

Darogan Etholiad 2015

Ers etholiad cyffredinol 1970 yr wyf wedi bod yn darogan canlyniadau etholiadau, gyda mwy o lwyddiant nag o fethiant. Yn fy ieuenctid dim ond criw'r chweched neu'r dafarn byddai'n derbyn fy mherlau o ddoethineb. Ers dyfodiad y rhyngrwyd yr wyf wedi cael y fraint o'u rhannu gyda'r byd a'r betws.

Dwi roed di selio fy narogan ar y polau na'r hanesion yn y papurau, ond ar yr hyn rwy'n clywed ar lawr gwlad, ac mae'r hyn rwy'n clywed ar lawr gwlad eleni mor ddryslyd rwy'n methu gwneud pen na chynffon o honni.

Ar ô y ddadl arweinwyr cyntaf dywedodd cymydog wrthyf ei fod o wedi ei blesio cymaint gan yr hyn dywedodd Nicola Sturgeon bod o am bleidleisio i UKIP, fel y blaid amgen yn Aberconwy, er mwyn cefnogi'r SNP - wir yr!

Deuddeng mis yn ôl byddwn wedi dweud bod Guto, yn bendant, am ddal Aberconwy gyda mwyafrif dechau, bellach dwi ddim yn gwybod, mae Aberconwy yn ymylol rhwng pedair plaid, yr unig un sydd ddim yn y ras yw'r un bu ar ymyl ennill pan oedd y Parch Roger Roberts yn ymgeisydd!

Rwy'n clywed sïon bod modd i Blaid Cymru ennill Wrecsam, Cwm Cynnon a'r Rhondda, nonsens meddai'r polau a fy mhen, ond mae llawr gwlad a fy nghalon yn dweud yn wahanol.

Am y tro cyntaf mewn hanner canrif o wylio etholiadau, nid ydwyf am ddarogan canlyniad, oherwydd, am y tro cyntaf yn fy nythwn, does gen i ddim blydi clem!

21/04/2015

Y Lle am Lansiad Maniffesto

Does dim ots am eich barn am y blaid, ei pholisïau a'i phersonoliaethau, prin y gall unrhyw un anghytuno mae'r SNP yw enillwyr y frwydr i gynnal lansiad maniffesto yn y lleoliad mwyaf trawiadol.



Mae'r Edinburgh International Climbing Arena, wedi cael cyhoeddusrwydd byd eang gwerth miliynau o hysbys am ddim trwy'r i gyfryngau'r byd casglu yno i adrodd ar gynnwys Maniffesto'r SNP. Sy'n gwneud i ddyn meddwl pam bod pleidiau Cymru heb gael yr un weledigaeth?

Meddyliwch am Leanne yn cyhoeddi polisïau ei phlaid trwy wibio dros 100 milltir yr awr yn Zip World, neu Carwyn yn bownsio pob polisi Llafur yn Bounce Below, neu Andrew RT yn cyhoeddi ei bolisïau ymysg dinosoriaid Tan yr Ogof, neu Nick Clegg yn lansio ei faniffesto mewn man bydd digon mawr i gynnal Cynhadledd y LibDems y flwyddyn nesaf: