Mae yna dipyn o drafodaeth wedi bod yng ngholofnau'r cylchgrawn Golwg yn niweddar am y ffydd Cristionogol.
Rhai megis
Rhys Llwyd yn dadlau o'r safbwynt Efengylaidd Calfinaidd. Aled Lloyd Jones, ficer Porthmadog, yn codi sgwarnogod
goruwchnaturiol sydd y tu hwnt i'm dirnad i, a Cynog Dafis (AS AC gynt) yn ceisio troedio tir canol.
O ran barn athrawiaethol bersonol yr wyf yn agosach o lawer at farn Rhys Llwyd na barn y rhai sy'n ysgrifennu yn ei erbyn.(Er, fel Methodist go iawn, nid Methodist Calfinaidd, rwy'n methu derbyn heresi etholedigaeth gras Rhys a'i griw, bid siŵr).
Ond, ac mae'n ond mawr. Un o'r pethau sydd wedi fy mhryderu ers talwm efo'r mudiad efengylaidd Cymreig yw'r pwyslais mae'n rhoi ar athrawiaeth. Trwy
ffydd daw gwaredigaeth, nid trwy
athrawiaeth. Iawn yw dadlau yn erbyn athrawiaeth gyfeiliornus, honedig, Aled a Cynog ond ydy'r diffygion athrawiaethol yn lleihau eu ffydd yng Nghrist?
Mae Efengyl Luc yn son am ddau droseddwr a groeshoeliwyd ar yr un pryd a'r Iesu. Mae un yn mynegi ffydd gan ddweud wrth yr Arglwydd
Iesu Cofia fi pan ddoi i'th Deyrnas (Luc23:42). Rwy'n sicr pe bai unrhyw un wedi gofyn i'r troseddwr hwn
beth yw dy farn am etholedigaeth gras, geirwiredd yr Efengylau, traws gyfnewidiad yr offeren? neu gwestiwn athrawiaethol mawr arall, mi fyddai wedi ei ddrysu'n llwyr. Ond gan fod
ffydd ganddo, yn hytrach na farn athrawiaethol uniongred, fe ddywedodd yr Iesu wrtho
Yn wir 'rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym mharadwys.
Er gwaethaf pob anghytundeb athrawiaethol a'r farn uniongred, mae Aled a Cynog yn barhau i fynegi eu ffydd yng Nghrist. Onid yw hynny yn ddigonol i'w cyfrif yn gyd-gristnogion a ni sydd yn credu mewn gwaredigaeth
trwy ffydd? Onid heresi a chyfeiliornad llwyr o'r efengyl yw mynnu gwaredigaeth trwy ymrwymiad at athrawiaethau arbenig?