Showing posts with label Refferendwm. Show all posts
Showing posts with label Refferendwm. Show all posts

06/11/2008

Twpsyn

Am ddyn mor addysgedig mae Peter Hain yn gallu dweud pethau gwirion.

Yn ôl rhifyn heddiw o'r Cylchgrawn Golwg fyddai Peter Hain ddim yn ymuno ag ymgyrch i gael hawliau deddfu llawn ar hyn o bryd. Mae o yn erbyn y syniad o gael refferendwm yn awr.

"Fyddwn i ddim yn ymuno ag ymgyrch Ie nawr, meddai, Rhaid bod yn siŵr o gefnogaeth yn gyntaf. Byddai'n hurt lansio ymgyrch mewn gwacter"

Twpsyn! Pwrpas ymgyrch yw gwneud yn siŵr o gefnogaeth, heb ymgyrch does dim modd cael y fath sicrwydd. Bydda greu ymgyrch "ie" i berswadio pobl am rinweddau hawliau deddfwriaethol ar ôl cael sicrwydd eu bod yn cefnogi hawliau deddfwriaethol braidd yn di bwrpas.

11/10/2008

Ie dros Gymru ar Facebook

Mae Jim Dunckley a finnau wedi cychwyn ymgyrch ar Facebook i ofyn am gefnogaeth i'r alwad am refferendwm ac i annog pleidlais IE yn yr ymgyrch.
Mae Cymru Gyntaf / Wales First yn grŵp allbleidiol sydd yn galw am bleidlais "IE" yn y refferendwm arfaethedig ar hawliau deddfu llawn i Gynulliad Cymru.
Ein bwriad yw defnyddio'r we i godi cefnogaeth boblogaidd dros Senedd i Gymru.
Mynnwn fod ein corff etholedig democrataidd cenedlaethol yn cael y grym i roi Cymru GYNTAF

Gan fod ymgyrch Na eisoes yn bodoli ac yn cael cyhoeddusrwydd eang er gwaetha'r ffaith nad oes ganddi ond hanner dwsin o aelodau, mae'n hanfodol bod ymgyrch Ie gref yn bodoli i'w gwrthwynebu.

Mae rhai o gefnogwyr datganoli yn gwangalonni ac yn amau os oes modd ennill ymgyrch refferendwm. Maent am ohirio ehangu grymoedd y Cynulliad dan boeni bydd refferendwm yn cael ei golli. Mae'n bwysig cael ymgyrch ar lawr gwlad i ddangos i'r gwangalon bod yna gefnogaeth a brwdfrydedd dros achos Ie.

Fe ddywedodd John Dixon cadeirydd y Blaid ychydig yn ôl bod yna beryglon yn perthyn i'r strategaeth wleidyddol swyddogol o ddisgwyl am gefnogaeth i gynyddu cyn dechrau ymgyrchu a risk that we wait until the polls show that the argument has been clearly won before we start to present the case; and I don't understand how anyone would ever expect to decisively win any argument without putting the case.

Os ydych yn gefnogol i'r achos Ie mewn refferendwm ymunwch a'r grŵp ar facebook, gofynnwch i'ch cyfeillion i ymuno a dwedwch air bach o blaid yr ymgyrch ar eich lle ar y we, lle gwaith, tafarn lleol ac ati os gwelwch yn dda.

http://www.facebook.com/group.php?gid=40044911971

26/09/2008

Anwireddau Gwir Gymru

Onid oes yna rywbeth chwerthinllyd yn y ffaith bod mudiad o'r enw Gwir Gymru yn lansio ei hymgyrch trwy raffu anwireddau?

Mae'r Mudiad True Wales (creadigaeth y BBC yw'r cyfieithiad o'r enw i'r Gymraeg, wrth gwrs) yn honni maen nhw yw'r unig rai sydd yn cynrychioli barn y mwyafrif sydd am i Gymru parhau yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Maent am wneud hyn trwy ymgyrchu yn erbyn pwerau ychwanegol i'r Cynulliad mewn refferendwm os gelwir un o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Anwiredd cyntaf y mudiad yw honni eu bod yn ymgyrchu yn erbyn i'r Cynulliad i gael ragor o bwerau. Celwydd noeth. Dyma fudiad sydd yn gwrthwynebu bodolaeth y Cynulliad y gwir yw mai eu dymuniad yw diddymu'r Cynulliad. Ond bydd cefnogi eu hymgyrch ddim yn diddymu'r Cynulliad - dydy diddymiad ddim ar yr agenda.

Yr ail anwiredd yw eu honiad bod cefnogi eu hymgyrch yn mynd i rwystro'r Cynulliad rhag cael pwerau ychwanegol. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn sicrhau bod holl bwerau ychwanegol y ddeddf ar gael i'r Cynulliad trwy'r drefn eLCO. Os na chynhelir refferendwm neu os cynhelir refferendwm gyda chant y cant yn pleidleisio na bydd y ddeddf yn sefyll a bydd y pwerau ar gael o hyd o dan y drefn gyfansoddiadol drwsgl.

Trydydd anwiredd y mudiad yw eu honniad bod cefnogwyr datganoli yn cefnogi annibyniaeth. Mae'n wir fod yna rhai sydd yn gweld datganoli fel cam ar y ffordd i annibyniaeth. Mae Elin Jones, Adam Price ac eraill wedi mynegi'r safbwynt yna yn eithaf clir. Ond mae awgrymu bod y mwyafrif o ddatganolwyr, pobl megis Glyn Davies, Carwyn Jones a Peter Black yn grypto genedlaetholwyr yn lol botas maip.

Pedwerydd anwiredd y mudiad yw eu honiad bod pleidlais na yn mynd i newid barn neu ddigalonni'r sawl ohonom sydd yn credu mewn annibyniaeth. Beth bynnag fo ganlyniad refferendwm dwi ddim yn mynd i newid fy marn parthed annibyniaeth. I'r gwrthwyneb gall bleidlais na bod yn hwb i achos annibyniaeth. Bydd pleidlais na yn brawf bod y ddadl araf bach a phob yn dipyn wedi chwythu ei blwc a bod angen ymgyrch gref i fynnu'r holl hog fel petai.

Pumed anwiredd, ac anwiredd mwyaf yr ymgyrchwyr yw eu honiad nad ydynt yn fradwyr gwrth Cymreig. Beth arall yw pobl sydd a chyn lleied o ymddiriedaeth yn gallu eu pobl eu hunain i gael y mymryn lleiaf o hunain reolaeth ond bradwyr gwrth Cymreig ffiaidd budron a baw isa'r domen?

Mae ymateb swyddogol y rhai sydd o blaid datganoli i ddyfodiad Celwyddgwn Cymru wedi bod yn siomedig:

Fe ddywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, nad oedd angen sefydlu ymgyrch Ie cyn bod Confensiwn Cymru Gyfan, o dan gadeiryddiaeth Syr Emyr Jones Parry, yn casglu'r farn gyhoeddus yng Nghymru am bwerau ychwanegol.


Rhaid imi gytuno a'r farn a mynegwyd gan Gadeirydd y Blaid ar ei flog ychydig ddyddiau yn ôl:
Opinion polls can help to inform that judgement, but they should never be allowed to become the determinant. There is otherwise a risk that we wait until the polls show that the argument has been clearly won before we start to present the case; and I don't understand how anyone would ever expect to decisively win any argument without putting the case.


Mae angen ymgyrch IE rŵan. Wrth gwrs does dim rhaid iddi fod yn ymgyrch swyddogol. Bydd ymgyrch poblogaidd cystal. Onid dyna un o'r honiadau sydd yn cael ei wneud dros rym y we ei allu i greu ymgyrchoedd poblogaidd creiddiol?

Mae True Wales wedi gollwng y fantell, os nad yw'r gwleidyddion traddodiadol am ei godi a oes le i gefnogwyr datganoli ar lein ei godi a rhedeg gyda hi?

18/07/2008

Y cyfle gorau?

Mae colofn Adam Price AS yn y rhifyn cyfredol o Golwg yn pledio achos cynnal refferendwm ar bwerau estynedig i'r Cynulliad ar yr un diwrnod ag etholiadau Cynulliad 2011.

Fy marn bersonol yw bod refferendwm yn ddianghenraid ac mae cam gwag gan Blaid Cymru oedd peidio â mynnu dileu'r cymal refferendwm o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wrth drafod clymblaid, blwyddyn yn ôl. Ond wedi mynd mae'r hyn a fu ac mae'n rhaid byw gyda realaeth refferendwm bellach am wn i.

Mae Adam yn gwneud pwynt teg parthed refferendwm annibyniaeth yr Alban yn tarddu ar refferendwm Cymru

Gyda’r mesur yn cael ei gyflwyno yn Ionawr 2010 y tebyg yw y bydd y refferendwm – ar agor trafodaethau annibyniaeth - yn yr Hydref. Beth bynnag yw’r canlyniad, bydd ymgyrch yr Alban yn cysgodi'r cwestiwn tra gwahanol fydd o’n blaenau ni yng Nghymru

Rwy'n cytuno a'r pwynt yma. Ond yn fy marn i os oes rhaid cynnal refferendwm gwell yw ei gynnal yn y tymor byr, cyn i'r Alban cael refferendwm ar annibyniaeth. Bydd llawer o gyhoeddusrwydd yn cael ei roi i refferendwm yr Alban. O'r eiliad y mae'r mesur yn cael ei gyflwyno i'r Senedd yn Holyrood refferendwm ar annibyniaeth bydd ym meddwl pleidleiswyr Cymru. Oherwydd esgeulustod y Blaid i hyrwyddo rhinweddau annibyniaeth yn ystod y chwarter canrif diwethaf bydd y refferendwm yn cael ei golli, heb amheuaeth.

Mae Adam yn dadlau mae rheswm da dros cynal y refferendwm a'r etholiad ar yr un diwyrnod yw oherwydd bod cefnogwyr datganoli yn fwy tebygol o fynd allan i bleidleisio mewn etholiad y Cynulliad nag ydy gwrthwynebwyr datganoli. Mae'n debyg ei fod yn gywir, ond rwy'n gweld y ddadl yma yn ddiffygiol am nifer o resymau.

Yn gyntaf prin bydd y fath cynllun yn fanteisiol i blaid Mr Price. Bydd cynnal y refferendwm a'r etholiad yr un diwyrnod yn temtio'r gwrth datganolwyd i'r bwth pleidleisio am y tro cyntaf ar ddiwrnod etholiad. Prin y byddant yn cefnogi Plaid Cymru wedi cyrraedd yno!

Yn ail mae Plaid Cymru wedi ffeirio cefnogaeth i fesurau Llafur ar ddatganoli am "fanteision" sinigaidd ddwywaith o'r blaen. Ym 1979 y tric oedd cynal y refferendwm ar Ddydd Gŵyl Dewi, ym 1997 y tric oedd cynal y refferendwm wythnos ar ôl yr Alban. Methiannau bu'r triciau sinigaidd hyn ar y ddau achlysur, yn wir yr oeddynt yn mêl ar fysedd yr ymgyrchwyr Na fel prawf pendant am yr angen i dwyllo'r etholwyr i gefnogi datganoli.

Os oes rhinweddau yn yr alw am chwaneg o bwerau i'r Cynulliad gellir ennill y dydd heb roi mêl i'r gwrthwynebwyr, a heb chware triciau dan dîn etholiadol.
Yn drydydd. Os yw hawliau deddfwriaethol yn ddigon pwysig i fyny refferendwm ar eu cyfer, maent yn ddigon pwysig i haeddu ymgyrch ar wahân i egluro rhinweddau / ffaeleddau'r achos yn iawn ac yn glir ac yn groyw heb eu drysu yng nghanol ymgyrch etholiadol.

Ac yn olaf sut bydd dyn yn gwybod sut i bleidleisio yn yr etholiad os nad yw yn gwybod os bydd y cynrychiolydd yn cael ei ethol i gynulliad ymgynghorol neu senedd ddeddfwriaethol? A fydd gan bob plaid dau faniffesto yn 2011 un ar gyfer y posibilrwydd o ganlyniad ie a'r llall rhag pleidlais na?

English

29/02/2008

Amser lladd lol y refferendwm

Yn ystod trafodaethau clymblaid y Cynulliad ym Mis Mai a Mehefin llynedd y cwestiwn tyngedfennol oedd y gobaith am refferendwm am bwerau ychwanegol i'r Cynulliad.

Teg dweud fy mod yn gwrthwynebu refferenda, ar unrhyw bwnc, heb fodolaeth Deddf Refferendwm Cyffredinol. Mae'r syniad bod refferendwm yn cael ei galw ar fympwy llywodraeth yn wrthun i mi. Os yw refferenda am gael eu defnyddio fel ffordd o dderbyn barn y cyhoedd fel rhan o'n system llywodraethu yna mae'n rhaid wrth sbardun cyfreithiol i'w galw yn hytrach na mympwy plaid y llywodraeth.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cynnwys sbardun galw refferendwm sy'n gymhleth iawn:

Os yw 41 allan o 60 o aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid refferendwm,
Ac mae Ysgrifennydd Cymru yn cytuno
Ac mae Tŷ'r Cyffredin
A Thŷ'r Arglwyddi yn gytûn hefyd
Yna mi fydd yn fater i'r Cyfrin Gyngor penderfynu!

Democracy in Action!

Lol i ddal Gymru'n ôl yw'r holl gachu refferendwm yma!

Pe bai refferendwm yn cael ei gynnal fory a phawb yn pleidleisio NA, bydda bob grym Deddf 2006 ar gael i'r Cynulliad, ta waeth, trwy'r system LCO; sy'n golygu bod y cymal refferendwm yn afraid.

Onid ydy'n hen bryd i genedlaetholwyr a datganolwyr dweud naw wfft i'r refferendwm a chychwyn ymgyrch am annibyniaeth neu, o leiaf, y cam nesaf ar daith esblygiad datganoli yn hytrach na pharhau i chware gem gwirion y refferendwm afraid?

19/09/2007

Cofio 1997

Un o'r pethau sydd yn mynd dan fy nghroen i wrth gofio 1997 yw'r honiad bod y rhai a methodd pleidleisio ar y diwrnod naill ai yn dawel yn erbyn datganoli, neu yn rhy ddi-hid i drafferthu pleidleisio.

Ar ddiwrnod y bleidlais cafodd fy Mam yng nghyfraith trawiad ar ei chalon, danfonwyd hi i'r ysbyty am chwech y bore, fe fûm i, fy ngwraig, chwaer fy ngwraig a fy mrawd yng nghyfraith yn yr ysbyty trwy'r dydd yn disgwyl y gwaethaf. Am hanner awr wedi deg y nos cawsom gwybod bod Mam wedi dod dros y gwaethaf a bod gobaith iddi gael gwellhad.

Dyna bump pleidleisiwr, pob un yn gefnogwyr datganoli, fel mae'n digwydd, na phleidleisiodd ar y diwrnod AM RESWM NAD OEDD DIM I'W GWNEUD A DIFATERWCH. Rwy'n siŵr bod hanesion tebyg ym mysg y gwrthwynebwyr hefyd.

Peidied neb honni mae difaterwch oedd y rheswm dros bob diffyg pleidlais!