Wrth chwilio a chwalu drwy hen bapurau heno cefais hyd i doriad papur newydd. Os cofiaf yn iawn yr Herald Cymraeg oedd y papur, ac mae'n debyg mae cofnodi gwrthwynebiad mudiad Cofiwn i ddathlu saith can mlwyddiant codi cestyll y gormeswyr ym 1982 gan Cadw oedd yr achlysur. Reitiach, wrth gwrs byddid galaru saith can mlwyddiant llofruddio Llywelyn ein Llyw Olaf ar y pryd.
Pan fu farw Llywelyn ein Llyw olaf yr oedd, yn 么l y son, yn gwisgo un o'i dlysau coronog, sef y Groes Naid - rhan o'r Wir Groes wedi ei dlysu a cherrig gwerthfawr. Yn y llun gwelir fi (ar chwith y sgrin) rhyw g么c oen o MI5 (yn amddiffy y castell rhag terfysgwyr) yn y canol a Gethin ab Iestyn ar dde'r llun. Mae Gethyn a fi yn ceisio planu symbol o'r Groes Naid yng Nghanol y Castell.
Rwy'n tristau bod Mudiad Cofiwn wedi diflannu, roedd y gwaith yr oedd y mudiad yn ei wneud yn bwysig. Mi astudiais hanes fel disgybl ysgol hyd at lefel A. Yr unig grybwyll o hanes Cymru a chefais yn yr ysgol oedd bod Harri'r VIII wedi rhoi cynrychiolaeth Seneddol i bobl Cymru, gan ei fod yn Gymro mor dda!
Roedd addysg Mudiad Cofiwn (er mor feias o'r ochor arall) yn addysg go iawn!
OND - mae rhai o brif gymeriad Cofiwn yn blogio bellach, ac yn blogio o'r chwith, ac rwy'n teimlo braidd yn anghysurus. Digon hawdd yw condemnio'r bobl a oedd yn byw yn nhridegau'r ganrif ddiwethaf am ddewis yr ochor anghywir, ar 么l y digwyddiad, roedd o'n anodd i ambell i Sais hefyd!
Ond a ydy condemnio tri Penyberth fel Ffasgwyr, a honni bod y sawl a bu farw yn Sbaen yn arwyr Cenedlaethol yn gywir?
Do fu farw nifer o Gymru yn Sbaen, heddwch i'w llwch, ond o'r sawl a oroesodd y frwydr sawl un rhoddodd cefnogaeth i achos Cenedlaethol Cymru wedi'r frwydr? Dim un hyd y gwyddwn.
Bu pob un, nid yn unig y tri a chafodd eu carcharu ar 么l protest, a fu'n ymwneud a Phenyberth yn driw iawn i Gymru am weddill eu bywydau a bu eu cyfraniadau i gymdeithas, diwylliant a bywyd cymdeithasol Cymru yn fawr.
Mi ymadawais a Phlaid Cymru o herwydd ei fod wedi ymrwymo i Sosialaeth yn hytrach na Chenedlaetholdeb. Piti bod archif Cofiwn yn anghofio Cenedlaetholdeb er mwyn clodfori Sosialaeth rhyngwladol hefyd.
A ydy clodfori Sosialwyr a gachodd ar eu Cymreictod, er mwyn condemnio cyfraniad pobl fel Ambrose Bebb a Saunders Lewis i'r achos Genedlaethol yn wir gofio?