Wedi ethol llywodraeth leiafrifol yr SNP yn ôl yn 2005 fe benderfynodd y pleidiau Unoliaeth i sefydlu pwyllgor i edrych ar ehangu datganoli, fel ymateb i ddymuniad yr SNP i gynnal refferendwm ar annibyniaeth. Mae'r Pwyllgor hwnnw, Comisiwn Calman wedi cyflwyno ei adroddiad terfynol heddiw. Mae copi o'r adroddiad llawn ar gael ar ffurf dogfen pdf, ac mae'r BBC yn adrodd ei brif argymhellion.
Ym mis Mehefin llynedd fe sefydlodd y Cynulliad Comisiwn Holtham i edrych ar fformiwla Barnett ac ar sut mae Cymru yn cael ei hariannu. Wrth sefydlu’r comisiwn fe ddywedodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai Comisiwn Holtham yn gyd weithio a Chomisiwn Calman i'r perwyl yma. Mae Comisiwn Calman yn awgrymu bod yr Alban yn cael gosod hanner y gyfradd dreth incwm ac yn cael benthig ar ei gownt ei hun. Ydy hynny yn rhoi awgrym inni o be fydd Holtham yn awgrymu?
Mae'n amhosibl dweud. Er gwaethaf honiad y Cynulliad bod y ddau gomisiwn am gyd weithio ar y pwnc yma dydy Calman ddim yn crybwyll Holtham o gwbl yn yr adroddiad.
O ran fformiwla Barnett, y fformiwla sydd yn penderfynu faint o Arian mae Cymru a'r Alban yn derbyn, y cyfan sydd gan Calman i'w dweud yw bod o'n fater i Lywodraeth y DU ei drafod.
Gan fod y Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn cefnogi'r Comisiwn mae'n debyg iawn bydd ei argymhellion yn cael eu derbyn, a'u gweithredu heb yr angen am refferendwm. Ar wahân i'r annhegwch amlwg bod yr Alban i gael pwerau llawer llawer mwy sylfaenol heb refferendwm na sydd yn cael ei gynnig i Gymru dan gymal refferendwm Deddf llywodraeth Cymru 2006, mae yna fater o bryder i ni yma.
Yn y gorffennol mae David Davies AS wedi galw am i reolaeth y GIG i gael ei drosglwyddo yn ôl i San Steffan. Ychydig wythnosau yn ôl cafwyd si bod Cheryll Gilliam am i reolaeth dros y Prifysgolion i gael ei ddychwelyd i Lundain. Yr ymateb i'r ddau fu "os oedd rhaid cynnal refferendwm i ennill y pwerau yma rhaid wrth refferendwm i'w dychwelyd".
Un o awgrymiadau Calman yw bod y cyfrifoldeb am drefn gweinyddiad a methdaliad yn cael eu dychwelyd i Lundain o Gaeredin. Mater bach sydd yn annhebygol o greu llawer o stŵr yn yr Alban. Ond cynsail peryglus iawn sef y cynsail o ddychwelyd pwerau heb yr angen i gael sêl bendith y bobl drwy refferendwm yn gyntaf.